a1a1, g1a2a3a4

Parc-Glas (2015)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
add. Roger Owen

Ⓗ 2015 Roger Owen
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


ACT UN
Siop Fferm ddigon anniben ei golwg. Mae hi'n gynnar yn y bore ym mis Mai. Mae MARIA KAMROWSKA, merch leol, yn glanhau a pharatoi'r silffoedd. Daw EILIR LEWIS, perchenog y fferm drws nesaf i fewn.

Maria

Oh. Hello.

Eilir

Hello.

Maria

'Shwmai'.

Eilir

Oh, yes, shwmai, yes. Is the - errr - Big Boy around then?

Maria

Big Boy?

Eilir

Gerallt.

Maria

Oh; no he's not here.

Eilir

Oh. So, so are they back yet then?

Maria

No, they're not back yet.

Eilir

Oh, right, I thought they'd be back by now, I was just passing now, and - er - I thought, yes. You know they were, errrmm, when were they supposed to be back here, when... last night?

Maria

Yes. I don't know.

Eilir

When was the plane coming in then with them?

Maria

Last night?

Eilir

Yes. Into the airport.

Maria

I think, I don't know.

Eilir

Oh, well they must've stopped somewhere then, waited for a while. For a sleep. (Saib.) 'Na fe, 'n gywir reit 'de.

Maria

Today I have text.

Eilir

Sorry bach?

Maria

I get text from Angharad.

Eilir

Oh, yes?

Maria

Yes, they are on the motorway.

Eilir

Oh right, good, good. Yes. When did you get this, then?

Maria

An hour. Some more, perhaps. Two hour.

Eilir

Oh yes? Where were they then?

Maria

Not so much. One hour and some more.

Eilir

Yes. Where were they then?

Maria

On motorway.

Eilir

Yeah, yeah, yeah, where though? Where on the motorway?

Maria

M-4?

Eilir

You don't know where? She didn't say where, in the text?

Maria

Oh. No, I think she say, errm - (mae hi'n nôl ei ffôn, dangos iddo) Pont, Abraham.

Eilir

Pont Abraham? An hour ago?

Maria

Hour and some more.

Eilir

About an hour and a half, then -

Maria

Half, yes, 'half'.

Eilir

Well, diawl eriôd, they won't be long then.



Saib.

Eilir

Well, yes then, passing I was and I thought I'd call in and... you know.

Maria

You want to see Gerallt?

Eilir

Yes... yes, Gerallt. Yes.

Maria

You can stay.

Eilir

OK is it? If they're not far off -

Maria

Yes. I must work over here -

Eilir

No, no, no bach, you carry on -

Maria

- for when we open at ten -

Eilir

- yes, yes. (Saib.) So, you're here on your own, then? The girls went with him, too? Angharad? Barbara as well?

Maria

Yes, I manage the shop on my own.

Eilir

Big day for them, isn't it? Haven't seen their mother for donkey's years. Ay, ay.

Maria

Angharad has gone to see her. Two times.

Eilir

Oh, right? Oh, very good; no, no, it's a long way, New Zealand. Flying all day and all night. Lovely place, though. I went out once. (Saib.) Oh, juw juw, I didn't know that Angharad had been out there.

Maria

Yes. She went last time in January.

Eilir

Oh, recently then. Did she go on her own?

Maria

Yes.

Eilir

Well, well. Fair play to her. Young girl on her own. Long way.

Maria

She is brave.

Eilir

Ie, ie. Don't think Gerallt would go, would he? (Chwerthiniad bach.) Iysu, no! Surprised he went today to meet them. Hell of a job to get him out of here; you need a crowbar!

Maria

Yes.

Eilir

No, he likes it here, doesn't he?

Maria

Yes, he is like very old cat. Dog he likes the people, cat she likes the chair. Likes to stay.

Eilir

Ha ha, yes, ay, I've heard that. A dog likes its master, a cat likes its place.

Maria

Yes.

Eilir

Ie, ie. (Saib.) No, I haven't seen Jane for years.

Maria

You know Jane.

Eilir

Yes. Well, I don't - well, yes, I'd say I know her. I knew her before she...

Maria

Before she go away?

Eilir

Oh, duw, yes -

Maria

- and before the, her son? He die? I heard about it.

Eilir

Oh no, no, no, terrible that was, no; no long before that. I knew her in school. Well, we weren't in the... same class. No no, she was older.

