Parc-Glas

Ciw-restr ar gyfer Gerallt

(Maria) Oh.
 
(Llais Maria) Hi.
(1, 0) 257 Did they charge you for it today?
 
(Maria) He just leave it.
(1, 0) 261 Good thing.
(Maria) Is not paid for?
 
(Maria) Is not paid for?
(1, 0) 263 Not yet, no.
(1, 0) 264 It's fine.
(Maria) I need my money today.
 
(Maria) I need my money today.
(1, 0) 266 End of the week, I told you.
(1, 0) 267 You'll be fine. {Mae'n mynd allan.}
(Maria) {Ar ei ôl} He will be coming back!
 
(Angharad) Jyst siarad am y siop.
(1, 0) 301 Biti ddouddeg mil gostodd hi i ni neud e lan.
(Jane) Odd Angharad yn gweud.
 
(1, 0) 306 Â gweld y lle'n llawn da godro.
(1, 0) 307 Se fe 'm yn hapus.
(Jane) Pwy, Dat?
 
(Jane) Ti'n meddwl?
(1, 0) 310 Wel, sa i'n gwbod...
(Jane) Ma' golwg deidi arno fe.
 
(1, 0) 315 Ol reit.
(1, 0) 316 Na, ma fe'n iawn.
(1, 0) 317 Good trade 'da ni ar bwys yr hewl fan 'yn.
(Angharad) Ôs, yn yr haf; ond dyw e 'm yn talu digon yn gaea'.
 
(Angharad) Ôs, yn yr haf; ond dyw e 'm yn talu digon yn gaea'.
(1, 0) 319 Ma fe'n iawn, diawl eriôd...
(Angharad) {wrth JANE} Ellith Babs weud wrthot ti.
 
(Angharad) {wrth JANE} Ellith Babs weud wrthot ti.
(1, 0) 321 O Iysu, paid gadael i honno ddechre 'to...
(Angharad) Ni'n dod i ben â hi.
 
(Angharad) Ma hwnnw siŵr o fod yn gwbod yn barod -
(1, 0) 330 - o, yffarn dân -
(Jane) Shwt?
 
(Jane) Beth ti'n feddwl, 'Sort of'?
(1, 0) 340 Gadwch chi, 'newch chi?
(Angharad) 'Sneb yn gwbod beth sy'n mynd 'mlân a gweud y gwir.
 
(Angharad) Sa i'n credu bod Babs yn gwbod yn iawn 'i hunan.
(1, 0) 343 O, Iysu, dw i'n mynd o 'ma.
 
(1, 0) 345 Maria!
(1, 0) 346 It's ten to ten now!
(Jane) Ma' fe bach yn touchy am y peth, odi fe?
 
(Jane) - Sdim hast, mae'n OK.
(1, 0) 394 'Na lle ma'r rhein i gyd, t'wel.
(Barbara) On ni jyst yn mynd i -
 
(Angharad) - aros, Babs -
(1, 0) 399 - cer di â nhw os ti moyn -
(Jane) - peidwch, ddim 'to. {Saib.}
 
(Eilir) Ond ma rhwbeth on i eishe dod lan 'ma i weud, wrth gymint ohonoch chi ar y tro â gallen i a gweud y gwir.
(1, 0) 405 Be' sda ti 'de?
(Eilir) Falle bod e 'm yn un busnes i fi, ond jyst meddwl helpu mâs peth wdw i.
 
(Eilir) 'Na beth sy'n becso fi yw bo chi'n trial neud y pethe rong 'ma - ŷch chi lan yn erbyn llefydd sy'n gwerthu pethe'n jepach o lawer na allwch chi neud.
(1, 0) 411 Wel, yffarn dân -
(Eilir) Na, na, na, dw i'n, sa i'n gweud hyn i dynnu lawr beth ych chi'n 'i neud, sa i'n - drychwch, cynnig sy' 'da fi, reit?
 
(Eilir) {Saib.} Na'r plan odd da fi.
(1, 0) 430 Wel, blydi hel.
(1, 0) 431 Ma' rhywun 'di bod yn siarad 'da ti, 'nd ôs e?
(Angharad) Hisht wncwl Ger -
 
(Angharad) Hisht wncwl Ger -
(1, 0) 433 - o dere o 'na -
(Barbara) - sa i'n credu bod ishie bod fel 'na -
 
(Eilir) - Drychwch, 'dyw e 'm yn fusnes i fi -
(1, 0) 446 - gwêd beth sy' 'da ti i weud -
(Barbara) - gadwch e fod i siarad.
 
