Yr Oruchwyliaeth Newydd

Ciw-restr ar gyfer Morfudd

(Mari) Hei!
 
(Mari) Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion.
(1, 0) 217 A oes rhywun yma?
(1, 0) 218 Hylo!
(1, 0) 219 'Dyw Gwilym ddim wedi dod adre eto, ydy e?
(Mari) Mae e wedi mynd lawr yr hewl gyda Wat; fe ddaw 'nôl mewn munud.
 
(Mari) Peth od na welaist ti nhw.
(1, 0) 222 Mae e adre'n gynnar heddiw.
(Mari) 'Dydy e ddim wedi gorffen eto.
 
(Mari) Rhaid iddo fynd i lawr i Lanmorfa─dim ond dod adre i newid wnaeth e.
(1, 0) 225 I Lanmorfa?
(Mari) Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins...
 
(Mari) Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins...
(1, 0) 227 Ond 'roedd e wedi addo dod i chwarae tennis gen i heno.
(1, 0) 228 Dyna i beth yr oeddwn i'n galw nawr─i ddweud bod Jim a Nansi yn dod i gwrdd â ni am chwech.
(Mari) Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl.
 
(Mari) Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl.
(1, 0) 230 Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau!
(Mari) Paid â meio i.
 
(Mari) Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr.
(1, 0) 235 Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos.
(Mari) Ni all Gwilym ei hosgoi yn dda iawn─rhaid iddo feddwl am ei job.
 
(Mari) 'Dydyn nhw ddim mor aml ffordd hyn nawr â mwyar duon yn yr hydref.
(1, 0) 238 Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall.
(Gwilym) {Ar unwaith.}
 
(Gwilym) 'Rown i'n meddwl anfon neges i ti nawr.
(1, 0) 243 Er mwyn i Agnes Hopkins gael dy arwain di rownd ar y |lead|!
(Gwilym) Alla i ddim help.
 
(Gwilym) 'Wyddwn i ddim hyd y p'nawn yma y byddai'n rhaid i mi fynd.
(1, 0) 250 Rhaid i ti fynd!
(Gwilym) Wrth gwrs bod rhaid i mi fynd.
 
(Gwilym) 'Rwy'n cael lot o amser yn rhydd gyda Hopkins, a'r peth lleiaf allaf wneud yw dreifio'r car i Mrs. Hopkins.
(1, 0) 253 Mrs. Hopkins, ai e?
(1, 0) 254 'Dwyt ti ddim yn ei galw'n Agnes eto.