Maria

You are not in same class?

Eilir

No, no. (Saib.) I remember once, I was by the side of the road down there -



Clywir sŵn car yn arafu y tu allan. Mae EILIR yn gadael ei feddyliau ac yn mynd allan trwy'r drws i weld pwy sydd yno.

Maria

Ah, they are here.

Eilir

Errrm, no. I don't think so. No it's not...



EILIR yn mynd allan drwy'r drws. Saib. Sŵn drysau fan yn agor a chau. Clywir peth deialog o'r tu fas.

Llais Eilir

Beth yw'r rheina sy' da ti de?

Llais Gordon

O, shwmai, ym... delivery: jyst ishie roi nhw yn y ffrynt.

Llais Eilir

Diawl, a finne'n meddwl bo ti'n dod â nhw i fi achan. (Chwerthin.)

Llais Gordon

Na, na. Bocsys 'da fi i'r siop.

Llais Eilir

Synno fe ma.

Llais Gordon

Pwy?

Llais Eilir

Gerallt. So nhw nôl to.

Llais Gordon

O. OK.

Llais Eilir

Ma hon fan hyn. Neith hi'r tro i ti?

Llais Gordon

Ym - o, ie, OK.



Saib.

Llais Eilir

Bant â ti de.

Llais Gordon

O, ie, OK.



Daw GORDON i fewn yn cario blwch, a golwg braidd yn swil arno.

Gordon

Errm, I got these. He wants them for Friday.

Maria

OK.

Gordon

(Saib.) Hello.

Maria

Hi.

Gordon

I'm off now.

Maria

Ok, bye.

Gordon

(Saib.) Bye. See you. (Saib.)



Aiff GORDON allan. EILIR yn ei wylio o'r drws wrth iddo fynd.

Eilir

You know him? Gordon Evans. Falmai's boy. You know Falmai, she runs The Ship now. She used to help out up here sometimes.

Maria

No I don't know. I don't know anyone. But him I know.

Eilir

He had some nice flowers for someone as well.

Maria

(Heb fawr o ddiddordeb.) He wants me to go with him. He comes with things, and he stays to talk a long time.

Eilir

Oh.

Maria

Yes, he's nice guy but not for me.

Eilir

Oh right. Oh well, that's how it is, sometimes.

Maria

What were you talking before?

Eilir

Mm?

Maria

Before he come.

Eilir

What was I saying?

Maria

Talking about Jane. You remember her.

Eilir

Oh, yes; oh that, yes. No, it was just, nothing really. Something I remembered. She was - I'd hurt myself, I was very young, a boy, I was only about seven; and she... Well, I'd had a bang, it was, well, it was the old man who did it. My dad. Rough old bugger he was, when he wanted to be. Gave me a hell of a clout for something; that was what he did, wasn't it, when he was in the mood. (Saib.)

Anyway, I'd had enough, and I'd gone off to the end of the lane and I was leaving, I wasn't going back. And I was walking up the road and I'd got near here, I could show you now out there where I was; and well, Jane Parc-Glas was coming back home on a bike and she saw me and she stopped. And then she asked what had happened and I said; and she took me in the house and she put a bag from the freezer on it - my eye was all puffing up. They had a freezer... And it was burning, cold, you know? I'd never been in their house before. (Saib.)

And well, then she put me on the back of the bike and made me hold on to her and she took me back home. They hadn't even noticed I'd run away.

Maria

They didn't notice?

Eilir

No. But while I was there with her, I remember she said, in Welsh now, she said, 'Don't you worry, boi bach', she said; 'there'll come a day when the little ones are, are big'. It's a Welsh saying - it sounds a bit different when you, err... Anyway, I remember that.

Maria

That's nice. And it was true!

Eilir

Ay. (Chwerthiniad bach. Saib.) Ay. Don't think she expected I'd be farming the whole of Rhyd-y-Cefen next door, though. Paid ti â becso, boi bach, ddaw dydd y bydd maaaawr y rhai bychain.' (Chwerthin eto.)



Clywir sŵn car yn agosáu.

Maria

I think they are here.

Eilir

Are they? (Edrych allan) Oh, yes, you're right too.



Mae'r ddau yn edrych allan trwy'r drws yn tra bod y car tynnu lan ar y clos gerllaw. Ânt allan at y car, gan adael y llwyfan yn wag am funud. Clywir sŵn sgwrs gymysg y tu allan ar y clos.