(Jane) Beth sy'n mynd 'mlân - wyt ti mewn dyled?
(1, 0) 460 A shw' ma' hwn fan 'yn wedi dod i wbod yn busnes ni? -
(Eilir) - Well i fi fynd o 'ma -
 
(Eilir) - Well i fi fynd o 'ma -
(1, 0) 462 - ôs glei!
 
(Eilir) Ie; ie, OK.
(1, 0) 470 Wel, y jiawl eriôd...
(Jane) Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de?
 
(Jane) Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de?
(1, 0) 472 'Dyw hi 'm yn sbesial iawn, na 'dy.
(Jane) Shw' ma' dyled wedi mynd arnoch chi, 'de?
 
(Jane) Shwt all dyled fod wedi mynd ar y lle 'ma?
(1, 0) 475 Pethe 'm yn talu.
(Jane) Ie?
 
(Jane) Ie?
(1, 0) 477 Ie!
(1, 0) 478 Fyse ti 'm yn deall! {Yn sydyn, mae'n cau'i ddwrn ac yn rhwbio'i ben ag e yn galed. Saib.}
(1, 0) 479 A, wel, falle, arhoson ni miwn yn y lla'th yn rhy hir cyn 'i phaco'i lan.
(1, 0) 480 A gethon ni beth arian am y da pan ethon nhw; ond wedyn dreion ni gwpwl o bethe erill, a weithon nhw ddim cystel.
(1, 0) 481 A, wel, ot ti wedi mynd o 'ma, so odd rhaid i ni neud rwbeth.
(1, 0) 482 A wedyn fe gethon ni - fe ges i - mam, sbel fach cyn iddi farw, i roi'r lle nôl ar morgej, i ni ga'l bach o gapital i ddechre gweitho pethe lan 'to.
(Jane) O, Iysu bach, Ger -
 
(Jane) O, Iysu bach, Ger -
(1, 0) 484 - man a man i ti ga'l gwbod nawr, yndyfe.
(1, 0) 485 Treial neud y gore ôn ni, na 'i gyd.
(1, 0) 486 Odd e'n job ar diawl i Mam i gadw popeth at 'i gilydd rhwnt popeth -
(Jane) - Dw i'n deall 'ny -
 
(Jane) - Dw i'n deall 'ny -
(1, 0) 488 - wyt ti 'de?
(1, 0) 489 Ca'l a cha'l odd hi i gadw gafel ar y merched, a tithe wedi mynd o 'ma; neu fyse Social Services wedi mynd â nhw!
(Angharad) On i'n fourteen, Wncwl Ger, 'se nhw ddim wedi mynd â fi o 'ma, a odd Barbara'n eighteen yn barod.
 
(Angharad) On i'n fourteen, Wncwl Ger, 'se nhw ddim wedi mynd â fi o 'ma, a odd Barbara'n eighteen yn barod.
(1, 0) 491 Wel, ie, ond do'n ni ddim mor siŵr â 'ny ar y pryd, o'n ni -
(Angharad) Falle ddim -
 
(Jane) So, o fan 'ny dda'th yr arian i dalu am hwn? {sef y siop}
(1, 0) 499 Ie: a 'i gynnal e ar y dechre.
(Jane) Ôs arian yn dod miwn, 'de?
 
(Jane) Ôs arian yn dod miwn, 'de?
(1, 0) 501 Wel, ôs.
(1, 0) 502 Bach o struggle yw hi, ar brydie.
(1, 0) 503 Ond wedyn...
(Barbara) So ni 'di neud lot o arian 'leni. {Mae GERALLT yn tuchan.}
 
(Angharad) Ody, ma fe'n byw lawr yn pentre'.
(1, 0) 530 Yn y caravan park yn Blaenllan.
(Angharad) 'M ond yn y gaea.
 
(Angharad) 'M ond yn y gaea.
(1, 0) 532 Ody fe'n dod lan 'de?
(Angharad) Wedes i wrtho fe i beido.
 
