Pobl yr Ymylon

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

 
(1, 0) 11 O di─aa─wch!
(Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus.
 
(Malachi) Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.
(1, 0) 22 Torred hi.
(Malachi) Testun diolch sydd gennym, Dafydd.
 
(1, 0) 27 Buckingham Palas!
(Malachi) Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond bwthyn cyffredin y gwerinwr.
 
(Malachi) Ond diolch am gymaint a hynny.
(1, 0) 31 le, ond nid ni sydd berchen y bwthyn neu beth bynnag yw e.
(Malachi) Goreu'n y byd, Dafydd, goreu'n y byd.
 
(Malachi) 'Rwy'n sicr y buasai'r bobol sy'n perchenogi'r lle dinôd yma yn falch iawn i wybod eu bod wedi cyfrannu bendithion yn ddiarwybod.
(1, 0) 34 Ie.
(1, 0) 35 Fe hyderwn 'u bod nhw wedi cadw'r ci yn sownd.
(Malachi) Fe hyderwn hynny, Dafydd.
 
(Malachi) Mae llawer i ddyn wedi troi angel yn ddiarwybod o'r tŷ am i fod e wedi anghofio clymu'r ci.
(1, 0) 39 Malachi!
(1, 0) 40 Os rhywbeth ar y |menu| y bore 'ma?
(1, 0) 41 Os dim digwydd fod scadenyn coch rywle yn yr awyrgylch?
(Malachi) Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, machgen i.
 
(Malachi) Wyddost ti ddim pa fendithion ddaw y diwrnod newydd hwn eto.
(1, 0) 47 Wel, gobeitho y don' nhw'n glou.
(1, 0) 48 Wela i ddim ohonyn' nhw'n glawio hyd yn hyn.
(Malachi) Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth.
 
(Malachi) Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth.
(1, 0) 50 Odych chi'n gweld rhywbeth te?
(Malachi) Llygad ffydd, Dafydd; llygad ffydd.
 
(Malachi) Mae yna fferm gerllaw, ond oes e, Dafydd?
(1, 0) 54 Wel?
(Malachi) Pwy ŵyr nad yw hi wedi insiwro yn lled drwm, Dafydd.
 
(Malachi) Does dim i buro cymdeithas fel tân, Dafydd.
(1, 0) 59 Pam─o─os rhywbeth mewn golwg gyda chi?
(Malachi) O, na, na, na, Dafydd.
 
(Malachi) Son am dana ì 'rw' i nawr.
(1, 0) 65 Dyna'r ffaith.
(Malachi) Na, Dafydd.
 
(Malachi) Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.
(1, 0) 69 Go fore yw hi i bregeth, Malachi.
(Malachi) 'Roedd crefydd yn y teulu.
 
(Malachi) Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.
(1, 0) 72 O, shwt?
(Malachi) Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls.
 
(Malachi) Dyna dynnodd sylw'r polisman, Dafydd.
(1, 0) 75 'Ro'dd tipyn bach mwy o grefydd nag o gallineb yn perthyn i'ch tad, Malachi.
(Malachi) Oedd, falle i fod e.
 
(Malachi) Rhyfedd meddwl fod fy nhad wedi cael ei ddal am beth mor fach a dwyn ffowls.
(1, 0) 80 Fuoch chi'n dwyn ffowls eriod, Malachi?
(Malachi) Do, Dafydd, do droeon.
 
(Malachi) Mam, 'run fath wedyn.
(1, 0) 86 Dioddefodd hi oherwydd 'i chrefydd?
(Malachi) 'Roedd hi'n dal cysylltiad agos â'r achos, Dafydd.
 
(Malachi) Roedd hi'n casglu mewn hen gapel bach yn agos i gartre, ac felly, mewn ffordd o siarad, dipyn o flaen ei hoes.
(1, 0) 89 'Rodd hi dipyn fwy ar y metals na'ch tad, te?
(Malachi) Wel, oedd, mewn ffordd o siarad, er, mor bell ag yr 'w i'n cofio, roeddem ni fel teulu yn byw yn weddol foethus pan oedd mam yn casglu yn yr hen gapel bach.
 
(Malachi) Gyda llaw, beth oedd dy rieni di, Dafydd?
(1, 0) 93 Y─wel.
(1, 0) 94 Ma' nhw─ma' nhw wedi marw ych dou.
(Malachi) Ma'n rhai inne hefyd.
 
(Malachi) Ma'n rhai inne hefyd.
(1, 0) 96 Wel─a─mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.
(Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
 
(Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
(1, 0) 98 O'n─wel o'n, mewn ffordd o siarad.
(Malachi) Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw.
 
(Malachi) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?
(1, 0) 104 Wn 'im.
(1, 0) 105 Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus.
(Malachi) Be' ti'n feddwl wrth hynny?
 
(Malachi) Be' ti'n feddwl wrth hynny?
(1, 0) 107 Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.
(Malachi) Câl digon ar fod yn respectabl?
 
(Malachi) Be nest ti, meddwi?
(1, 0) 110 Nage.
(Malachi) Ladratest ti rywbeth?
 
(Malachi) Ladratest ti rywbeth?
(1, 0) 112 Naddo.
(Malachi) Beth te?
 
(Malachi) Beth te?
(1, 0) 114 Dim.
(1, 0) 115 Laru ar fod yn respectabl.
(1, 0) 116 Dyna'r cwbwl.
(Malachi) Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw?
 
(Malachi) Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw?
(1, 0) 118 'Rwy' wedi gweyd.
(1, 0) 119 Mi ges ddigon ar fod yn respectabl, a mi gliries mâs.
(Malachi) 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei.
 
(Malachi) 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei.
(1, 0) 121 Nag own.
(Malachi) 'Rown i'n meddwl.
 
(Malachi) 'Rown i'n meddwl.
(1, 0) 123 le, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?
(Malachi) Na wn i.
 
(Malachi) Na wn i.
(1, 0) 125 Bod yn respectabl.
(Malachi) Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd.
 
(Malachi) Beth oet ti─clerc?
(1, 0) 128 Nage.
(1, 0) 129 Mwy respectabl na hynny.
(Malachi) Bancer?
 
(Malachi) Bancer?
(1, 0) 131 Nage.
(Malachi) Na.
 
(Malachi) 'Doet ti ddim twrne?
(1, 0) 135 Cyfreithiwr?
(1, 0) 136 Nage.
(Malachi) Na, 'dos dim digon o'r diawl yndo ti i fod yn dwrne.
 
(1, 0) 140 Na.
(Malachi) Wel mâs â hi.
 
(Malachi) Wel mâs â hi.
(1, 0) 142 Pregethwr.
(Malachi) Beth?
 
(Malachi) Beth?
(1, 0) 146 Bugel Methodist.
(Malachi) Bugel Methodist!
 
(Malachi) Paid a thwyllo hen ŵr!
(1, 0) 153 'Dwy ddim yn ych twyllo chi.
(1, 0) 154 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl.
(Malachi) Wythnos yn ôl?
 
(Malachi) Wythnos yn ôl?
(1, 0) 157 Wythnos yn ôl.
(Malachi) Dim erioed!
 
(Malachi) Dim erioed!
(1, 0) 159 O'wn wir.
(Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na?
 
(Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na?
(1, 0) 161 'Dwy ddim am fynd yn ol.
(Malachi) Dafydd, fy mab.
 
(Malachi) Pam na fyset ti'n i phriodi hi?
(1, 0) 168 Eh?
(1, 0) 169 Be'─be' chi'n feddwl?
(Malachi) Pam na fyset ti'n i phriodi hi, Dafydd; pam na fyset ti'n i phriodi hi?
 
(Malachi) Ddylet ti ddim o'i gadel hi.
(1, 0) 173 Be' chi'n dreio weyd?
(1, 0) 174 O, 'rych chi'n meddwl mod i wedi dod â rhyw ferch i drwbwl.
(Malachi) Odw i ddim yn iawn, Dafydd?
 
(Malachi) Odw i ddim yn iawn?
(1, 0) 177 Nag ych.
(1, 0) 178 Rych chi'n hollol mâs o'ch lle.
(Malachi) Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr.
 
(Malachi) Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr.
(1, 0) 180 'Dwy'n twyllo dim ohonoch chi.
(1, 0) 181 Mi wedwn i wrthoch chi ar unwaith 'se chi'n iawn.
(Malachi) 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr.
 
(Malachi) 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr.
(1, 0) 183 'Rwy'n gweyd yr union wir wrthoch chi.
(1, 0) 184 Os nad ych chi'n 'y nghredu i, peidiwch...
(1, 0) 185 'Drychwch 'ma, leicech |chi| ddim bod yn bregethwr, leicech chi?
(1, 0) 186 Meddyliwch chi 'se chi yn fy lle i.
(Malachi) Pam na leicwn i, Dafydd?
 
(Malachi) Pam na leicwn i?
(1, 0) 189 Wel─wn i ddim.
(1, 0) 190 Meddwl 'rown i.
(Malachi) O.
 
(Malachi) Fe wela i yr hen saint yn eu hwylio hi drwy ddrycin y gaeaf i glywed yr hen Falachi Jones yn traethu'r genadwri.
(1, 0) 206 le, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni.
(Malachi) {Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.}
 
(Malachi) Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!
(1, 0) 229 O ie, yr hen ffrind.
(1, 0) 230 Rych chi fel pob un o'r tuallan yn i gweld hi'n bert iawn.
(1, 0) 231 Ma' digon hawdd i chi sefyll fanna a chanu "Palmwydd clyd."
(1, 0) 232 Ond fe gawsech lawer i neyd heblaw hynna.
(Malachi) Wel?
 