Llais Barbara

O, ma Eilir 'ma.

Llais Jane

Dere i fi ga'l moyn -

Llais Gerallt

Ma chi 'de!

Llais Barbara

So ti'n nabod e? Eilir Rhyd-y-Cefen?

Llais Jane

Helo! O! Odw, dw i'n 'i nabod e nawr!

Llais Eilir

Shwt ych chi 'te, Jane?

Llais Jane

Wel, y Duw Duw, Eilir achan... (sŵn ebychu a chwerthin tro bod JANE yn cofleidio EILIR) a drychwch ar y lle 'ma! O Duw, Duw; shw' wyt ti de? A chi 'di agor y lle ma fan hyn -

Llais Gerallt

Ŷn ni wrthi fel y cythrel 'ma!

Llais Barbara

A i nôl y bag 'na.

Llais Eilir

Wdw, wdw, fel y boi. Cadw fynd 'ch wel.

Llais Jane

A ma'r tŷ 'r un peth yn gywir! A 'drycha...

Llais Angharad

Gâd e fod am funud, Babs.

Llais Gerallt

(i MARIA) Maria, did they bring the stuff?

Llais Barbara

Na, mae'n iawn, ma ishie -

Llais Maria

Yes, he leave it by the counter.

Llais Jane

A, draw dros y bancyn, drycha...

Llais Angharad

Hi, Maria!

Llais Jane

So fe 'di newid dim...

Llais Maria

Hi.



Daw GERALLT i fewn tra bod y sgwrsio'n dal i fynd yn ei flaen tu allan. Mae'n mynd draw at y cownter, yn codi'r bocs ac astudio'r label sydd arno. Daw MARIA at drothwy'r drws.

Gerallt

Did they charge you for it today? (Ychydig yn dawelach) Did the boy ask for money?

Maria

No. He just leave it.

Gerallt

Good thing.

Maria

Is not paid for?

Gerallt

Not yet, no. It's fine.

Maria

I need my money today.

Gerallt

End of the week, I told you. You'll be fine. (Mae'n mynd allan.)

Maria

(Ar ei ôl) He will be coming back! I don't want to deal! Ahhh!



Mae hi'n mynd nôl draw at y cownter, yn dechrau ail-afael yn ei gwaith, ac yn dawel ddiawlio GERALLT yn ei hiaith ei hun.

Llais Jane

Gad 'ni weld beth ma' nhw 'di neud fan hyn 'de.



Mae hi'n cyrraedd y drws ac yn edrych i fewn. Mae ANGHARAD gyda hi.

Jane

Waw. Chi 'di neud jobyn fan hyn!

Angharad

Babs odd e fwya'.

Jane

Ie?

Angharad

Ie, buodd hi wrthi yn galed. Hi nath y gwaith papur i gyd, a buodd hi ar ôl y banc a'r cwbwl. A cario llwythi 'fyd!

Jane

Ma fe'n neis.

Angharad

Odi, ma fe'n OK.

Jane

A boudy odd e'n arfer bod! Dw i'n cofio do miwn 'ma pan o'n i'n fach... a ogle'r da a'r gwair, a'r cêc. Odd wenoliaid yn arfer nythu lan fan 'na. O, Duw,... (mae hi'n ddagreuol nawr) mae 'na jyst cymint o bethe... A ma'n nhw ma o hyd...

Angharad

Mam...

Jane

Na, dw i'n iawn. Wfff! Ma'r llefydd ma'n jyst dod â pethe nôl i ti.

Angharad

Odyn.

Jane

A chi 'di bod ma drw'r amser a finne 'di mynd o 'ma.

Angharad

Do, ond buon ni'n iawn.

Jane

O 'nghariad bach i. Beth o'n bod arna i?

Angharad

Ni jyst yn falch bo ti'n ôl nawr.

Gerallt

(yn dod i fewn) Ie wir, be sy' mlân 'ma 'de?

Angharad

Jyst siarad am y siop.

Gerallt

Biti ddouddeg mil gostodd hi i ni neud e lan.

Jane

Odd Angharad yn gweud. Neis.

Gerallt

(yn gweld bod JANE wedi bod yn llefen) Ie, ie. (Saib.) Ddim cweit 'r un peth, ddo. Â gweld y lle'n llawn da godro. Se fe 'm yn hapus.