(Jane) A bydd rhaid i fi weld e yn pen draw, on' bydd e?
(1, 0) 541 Dw i'n mynd i gael gweld ble ma'r roces 'na 'di mynd. {mae'n codi ac yn mynd allan) Maria! {Saib.}
(Jane) Ma fe'n gwbod 'mod i nôl, ody fe?
 
(Eilir) Chi'n - chi'n deall pam 'dw i 'ma, glei?
(2, 0) 814 Os mai ar dy ffordd i'r YFC wyt ti, boi, ti biti bymtheg mlyne'n rhy hwyr. {Chwerthin.}
(Eilir) Meddwl mynd i ga'l - y - gair â'r banc o'n i.
 
(Eilir) Y dydd o'r blân?
(2, 0) 818 Ie, ie.
(Eilir) Yn y siop 'da chi.
 
(Eilir) Y papure 'na, 'da'r -
(2, 0) 827 Naddo fi.
(Eilir) Nath 'im Barbara ddangos nhw i chi?
 
(Eilir) Nath 'im Barbara ddangos nhw i chi?
(2, 0) 829 Odd rhwbeth 'da hi 'fyd; ond es i 'm i ddrychyd ar hwnnw, naddo...
(2, 0) 830 Odd y contractors yn dod.
(Jane) Beth odd 'da ti, 'de?
 
(Eilir) Fel business plan odd e; o'n i 'di gweitho mâs coste polytunnels a phethe, a meddwl shwt allen ni dreial ca'l bach o siâp ar bethe lan 'ma.
(2, 0) 834 O ie; a beth o' 'da ti mewn golwg, 'de?
(Eilir) Wel, fyse fe'n well i chi ddarllen y peth ro's i at ei gilydd.
 
(Eilir) Wel, fyse fe'n well i chi ddarllen y peth ro's i at ei gilydd.
(2, 0) 836 Na, dere, 'chan; man a man i ti weud e nawr.
(Eilir) OK 'de.
 
(Jane) Wel, 'na fe te.
(2, 0) 845 A ble ti'n mynd roi'r pethe 'ma.
(2, 0) 846 Y tunnels 'ma?
(Eilir) Wel, ma gwd access 'da chi lan fan hyn, yn y caea' rownd cefen tŷ.
 
(Eilir) Fydde 'm ishie mynd i osod llwybyr ffor' 'ny a tarmaco.
(2, 0) 849 Tu ôl y tŷ?
(Jane) Yn Parc yr Onnen?
 
(Eilir) Hwnnw s'da chi gythyreb â'r iet hir 'na?
(2, 0) 852 Yr un bren? -
(Jane) - un bren sy' ar dop yr Onnen.
 
(Eilir) Nage, y llall 'de.
(2, 0) 855 Y Rhos?
(2, 0) 856 O, Duw.
(2, 0) 857 Ma' gwd gwair yn dod yn honno.
(Jane) Os.
 
(Jane) Os.
(2, 0) 859 Dat yn arfer gweud mai hwnnw odd yr un gore odd i ga'l.
(Eilir) Ie, ond faint gewch chi am hwnnw yn 'diwedd?
 
(Jane) O, siarad am y pethe ŷn ni.
(2, 0) 868 Ie. {Saib.}
(2, 0) 869 Cer mla'n, 'de.
(Eilir) Gweud o'n i na chewch chi'm llawer o werth am y gwair 'na yn y parc top 'da chi -
 
(Peter) Bob buwch, tri chant liter bob dydd.
(2, 0) 879 O blydi hel -
(Jane) Sawl un o'r rhein wyt ti'n meddwl godi, 'te, Eilir?
 
(Eilir) Ond yn 'diwedd, a bod 'na farced am y stwff, allen nhw gyfro'r parc cyfan.
(2, 0) 884 Ma hwn yn mynd i gosti.
(Eilir) Wrth gwrs 'i fod e, odi, yn dechre, 'nd yw e.
 
(Jane) Neu'r coste.
(2, 0) 890 Neu'r golled. {Saib.}
(2, 0) 891 Wel 'na fe 'de.
(Eilir) Beth ych chi'n feddwl?
 
(Eilir) Chi'n pallu gweud 'tha i!
(2, 0) 894 Ma fe'n swno fel bach o risg i fi.
(Eilir) Ie, ond yffarn dân, Gerallt, ma' ishie i chi neud rwbeth - a blydi gloi 'fyd! - neu fe eith y banc â'r lle wrthoch chi!
 
