Yr Orffiws

Ciw-restr ar gyfer Huw

(Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd.
 
(Catrin) Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw.
(1, 1) 20 Ia, Catrin, ardderchog.
(1, 1) 21 Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos.
(Catrin) Pwy oedd y dyn yna, tybed?
 
(Catrin) Pwy oedd y dyn yna, tybed?
(1, 1) 23 Pa ddyn?
(Catrin) Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan.
 
(Catrin) Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan.
(1, 1) 25 O wn i ddim.
(1, 1) 26 Fforinar reit siwr.
(1, 1) 27 Enw llathan o hyd—Fritz von Powlan ne rwbath.
(1, 1) 28 Fforinars ydy rhain i gyd.
(Catrin) Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw.
 
(Catrin) Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw.
(1, 1) 30 Y?
(1, 1) 31 Dim peryg.
(1, 1) 32 Mae eisio chwysu am flynyddoedd cyn meistroli offeryn.
(1, 1) 33 Dydy o ddim yno' ni'r Cymry.
(1, 1) 34 Mi ydan ni'n ganwrs heb eu hail—ond mae hynny'n ran o'n natur ni.
(1, 1) 35 Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl.
(Catrin) Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod.
 
(Catrin) Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti!
(1, 1) 38 Y?
(1, 1) 39 Buasa—efo cyllell boced!
(Catrin) O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim.
 
(Catrin) Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud.
(1, 1) 42 Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag.
(Catrin) Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu.
 
(Catrin) Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a...
(1, 1) 46 Ond Catrin...
(Catrin) Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir.
 
(Catrin) Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti.
(1, 1) 50 Dim o gwbwl...
(Catrin) O, fedri di ddim gwadu.
 
(Catrin) Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma...
(1, 1) 55 Ond dydw inna ddim yn...
(Catrin) Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad.
 
(Catrin) Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad.
(1, 1) 57 Does dim eisio taflu weips.
(Catrin) Mae o'n wir bob gair.
 
(Catrin) Mae o'n wir bob gair.
(1, 1) 59 Nac ydy.
(Catrin) Ydy.
 
(Catrin) Ydy.
(1, 1) 61 Nac ydy medda finna.
(Catrin) Ydy medda finna.
 
(Catrin) Ydy medda finna.
(1, 1) 63 O be ydy'r iws dadla!
(1, 1) 64 Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser.
(Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!
 
(Catrin) Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!
(1, 1) 67 Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o?
(Catrin) Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg.
 
(Catrin) Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg.
(1, 1) 69 Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad.
(1, 1) 70 Mae'r peth wedi bod ar fy mrêns i ers wythnosa.
(1, 1) 71 Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl.
(Catrin) Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim.
 
(Catrin) Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim.
(1, 1) 73 Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i.
(1, 1) 74 Dim eisio gwneud y peth yn destun ffrae.
(1, 1) 75 Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin.
(Catrin) Amyneddgar wir.
 
(Catrin) Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu?
(1, 1) 78 Dim o gwbwl.
(1, 1) 79 Ond cofia hyn, chei di ddim offeryn heddiw o dan gan punt—hyd yn oed un ail-law.
(1, 1) 80 Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco.
(Catrin) Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad?
 
(Catrin) Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad?
(1, 1) 82 I be?
(1, 1) 83 Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno.
(Catrin) Twt, paid â hel esgus.
 
(Catrin) Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed.
(1, 1) 86 Aros am funud, da chdi.
(1, 1) 87 Paid â dechra arni eto.
(1, 1) 88 Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i.
(Catrin) Wel?
 
(Catrin) Wel?
(1, 1) 90 Uncle Enoc.
(Catrin) Uncle Enoc?
 
(Catrin) Beth amdano fo?
(1, 1) 93 Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd.
(1, 1) 94 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna.
(Catrin) O chdi a dy Uncle Enoc!
 
(Catrin) Os mai dyna ydy dy gynllun di...
(1, 1) 97 Aros am funud, paid â bod mor wyllt.
(1, 1) 98 Mae gan yr hen ŵr hosan reit dda yn rhywle.
(1, 1) 99 Tri chant o bunna medda nhw.
(Catrin) Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl.
 
(Catrin) Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld.
(1, 1) 103 Dim peryg i ti.
(1, 1) 104 Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma.
(Catrin) Clyw!
 
(Catrin) Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano.
(1, 1) 109 Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc.
(Catrin) Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog.
 
(Catrin) Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog.
(1, 1) 111 Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg!
(Catrin) O mae o'n ddigon gwir.
 
(Catrin) Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw!
(1, 1) 116 Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti.
(Catrin) Nag ydan, diolch i'r tad.
 
(Catrin) Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni.
(1, 1) 119 Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto.
(Catrin) Wel?
 
(Catrin) Wel?
(1, 1) 121 Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely.
(Catrin) Be ydy dy gynllun di felly?
 
(Catrin) Be ydy dy gynllun di felly?
(1, 1) 123 Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
(Catrin) Dwad yma?
 
(Catrin) Wyt ti'n drysu?
(1, 1) 127 Gwranda am funud
 
(Catrin) Sôn am slafio wir...
(1, 1) 132 Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu.
(Catrin) Pa ochor arall sydd yna?
 
(Catrin) Pa ochor arall sydd yna?
(1, 1) 134 Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin.
(Catrin) Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw.
 
(Catrin) A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd.
(1, 1) 138 Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir?
(Catrin) Y fi.
 
(Catrin) Mi fydd yn rhaid ei saethu o.
(1, 1) 142 Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin.
 
(1, 1) 144 Gwranda, mi ges i sgwrs y bore yma efo'r doctor bach newydd yna.
(1, 1) 145 Be ydy ei enw fo hefyd?
(Catrin) Doctor James?
 
(Catrin) Doctor James?
(1, 1) 147 Ia, dyna fo.
(1, 1) 148 Wel, mae calon rhen Enoc wedi gwanio'n arw.
(1, 1) 149 Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor.
(Catrin) Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o.
 
(Catrin) Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o.
(1, 1) 151 Paid â siarad yn wirion Catrin.
(1, 1) 152 Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James?
(Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad?
 
(Blodwen) Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad?
(1, 1) 155 Oeddwn Blodwen, pam?
(Blodwen) Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl!
 
(Blodwen) Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl!
(1, 1) 157 O?
(Blodwen) Newydd fod yn gweld Uncle Enoc medda fo.
 
(Blodwen) {Edrych drwy bapur newydd ar y bwrdd.}
(1, 1) 164 Wel, beth oedd y mater felly?
(Blodwen) {Ei meddwl ymhell.}
 
(Blodwen) Hm?
(1, 1) 167 Lle mae dy feddwl di dwad?
(Blodwen) O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James.
 
(Blodwen) Y "Sailor's Rest".
(1, 1) 171 "Sailor's Rest"?
(1, 1) 172 Be aflwydd ydy hwnnw?
(Blodwen) Rhyw fath o gartre i hen longwrs, rydw i'n deall.
 
(Blodwen) I ffwrdd yn rhywle, ond mae o'n le ardderchog, medda Doctor James.
(1, 1) 179 Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg?
(Blodwen) Ydy, medda fo.
 
(Blodwen) Wedi blino byw ar ei ben ei hun.
(1, 1) 182 Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt!
(Blodwen) Be sy Nhad?
 
(Blodwen) Mae'n biti gweld yr hen greadur ei hunan bach yn y tŷ yna.
(1, 1) 189 Ydy debyg iawn.
(1, 1) 190 Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma.
(Catrin) Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ?
 
(Blodwen) Ydy Wili John wedi bod efo fo eto?
(1, 1) 196 O, hidia befo fo am funud.
(Blodwen) Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad!
 
(Blodwen) Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad!
(1, 1) 198 Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o?
(Blodwen) Naddo, ond yn reit fuan 'r 'wyn credu.
 