Jane

Pwy, Dat? Ti'n meddwl?

Gerallt

Wel, sa i'n gwbod...

Jane

Ma' golwg deidi arno fe. (Saib.) Shw' ma' fe'n mynd 'da chi?

Angharad

(ar yr un pryd â GERALLT) Wel, ma fe'n -

Gerallt

(ar yr un pryd ag ANGHARAD) Iawn. Ol reit. Na, ma fe'n iawn. Good trade 'da ni ar bwys yr hewl fan 'yn.

Angharad

Ôs, yn yr haf; ond dyw e 'm yn talu digon yn gaea'.

Gerallt

Ma fe'n iawn, diawl eriôd...

Angharad

(wrth JANE) Ellith Babs weud wrthot ti.

Gerallt

O Iysu, paid gadael i honno ddechre 'to...

Angharad

Ni'n dod i ben â hi. Jyst.

Jane

Ie. Dw i'n gweld.



Saib.

Gerallt

(wedi gostwng ei lais ychydig) Na fe, sdim ishie i ni gadw mlân ambiti'r pethe ma nawr; 'n enwedig â fe biti'r lle ffor' hyn.

Angharad

Eilir? Ma hwnnw siŵr o fod yn gwbod yn barod -

Gerallt

- o, yffarn dân -

Jane

Shwt?

Angharad

Wel, ma fe â Babs 'di bod yn - wel - sort of mynd mâs.

Jane

Beth, Babs a -

Angharad

- Shhhh, Mam! -

Jane

(gan sibrwd) - Hi a Eilir? -

Angharad

Wel, dim ond sort of.

Jane

- Whare teg iddi -

Angharad

Ie.

Jane

Beth ti'n feddwl, 'Sort of'?

Gerallt

Gadwch chi, 'newch chi?

Angharad

'Sneb yn gwbod beth sy'n mynd 'mlân a gweud y gwir. Sa i'n credu bod Babs yn gwbod yn iawn 'i hunan.

Gerallt

O, Iysu, dw i'n mynd o 'ma. (Wrth iddo adael) Oi! Maria! It's ten to ten now!

Jane

Ma' fe bach yn touchy am y peth, odi fe?

Angharad

'M bach; fel ma' fe.

Jane

Ddim 'i ferch e yw hi. Na'n un i, cweit, o ran hynny.

Angharad

Hi sy'n cadw pethe i fynd 'ma.

Jane

Whare teg iddi hi. Goffodd hi wmla am 'i lle eriôd. (Saib.)

Tair blwydd ôd odd hi, pan dda'th hi aton ni gynta'; ond ot ti'n gweld e bryd 'ny - odd hi'n benderfynol o gâl dy sylw di. Wel ffilodd yr hen Emyr â godde' pethe, a fuodd e 'm yn hir cyn 'i heglu 'ddi. 'Ti odd eisie', medde fe wrtha i; a bant ag e. Odd rhyw fenyw 'dag e'n barod bryd 'ny dw i'n meddwl. So ddethon ni nôl fan hyn. (Saib.)

Dw i'n cofio bod miwn 'ma 'da Babs, yn dangos y sheds iddi; a hithe'n gofyn, 'Ble ma buwch wedi mynd? Ble ma buwch wedi mynd?'. Wedes i bo' nhw'n 'di mynd ar 'i holidays. Odd hi'n gwbod mai dwli odd hynny; ond odd hi'n benderfynol - os mai ffarm odd e, odd rhaid ca'l da yn y boudy a moch yn twlce a defed a ieir a hwyaid, a'r cwbwl i gyd. Ac os on nhw wedi mynd ar 'u holidays, odd e'n bryd 'u câl nhw nôl, iddi hi ca'l whare ffarm. (Saib.)

Odd hyn cyn i fi ga'l ti, ar ôl yr holl amser 'na o feddwl na allen i byth. Do.



Daw MARIA a BARBARA i fewn. Mae MARIA'n ei thywys i edrych ar ddarn o'r llawr.

Barbara

No, it's all right. It looks OK; it'll do.

Maria

It's OK?

Barbara

Yes.

Maria

I tell him.

Barbara

I know you did, but he doesn't want to listen.

Maria

I tell him again.

Barbara

Just needs a bit of scrub over here.

Maria

Let me see.