(Eilir) Ie, ond yffarn dân, Gerallt, ma' ishie i chi neud rwbeth - a blydi gloi 'fyd! - neu fe eith y banc â'r lle wrthoch chi!
(2, 0) 896 Wel, ethen ag e 'de!
(2, 0) 897 Os mae 'na beth ma'r diawled eisie!
(Eilir) Sdim rhaid iddyn nhw ga'l cyfle i neud.
 
(Peter) Hwyl fawr, Eilir.
(2, 0) 910 Y blydi Barbara 'na'n agor 'i phen yw hyn i gyd.
(Angharad) Ma 'dag e boint, 'ddo, Wncwl Ger.
 
(Angharad) 'Ma ishie i chi neud rhwbeth.
(2, 0) 913 Ni yn neud rhwbeth!
(2, 0) 914 Ni wrthi drw'r dydd bob dydd!
(Angharad) Ie, ond 'dyw e ddim yn gweitho.
 
(Angharad) Ie, ond 'dyw e ddim yn gweitho.
(2, 0) 916 Ma fe yn gweitho; amser y flwyddyn yw hi.
(2, 0) 917 'S gewn ni gwd haf, fydd visitors yn dod rownd a gewn ni'r siop miwn i brofit; werthwn gwpwl o'r cr'aduried 'sda ni 'mlân biti November ffor' 'na, a byddwn ni'n iawn.
(2, 0) 918 Ddewn ni drw' gaea' dim problem a wedyn allwn ni bwsho pethe mlân flwyddyn nesa'.
(Angharad) Wedoch chi 'na llyne'.
 
(Angharad) Wedoch chi 'na llyne'.
(2, 0) 920 Do, ond pwy sort o haf gethon ni flwyddyn dwetha', gwed?
(2, 0) 921 Odd y tywy'n yffyrnol!
(Jane) Elli di ddim bod ar ofyn y tywy' drw'r amser -
 
(Angharad) - Ond be' chi'n mynd i neud leni?
(2, 0) 924 Ma 'da fi gwpwl o seins newy' i roi lan ar ben 'r hewl.
(2, 0) 925 'Rhen rai 'di ffado beth, on'd ŷn nhw.
(2, 0) 926 A ma rhein yn fwy o seis.
(2, 0) 927 Rodwn ni un lawr biti'r gornel ffor' 'na, a'r llall lan 'bwys iet Pen Dole, bydd hynny'n dipyn o help.
(2, 0) 928 'Sdim ishie mynd i godi 'en dai glás dros y lle fel ma fe'n gweud.
(2, 0) 929 A sa i'n rhoi nhw ar y Rhos, 'de, Iysu bach, no way.
(Jane) Be' wyt ti Pete yn weud 'de?
 
(Jane) - Ti'n gwbod am y pethe 'ma, ndwyt ti, Pete?
(2, 0) 934 Ie, dere â 'dy Environmental be'-ti'n-galw i ni.
(Jane) Be' wyt ti'n weud y dylen ni neud?
 
(Peter) {Saib fer.} Wel, mae cnychu anifeiliaid yn beth wael -
(2, 0) 937 Ha, ha, ha, ffycin hel, odi glei! -
(Jane) - O Ger, paid â bod yn blentynnedd -
 
(Angharad) It's all right, Pete, ignore him.
(2, 0) 947 Ie, ie, sori boi.
(2, 0) 948 O diawl, ma rhaid i chi ga'l laff weithe, 'nd ôs e?
(Angharad) Dyw e 'm yn funny, Wncwl Ger.
 
(Jane) - don't worry about him.
(2, 0) 957 Ie, der' mlân.
(2, 0) 958 Sori boi.
(2, 0) 959 Come on, now.
(2, 0) 960 We all make mistakes, Pete bach.
(Peter) Mae ffermio anifeiliaid i cig yn beth gwael am y - hinsawdd, oherwydd methane.
 
(Jane) Beth ddylen ni neud, 'te?
(2, 0) 976 Beth fyset ti'n neud ambiti fe 'de?
(2, 0) 977 What would you do then?
(Peter) Fi?
 
