Merched y Mwmbwls

Ciw-restr ar gyfer Beti

(Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs.
 
(Shan) Mae cysgod lled dda fan hyn.
(1, 0) 38 Ddaw Nel ddim 'nol, os gall fynd i'w gweld rywfodd.
(1, 0) 39 O diar! mae'n noson ofnadwy!
(1, 0) 40 Glyw di'r gwynt yn rhuo, ac yn curo'r tonnau yn erbyn y graig.
(1, 0) 41 Mae'n llawn cynddrwg heno a'r noson honno pan aeth y "Lady Mary" yn ddarnau ar y graig─mae yna agos i ddwy flynedd oddiar hynny, on'd oes e'?
(Nel) {Yn dod nol gan sychu ei hwyneb, ac yn ymddangos yn flinedig}
 
(Nel) A welwch chi'r bad 'nawr yn rhywle?
(1, 0) 129 Na, mae'r tonna' yn hy uchel.
 
(1, 0) 131 Isht!
(1, 0) 132 Dyna |rocket| arall!
(1, 0) 133 Mae hi bron bod ar ben ar y llong druan.
(1, 0) 134 Faint sydd ynddi, tybed?
(Sal) Wn i yn y byd.
 
(Sal) Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod.
(1, 0) 139 Tybed a all y bad eu cyrraedd ar noson mor arw?
(1, 0) 140 Mae'n galed arnynt.
(1, 0) 141 Beth petai'r bad yn methu, a'n bechgyn ni'n cael eu taflu i'r môr!
(1, 0) 142 O, mam fach annwyl!
(Mari) Dim ond gweddïo yn ddistaw bach alla i wneud 'nawr, a'r un geiriau o hyd, "Duw, cadw hwynt."
 
(Sal) Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy.
(1, 0) 168 Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod.
(1, 0) 169 O! Lisa Jones, a Dai Jones, a Tim Ned sydd yna.
(Sal) Ie, dau dda ydynt hwy.
 
(Nel) Wn i ddim yn wir, wela i ddim.
(1, 0) 185 O 'mhlant bach i─a ddaw eich tad 'nol?
(Sal) Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol.
 
(1, 0) 402 Pwy yw e'?
(Nel) Ben, brawd Mari a Bess.
 
(Nel) Dyna ryfedd mae pethau yn digwydd!
(1, 0) 405 "Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
(1, 0) 406 Yn dwyn Ei waith i ben."
(Shan) Ie'n wir.
 
(Pegi) O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd.
(1, 0) 435 Yr oedd rhaid i ni ddod lawr pan glywsom y gwaeddi, i gael gweld pwy oedd Bess a Mari wedi ei gael o'r môr.
(1, 0) 436 Dewch i lan i'r tŷ.