Pobl yr Ymylon

Ciw-restr ar gyfer Malachi

(Dafydd) {Yn estyn ei freichiau ac yn agor ei geg.}
 
(Dafydd) O di..aa..wch!
(1, 0) 24 Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus.
(1, 0) 25 Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.
(Dafydd) Torred hi.
 
(Dafydd) Torred hi.
(1, 0) 27 Testun diolch sydd gennym, Dafydd.
(1, 0) 28 Testun diolch.
(1, 0) 29 Y wawr wedi torri a ninnau dan do.
(Dafydd) {Yn edrych oddiamgylch.}
 
(Dafydd) Buckingham Palas!
(1, 0) 32 Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond sgubor, a diolch am gymaint a
(1, 0) 33 hynny.
(Dafydd) Malachi!
 
(Dafydd) Cig moch?
(1, 0) 37 Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, 'machgen i.
 
(1, 0) 39 Bydd yn amyneddgar, bachan!
(1, 0) 40 Dysg i bwyso ar Ragluniaeth.
(Dafydd) Pam?
 
(Dafydd) O... o... os rhywbeth mewn golwg gyda chi?
(1, 0) 43 O, na, na, na, Dafydd.
(1, 0) 44 Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i.
(1, 0) 45 Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr.
(1, 0) 46 Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithiwr.
(1, 0) 47 Sôn amdana i rw' i nawr.
(Dafydd) Dyna'r ffaith.
 
(Dafydd) Dyna'r ffaith.
(1, 0) 49 Na, Dafydd.
(1, 0) 50 Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch.
(1, 0) 51 Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.
(Dafydd) Go fore yw hi i bregeth, Malachi.
 
(Dafydd) Go fore yw hi i bregeth, Malachi.
(1, 0) 53 'Roedd crefydd yn y teulu.
(1, 0) 54 Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.
(Dafydd) O, shwt?
 
(Dafydd) O, shwt?
(1, 0) 56 Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls.
(1, 0) 57 Camgymeriad.
(1, 0) 58 Gyda llaw, beth oedd dy rhieni di, Dafydd?
(Dafydd) Y, wel.
 
(Dafydd) Ma' nhw … ma' nhw wedi marw ych dou.
(1, 0) 61 Ma'n rhai inne hefyd.
(Dafydd) Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.
 
(Dafydd) Wel … a … mae'n well gen i beido a siarad am danyn' nhw ar hyn o bryd.
(1, 0) 63 Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
(Dafydd) O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad.
 
(Dafydd) O'n … wel o'n, mewn ffordd o siarad.
(1, 0) 65 Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus 'dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw.
(1, 0) 66 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne …
 
(1, 0) 68 Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?
(Dafydd) Wn 'im.
 
(Dafydd) Falle taw am i bod nhw'n bobol barchus.
(1, 0) 71 Be ti'n feddwl wrth hynny?
(Dafydd) Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.
 
(Dafydd) Mi ges i ddigon ar fod yn respectabl.
(1, 0) 73 Câl digon ar fod yn respectabl?
(1, 0) 74 Be nest ti, meddwi?
(Dafydd) Nage.
 
(Dafydd) Nage.
(1, 0) 76 Ladratest ti rywbeth?
(Dafydd) Naddo.
 
(Dafydd) Naddo.
(1, 0) 78 Beth te?
(Dafydd) Dim.
 
(Dafydd) Dyna'r cwbwl.
(1, 0) 82 Doet ti ddim yn leico dy waith gw'lei.
(Dafydd) Nag own.
 
(Dafydd) Nag own.
(1, 0) 84 'Rown i'n meddwl.
(Dafydd) Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?
 
(Dafydd) Ie, ond wyddoch chi beth o'dd 'y ngwaith i?
(1, 0) 86 Na wn i.
(Dafydd) Bod yn respectabl.
 
(Dafydd) Bod yn respectabl.
(1, 0) 88 Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd.
(1, 0) 89 Beth oet ti – clerc?
(Dafydd) Nage.
 
(Dafydd) Mwy respectabl na hynny.
(1, 0) 92 Bancer?
(Dafydd) Nage.
 
(Dafydd) Nage.
(1, 0) 94 Na.
(1, 0) 95 D'wyt ti ddim digon o gythrel i fod yn fancer.
(1, 0) 96 A wi'n gwbod, hala insiwrans!
(Dafydd) {Yn ysgwyd ei ben.}
 
(Dafydd) Na.
(1, 0) 99 Wel mâs â hi.
(Dafydd) Pregethwr!
 