Barbara

It's OK, Maria, I'll do it in a while. I don't think we'll get many in today anyway.

Jane

Mae'n edrych yn neis iawn 'da ti mewn fan hyn, cariad.

Barbara

Ma fe'n OK. 'Se fe'n well tasen ni'n gelled neud mwy. A câl mwy o adverts yn 'papur a phethe.

Jane

Ddylsen i fynd miwn i'r tŷ; sa i 'di gweld y lle 'to.

Barbara

 i i nôl y cesys o'r car.

Jane

Na, paid. Dw i ddim yn meddwl -

Barbara

- Ma fe'n iawn, mam, fe â i nawr -

Jane

- Sdim hast, mae'n OK.



Daw GERALLT i fewn â bagiau o'r car yn ei ddwylo. Mae EILIR yn ei ddilyn.

Gerallt

'Na lle ma'r rhein i gyd, t'wel.

Barbara

On ni jyst yn mynd i -

Jane

- Na, na, Ger -

Barbara

- dere â rheina i fi -

Angharad

- aros, Babs -

Gerallt

- cer di â nhw os ti moyn -

Jane

- peidwch, ddim 'to. (Saib.) Sa i'n meddwl y galla i fynd mewn 'na 'to ta beth.



Saib.

Eilir

Wel, tra bo chi i gyd 'ma, 'de; a sori 'mod i'n torri ar draws eich, eich - digwyddiad chi, on i'n meddwl y bysech chi 'di câl bach o amser 'rôl cyrraedd getre erbyn hyn. Ond ma rhwbeth on i eishe dod lan 'ma i weud, wrth gymint ohonoch chi ar y tro â gallen i a gweud y gwir.

Gerallt

Be' sda ti 'de?

Eilir

Falle bod e 'm yn un busnes i fi, ond jyst meddwl helpu mâs peth wdw i. (Saib fer.) Ma lle bach teidi 'da chi 'ma, reit ar bwys yr hewl, a ma hwn fan hyn, y siop 'ma 'dach chi, ma' hwn yn neud yn, wel, yn weddol; ma hi'n fenter fach nêt. Ond ma pethe'n newid nawr, on'd ŷn nhw. Ma prisie pethe, wel chi'n gwbod cystal â neb, ma'n nhw'n anwadal ar y diawl; ac os ych chi'n rhedeg siop fel hyn, ma ishie rhwbeth sbeshal i ddod â phobol miwn atoch chi. 'Na beth sy'n becso fi yw bo chi'n trial neud y pethe rong 'ma - ŷch chi lan yn erbyn llefydd sy'n gwerthu pethe'n jepach o lawer na allwch chi neud.

Gerallt

Wel, yffarn dân -

Eilir

Na, na, na, dw i'n, sa i'n gweud hyn i dynnu lawr beth ych chi'n 'i neud, sa i'n - drychwch, cynnig sy' 'da fi, reit? Ych chi'n gwerthu'ch stwff eich hunan fan hyn - ma fe'n grêt, popeth yn 'i dymor, neis iawn. Ond soch chi'n mynd i gadw pethe i fynd fel 'na. Rwbeth bach yw hwn i roi boost fach i'r pethe erill sy' 'da chi - y bîff a'r tato a'r pethe erill 'ny - pick your own a pethe fel 'na. A ma hynna'n iawn. Ond, bois, ma ishie i chi bwsho mâs yn fwy! Ma ishie i chi werthu fe'n bellach na jyst yn fan hyn. A ma ishie mwy o bulk arnoch chi. Neu fydd y siop 'ma ddim yn ddigon o faint i ddala'i hunan lan ar 'i draed pan ma pethe'n mynd yn fain arnoch chi.

Angharad

Gwerthu'n stwff ein hunen ŷn ni ishie neud -

Jane

Aros funud, Anji. Beth odd y cynnig 'ma odd 'da ti, 'de, Eilir?

