Yr Orffiws

Ciw-restr ar gyfer Enoc

(Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd.
 
(Huw) Aros!
(1, 1) 422 Ahoy there, Clocsiwr!
(Huw) Uncle Enoc, chi sydd yna?
 
(Huw) Uncle Enoc, chi sydd yna?
(1, 1) 424 Ia debyg iawn.
(1, 1) 425 Pwy wyt ti'n feddwl ydw i, y landlybar?
(1, 1) 426 Napoleon?
(Huw) Dowch i mewn, rhen ddyn.
 
(Huw) Dowch i mewn, rhen ddyn.
(1, 1) 428 Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad.
(Dic) Helo dewyrth.
 
(Dic) Helo dewyrth.
(1, 1) 430 O chdi sydd yna aie!
(1, 1) 431 Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim.
(Huw) Ia, go dda myn brain i!
 
(Huw) Ia, go dda myn brain i!
(1, 1) 433 Paid ti ag agor dy bîg.
(1, 1) 434 Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima.
(Huw) Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu.
 
(1, 1) 442 Hanner munud y ffyliaid—ydach chi eisio tynnu fy nghôt i'n gria?
(1, 1) 443 Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr.
(Huw) Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr?
 
(Huw) Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr?
(1, 1) 445 Ydw, debyg iawn.
(1, 1) 446 Wyt ti'n disgwyl i mi hongian o'r to?
(1, 1) 447 Ple mae'r ddynas yma?
 
(Huw) Allan yn y siop...
(1, 1) 451 Da iawn.
(1, 1) 452 Mi fydd yna lai o glebran o gymaint a hynny.
(1, 1) 453 Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y?
(Dic) Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a...
 
(Dic) Wel, eich gweld chi wedi teneuo, dewyrth, a...
(1, 1) 455 Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i?
(Dic) Wel does arna i ddim eisio'ch gweld chi'n mynd yn wael, dewyrth.
 
(Huw) Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr?
(1, 1) 460 Sobor.
(Huw) Tewch â dweud!
 
(Huw) Mae'n ddrwg gen i glywed.
(1, 1) 463 Paid â dweud celwydd.
(1, 1) 464 Rwyt ti wrth dy fodd.
(1, 1) 465 Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol.
(Dic) Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan.
 
(Dic) Mae yna lawer o gwyno o gwmpas rwan.
(1, 1) 467 Oes, ond wyddost ti pam?
(Dic) Wel na, dydw i ddim yn meddwl.
 
(Dic) Wel na, dydw i ddim yn meddwl.
(1, 1) 469 Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam.
(1, 1) 470 Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma.
(Huw) 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i.
 
(Huw) 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i.
(1, 1) 472 Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna?
(Dic) Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir.
 
(Dic) Digon gwir, rhen ŵr, digon gwir.
(1, 1) 474 Gwir bob gair i ti.
(1, 1) 475 Does gen ddyn ddim hawl i fusnesu efo'r petha yna.
(1, 1) 476 Mae o'n groes i natur.
(Huw) Siwr o fod...
 
(Huw) Siwr o fod...
(1, 1) 478 A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw.
(1, 1) 479 Llwch lli, a dim arall.
(1, 1) 480 A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir.
(Huw) Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn?
 
(Huw) Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn?
(1, 1) 482 Ydw—cig ceffyl.
(1, 1) 483 A rhyw sothach mewn tynia.
(1, 1) 484 Roeddwn i'n agor un y diwrnod o'r blaen.
(1, 1) 485 A dyna'r drewi mwya cythreulig yn dwad allan ohono fo.
(1, 1) 486 Yn ddigon i godi gwallt dy ben di.
(1, 1) 487 Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd.
(Huw) Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth.
 
(Huw) Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth.
(1, 1) 489 Nag ydy, mi wn i hynny.
(1, 1) 490 Ond fydda i ddim yna'n hir.
(1, 1) 491 Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest".
(Dic) Y?
 
(Dic) Be ydy hwnnw, rhen ŵr?
(1, 1) 494 Lle i hen begnos fel fi dreulio diwedd oes, Dic Betsi.
(1, 1) 495 Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau.
(Huw) Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag.
 
(Huw) Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg.
(1, 1) 498 Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr.
(Huw) Choelia i fawr.
 
(Huw) A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni!
(1, 1) 501 Y?
(1, 1) 502 Be ydy hyn?