Yr Oruchwyliaeth Newydd

Ciw-restr ar gyfer Ifan

(Mari) Hei!
 
(Mari) Ble diflannaist ti ar ôl cinio?
(1, 0) 16 Dim ond lawr i'r sgwâr
 
(Mari) Ac fel pe na bait wedi gweld popeth sydd yno i'w weld gannoedd miloedd o weithiau, rhaid i ti redeg yno bob tro y cei di fy nghefn i o hyd.
(1, 0) 22 Ble arall y gallaf i fynd?
(1, 0) 23 Wyt ti'n meddwl yr awn i yno petai gen i rywle arall i fynd iddo?
 
(Mari) Beth petai gwragedd y dynion yna sy'n sefyll y rhan orau o'u hoes yno yn penderfynu cael sgwâr iddynt eu hunain i wastraffu'u hamser ynddi?
(1, 0) 27 O gad hi, Mari!
(1, 0) 28 Gad hi nawr!
 
(1, 0) 30 'Chei di ddim gwaith i fi wrth ddefnyddio dy dafod ac edliw hen bethau fel hyn drosodd a throsodd; nid arna i mae'r bai fy mod i allan o waith.
 
(Mari) 'Oes dim cywilydd arnat ti ei weld e wrthi, a thithau'n rhy ddiog i roi hyd yn oed help llaw iddo?
(1, 0) 36 Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely.
(Mari) 'Does fawr o berygl yr ei di'n ddiflas wrth weld gwaith yn cael ei orffen.
 
(Mari) Mae eisiau mynd i orffen y llofft arnaf fi.
(1, 0) 42 Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma.
(Mari) Fe fydd yn ddigon clau i ti weld Wat p'nawn fory, a phetait ti heb ei weld e am chwe mis, 'fyddai hynny ddim colled i ti.
 
(Mari) Ond 'does dim pâr i mi yma─'dydw i ddim yn debyg o lychwino pâr wrth fynd i unman; hyd yn oed petai gen i bâr digon da i fynd.
(1, 0) 46 A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna?
(Mari) Na, wna i ddim dal fy nhafod.
 
(1, 0) 50 Fe wyddost cystal â minnau nad oes dim gwaith i'w gael yn y lle yma.
(1, 0) 51 Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i?
(Mari) Wyt.
 
(Mari) Ti sy'n ei gael fwyaf─ti a'r cŵn!
(1, 0) 54 Nawr, Mari.
(1, 0) 55 'Dwyt ti ddim i fod i ddechrau ar fusnes y cŵn yna eto.
(1, 0) 56 Mae hawl gan ddyn i gael tipyn o bleser yn ei fywyd, ac os ydw i'n ei gael wrth roi ambell swllt ar y cŵn...
(1, 0) 57 Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha?
(Mari) A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha?
 
(Mari) A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha?
(1, 0) 59 Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory.
(1, 0) 60 Dyna pam yr wyf am weld Wat.
 
(1, 0) 64 O, 'rydw i'n mynd 'nôl i'r sgwâr, allan o'r cintach tragwyddol yma...
 
(Mari) Beth ddwedai dy dad pe gwelai ei fab yn cymysgu â'r set sy'n byw ar rasis milgwn a rasis ceffylau─fe, fu'n eistedd yn sêt fawr y Tabernacl am ddeugain mlynedd!
(1, 0) 70 Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd?
(1, 0) 71 Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith...
(Mari) Ac fe roddit heibio'r milgwn a mynd 'nôl i'r Tabernacl unwaith eto?
 
(Mari) Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau.
(1, 0) 84 Paid â siarad yn uchel.
(1, 0) 85 Mae Mari ar y llofft─yn un o'i hwyliau.
(1, 0) 86 Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld.
(Wat) 'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri.
 
(Wat) Ble mae Gwilym?
(1, 0) 89 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de.
(Wat) 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus?
 
(Wat) 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus?
(1, 0) 91 Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e.
(1, 0) 92 I beth wyt ti am ei weld e?
(Wat) {Yn edrych o'i gwmpas.}
 
(Wat) Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof.
(1, 0) 96 Beth sy'n bod?
(Wat) Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory?
 
(Wat) {Yn eistedd wrth y bwrdd.}
(1, 0) 99 Gwyddwn.
(1, 0) 100 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno.
(Wat) Swllt!
 
(Wat) Dyna paham yr wyf am dy help di.
(1, 0) 104 Beth alla i wneud?
(Wat) Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff.
 
(1, 0) 111 Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny.
(Wat) Pam lai?
 
(Wat) Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo.
(1, 0) 114 Rhaid i ti ei weld dy hunan.
(1, 0) 115 Efallai y gwnaiff e hyn os gofynni di iddo; {yn cerdded i'r chwith} fentra i ddim...
 
(1, 0) 117 Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith?
(Wat) Torri'r gyfraith i gythrel!
 
(Wat) Faint o arian sy' gen ti wrth law?
(1, 0) 121 Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw.
(1, 0) 122 Dere â blewyn os oes peth gen ti?
(1, 0) 123 Fentra i ddim gofyn i Mari pan fydd yn ei hwyliau.
 
(1, 0) 125 Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory.
(Wat) Hanner coron!
 
(Wat) Fe ddylit roi pum punt o leiaf.
(1, 0) 131 Pum punt!
(1, 0) 132 Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt?
(Wat) Dy fusnes di yw hynny.
 
(Wat) Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed.
(1, 0) 135 Ust!
(1, 0) 136 Paid â chodi dy lais!
(1, 0) 137 Fe glyw Mari.
(Wat) 'Rwy'n mynd.
 
(Wat) Dyna dy siâr di o'r fargen.
(1, 0) 141 Ond beth os na wnaiff e?
(Wat) Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian.
 
(Wat) 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl?
(1, 0) 148 'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat.
(1, 0) 149 Wedi'r cwbl...
(Wat) Nagwyt, mi wn.
 
(Mari) Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw?
(1, 0) 193 'Wn i ddim.
(Mari) 'Ddwedi di ddim, wyt ti'n feddwl!
 
(Mari) Os ydw i'n nabod rhywbeth o'r dyn yna, y mae'n mynd ar ei ben i drwbwl, ac os gallaf fi help, 'chaiff e ddim mynd â thi a Gwilym gydag e.
(1, 0) 196 Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari...
(Mari) Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw.
 
(Mari) Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw.
(1, 0) 198 'Dydy e'n gwneud dim...
(Mari) Mae e'n gallu dy dwyllo di, a llawer eraill hefyd, fel y myn.
 
(Mari) Fe a'i sort─a Hopkins hefyd, o ran hynny.
(1, 0) 202 Paid â dweud dim am Hopkins...
(Mari) O, fe wn bod Gwilym yn lwcus i gael job gydag e, a gwaith mor anioddefol o brin.
 
(Mari) A dim ond Gwilym sy'n dod ag arian i'r tŷ...
(1, 0) 205 Beth am fy nôl i?
(Mari) le, a phensiwn tadcu!
 
(Mari) 'Dydy e ddim yn iawn i fenyw briod i redeg o amgylch gyda chrwt ifanc.
(1, 0) 211 'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti.
(1, 0) 212 Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di.