Eilir

Wel, shwt fysech chi'n teimlo, tasen i'n dod miwn 'da chi ar y busnes gwerthu 'ma ond bon ni'n 'i neud e'n fwy o faint? On i'n meddwl, allen ni godi polytunnels lan fan hyn, a trial tyddu pethe rownd y flwyddyn, hala'r stwff mâs i lefydd erill, siope lleol i ddechre, farm shops erill, cwpwl o restaurants - y rhai neis sy' rownd ffor' hyn; rhwbeth i ga'l yr enw mâs 'na, bildo brand lan 'chwel? A wedyn, os fydd bach o fynd arno fe, allwn ni weitho fe lan 'to o fan 'ny, a dechre gwerthu mwy o stwff i'r supermarkets ac i lefydd fel 'na - os fydd na ddigon o alw, ac os ôs ŷn ni moyn. Ond ddim ond ar ôl i ni weitho'r brand lan yn gynta': achos wedyn, os fydd rhywun yn dod miwn yn gompetition i ni - a ma'n nhw'n siŵr o neud - ma'r enw 'da ni. Neud popeth allwn ni i gynnal hwnnw, a falle wedyn os ddeith rhywun mwy o lawer miwn yn ein erbyn ni, os fydd pethe'n dechre troi, fe allwn ni werthu hwnnw 'fyd. (Saib.) Na'r plan odd da fi.

Gerallt

Wel, blydi hel. Ma' rhywun 'di bod yn siarad 'da ti, 'nd ôs e?

Angharad

Hisht wncwl Ger -

Gerallt

- o dere o 'na -

Barbara

- sa i'n credu bod ishie bod fel 'na -

Jane

'Rhoswch funud. Dw i bia'r lle 'ma 'fyd. Eilir, drycha: diolch iti am y cynnig, ond mae'n rhy gynnar i fi feddwl am bethe fel hyn. Newydd gyrra'dd nôl wdw i, a ma ishie i fi ga'l 'y mhethe i'n hunan mewn trefen cyn bo fi'n dechre meddwl am stwff fel hyn.

Eilir

Dw i'n deall 'ny. On i 'm yn gwbod mai nawr och chi'n golygu dod nôl, neu 'sen i 'di gadel hi am un sbel. Ond - wel, wrth gwrs - ma'r amser yn dechre mynd bach yn bring 'fyd.

Jane

Odi fe? Be' ti'n weud? Be' ti'n feddwl?

Eilir

- Drychwch, 'dyw e 'm yn fusnes i fi -

Gerallt

- gwêd beth sy' 'da ti i weud -

Barbara

- gadwch e fod i siarad.

Jane

Dere 'mlân 'te, Eilir.

Eilir

Wel, deall on i fod 'na limit wedi câl i roi, 'nd ôs e? Ar yr amser ma'r banc yn rhoi i chi i dalu'n ôl?

Jane

Talu beth nôl?

Eilir

O.

Jane

Talu beth, beth s'da ni i dalu'n ôl?

Angharad

Mam -

Jane

Ôs dyled arnoch chi, 'de?

Angharad

- peidwch -

Jane

Ŷch chi mewn dyled? Ger? Beth sy'n mynd 'mlân - wyt ti mewn dyled?

Gerallt

A shw' ma' hwn fan 'yn wedi dod i wbod yn busnes ni? -

Eilir

- Well i fi fynd o 'ma -

Gerallt

- ôs glei! (Saib.)

Eilir

Wela i chi 'to, bois.

Barbara

Dda' i 'da ti i'r car.

Eilir

O. Ie; ie, OK.



Mae'n mynd allan, a BARBARA yn ei ddilyn. Saib.

Gerallt

Wel, y jiawl eriôd...

Jane

Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de?

Gerallt

'Dyw hi 'm yn sbesial iawn, na 'dy.

Jane

Shw' ma' dyled wedi mynd arnoch chi, 'de? Shwt all dyled fod wedi mynd ar y lle 'ma?

Gerallt

Pethe 'm yn talu.

Jane

Ie?

Gerallt

Ie! Fyse ti 'm yn deall! (Yn sydyn, mae'n cau'i ddwrn ac yn rhwbio'i ben ag e yn galed. Saib.) A, wel, falle, arhoson ni miwn yn y lla'th yn rhy hir cyn 'i phaco'i lan. A gethon ni beth arian am y da pan ethon nhw; ond wedyn dreion ni gwpwl o bethe erill, a weithon nhw ddim cystel. A, wel, ot ti wedi mynd o 'ma, so odd rhaid i ni neud rwbeth. A wedyn fe gethon ni - fe ges i - mam, sbel fach cyn iddi farw, i roi'r lle nôl ar morgej, i ni ga'l bach o gapital i ddechre gweitho pethe lan 'to.