(Peter) Never underestimate the power of individual advocacy.
(2, 0) 989 Ie, ie.
(Jane) Hmh.
 
(Jane) O ie, ie -
(2, 0) 995 - na, na, ti'n iawn -
(Jane) - ie, ie, paid â becso -
 
(Jane) - ie, ie, paid â becso -
(2, 0) 997 - na, na, ti'n gwella, it's coming on, boi.
(2, 0) 998 The Welsh; ma fe'n dod mlân 'da ti.
(Peter) Oh, good.
 
(Peter) Oh, good.
(2, 0) 1000 Ie.
(2, 0) 1001 Ay, ay.
(Jane) It's lovely tonight, isn't it?
 
(Angharad) Beth odd hwnna?
(2, 0) 1009 Mm?
(Angharad) Y sŵn 'na.
 
(Angharad) Glywoch chi fe?
(2, 0) 1012 Pwy sŵn?
(Jane) Glywes i rwbeth.
 
(Jane) No, I don't think so.
(2, 0) 1018 O, rhwbeth 'da nhw lawr yn gwaelod ffor' na.
(Jane) Hmh.
 
(Jane) Well i ni fynd, ife?
(2, 0) 1023 Ie, wir.
(2, 0) 1024 Man a man.
(Peter) Who's that walking down there?
 
(Peter) Who's that walking down there?
(2, 0) 1026 Hmm?
(Peter) Pwy yw dyn yn cerdded?
 
(Peter) Yna.
(2, 0) 1029 O?
(2, 0) 1030 Duw, sa i'n gwbod.
(Jane) Weden i 'i fod e ar goll.
 
(Angharad) Ma fe'n edrych yn hen.
(2, 0) 1033 Diawl, -
(Peter) - yeah, he looks lost -
 
(Peter) - yeah, he looks lost -
(2, 0) 1035 - nage Jim y Graig -
(Peter) - mae fe ar goll -
 
(Peter) - mae fe ar goll -
(2, 0) 1037 - Jim y Graig yw hwnna!
(2, 0) 1038 Beth ma fe'n neud lan fan hyn, 'de?
(Jane) O, fe?
 
(Jane) Jim, odd yn arfer -
(2, 0) 1041 - Iysu, on i'n meddwl bod e wedi hen fynd i'r home - Jim!
 
(Jim) - a 'ma fe 'di dod i ben â benu, 'de, doth e i ben ag e -
(2, 0) 1070 - do, do -
(Jim) - gwair ffein dag e iddyn nhw -
 
(Jim) - gwair ffein dag e iddyn nhw -
(2, 0) 1072 - odd, 'na chi -
(Jim) {wrth JANE} - a shw' chi heddi, 'de, shw' chi heddi -
 
(Jane) - o, na, nage -
(2, 0) 1078 - ie, ie, 'na chi -
(Angharad) - na, ie, 'na fe, dewch chi ffor' hyn, Jim -
 
(Jim) - Ie, ie, un ar ôl y llall, yndyfe -
(2, 0) 1081 - 'na chi -
(Jim) - dilyn 'u hôl 'i gily' 'ma nhw -
 
(Jim) - dilyn 'u hôl 'i gily' 'ma nhw -
(2, 0) 1083 - odyn, odyn - dere 'da ni, Jane -
(Jane) - o; OK, ie -
 
(Angharad) Ble ych chi di bod?
(3, 0) 1546 Bues i'n dre, trw'r dydd.
(Angharad) Fuoch chi'n y banc, do fe?
 
(Angharad) Fuoch chi'n y banc, do fe?
(3, 0) 1548 Na, sa i'n gweud mod i 'di bod fan 'ny, 'fyd -
(Jane) Ma hi'n gwbod fod ti 'di bod, Ger -
 
(Angharad) Beth och chi'n neud 'na?
(3, 0) 1551 Wel; ti'n gwbod, fel hyn a fel 'na -
(Angharad) Odyn ni mewn trwbwl?
 
(3, 0) 1555 Saaaa iii'n gwwwbod! {Saib.}
(3, 0) 1556 'Ma fyddwn ni am un sbel 'to.
(3, 0) 1557 A wedyn... pffffftt. {Saib.}
(3, 0) 1558 Geith e weud 'tho chi nawr.
(3, 0) 1559 Pan ddeith e.
(Angharad) O, blydi hel, dw i'n mynd mâs i ôl e.
 
