a1

Pobl yr Ymylon (2015)

Idwal Jones
add. Euros Lewis

Ⓗ 2015 Euros Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Sgubor Cefn Eithin, Llanfair Moyddin, fore Sadwrn yn yr Haf.

Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr. Yn y cornel i'r dde y mae cryglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr. Yn y pen nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan.

Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan. Cedwir ef felly am ychydig amser, nes bod y gyunlleidfa ar fin anesmwytho. Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos. Pan ddel cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael â rhai crwydryn cyffredin. Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog.

Dafydd

(Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.) O di..aa..wch!



Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed. Y mae mwy o awyrgylch y gwir dramp o gylch hwn. Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coed-foneddig - yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael.

Y mae ei wyneb hefyd yn gyd'wedd â'r dillad - wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin. Y mae ei farf "gafr" a'i wallt ac aeliau trwchus yn frith.

Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen. Cyfyd o'r gwellt yn fwy disymwth na Dafydd, a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ôl rhai Dafydd.

Malachi

Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.

Dafydd

Torred hi.

Malachi

Testun diolch sydd gennym, Dafydd. Testun diolch. Y wawr wedi torri a ninnau dan do.

Dafydd

(Yn edrych oddiamgylch.) Buckingham Palas!

Malachi

Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond sgubor, a diolch am gymaint a hynny.

Dafydd

Malachi! Os rhywbeth ar y menu y bore 'ma? Cig moch?

Malachi

Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, 'machgen i. (Yn cyflymu.) Bydd yn amyneddgar, bachan! Dysg i bwyso ar Ragluniaeth.

Dafydd

Pam? O... o... os rhywbeth mewn golwg gyda chi?

Malachi

O, na, na, na, Dafydd. Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i. Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr. Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithiwr. Sôn amdana i rw' i nawr.

Dafydd

Dyna'r ffaith.

Malachi

Na, Dafydd. Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch. Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.

Dafydd

Go fore yw hi i bregeth, Malachi.

Malachi

'Roedd crefydd yn y teulu. Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.

Dafydd

O, shwt?

Malachi

Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. Camgymeriad. Gyda llaw, beth oedd dy rhieni di, Dafydd?

Dafydd

Y, wel. Ma' nhw … ma' nhw wedi marw ych dou.

Malachi

Ma'n rhai inne hefyd.

Dafydd

Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.

Malachi

Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?

Dafydd

O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad.

Malachi

Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus 'dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne … (Yn ddisymwth.) Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?

Dafydd

Wn 'im. Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus.

Malachi

Be ti'n feddwl wrth hynny?

Dafydd

Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.

Malachi

Câl digon ar fod yn respectabl? Be nest ti, meddwi?

Dafydd

Nage.

Malachi

Ladratest ti rywbeth?

Dafydd

Naddo.

Malachi

Beth te?

Dafydd

Dim. Ca'l digon ar fod yn respectabl. Dyna'r cwbwl.

Malachi

Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei.

Dafydd

Nag own.

Malachi

'Rown i'n meddwl.

Dafydd

Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?

Malachi

Na wn i.

Dafydd

Bod yn respectabl.

Malachi

Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. Beth oet ti – clerc?

Dafydd

Nage. Mwy respectabl na hynny.

Malachi

Bancer?

Dafydd

Nage.

Malachi

Na. D'wyt ti ddim digon o gythrel i fod yn fancer. A wi'n gwbod, hala insiwrans!

Dafydd

(Yn ysgwyd ei ben.) Na.

Malachi

Wel mâs â hi.

Dafydd

Pregethwr!

Malachi

Pregethwr!

Dafydd

Bugel Methodist.

Malachi

Bugel Methodist! Bugel Methodist! Ystyria, Dafydd, 'y machgen i. Ystyria. 'Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd. Paid a thwyllo hen ŵr!

Dafydd

'Dwy ddim yn ych twyllo chi. 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl.

Malachi

Wythnos yn ôl?

Dafydd

Wythos yn ôl.

Malachi

Dim erioed!

Dafydd

O'wn wir.

Malachi

Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na?

Dafydd

'Dwy ddim am fynd yn ôl.



Edrych Malachi yn synfyfyrgar am ysbaid. Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd. Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc.

Malachi

Dafydd, fy mab. Dafydd, Dafydd. Pan na fyset ti'n 'i phriodi hi?

Dafydd

Eh! Be' … be' chi'n feddwl?

Malachi

Pam na fyset ti'n 'i phriodi hi, Dafydd. Lodes ffein o'dd y lodes. Ddylet ti ddim o'i gadel hi.

Dafydd

Na. 'Rych chi'n hollol mâs o'ch lle.

Malachi

Odw i?

Dafydd

Odych. 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi?

Malachi

Pam na leicwn i, Dafydd? Pam na leicwn i? O, Dafydd, Dafydd! Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle. (Yn cerdded oddiamgylch ac yn rholio'r geiriau oddiar ei dafod.) Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D. Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf! Pregethir yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch Malachi Jones, B.A., B.D. Malachi Jones o Gapel Seion! (Yn dechreu "hwylio".) Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad? Malachi Jones! Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch? Malachi Jones! Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid? Pwy ond yr Hen Falachi?

Dafydd

Ie, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni.

Malachi

(Heb gymryd sylw, ond yn gostwng ei lais o'r hwyl.)
Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys,
Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
Lle'r eistedda'r pererinion
Ar eu ffordd i'r nefol fyd.

Ie, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd. Chwi'r oedrannus sydd om blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau. Beth am dani, mhobol i? Beth am gysgodau'r palmwydd? Deuwch gyda mi. Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i gallon friw i orffwys – dan gysgodau'r palmwydd clyd! (Yn disgyn i'r modd cyffredin yn sydyn, ac yn edrych yn ddifrifol ar Dafydd.) Wyddost ti, neud sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu. Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr oedfa cyn pen hanner awr. Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!

Dafydd

Gyfaill, mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi. Mi flines i arni.

Malachi

Blino ar beth?

Dafydd

Blino ar fyw'n respectabl … respectabl …respectabl! Dydd a nos. Un wythnos ar ôl y llall. Y swydd fwya respectabl yn y wlad … fwya respectabl dan haul. Dyna sy'n damio'n gwlad ni. Nid culni. Nid anghydffurfiaeth. Mae 'na dân mewn anghydffurfiaeth. Does dim mewn respectability. Mae capeli'r ganrif hon yn farw gelain.

Malachi

Yn farw gelain? Beth ddigwyddodd?

Dafydd

Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn.

Malachi

O be' wnest ti i'w dihuno?

Dafydd

O llawer o bethe. Ma' dyn yn mynd yn rebel gyda amser.

Malachi

A beth o'n nhw'n gweud te?

Dafydd

Dim. Dim yw dim.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1