Jane

O, Iysu bach, Ger -

Gerallt

- man a man i ti ga'l gwbod nawr, yndyfe. Treial neud y gore ôn ni, na 'i gyd. Odd e'n job ar diawl i Mam i gadw popeth at 'i gilydd rhwnt popeth -

Jane

- Dw i'n deall 'ny -

Gerallt

- wyt ti 'de? Ca'l a cha'l odd hi i gadw gafel ar y merched, a tithe wedi mynd o 'ma; neu fyse Social Services wedi mynd â nhw!

Angharad

On i'n fourteen, Wncwl Ger, 'se nhw ddim wedi mynd â fi o 'ma, a odd Barbara'n eighteen yn barod.

Gerallt

Wel, ie, ond do'n ni ddim mor siŵr â 'ny ar y pryd, o'n ni -

Angharad

Falle ddim -

Gerallt

(dan deimlad) - odd e'n hen ofid ar diawl i dy famgu, tra'i bod hi.



Saib. Clywir sŵn car EILIR yn gyrru i ffwrdd. Ymhen rai eiliadau, daw BARBARA yn ôl i fewn.

Barbara

Be' sy' mlân? (Does neb yn ei hateb.)

Jane

So, o fan 'ny dda'th yr arian i dalu am hwn? (sef y siop)

Gerallt

Ie: a 'i gynnal e ar y dechre.

Jane

Ôs arian yn dod miwn, 'de?

Gerallt

Wel, ôs. Bach o struggle yw hi, ar brydie. Ond wedyn...

Barbara

So ni 'di neud lot o arian 'leni. (Mae GERALLT yn tuchan.) Ni'n treial cwpwl o leins newy', ond ma fe'n cymryd amser i bobol ddod i arfer â nhw. A ma Aldi a rheina 'da ti.

Angharad

Ŷn ni'n colli arian.

Barbara

Funud 'ma. Ond ma' siawns 'da ni i wella pethe erbyn diwedd yr haf.

Angharad

Os ddeith pobol biti'r lle, os cewn ni dywydd.

Barbara

Mae'n addo hi'n sbeshal.

Angharad

Ody, yn yr Express, ti'n gwbod pwy nonsens sy' 'da rheini.

Barbara

Fe wellith pethe, OK. Mond i ni gadw gweitho.

Angharad

Ma'r holl beth bach yn ffârs os ti'n gofyn i fi.

Barbara

Sdim byd yn bod ar y syniad, jyst ishie bach o lwc sy' arnon ni.



Mae ffôn ANGHARAD yn canu.

Angharad

Helo... oh hi, ie... wel, OK, dere lan yn y fan. A bit later on, OK? Ym... na, ma' fe'n iawn (mae hi'n cerdded tuag at y drws wrth siarad), jyst not this exact minute. Falle... (mae hi'n cerdded allan drwy'r drws; y sgwrs yn parhau)



Mae BARBARA a GERALLT yn syllu ar ei gilydd am funud. Mae BARBARA yn codi'i hysgwyddau ato.

Angharad

(daw ANGHARAD nôl i fewn)...OK, bye. (wrth roi'r ffôn gadw) Pete odd e. Peter Treesman. Odd e'n meddwl galw lan.

Jane

Ma fe 'r hyd lle o hyd, ody fe?

Angharad

Ody, ma fe'n byw lawr yn pentre'.

Gerallt

Yn y caravan park yn Blaenllan.

Angharad

'M ond yn y gaea.

Gerallt

Ody fe'n dod lan 'de?

Angharad

Wedes i wrtho fe i beido. Am sbel.

Barbara

'Na fydde ore.

Jane

Mae'n iawn. Dethed. Chi'n ffrindie 'da'ch gilydd, ych chi? (Saib. Mae ANGHARAD yn awgrymu'n gynnil ei bod nhw.) Wel, na fe 'de, ma fe'n bownd o ddod lan 'ma rhywbryd. A bydd rhaid i fi weld e yn pen draw, on' bydd e?

Gerallt

Dw i'n mynd i gael gweld ble ma'r roces 'na 'di mynd. (mae'n codi ac yn mynd allan) Maria! {Saib.)

Jane

Ma fe'n gwbod 'mod i nôl, ody fe? Pete, Peter.

Angharad

Ody, dw i'n credu; wedes i wrtho fe. Ma fe'n gwbod boch chi'n dod nôl. Ond ddeith e ddim heddi.

