Pobl yr Ymylon

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr.
(1, 0) 2 Yn y cornel i'r dde y mae cruglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr.
(1, 0) 3 Yn y ben nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan.
(1, 0) 6 Cedwir eí felly am ychydig amser, nes bod y gynulleidfa ar fin anesmwytho.
(1, 0) 7 Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos.
(1, 0) 8 Pan ddêl cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael a rhai crwydryn cyffredin.
(1, 0) 9 Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog.
(Dafydd) {Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.}
 
(Dafydd) O di─aa─wch!
(1, 0) 12 Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt, a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed.
(1, 0) 13 Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coeg-foneddig─yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Y mae ei wyneb hefyd yn gyd-wedd â'r dillad─wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin.
(1, 0) 16 Y mae ei farf '' gafr " a'i waÌlt ac aeliau trwchus yn frith.
(1, 0) 17 ~
(1, 0) 18 Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "Pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen.
(1, 0) 19 Cyfyd yn fwy disymwth na DAFYDD o'r gwellt a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ol rhai DAFYDD.
(Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus.
 
(Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ol.
(1, 0) 162 Edrych MALACHI yn synfyfyrgar am ysbaid.
(1, 0) 163 Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd.
(1, 0) 164 Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc.