Pobl yr Ymylon

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

 
(1, 0) 13 O di..aa..wch!
(Malachi) Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus.
 
(Malachi) Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.
(1, 0) 26 Torred hi.
(Malachi) Testun diolch sydd gennym, Dafydd.
 
(1, 0) 31 Buckingham Palas!
(Malachi) Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond sgubor, a diolch am gymaint a
 
(Malachi) hynny.
(1, 0) 34 Malachi!
(1, 0) 35 Os rhywbeth ar y menu y bore 'ma?
(1, 0) 36 Cig moch?
(Malachi) Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, 'machgen i.
 
(Malachi) Dysg i bwyso ar Ragluniaeth.
(1, 0) 41 Pam?
(1, 0) 42 O... o... os rhywbeth mewn golwg gyda chi?
(Malachi) O, na, na, na, Dafydd.
 
(Malachi) Sôn amdana i rw' i nawr.
(1, 0) 48 Dyna'r ffaith.
(Malachi) Na, Dafydd.
 
(Malachi) Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.
(1, 0) 52 Go fore yw hi i bregeth, Malachi.
(Malachi) 'Roedd crefydd yn y teulu.
 
(Malachi) Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.
(1, 0) 55 O, shwt?
(Malachi) Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls.
 
(Malachi) Gyda llaw, beth oedd dy rhieni di, Dafydd?
(1, 0) 59 Y, wel.
(1, 0) 60 Ma' nhw … ma' nhw wedi marw ych dou.
(Malachi) Ma'n rhai inne hefyd.
 
(Malachi) Ma'n rhai inne hefyd.
(1, 0) 62 Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.
(Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
 
(Malachi) Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
(1, 0) 64 O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad.
(Malachi) Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus 'dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw.
 
(Malachi) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?
(1, 0) 69 Wn 'im.
(1, 0) 70 Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus.
(Malachi) Be ti'n feddwl wrth hynny?
 
(Malachi) Be ti'n feddwl wrth hynny?
(1, 0) 72 Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.
(Malachi) Câl digon ar fod yn respectabl?
 
(Malachi) Be nest ti, meddwi?
(1, 0) 75 Nage.
(Malachi) Ladratest ti rywbeth?
 
(Malachi) Ladratest ti rywbeth?
(1, 0) 77 Naddo.
(Malachi) Beth te?
 
(Malachi) Beth te?
(1, 0) 79 Dim.
(1, 0) 80 Ca'l digon ar fod yn respectabl.
(1, 0) 81 Dyna'r cwbwl.
(Malachi) Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei.
 
(Malachi) Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei.
(1, 0) 83 Nag own.
(Malachi) 'Rown i'n meddwl.
 
(Malachi) 'Rown i'n meddwl.
(1, 0) 85 Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?
(Malachi) Na wn i.
 
(Malachi) Na wn i.
(1, 0) 87 Bod yn respectabl.
(Malachi) Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd.
 
(Malachi) Beth oet ti – clerc?
(1, 0) 90 Nage.
(1, 0) 91 Mwy respectabl na hynny.
(Malachi) Bancer?
 
(Malachi) Bancer?
(1, 0) 93 Nage.
(Malachi) Na.
 
(1, 0) 98 Na.
(Malachi) Wel mâs â hi.
 
(Malachi) Wel mâs â hi.
(1, 0) 100 Pregethwr!
(Malachi) Pregethwr!
 
(Malachi) Pregethwr!
(1, 0) 102 Bugel Methodist.
(Malachi) Bugel Methodist!
 
(Malachi) Paid a thwyllo hen ŵr!
(1, 0) 109 'Dwy ddim yn ych twyllo chi.
(1, 0) 110 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl.
(Malachi) Wythnos yn ôl?
 
(Malachi) Wythnos yn ôl?
(1, 0) 112 Wythos yn ôl.
(Malachi) Dim erioed!
 
(Malachi) Dim erioed!
(1, 0) 114 O'wn wir.
(Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na?
 
(Malachi) Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na?
(1, 0) 116 'Dwy ddim am fynd yn ôl.
(Malachi) Dafydd, fy mab.
 
(Malachi) Pan na fyset ti'n 'i phriodi hi?
(1, 0) 123 Eh!
(1, 0) 124 Be' … be' chi'n feddwl?
(Malachi) Pam na fyset ti'n 'i phriodi hi, Dafydd.
 
(Malachi) Ddylet ti ddim o'i gadel hi.
(1, 0) 128 Na.
(1, 0) 129 'Rych chi'n hollol mâs o'ch lle.
(Malachi) Odw i?
 
(Malachi) Odw i?
(1, 0) 131 Odych.
(1, 0) 132 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi?
(Malachi) Pam na leicwn i, Dafydd?
 
(Malachi) Pwy ond yr Hen Falachi?
(1, 0) 149 Ie, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni.
(Malachi) {Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.}
 
(Malachi) Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!
(1, 0) 166 Gyfaill, mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi.
(1, 0) 167 Mi flines i arni.
(Malachi) Blino ar beth?
 
(Malachi) Blino ar beth?
(1, 0) 169 Blino ar fyw'n respectabl … respectabl …respectabl!
(1, 0) 170 Dydd a nos.
(1, 0) 171 Un wythnos ar ôl y llall.
(1, 0) 172 Y swydd fwya respectabl yn y wlad … fwya respectabl dan haul.
(1, 0) 173 Dyna sy'n damio'n gwlad ni.
(1, 0) 174 Nid culni.
(1, 0) 175 Nid anghydffurfiaeth.
(1, 0) 176 Mae 'na dân mewn anghydffurfiaeth.
(1, 0) 177 Does dim mewn respectability.
(1, 0) 178 Mae capeli'r ganrif hon yn farw gelain.
(Malachi) Yn farw gelain?
 
(Malachi) Beth ddigwyddodd?
(1, 0) 181 Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn.
(Malachi) O be' wnest ti i'w dihuno?
 
(Malachi) O be' wnest ti i'w dihuno?
(1, 0) 183 O llawer o bethe.
(1, 0) 184 Ma' dyn yn mynd yn rebel gyda amser.
(Malachi) A beth o'n nhw'n gweud te?
 
(Malachi) A beth o'n nhw'n gweud te?
(1, 0) 186 Dim.
(1, 0) 187 Dim yw dim.