Merched y Mwmbwls

Ciw-restr ar gyfer Shan

(Ned) Dewch fechgyn, rhaid mynd â'r bywyd-fad mâs.
 
(Mari) Dyna'r don wedi golchi drosti!
(1, 0) 21 Nage─mae yn dal i fyny eto.
(1, 0) 22 Wyt ti yn mynd, Dic?
 
(1, 0) 24 O, 'machgen mawr i!
(Dic) Wel, odw, mam!
 
(1, 0) 36 Dere 'nol, Nel, mae'n ofnadwy heibio i war y graig─mae eisieu dyn cryf i sefyll yn nannedd y gwynt.
(1, 0) 37 Mae cysgod lled dda fan hyn.
(Beti) Ddaw Nel ddim 'nol, os gall fynd i'w gweld rywfodd.
 
(Nel) Mae'r tonnau'n gynddeiriog, a'r gwynt yn wallgo'─fe fuo i bron â chael fy chwythu i'r môr.
(1, 0) 46 Odi nhw'n barod?
(1, 0) 47 Mae'r llong bron â mynd i lawr.
(1, 0) 48 Na, mae'n dal i fyny eto.
(1, 0) 49 Dyna |rocket| arall o'r llong.
(Nel) Edrychwch, dyna'r bad allan!
 
(Mari) Lwc dda i'r bechgyn, weda i.
(1, 0) 66 Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da.
(1, 0) 67 Y nef a'u bendithio!
(Nel) Dyna fe yn y dŵr!
 
(Gwenno) Do, a Dic.
(1, 0) 76 Pa fad all fyw yn y fath storm?
(1, 0) 77 Mae'r tonnau fel mynyddau!
(Mary Jane) Ni ddaw yr un o nhw 'nol.
 
(Sal) Cwn dy galon, da ti.
(1, 0) 84 Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno.
(Sal) {Yn canu yn ddistaw bach, ar y dôn "Melita".}
 
(Gwenno) {Yn rhedeg i gwrdd â'u mam.}
(1, 0) 106 Nid wyf yn cofio i'r bad fynd mâs erioed o'r blaen heb fod Sali Wat gyda'r |boys| yn rhoi |push off| iddo.
(1, 0) 107 Aros yn y gwely!
(1, 0) 108 Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai.
(Mari) Wel, Sali fach, dyma ti wedi dod unwaith eto.
 
(Sali Wat) Odi'r bad wedi mynd?
(1, 0) 113 Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr.
(1, 0) 114 Mae'r môr yn arw heno!
(Sali Wat) Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw."
 
(Bess) Mae Ned Tomos a Wil Bifan mâs yn pysgota oddiar neithiwr.
(1, 0) 125 Druan o Shwan!
(1, 0) 126 Fe af i siarad â hi.
 
(1, 0) 156 Ie, bydd yn saith mlynedd wythnos i nos yfory, a noswaith arw iawn oedd hi, a ti oedd y babi glana' welais i erioed, er mod i wedi magu saith mor lân a neb yn y pentre, ond yr oeddet ti, Jenny fach, fel angel o'r nef.
(Jenny) "Perl y môr" mae dadi yn fy ngalw i.
 
(Mari) Na, diolch i'r Arglwydd, yr oedd yna fwy na digon yn barod, ond wyddai y crachod yna ddim o hynny.
(1, 0) 182 Weli di b'le maent 'nawr, Nel?
(1, 0) 183 B'le mae'r bad, a sut mae ar y llong druan?
(Nel) Wn i ddim yn wir, wela i ddim.
 
(Nel) {Yn sisial ganu, "Tyn am y lan, forwr, tyn am y lan," etc.}
(1, 0) 194 Na, Nel fach, does yna neb yn canu, ond y gwynt ofnadwy─ti sy'n meddwl eu bod.
 
(Mari) Ow! Ow!
(1, 0) 222 Welwch chi rywun yn y dŵr?
(Sali) Na, ddim yn awr.
 
(Sal) {Yn cyfeirio â bys.}
(1, 0) 237 O! druan bach!
(Mari) Mae ei nerth yn pallu.
 
