Yr Orffiws

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 1) 1 Dylid cofio mai o safbwynt y gynulleidfa, nid yr actorion, y defnyddir y termau "De" a "Chwith" yn y nodiadau hyn.
(1, 1) 2 ~
(1, 1) 3 Cegin HUW CLOCSIWR.
(1, 1) 4 Yng nghanol y mur, yn wynebu, mae drws yn agor i'r fynedfa, neu'r "passage".
(1, 1) 5 Ar y dde i'r drws, bwrdd bychan, a llestr mawr hen-ffasiwn arno.
(1, 1) 6 Wrth ei ben, ar y mur mewn lle amlwg, llun dyn a barf fawr ganddo.
(1, 1) 7 Mae'r llun hwn wedi eì dynnu rhyw hanner can mlynedd yn ôl.
(1, 1) 8 Mewn un gongl, bwrdd bychan a set radio arno.
(1, 1) 9 Cloc mawr yn y gongl ar y dde; cwpwrdd yn y gongl ar y chwith.
(1, 1) 10 Wrth droi i'r dde yn y drws, fe ewch i'r gegin bach, a'r llofft; wrth droi i'r chwith, i'r drws ffrynt a'r stryd.
(1, 1) 11 ~
(1, 1) 12 Pan godir y Llen, mae HUW yn eistedd ar soffa, tua'r canol, yn gwneud rhywbeth i esgid ar ei lin.
(1, 1) 13 Mae ganddo farclod lledr o'i flaen.
(1, 1) 14 CATRIN yn eistedd wrth y tân, wrthi'n trwsio hosan.
(1, 1) 15 ~
(1, 1) 16 Am ryw ddau funud neu dri nid oes air rhyngddynt, gan eu bod yn gwrando ar y radio—clywir perfformiad meistrolgar ar biano.
(1, 1) 17 Pan ddaw'r rhaglen i ben, mae HUW yn troi y radio i ffwrdd.
(Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd.
 
(Huw) Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser.
(1, 1) 65 Huw yn mynd i sefyll wrth y tân.
(Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!
 
(Huw) Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James?
(1, 1) 153 BLODWEN yn dod i mewn, eì chôl amdani.
(Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad?
 
(Huw) O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─
(1, 1) 267 Clywir sŵn WILI JOHN draw.
(Catrin) Aros am funud, mae Wili John yn dwad.
 
(Catrin) Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o.
(1, 1) 273 WILI JOHN yn dod i mewn ar wib, gan ddal ei ddwy fraich allan.
(1, 1) 274 Mae'n rhoi tro rownd y llwyfan gan wneud sŵn fel eroplên.
(Huw) Hei, llai o dwrw, boi bach.
 
(Huw) Ble rwyt ti'n mynd, Catrin?
(1, 1) 305 CATRIN yn rhoi côl amdani a hel ar ei phen.
(Catrin) Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas.
 
(Catrin) Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa.
(1, 1) 316 HUW yn rhoi cap am ben WILI JOHN.
(Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?
 
(Catrin) Tyrd Wili John.
(1, 1) 326 CATRIN a WILI JOHN yn mynd drwy'r drws.
(1, 1) 327 Huw yn gafael mewn esgid ac yn eistedd i lawr ar y soffa.
(1, 1) 328 Dechreu mwmian canu'n ddistaw.
(1, 1) 329 Yna ymhen ychydig daw cnoc ar y drws, a daw Dic Bersi i mewn.
(1, 1) 330 Mae'r siwt sydd amdano wedi gweld dyddiau gwell, ond mae'n drwsiadus ddigon.
(1, 1) 331 Cadach sydd am ei wddf yn lle colar.
(1, 1) 332 Mae'n dal ei gap yn ei law.
(Huw) O chdi sydd yna Dic Betsi?
 
(Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi.
(1, 1) 380 DIC BETSI yn eistedd i lawr ar y dde.
(1, 1) 381 Clocsiwr yn codi ar ei draed mewn syndod.
(Huw) Be!
 
(Huw) Aros!
(1, 1) 416 Clywir sŵn draw.
(1, 1) 417 Yna y drws yn agor ac ENOC yn dod i mewn.
(1, 1) 418 Hen gôt llongwr fawr amdano, a hen gap pîg-gloyw ar ei ben.
(1, 1) 419 Cadach mawr coch am ei wddf.
(1, 1) 420 Fel llawer i hen forwr, mae'n gwisgo barf, a hwnnw wedi troi yn wyn.
(1, 1) 421 Mae ganddo ffon yn ei law.
(Enoc) Ahoy there, Clocsiwr!
 
(Huw) Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna.
(1, 1) 437 HUW yn mynd at ENOC i dynnu ei gôt.
(1, 1) 438 Dic yn neidio i fyny gyda'r un bwriad.