(Blodwen) A, dyma fo!
(1, 1) 202 Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin.
(Catrin) Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod.
 
(Blodwen) Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam.
(1, 1) 210 Beth wyt ti'n feddwl?
(Blodwen) O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory.
 
(Blodwen) O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory.
(1, 1) 212 Y?
(1, 1) 213 Pwy ydy o felly?
(Blodwen) {Mynd allan drwy'r drws.}
 
(Blodwen) Doctor James, Nhad.
(1, 1) 216 Wel myn brain i!
(1, 1) 217 Glywaist ti hynna Catrin?
(1, 1) 218 Y ledi fach!
 
(Catrin) Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn.
(1, 1) 222 Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly!
(1, 1) 223 Roeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth ar dro.
(1, 1) 224 Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed?
(Catrin) Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist?
 
(Catrin) Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist?
(1, 1) 226 Doctor James wir!
(Catrin) O gad lonydd i'r hogan!
 
(Catrin) Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad?
(1, 1) 230 Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin.
(Catrin) Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti.
 
(Catrin) Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti.
(1, 1) 232 Sgwn i!
(1, 1) 233 Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio.
(Catrin) Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi.
 
(Catrin) Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi.
(1, 1) 235 Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw.
(1, 1) 236 Dydy hi ddim wedi cael mantais o'i haddysg eto.
(1, 1) 237 Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio?
(Catrin) Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw.
 
(Catrin) {CATRIN yn codi i gadw'r hosan.}
(1, 1) 240 Y?
(1, 1) 241 Ia, ond mae eisio dipyn bach o synnwyr cyffredin, myn brain i.
(1, 1) 242 O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc.
(Catrin) Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna.
 
(Catrin) Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna.
(1, 1) 244 Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin!
(Catrin) O na.
 
(Catrin) Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno.
(1, 1) 247 Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr.
(1, 1) 248 A dyna dri chant o bunna wedi mynd i ebargofiant.
(1, 1) 249 O wel, waeth i ni roi'r ffidil yn y to ddim.
(1, 1) 250 Mae hi'n rhy hwyr rwan.
(Catrin) Wn i ddim am hynny.
 
(Catrin) Wn i ddim am hynny.
(1, 1) 252 Beth wyt ti'n feddwl?
(Catrin) Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd.
 
(Catrin) Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd.
(1, 1) 254 Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma?
(Catrin) Mi gawn weld ymhellach ymlaen.
 
(Catrin) Mi gawn weld ymhellach ymlaen.
(1, 1) 256 Wyt ti o ddifri?
(Catrin) Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i.
 
(Catrin) A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma.
(1, 1) 260 Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin.
(Catrin) Mi gei di weld peth arall.
 
(Catrin) Mi gei di weld peth arall.
(1, 1) 262 Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn.
(Catrin) Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal.
 
(Catrin) Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal.
(1, 1) 264 Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin.
(1, 1) 265 Mae yna ryw fai arno ni i gyd.
(1, 1) 266 O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─
(Catrin) Aros am funud, mae Wili John yn dwad.
 
(Catrin) Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd.
(1, 1) 270 I be?
(Catrin) Gofyn di iddo fo.
 
(Catrin) Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o.
(1, 1) 275 Hei, llai o dwrw, boi bach.
(1, 1) 276 Beth wyt ti'n feddwl wyt ti—dyrnwr?
(Wili John) Naci, eroplên.
 
(Wili John) Naci, eroplên.
(1, 1) 278 Y?
(Wili John) Eroplên—jet yn mynd i India.
 
(Wili John) Be sy Nhad?
(1, 1) 285 Be sy be?
(Catrin) O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd!
 
(Catrin) Wyt ti wedi anghofio'n barod?
(1, 1) 288 O ia.
(1, 1) 289 Yli, Wili John, pa bryd wyt ti'n cael dy ben blwydd?
(Wili John) Mis nesa.
 
