Merched y Mwmbwls

Ciw-restr ar gyfer Sal

(Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs.
 
(Mary Jane) Dyma fi'n mynd lawr yn nês at y dŵr.
(1, 0) 55 Mae yna ddigon yn barod.
(1, 0) 56 Arhoswch fan hyn, ferched.
(Bess) Mae'r llong yna yn soddi.
 
(Mary Jane) {Yn dechreu crio.}
(1, 0) 81 Taw sôn, Mary Jane, â dy gleber.
(1, 0) 82 Mae'r bad wedi mynd mâs ddwseni o weithiau, ac wedi bod mewn llawer storm cynddrwg a heno, a phawb wedi dod 'nol yn ddiogel.
(1, 0) 83 Cwn dy galon, da ti.
(Shan) Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno.
 
(1, 0) 86 ~
(1, 0) 87 "Tydi fu gynt, Anfeidrol Iôr,
(1, 0) 88 Yn cau anesmwyth donnau'r môr,
(1, 0) 89 Gan erchi i'r dyfnder llydan, maith
(1, 0) 90 Aros yn ei derfynau llaith.
(1, 0) 91 O! clyw ein cri dros rai, ein Iôr,
(1, 0) 92 Sydd mewn enbydrwydd ar y môr."
(Nel) Welwch chi'r bad?
 
(Beti) Faint sydd ynddi, tybed?
(1, 0) 135 Wn i yn y byd.
(1, 0) 136 Mae'n edrych yn llong lled fawr.
(1, 0) 137 O b'le mae'n dod?
(1, 0) 138 Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod.
(Beti) Tybed a all y bad eu cyrraedd ar noson mor arw?
 
(Jenny) Yr oedd e'n dweyd neithiwr, mae dim ond un tro eto oedd eisieu, iddo gael |Jiwbili|.
(1, 0) 153 Hanner cant o weithia yw heno, felly.
(Jenny) Ie, ac 'roedd mami yn dweyd fod bron saith mlynedd er pan daeth dadi a fi yn ol yn ei freichiau pan aeth y llong i lawr, ac y boddwyd pawb, ond myfi, a Jaci y morwr.
 
(Jenny) {Yn rhedeg allan heibio'r graig.}
(1, 0) 164 Dyna'r trysor gore gafodd Capten Jones neu unrhyw un arall o'r môr.
(1, 0) 165 Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy.
(Beti) Edrych, Sal, dyna ragor wedi dod.
 
(Beti) O! Lisa Jones, a Dai Jones, a Tim Ned sydd yna.
(1, 0) 170 Ie, dau dda ydynt hwy.
(1, 0) 171 Wfft shwd ddynion!
(1, 0) 172 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs.
(Mari) A dyma Sam Caleb yn mynd atynt 'nawr.
 
(Beti) O 'mhlant bach i─a ddaw eich tad 'nol?
(1, 0) 186 Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol.
 
(Nel) {Yn rhedeg yn nês at y dŵr.}
(1, 0) 210 Isht! clywch hwy'n gwaeddi!
(1, 0) 211 Dyna'r bad wedi troi!
(1, 0) 212 Maent i gyd yn y dŵr!
(1, 0) 213 Mae ar ben ar y bad!
(1, 0) 214 Beth allwn ni wneud?
(1, 0) 215 Rhywun!
(1, 0) 216 Rhywbeth!
(Mari) O, dyna'r bad wedi mynd yn ganddryll ar y creigiau.
 
(1, 0) 235 O! mae rhywun yn y dŵr─draw fan yna.
 
(Bess) Rhaid ei achub e'.
(1, 0) 260 Ydych chi'n galw'ch hunain yn ddynion!
(1, 0) 261 Na, babis ydych eich tri!
(1, 0) 262 Rhag cywilydd i chi!
(1, 0) 263 Ach-a-fi!
(Bess) {Yn troi ei dillad am ei chanol.}
 
(1, 0) 271 Gadewch i fi fynd!
(Shan) Na, Sal, cofia am dy blant bach.
 
(Shan) Aros di yma.
(1, 0) 274 Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant.
(Nel) Clymwch hwynt i gyd gyda'i gilydd.
 
(Mari) 'Nawr am fy nghanol i.
(1, 0) 284 Weli di e' 'nawr, Bess?
(Bess) Gwelaf, mae'n cadw 'mlaen, ond mae'n galed arno, druan bach!
 
(Gwenno) Alla i wneud dim ond gweddïo a dal ar y rhaff.
(1, 0) 320 Faint mwy wyt ti am wneud?
(1, 0) 321 Dyna i gyd mae'r Brenin Mawr am i ni wneud─gweddïo a gweithio.
(1, 0) 322 Dal dy afal yn y Dwyfol, ond paid ag anghofio y rhaff ddynol sydd yn dy law.
(Nel) Isht!
 
(Gwenno) Fe wnawn bopeth yn barod, a chwpanaid o dê berw.
(1, 0) 371 Tynnwch i gyd!
(1, 0) 372 Dewch! dewch!
(1, 0) 373 Dyna nhw ar y traeth!
(1, 0) 374 Mae'r rhaff yn |slack|.
(1, 0) 375 Tyn y clwm hyn yn rhydd, Nel, i fi gael rhedeg i'w cwrdd.
 
(1, 0) 377 O! dyna Nel wedi mynd.
(1, 0) 378 Torrwch y clwm, wnewch chi─rhywun, dyma fi yn mynd.
 
(Shan) Glyw di y gwaeddi!
(1, 0) 398 Ewch ag ef i dŷ Mari.
(1, 0) 399 Mae popeth yn barod.