(Sal) Gadewch i fi fynd!
(1, 0) 272 Na, Sal, cofia am dy blant bach.
(1, 0) 273 Aros di yma.
(Sal) Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant.
 
(1, 0) 302 Peidiwch mentro gormod, da chi, ferched!
(Pawb) {Yn galw}
 
(Gwenno) Mae popeth wedi distewi, ond y storom.
(1, 0) 312 Fe achubant y dyn─gwnant, 'rwy'n siwr─maent yn llaw Duw.
(Tomi Bach) {Yn dod i mewn.}
 
(Nel) Rhowch y rhaff allan─digon o honi!
(1, 0) 317 Na, foddant hwy ddim─dal dy afal yn y rhaff, Nel.
(1, 0) 318 Fe arbeda Duw ddwy mor wrol a Mari a Bess.
(Gwenno) Alla i wneud dim ond gweddïo a dal ar y rhaff.
 
(Mary Jane) {Bloedd yn dod.}
(1, 0) 332 O! diolch i'r nefoedd, maent wedi ei gael.
(1, 0) 333 Mae'r rhaff yn cael ei thynnu!
(1, 0) 334 Dyna'r arwydd ini dynnu i mewn!
(1, 0) 335 Dewch, tynnwch ferched, tynnwch!
(Nel) 'Nawr, pawb gyda'i gilydd!
 
(Tomi) Maent yn dod i'r golwg heibio'r graig fawr, a mae rhywun rhwng y ddwy!
(1, 0) 354 Tomi, dere yma.
(1, 0) 355 Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess!
(Nel) 'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw!
 
(Mary Jane) Gwenno, dere i ni fynd i'r tŷ i roi pethau yn barod erbyn daw'r merched 'nol â'r baich dynol!
(1, 0) 360 Ie, dyna fydd ore, Mary Jane.
(Gwenno) Dyma fi yn mynd, mam.
 
(Gwenno) Shan, gofala am mam, wnei di, a dere a hi lan tua'r tŷ ar ol i'r merched ddod 'nol, da ti?
(1, 0) 363 O'r gore, cer di, Gwenno fach.
(Nel) {Yn galw ar ei hol.}
 
(Sali Wat) {Pawb arall wedi mynd allan.}
(1, 0) 389 Cadw dy afael yn y rhaff, Sali, a fe awn ar ol y lleill.
(1, 0) 390 Dyna nhw wedi dod i'r lan!
(1, 0) 391 Glyw di y gwaeddi!
(Sal) Ewch ag ef i dŷ Mari.
 
(Beti) Yn dwyn Ei waith i ben."
(1, 0) 407 Ie'n wir.
(Pegi) {Yn dod 'nol.}
 
(Mari) Dyna'i cadwodd e' i'r lan neu fe fuasai wedi boddi.
(1, 0) 413 Cer tua thre, Mari, a thithau, Bess, i newid eich dillad a chael rhywbeth twym.
(1, 0) 414 Cerwch chwaff, nawr!
(Jenny) {Yn cydio yn llaw BESS ac hefyd yn un MARI.}
 
(Sali Wat) Mae'n |shawl| i gyda Bess.
(1, 0) 427 Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro.
(Gwenno) {Yn mynd ar ol BESS a MARI.}
 
(1, 0) 432 Sut mae eich dynion chi?
(1, 0) 433 Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari.
(Pegi) O, nid ydynt damaid gwaeth; maent wedi newid 'nawr, ac yn cael tamaid o fwyd.
 
(Jenny) {Yn rhedeg allan.}
(1, 0) 443 I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt!
(Sali Wat) Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed?
 
(Sali Wat) Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd.
(1, 0) 446 Dere adre, Sali.
(1, 0) 447 Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr.
(Sali Wat) Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto.
 
(Sali Wat) Bendigedig!
(1, 0) 452 Ie'n wir.
(1, 0) 453 Dere, mae pawb wedi mynd.
(1, 0) 454 Isht!
(1, 0) 455 Dyna ganu!
(1, 0) 456 Mae Capten Jones a'r bechgyn i gyd o flaen y tŷ yn canu.
(1, 0) 457 Clyw!
(1, 0) 458 Dere i ni fynd lan yna.