(Wili John) Mis nesa.
(1, 1) 291 Be fuasa ti'n lecio gael yn bresant?
(Wili John) Gwn dŵr.
 
(Wili John) O buaswn Mam!
(1, 1) 301 Wel efalla y cei di un os byddi di'n hogyn da.
(Wili John) Pa bryd?
 
(Wili John) Pa bryd?
(1, 1) 303 Wn i ddim eto nes y ca'i weld dyn y banc.
(1, 1) 304 Ble rwyt ti'n mynd, Catrin?
(Catrin) Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas.
 
(Catrin) Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa.
(1, 1) 317 Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?
(Catrin) Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny.
 
(Catrin) Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl.
(1, 1) 321 Reit.
(Catrin) Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row.
 
(Catrin) Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row.
(1, 1) 323 O paid â phoeni.
(1, 1) 324 Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy.
(Catrin) Tyrd Wili John.
 
(Catrin) Tyrd Wili John.
(1, 1) 333 O chdi sydd yna Dic Betsi?
(Dic) Ia, Clocsiwr, fi sydd yma.
 
(Dic) Ple mae Catrin?
(1, 1) 336 Newydd fynd allan.
(1, 1) 337 Be sydd arnat ti eisio?
(Dic) O dim byd neilltuol.
 
(Dic) Wyt ti'n brysur?
(1, 1) 341 Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort.
 
(Dic) Dim llawer o hwyl arnat ti, Clocsiwr?
(1, 1) 344 Nag oes, tra byddi di o gwmpas.
(Dic) Duwcs annwyl, paid â cholli dy limpyn, rhen frawd.
 
(Dic) Rhaid i ni drio bod yn gymdogol wyddost ti, ne chawn ni byth drefn ar yr hen fyd yma.
(1, 1) 347 Hy!
(Dic) Be?
 
(Dic) Be?
(1, 1) 349 Hy! medda fi.
(Dic) O...
 
(Dic) Dwad wrtha i Clocsiwr, fuo rhen Enoc yma heddiw?
(1, 1) 352 Naddo.
(1, 1) 353 Pam?
(Dic) Wel doedd o ddim yn y tŷ pan oeddwn i'n pasio rwan.
 
(Dic) Fydd o'n dwad yma yn o amal rwan?
(1, 1) 358 Bydd, debyg iawn.
(1, 1) 359 Mae o'n gwybod ple i gael croeso.
(1, 1) 360 Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd.
(Dic) Beth wyt ti'n feddwl?
 
(Dic) Beth wyt ti'n feddwl?
(1, 1) 362 Hidia di befo.
(1, 1) 363 Mi gei di weld yn ddigon buan co!
(Dic) Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i?
 
(Dic) Be ydy'r diddordeb sydyn yma yn yr hen ŵr, sgwn i?
(1, 1) 365 Sydyn by-be?
(1, 1) 366 Mae o wedi cael drws agored yma bob amser.
(1, 1) 367 Diddordeb, ddwedaist ti?
(1, 1) 368 Na, cariad brawdol, Dic Betsi.
(1, 1) 369 Ond wrth gwrs wyddost ti ddim be ydy hwnnw.
(1, 1) 370 "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser.
(Dic) Na, rwyt ti'n gwneud camgymeriad, rhen frawd.
 
(Dic) Ond fydda i byth yn gwneud sioe o bob cymwynas fel llawer un.
(1, 1) 373 Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima.
(1, 1) 374 Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co!
(Dic) Wyt ti wir!
 
(Dic) Wyddost ti pam yr ydw i eisio gweld Uncle Enoc?
(1, 1) 378 Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam?
(Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi.
 
(Dic) I ofyn iddo fo ddwad acw i fyw efo fi.
(1, 1) 382 Be!
(1, 1) 383 Wel, myn brain i!
(1, 1) 384 Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni?
(Dic) Wel, pam?
 
(Dic) Digon o fwyd, Clocsiwr.
(1, 1) 387 Ha!
(Dic) A phob chware teg.
 
