Yr Oruchwyliaeth Newydd

Ciw-restr ar gyfer Wat

(Mari) Hei!
 
(Ifan) Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld.
(1, 0) 87 'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri.
(1, 0) 88 Ble mae Gwilym?
(Ifan) 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de.
 
(Ifan) 'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de.
(1, 0) 90 'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus?
(Ifan) Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e.
 
(1, 0) 94 'Elli di gadw |secret|?
(1, 0) 95 Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof.
(Ifan) Beth sy'n bod?
 
(Ifan) Beth sy'n bod?
(1, 0) 97 Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory?
 
(Ifan) 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno.
(1, 0) 101 Swllt!
(1, 0) 102 Os galla i gael pethau fel rwy' am, fe elli fentro rhoi dy grys arno.
(1, 0) 103 Dyna paham yr wyf am dy help di.
(Ifan) Beth alla i wneud?
 
(Ifan) Beth alla i wneud?
(1, 0) 105 Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff.
(1, 0) 106 Nawr, dim ond y ci cythrel yna sydd gan Hopkins sydd arna i ofn.
(1, 0) 107 Rhaid i Gwilym wneud yn siŵr na fydd hwnnw ar ei orau.
(1, 0) 108 Fe ŵyr sut.
(1, 0) 109 Ac yna fe elli di a minnau, a Gwilym o ran hynny, wneud ffortiwn yn olreit.
(Ifan) {Yn codi.}
 
(Ifan) Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny.
(1, 0) 112 Pam lai?
(1, 0) 113 Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo.
(Ifan) Rhaid i ti ei weld dy hunan.
 
(Ifan) Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith?
(1, 0) 118 Torri'r gyfraith i gythrel!
(1, 0) 119 Nid dyma'r tro cynta i ti na minnau wneud arian wrth wneud hyn.
(1, 0) 120 Faint o arian sy' gen ti wrth law?
(Ifan) Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw.
 
(Ifan) Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory.
(1, 0) 126 Hanner coron!
(1, 0) 127 Dyma dy gyfle di, fachgen─cyfle na weli di mo'i debyg eto─fe gei |6 to 1| yn erbyn fy nghi i hyd nes y daw'r hanes allan nad yw ci Harri yn treio.
(1, 0) 128 A mae Harri wedi addo cadw'r peth yn ddistaw.
(1, 0) 129 Mae yntau hefyd am wneud ceiniog.
(1, 0) 130 Fe ddylit roi pum punt o leiaf.
(Ifan) Pum punt!
 
(Ifan) Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt?
(1, 0) 133 Dy fusnes di yw hynny.
(1, 0) 134 Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed.
(Ifan) Ust!
 
(Ifan) Fe glyw Mari.
(1, 0) 138 'Rwy'n mynd.
(1, 0) 139 Cofia, 'rwy'n dibynnu arnat ti i setlo Gwilym.
(1, 0) 140 Dyna dy siâr di o'r fargen.
(Ifan) Ond beth os na wnaiff e?
 
(Ifan) Ond beth os na wnaiff e?
(1, 0) 142 Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian.
(1, 0) 143 Paid â bod mor ddwl─mae e wedi bod yn glerc i Hopkins am ddigon o amser i ddysgu'r gêm i gyd.
 
(1, 0) 145 Mae e'n wahanol i ti.
(1, 0) 146 Y peth sy'n rhyfedd amdanat ti yw bod dy wreiddiau di yn y capel o hyd─yn methu anghofio dy fod wedi dy fagu yn y Band of Hope a'r seiat─a ffat lot o les mae nhw wedi bod i ti.
(1, 0) 147 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl?
(Ifan) 'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat.
 
(Ifan) Wedi'r cwbl...
(1, 0) 150 Nagwyt, mi wn.
(1, 0) 151 Wel, os yw'n well gen ti, gwaria dy arian ar gadw pregethwyr a ffeiradon neu'r bobl yna sydd ar hyd y lle yma yn ceisio gwneud beth mae nhw'n alw'n |Social Service|.
(1, 0) 152 |Social Service|, myn uffern i!
(1, 0) 153 'Dyw'r bobl yna ddim yn gwybod beth yw bod yn |social|.
(1, 0) 154 Mae'n well gen i gadw milgi.
(Mari) Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma?
 
(Mari) Gellid meddwl bod yma ddechrau diwygiad wrth glywed yr holl bregethu.
(1, 0) 158 Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes.
(Mari) Rhyw sgêm newydd neu'i gilydd sut i wneud arian!
 
(Mari) Neu'n i tebyg sut i gael ffyliaid i golli arian, ac Ifan i fod yn un o'r ffyliaid.
(1, 0) 161 Os dilynith e fy nghyngor i...
(Mari) Os difynith e dy gyngor di, fe fydd arian y dôl i gyd ym moliau'r milgwn cyn i mi weld yr un ddimai ohonynt.
 
(Gwilym) Dim ond dreifio Mrs, Hopkins i lawr...
(1, 0) 177 Y clerc yn actio fel |chauffeur|, ai e?
(1, 0) 178 Ond cyn i ti fynd i newid, Gwilym, dere lawr yr hewl gen ì am funud.
(1, 0) 179 'Rwy'n gorfod dal y bus tri, a rwy' am dy weld di.
(Gwilym) 'Does gen i ddim amser nawr, Wat.
 
(Mari) {Yn gwthio IFAN o'r stôl ac ail-ddechrau ar yr esgidiau.}
(1, 0) 186 Mae'n rhaid i mi dy weld nawr, Gwilym.
(1, 0) 187 'Wnaiff hi ddim o'r tro bore 'fory.
(1, 0) 188 'Fyddi di ddim munud, a 'fyddi di ddim ar dy golled.
(1, 0) 189 Fe all dy feistres aros munud i ti.