(3, 0) 1566 Ddim dewis 'da nhw, medden nhw - pwy odd e, ti'n gwbod, mab Craig Simmonds, odd e 'da ti'n 'r ysgol.
(3, 0) 1567 Crwt hwnnw.
(3, 0) 1568 Darren.
(3, 0) 1569 Peth Cwmrâg 'dag e nawr.
(3, 0) 1570 Ond o'n 'na 'm byd y galle fe neud, medde fe: sori, odd e wedi ca'l gair 'da'r regional be-ti'n-galw-fe a odd hwnnw 'di gweud, 'Na'.
(3, 0) 1571 So 'na lle o'n i 'de.
(Jane) 'Da pwy o'dd e 'di siarad?
 
(Jane) 'Da pwy o'dd e 'di siarad?
(3, 0) 1573 A, o'n i 'm yn gwbod beth i weud wrtho fe.
(3, 0) 1574 Odd ddim ots 'da nhw am y da a'r mishîns na dim byd fel 'na, na'r capital assets yn y siop na dim.
(3, 0) 1575 O'n i'n poor credit rated, medde fe, so no way.
(Barbara) So be' sy'n digwydd nawr?
 
(Barbara) Shwt ŷn ni'n mynd i dalu nhw nôl nawr?
(3, 0) 1578 O'n nhw 'm ishie'n harian ni!
(3, 0) 1579 O'n nhw ishe ni mâs!
(Jane) Beth?
 
(Barbara) O, Iysu -
(3, 0) 1582 O'n nhw' m yn becso dim am y talu nôl, too late; o'n nhw'n mynd i ga'l 'mafel yn y lle, medde fe, a odd e'n mynd i offod ca'l i werthu.
(3, 0) 1583 Biti whech wthnos 'da ni i glirio o 'ma, odd e'n gesso.
(Jane) Mab Craig Simmonds?
 
(Jane) Mab Craig Simmonds?
(3, 0) 1585 Ie.
(Barbara) Beth wedyn?
 
(Barbara) Ai 'na fe?
(3, 0) 1588 Ddim cweit, 'nag e.
(Barbara) Beth 'de; gwedwch wrthon ni!
 
(Eilir) So; chi'n gwbod 'de, ych chi?
(3, 0) 1595 Jyst â bod.
(Eilir) Hm?
 
(Eilir) Hm?
(3, 0) 1597 Mond am y pishyn dwetha.
(Eilir) O.
 
(Barbara) {wrth GERALLT} Of'nnoch chi iddo fe?
(3, 0) 1605 Do!
(Barbara) I ddod 'da chi i'r banc?
 
(Barbara) I ddod 'da chi i'r banc?
(3, 0) 1607 Ie!
(Barbara) I beth?
 
(Barbara) I beth?
(3, 0) 1609 Odd rhaid i fi ga'l rhywun i ddod 'da fi!
(Barbara) Pam 'na fyse chi 'di gofyn i fi, 'de?
 
(Barbara) Pam na allwch chi jyst neud rhwbeth yn iawn am unwaith?
(3, 0) 1630 Beth odd y pwynt peido?
(3, 0) 1631 On i'n gwbod beth on nhw'n mynd i weud!
(Jane) Babs, Babs -
 
(Barbara) Ma fe 'di sarnu'r cwbwl lot i ni!
(3, 0) 1634 Odd dim byd 'da fi iddyn nhw!
(3, 0) 1635 Odd 'im byd 'da fi!
(Barbara) - Wedoch chi wrthyn nhw bod 'da ni biti whech o fystych odd yn -
 
(Barbara) - Wedoch chi wrthyn nhw bod 'da ni biti whech o fystych odd yn -
(3, 0) 1637 - On nhw 'di bygwth a bygwth! -
(Angharad) - Fyse ddim ots 'da nhw am hynny, Babs -
 
(Barbara) Shwt wyt ti'n gwbod?
(3, 0) 1641 - Ble yffarn arall on i'n mynd i fynd, 'de? -
(Angharad) - Achos 'sdim byth ots 'da nhw ffor' ŷn ni'n gweld pethe -
 
(Barbara) Rhwbeth? -
(3, 0) 1645 - Odd ddim byd 'da fi!
(3, 0) 1646 Sawl gwaith sy' rhaid i fi weud -
(Angharad) Mam!
 