(Dafydd) Pregethwr!
(1, 0) 101 Pregethwr!
(Dafydd) Bugel Methodist.
 
(Dafydd) Bugel Methodist.
(1, 0) 103 Bugel Methodist!
(1, 0) 104 Bugel Methodist!
(1, 0) 105 Ystyria, Dafydd, 'y machgen i.
(1, 0) 106 Ystyria.
(1, 0) 107 'Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd.
(1, 0) 108 Paid a thwyllo hen ŵr!
(Dafydd) 'Dwy ddim yn ych twyllo chi.
 
(Dafydd) 'Row'n i'n fugel Methodist wythnos yn ôl.
(1, 0) 111 Wythnos yn ôl?
(Dafydd) Wythos yn ôl.
 
(Dafydd) Wythos yn ôl.
(1, 0) 113 Dim erioed!
(Dafydd) O'wn wir.
 
(Dafydd) O'wn wir.
(1, 0) 115 Wel, alli di ddim mynd yn ôl 'na?
(Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ôl.
 
(Dafydd) 'Dwy ddim am fynd yn ôl.
(1, 0) 120 Dafydd, fy mab.
(1, 0) 121 Dafydd, Dafydd.
(1, 0) 122 Pan na fyset ti'n 'i phriodi hi?
(Dafydd) Eh!
 
(Dafydd) Be' … be' chi'n feddwl?
(1, 0) 125 Pam na fyset ti'n 'i phriodi hi, Dafydd.
(1, 0) 126 Lodes ffein o'dd y lodes.
(1, 0) 127 Ddylet ti ddim o'i gadel hi.
(Dafydd) Na.
 
(Dafydd) 'Rych chi'n hollol mâs o'ch lle.
(1, 0) 130 Odw i?
(Dafydd) Odych.
 
(Dafydd) 'Drychwch 'ma, leicech chi ddim bod yn bregethwr, leicech chi?
(1, 0) 133 Pam na leicwn i, Dafydd?
(1, 0) 134 Pam na leicwn i?
(1, 0) 135 O, Dafydd, Dafydd!
(1, 0) 136 Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle.
 
(1, 0) 138 Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D.
(1, 0) 139 Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf!
(1, 0) 140 Pregethir yn nghyfarfod yr hwyr gan y Parch Malachi Jones, B.A., B.D.
(1, 0) 141 Malachi Jones o Gapel Seion!
 
(1, 0) 143 Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad?
(1, 0) 144 Malachi Jones!
(1, 0) 145 Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch?
(1, 0) 146 Malachi Jones!
(1, 0) 147 Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid?
(1, 0) 148 Pwy ond yr Hen Falachi?
(Dafydd) Ie, dyna'r ochor ych chi'n weld ohoni.
 
(1, 0) 151 Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys,
(1, 0) 152 Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
(1, 0) 153 Lle'r eistedda'r pererinion
(1, 0) 154 Ar eu ffordd i'r nefol fyd.
(1, 0) 155 ~
(1, 0) 156 Ie, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd.
(1, 0) 157 Chwi'r oedrannus sydd om blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau.
(1, 0) 158 Beth am dani, mhobol i?
(1, 0) 159 Beth am gysgodau'r palmwydd?
(1, 0) 160 Deuwch gyda mi.
(1, 0) 161 Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i gallon friw i orffwys – dan gysgodau'r palmwydd clyd!
 
(1, 0) 163 Wyddost ti, neud sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu.
(1, 0) 164 Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr oedfa cyn pen hanner awr.
(1, 0) 165 Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!
(Dafydd) Gyfaill, mi flinech yn gynt nag y meddyliech chi.
 
(Dafydd) Mi flines i arni.
(1, 0) 168 Blino ar beth?
(Dafydd) Blino ar fyw'n respectabl … respectabl …respectabl!
 
(Dafydd) Mae capeli'r ganrif hon yn farw gelain.
(1, 0) 179 Yn farw gelain?
(1, 0) 180 Beth ddigwyddodd?
(Dafydd) Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn.
 
(Dafydd) Mi dreies yn ddigon gonest, ond 'rown i'n rhoi gormod o shocks i'r saint – a ma' gwaith neyd hynny y dyddie hyn.
(1, 0) 182 O be' wnest ti i'w dihuno?
(Dafydd) O llawer o bethe.
 
(Dafydd) Ma' dyn yn mynd yn rebel gyda amser.
(1, 0) 185 A beth o'n nhw'n gweud te?