Jane

Na ddeith. OK, de. (Saib fer.) Ddim 'i fai e o'dd e, dw i'n gwbod. Dw i'n gwbod, a dw i 'm yn bod yn deg ag e. Ond alla i ddim peido â meddwl: tase fe 'di bod â'i feddwl ar 'i waith, tase fe 'di gweld beth odd yn digwydd yn gynt, na fyse Bryn wedi... o, sdim iws meddwl nawr os e -

Barbara

Nethon nhw'r gore gallen nhw, Mam -

Jane

Do, do, do, dw i'n siŵr do fe. A welodd ddim un ohonoch chi'r peth yn digwydd, chwaith. Odd e wedi mentro o'i ddwfnder, 'n un bach i! A erbyn iddyn nhw ga'l e mâs odd hi'n rhy hwyr.

Angharad

Fe weithodd Peter arno fe gystal ag y galle fe.

Jane

Do. Do, do. Fan hyn o'dd e! Fan hyn fuodd e! (Mae hi yn ei dagrau nawr.)



Daw MARIA i fewn. Mae hi'n sylwi ar JANE.

Maria

Sorry, I didn't mean to -

Barbara

It's OK.

Maria

I was out in store room.

Barbara

Ger found you, did he?

Maria

Yes, I was...

Barbara

It's all right; she's just a bit upset. They've been talking about Peter - Treesman; you know, Angharad's friend. You might not know him. He was the one who trïed to help Bryn - our little brother - on the beach.

Maria

Yes it's OK.

Barbara

She'll be all right in a minute or two.

Maria

I will carry on here.

Barbara

Errm, yeah, OK.



Saib.

Angharad

 i i'r tŷ i weitho dished i ni.

Jane

(yn ceisio siglo'i hun o'i gwewyr) Ie, ti'n iawn.

Barbara

(am y bagiau) Chi ishe i fi gario'r rhein draw i chi?

Jane

Ma'n iawn bach, gad nhw fod lle ma' nhw am y tro.

Barbara

Ti'n siŵr?

Jane

Wdw, cariad, sdim ishie nhw arna i am un sbel.



Mae JANE ac ANGHARAD yn cychwyn am y drws bach sy'n arwain tuag at y tŷ.

Jane

Ond dw i 'di gadel 'y mag bach i yn y car. Cer i ôl hwnnw os ti moyn.

Barbara

Iawn.



Mae BARBARA yn mynd y ffordd arall, am y drws mawr sy'n arwain nôl at y clos. Wrth iddi fynd drwyddo, mae'n cwrdd â PETER.

Peter

O. Sori. Ddrwg gyda fi.

Barbara

O. Hi.

Angharad

(yn troi nôl a'i weld) Peter!

Peter

Hi.

Angharad

On ni ddim yn disgwyl y byddet ti -

Peter

- na, wel, sori, surprise oedd e fod.

Jane

Surprise?

Peter

Ar ddiwedd y lôn oeddwn i pan ffonio.

Angharad

Ma Mam 'ma.

Peter

Yeah, ydy. Sori.

Jane

Hello Peter.

Peter

Helo. Shwmai. Dw i'n siarad Cymraeg nawr.

Jane

Wyt. Gwd. Let me see you. Gad fi ddrychyd arnat ti.



Mae hi'n edrych arno. Saib. Ti 'di newid. 'Di heneiddo. You look a lot older. Crwt ysgol ôt ti pan es i o 'ma. A nawr wyt ti 'di tyddu. Wyt ti'n ddyn.

Peter

(chwerthiniad bach nerfus) Ydw.

Jane

Beth wyt ti'n neud dyddie 'ma what do you do now?

Peter

O, dw i'n ceisio gorffen PhD. Mewn Environmental Science.



Saib. Mae JANE yn syllu arno. Yna mae hi'n estyn ato ac yn cyffwrdd â'i ben.

Jane

Ma dy wallt di'n dechre teneuo, Peter.

Peter

Yeah, ydy. Stressing out, I guess.



Saib. Yna mae JANE yn chwerthin yn uchel; os chwerthin yw hyn. Mae'n hi'n tawelu wedyn.

Jane

Dere i'r tŷ 'da ni.

Peter

Iawn, OK.

Jane

Ie. Surprise.

a1a1, g1a2a3a4