(Angharad) Wncwl Ger?
(3, 0) 1676 Pwy sort o ffarmo fydde ar ôl 'da ni fan hyn, gwed?
(3, 0) 1677 Tasen i'n mynd miwn 'da'r plan 'ma 'sdag e, diawl fydde na 'm byd i ga'l 'ma ond teie glas 'r hyd lle a rhyw car park a swings a...
(3, 0) 1678 Beth yw hwnnw, gwed?
(3, 0) 1679 Pwy sort o ffarmo yw hwnna?
(3, 0) 1680 Diawl, tasen i ishie gweitho mewn lle parco ethen i i fyw yn 'dre!
(3, 0) 1681 A pigo blydi tomatos am weddill yn o's...!
(3, 0) 1682 Creaduriaid, achan, gweitho 'da creaduriaid, 'na beth yw ffarmo!
(3, 0) 1683 Neud fel 'ma dyn wedi ca'l 'i ddysgu 'da'i dad!
(3, 0) 1684 Yndyfe?
(Barbara) Ddim os nag os arian yn'o fe.
 
(Barbara) Ddim os nag os arian yn'o fe.
(3, 0) 1686 Wel, pam sdim blydi arian yn'o fe? {Saib.}
(3, 0) 1687 'Na lle o'n i 'da hwn fan hyn {sef EILIR} ar un ochor a Darren Simmonds a'i grys a'i dei fach biws 'r ochor arall.
(3, 0) 1688 A nes i jyst feddwl, 'fuck it'.
(3, 0) 1689 Cerwch ag e.
(3, 0) 1690 Gewn ni werth y stoc a'r mishîns a beth bynnag arall.
(3, 0) 1691 Ma rhwbeth yn well na hyn.
(Barbara) So, so pwy sy' bia'r lle -
 
(Eilir) Dw i'n 'i brynu fe. {Saib.}
(3, 0) 1695 Bydd ddim rhaid iddi fynd yn acsiwn 'ma.
(Eilir) Fel 'na ma'i deall hi, 'de.
 
(Angharad) Wel, bydda, byddwn ni'i gyd... {erbyn hyn fe ddylai hi fod wedi mynd}
(4, 0) 1799 - yes - o, Iysu, watcha ble ti'n - yeah, there'll be sixteen of them.
(4, 0) 1800 No, the smaller ones.
(4, 0) 1801 Sixteen, yes. {Saib.}
(4, 0) 1802 Well, you know; we bought in bulk, didn't we... ay: ha! thought we'd shift them. {Saib.}
(4, 0) 1803 Two o' clock? {Saib.}
(4, 0) 1804 Well, if you could, yeh. {Saib.}
(4, 0) 1805 No, that 'd be great, if he's around with you.
(4, 0) 1806 He knows where things are.
(4, 0) 1807 Yeh, yeh.
(4, 0) 1808 Good.
(4, 0) 1809 Yeh - yeh, yeh - yeh, thanks Geoff.
(4, 0) 1810 Will do.
(4, 0) 1811 Cheers.
(Angharad) Sori, on i'n siarad â Margaret, Y Garn.
 
(Angharad) Ma Jim 'di mynd ar goll 'to.
(4, 0) 1817 Ma'n bryd iddo fe ga'l mynd i rhywle 'da nhw, poor bugger.
(Angharad) Sneb 'di weld e ar hyd lle, o's e?
 
(Angharad) Odd hi'n mynd i roi look fach rownd y sieds 'to.
(4, 0) 1822 Gwd.
(4, 0) 1823 'S da ni'm amser i fynd i whilio hwnna nawr.
(Jane) {yn ddigon ysgafn} Drychwch beth ffinjodd Babs!
 
(Jane) O, cym on, be' yw'r ots sy'!
(4, 0) 1846 Bydd e'n ôl reit i ifed, 'te?
(Peter) Ma fe'n vintage.
 
(Barbara) {yn bygwth gadael} Ga i e wedyn.
(4, 0) 1851 O ie -
(Jane) O dere Babs, aros.
 
(Barbara) Na, mae'n iawn.
(4, 0) 1854 Cym on, es.
(Jane) Barbara...
 