(Malachi) O, Malachi Jones yw'r dyn─
(1, 0) 238 Ie, ie; mae hynna'n swno'n iawn.
(1, 0) 239 Ond mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi.
(1, 0) 240 Mi flines i arni.
(Malachi) Blino ar beth?
 
(Malachi) Blino ar beth?
(1, 0) 242 Blino ar fyw'n respectabl─respectabl─respectabl!
(1, 0) 243 Ddydd a nos.
(1, 0) 244 Un wythnos ar ôl y llall.
(1, 0) 245 Y swydd fwya respectabl yn y wlad, fwya respectabl dan haul.
(1, 0) 246 Dyna sy'n damio'n gwlad ni.
(1, 0) 247 Nid culni.
(1, 0) 248 Nid Piwritanieth.
(1, 0) 249 Mae tân mewn Piwritanieth.
(1, 0) 250 'Does dim mewn |respectability|.
(1, 0) 251 Mae Cymry'r ganrif hon yn byw mewn |frock-coat|, gorff ac enaid.
(Malachi) 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|.
 
(Malachi) 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|.
(1, 0) 253 Wisges i ddim un eriod─o leia, ddim am 'y nghorff─nac am y'n ened chwaith.
(1, 0) 254 Rwy'n credu y byswn i wedi gneyd llawer o waith mewn cylch lle rôdd yna ddigon o ryddid a neb yn boddro dim shwt own i'n byw.
(1, 0) 255 Ond, fel bugel, down i ddim yn llwyddiant.
(1, 0) 256 Rown i'n gneyd popeth yn wahanol i bob pregethwr arall.
(1, 0) 257 Down i ddim yn hoff o gwmni pregethwyr, i ddechre.
(1, 0) 258 Rown i'n câl digon arnyn' nhw.
(1, 0) 259 Doen nhw ddim a'u llaw ar byls y bobol rywsut.
(1, 0) 260 'Dwy ddim yn i beio nhw chwaith.
(1, 0) 261 Mi ffeules i'n hunan.
(Malachi) Beth ddigwyddodd?
 
(Malachi) Beth ddigwyddodd?
(1, 0) 263 O, mi âth popeth go whith.
(1, 0) 264 Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rodd gormod o Ebrill yndw i.
(1, 0) 265 'Rown i'n rhoi gormod o |shocks| i'r saint─a ma gwaith neyd hynny y dyddie hyn.
(Malachi) Shocks i'r saint!
 
(Malachi) Dere gâl i clywed nhw.
(1, 0) 269 O, cofiwch chi, 'dwy ddim am ddweyd mod i'n iawn lawer tro.
(1, 0) 270 Rown i'n ddigon gonest yn y dechre.
(1, 0) 271 Rown i am gêl gafel yn nynolieth pobol.
(1, 0) 272 A mi gês i afel yndo fe lawer tro.
(1, 0) 273 Ond dim y teip mae pobol respectabl yn hoffi.
(1, 0) 274 Rodd gen i ormod o gydymdeimlad â'r dyn off y metals.
(1, 0) 275 Rown i'n i hoffi e am i |fod| e off y metals; am nad oedd e'n respectabl.
(1, 0) 276 Lliw, a sport, a bywyd, a rhamant, a ienctid!
(1, 0) 277 'Rodd gâs gen i furie moelion y capel.
(1, 0) 278 Mi addolwn yn well mewn eglws Gatholig brydferth.
(Malachi) Ond be' nest ti i boeni'r saint?
 
(Malachi) Ond be' nest ti i boeni'r saint?
(1, 0) 280 O, llawer o bethe.
(1, 0) 281 Ma' dyn yn mynd yn rebel gydag amser.
(1, 0) 282 Dyma engraifft...
(1, 0) 283 Rodd un o'm ffrindie i─un o'r rhai off y metals─yn cynnal dawns nos Sul yn rhywle.
(1, 0) 284 Mi'n heriodd i ddod yna ar ôl cwrdd.
(1, 0) 285 Mi es gam ymhellach: mi cyhoeddes hi yn y Seiat.
(Malachi) Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol?
 
(Malachi) Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol?
(1, 0) 287 Dyna chi'n gofyn cwestiwn 'nawr na fedra i byth ateb.
(1, 0) 288 Pan fydd rhyfeddode mawr y byd yn câl i croniclo mi fydd hwnna ar lawr.
(Malachi) Wedson nhw ddim un gair?
 
(Malachi) Wedson nhw ddim un gair?
(1, 0) 290 Mi synnech chi mor ychydig.
(1, 0) 291 Mae'n anodd rhoi gwir |shock| i sgerbwd anghydffurfieth.
(1, 0) 292 'Rown i wedi gorffen bod yn respectabl ers tro, a 'doedd dim a wnawn i yn 'i synnu nhw─os na wnawn i rywbeth fel dyn arall.
(1, 0) 293 'Rown i mron bod yn respectabl o |unconventional|.