Yr Oruchwyliaeth Newydd

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Prynhawn tua dechrau'r haf yw hi.
(1, 0) 2 Y mae MARI wrthi yn glanhau esgidiau.
(1, 0) 3 Benyw ganol oed yw, wedi gweld llawer tro ar fyd a'i gwallt wedi gwynnu.
(1, 0) 4 Er hynny, y mae'n eithaf heini, ac nid yw wedi rhoi i fyny'r ysbryd.
(1, 0) 5 Eistedd ar stôl isel rhwng y bwrdd a'r lle tân.
(1, 0) 6 O'i hamgylch y mae dau neu dri phâr o esgidiau.
(1, 0) 7 Ar ôl ennyd, egyr y drws, a gesyd IFAN er ben i mewn.
(1, 0) 8 Dyn canol oed yw yntau hefyd, ond nid yw'r byd a'i ofidiau wedi menu cymaint arno ef ag ar MARI.
(1, 0) 9 Dyn o gymeriad gwan yw ef.
(1, 0) 10 Gwêl MARI, ac y mae yn diflannu pan gyfyd hi ei phen i'w weld ef.
(1, 0) 11 Sieryd MARI ar unwaith.
(Mari) Hei!
 
(Mari) Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau.
(1, 0) 75 Allan i'r dde.
(1, 0) 76 Daw IFAN ymlaen yn araf at y bwrdd; gwisg y ffedog; eistedd a dechrau i lanhau'r esgidiau.
(1, 0) 77 Erys.
(1, 0) 78 Tynn ei bib o'i logell, gwthia'r tipyn lludw sydd ynddi i mewn â'i fawd, a cheisia ei chynnau.
(1, 0) 79 Cnoc ar y ffenestr; pen WAT i'w weled yno.
(1, 0) 80 Amneidia IFAN arno i ddod i mewn trwy'r cefn.
(1, 0) 81 Â ymlaen â'r glanhau sgidiau wedi i WAT ddod i mewn.
(1, 0) 82 Dyn canol oed yw WAT; bu unwaith yn weithiwr caled, ond ar filgwn a betio y mae ei fryd yn awr.
(1, 0) 83 Arbenigion ei wisg yw cap ar ochr ei ben, a mwffler gwyn, mwy neu lai.
(Ifan) Paid â siarad yn uchel.
 
(Wat) Mae'n well gen i gadw milgi.
(1, 0) 155 Daw MARI i mewn, ac y mae IFAN yn ailgydio yn yr esgidiau.
(Mari) Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma?
 
(Mari) Fe wn beth yw sport dy siort di'yn iawn.
(1, 0) 167 Daw GWILYM i mewn yn frysiog o'r dde.
(1, 0) 168 Tua dwy neu dair-ar-hugain yw ei oed, ac y mae yn fachgen digon lluniaidd ei olwg a'i osgo; eithr arwynebol yw ei wybodaeth am bopeth ar wahân i bleser a gamblo.
(1, 0) 169 Gesyd bapurau o'i law ar y dreser.)
(Mari) Gwilym, beth wyt ti'n wneud adre nawr?
 
(Wat) Fe all dy feistres aros munud i ti.
(1, 0) 190 Cydia yn ei ysgwydd, a thywys ef at y drws de.
(1, 0) 191 Ânt allan, a MARI yn edrych ar eu hôl.
(Mari) Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw?
 
(Mari) Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion.
(1, 0) 215 Cnoc ar y drws, a daw MORFUDD i mewn.
(1, 0) 216 Merch ifanc brydferth wedi gwisgo'n ddeniadol.
(Morfudd) A oes rhywun yma?
 
(Mari) Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr.
(1, 0) 234 Exit IFAN.
(Morfudd) Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos.
 
(Morfudd) Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall.
(1, 0) 239 Daw Gwilym i mewn yn frysiog.