(Jane) Pfff.
(4, 0) 1859 Bydd hi'n iawn nawr.
(4, 0) 1860 Dowch te, bois.
(Jane) Dere 'te, Anj; ti odd moyn e gynta'.
 
(Angharad) Ody fe'n OK?
(4, 0) 1865 Bydd rhaid ti dreial e!
(Jane) So ni'n gwbod!
 
(Angharad) Ma fe'n lyfli.
(4, 0) 1873 Ha ha!
(Jane) Dere â bach i fi 'de.
 
(Jane) Mmmm.
(4, 0) 1877 Ddim gormod ar 'tro, nawr.
(Angharad) Dw i 'm yn lico siampên fel arfer -
 
(Jane) Ie, Pete bach, go on -
(4, 0) 1881 A i gynta'.
(Peter) Mae'n iawn, ie.
 
(Peter) Mae'n iawn, ie.
(4, 0) 1883 Duw, ffein 'fyd.
(Angharad) Whare teg i mamgu.
 
(Angharad) Whare teg i mamgu.
(4, 0) 1885 Ie wir.
(Peter) Mae e di - last.
 
(Jane) Helo; on i 'm yn -
(4, 0) 1894 - Be' ti'n neud ma, de? -
(Jane) - disgwyl dy weld ti heddi.
 
(Jane) Ie, odyn.
(4, 0) 1906 Odyn, odyn; ma' cwpwl o bethe 'da fi i ôl, a gweud y gwir -
(Eilir) Ôs e?
 
(Eilir) Ôs e?
(4, 0) 1908 Ôs - {mae'n mynd allan yn eithaf brysiog}
(Jane) Ger, paid nawr -
 
(Jane) Ger, der' 'da fi; dere 'da fi nawr!
(4, 0) 2114 Be' sy' mla'n -?
(Eilir) Ie, wir.
 
(Barbara) - o'n i jyst ishie perthyn!
(4, 0) 2167 Be' sy mla'n?
(4, 0) 2168 O.
(Angharad) O, Babs -
 
(Barbara) Mae'n iawn -
(4, 0) 2174 - ŷn ni gyd yn 'deimlo fe -
(Barbara) - fydda i'n iawn nawr.
 
(Jane) Bydd e 'ma nawr.
(4, 0) 2177 Cymer dy amser, bach.
(Barbara) Na, dw i'n iawn.
 
(Jane) Oh; olreit de.
(4, 0) 2194 Fel 'na mae 'i deall hi!
(Gordon) Iyp.
 
(Maria) Mr Lewis?
(4, 0) 2199 Eilir.
(Maria) Oh, OK.
 
(Gordon) {am y bocsys} Dda i nôl i ôl rhein wthnos nesa', OK, Ger?
(4, 0) 2205 Iawn...
(Maria) Thanks: bye!
 
(Barbara) Bye.
(4, 0) 2211 Blydi hel.
(Jane) Gad nhw fod, Ger bach, gei di 'm byd amdanyn nhw.
 
(Barbara) Ody.
(4, 0) 2216 Ddim 'na'r point.
(Jane) 'Nghofia nhw.
 
(Jane) Ody popeth 'da ti?
(4, 0) 2232 Ma' mhethe i lawr 'da Alun yn barod.
(Jane) O, ie.
 
(Jane) Ma'n nhw 'di mynd â'r cwbl.
(4, 0) 2239 Do. {Saib.}
(Jane) Co ni 'de.
 
(Jane) Co ni 'de.
(4, 0) 2241 Ie.
(Jane) Ma'r allwedd 'da ti.
 
(Jane) Ma'r allwedd 'da ti.
(4, 0) 2243 Ody.
(Jane) Alla i weld e a Mam wrthi o hyd miwn fan hyn o hyd.
 
(Jane) Alla i weld e a Mam wrthi o hyd miwn fan hyn o hyd.
(4, 0) 2245 Sdim iws meddwl.
(4, 0) 2246 Cym on.
(Jane) O Ger - {mae'n hi'n crïo}
 
(Jane) O Ger - {mae'n hi'n crïo}
(4, 0) 2248 Isht nawr.
(4, 0) 2249 Dere.
(4, 0) 2250 'Nghawlach i yw e i gyd. {mae dagrau yn ei lygaid yntau}