(Dic) A phob chware teg.
(1, 1) 389 Digon o fwyd wir!
(1, 1) 390 Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi.
(Dic) Paid â cholli dy limpyn, Clocsiwr.
 
(Dic) Dim eisio mynd yn gâs, duwcs annwyl!
(1, 1) 394 Pwy sy'n colli ei limpyn?
(Dic) Mae golwg felly arnat ti beth bynnag.
 
(Dic) Mae golwg felly arnat ti beth bynnag.
(1, 1) 396 Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—!
(Dic) Ie debyg iawn.
 
(Dic) Rhen greadur, does ganddo fo fawr i fynd ar ei ora.
(1, 1) 400 Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed.
(Dic) Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr.
 
(Dic) Diar annwyl, dim o'r fath beth, Clocsiwr.
(1, 1) 402 O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi.
(1, 1) 403 Ar ôl arian rhen Enoc rwyt ti.
(1, 1) 404 Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad.
(Dic) Yma?
 
(Dic) Yma?
(1, 1) 406 Ia, yma.
(1, 1) 407 Mae Catrin wedi bod yn pwyso arna i ei gymryd o i mewn ers misoedd.
(1, 1) 408 Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun.
(Dic) Mae'n anodd gen i goelio hyna.
 
(Dic) Mae'n anodd gen i goelio hyna.
(1, 1) 410 Ydy, debyg iawn.
(1, 1) 411 Does yna ddim tosturi yn dy natur di.
(Dic) Wyt ti wedi gofyn iddo fo?
 
(Dic) Wyt ti wedi gofyn iddo fo?
(1, 1) 413 Naddo eto.
(1, 1) 414 Ond mi fydda i'n mynd ato fo heno am dro—
(1, 1) 415 Aros!
(Enoc) Ahoy there, Clocsiwr!
 
(Enoc) Ahoy there, Clocsiwr!
(1, 1) 423 Uncle Enoc, chi sydd yna?
(Enoc) Ia debyg iawn.
 
(Enoc) Napoleon?
(1, 1) 427 Dowch i mewn, rhen ddyn.
(Enoc) Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad.
 
(Enoc) Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim.
(1, 1) 432 Ia, go dda myn brain i!
(Enoc) Paid ti ag agor dy bîg.
 
(Enoc) Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima.
(1, 1) 435 Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu.
(1, 1) 436 Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna.
 
(1, 1) 440 Dim eisio i ti fusnesu, Dic Betsi.
(Enoc) {Yn eu gwthio i ffwrdd, yn wyllt.}
 
(Enoc) Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr.
(1, 1) 444 Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr?
(Enoc) Ydw, debyg iawn.
 
(Enoc) {Eistedd ar y dde.}
(1, 1) 449 Catrin?
(1, 1) 450 Allan yn y siop...
(Enoc) Da iawn.
 
(Dic) {DIC yn tynnu cadair oddi wrth y bwrdd ac yn eistedd arni.}
(1, 1) 459 Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr?
(Enoc) Sobor.
 
(Enoc) Sobor.
(1, 1) 461 Tewch â dweud!
(1, 1) 462 Mae'n ddrwg gen i glywed.
(Enoc) Paid â dweud celwydd.
 
(Enoc) Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma.
(1, 1) 471 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i.
(Enoc) Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna?
 
(Enoc) Mae o'n groes i natur.
(1, 1) 477 Siwr o fod...
(Enoc) A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw.
 
(Enoc) A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir.
(1, 1) 481 Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn?
(Enoc) Ydw—cig ceffyl.
 
(Enoc) Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd.
(1, 1) 488 Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth.
(Enoc) Nag ydy, mi wn i hynny.
 
(Enoc) Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau.
(1, 1) 496 Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag.
(1, 1) 497 Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg.
(Enoc) Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr.
 
(Enoc) Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr.
(1, 1) 499 Choelia i fawr.
(1, 1) 500 A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni!