Pobun

Ciw-restr ar gyfer Angau

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Duw) Dyred ger fy mron.
(0, 1) 26 Hollalluog Arglwydd, wele fi yma, wrth dy ewyllys yr af fel dy gennad.
(Duw) Dos di at Bobun a dywed wrtho yn fy enw i mai rhaid iddo gychwyn ar bererindod ar yr awr a'r dydd hwn, ac nad gwiw iddo ei ysgôi.
 
(Duw) A phar iddo ddwyn gydag ef ei lyfr cyfrif, ac na cheisied nac oedi na phetruso.
(0, 1) 29 Arglwydd, af drwy'r holl fyd ac ymwelaf â hwy, fawr a mân, y sawl nid adwaeno gyfraith Dduw ac a syrthiodd yn is na'r bwystfilod.
(0, 1) 30 Y sawl a droes ei galon at bethau daearol, mi a roddaf iddo ergyd fel y pylo ei lygaid ac na chaffo hyd i borth y Nef, oni bo elusen a thosturi o'i du ac yn barod i'w gymorth.
(Pobun) {Yn dyfod allan o'i dŷ, a gwas yn ei ganlyn.}
 
(Pobun) Ni cherdd ar wyneb daear ei debyg o ddyn.
(0, 5) 533 Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd?
(0, 5) 534 A lwyr anghofiaist ti dy grewr?
(Pobun) Paham y gofynni hynny yn awr?
 
(Pobun) Pa beth a fynni?
(0, 5) 539 Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf.
(Pobun) Sut?
 
(Meistres Pobun) Cymorth, Arglwydd Waredwr!
(0, 5) 547 Er na roi di iddo Ef ond ychydig barch, yn ei nefoedd fry fe'th gofia Ef, ym mha wedd, gwneir hynny'n hysbys iti yn y man.
(Pobun) {A'i olwg i lawr.}
 
(Pobun) Pa beth a fyn fy Nuw gennyf i?
(0, 5) 550 Mi ddywedaf iti.
(0, 5) 551 Cyfrif, dyna a fynn gennyt, heb oedi!
(Pobun) Nid wyf i mewn modd yn y byd yn barod i fedru rhoi cyfrif felly.
 
(Pobun) Nid adwaen i mohonot ychwaith—pa gennad ydwyt ti?
(0, 5) 555 Dyma fì, Angau!
(0, 5) 556 Nid ofnaf undyn.
(0, 5) 557 Dof at bawb.
(0, 5) 558 Nid arbedaf neb.
(Pobun) [Beth?
 
(Pobun) Gad lonydd imi, drwy drugaredd Dduw, gael imi roddi trefn ar amgylchiadau.]
(0, 5) 566 [Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.]
(Pobun) O Dduw trugarog ar d'orsedd yn y nef, tosturia wrthyf yn fy nghyfyngder.
 
(Pobun) Ai rhaid i mi fynd o'r byd hwn heb un i'm tywys, mi, na byddwn yma byth ar fy mhen fy hun, ond y byddai raid i mi bob amser gael cymdeithion?
(0, 5) 570 Dyma ben ar bob cymdeithas, ni waeth i ti heb wasgu dwylaw'n ofer.
(0, 5) 571 Brysia, rhaid i ti'n awr fynd o flaen gorsedd Dduw, yno, fe gei dy gyflog.
(0, 5) 572 [Ai tybio'r oeddit yn d'ynfydrwydd mai at dy wasanaeth di dy hun y rhoed iti dda'r byd hwn, yn gystal a'th einioes dy hun?]
(Pobun) Felly yn wir y meddyliwn.
 
(Pobun) Felly yn wir y meddyliwn.
(0, 5) 574 [Nid felly; nid oedd y cwbl ond echwyn i ti; wedi dy fynd ti ymaith, eiddo arall fydd y cwbl, ac wedi ennyd, tery ei awr yntau yn ei dro, a rhaid iddo adael y cwbl a mynd.]
(0, 5) 575 Chwyrn y byddaf i'n dyfod.
(Pobun) [Dim ond un diwrnod! Dim ond heno, hyd godiad haul, fel y gallwyf drwy edifarhau fynd i mewn i mi fy hun a gwrando ar ddysg yr offeiriad a'm gwneud fy hun yn well, fel y mynnit ti.]
 
(Pobun) [Dim ond un diwrnod! Dim ond heno, hyd godiad haul, fel y gallwyf drwy edifarhau fynd i mewn i mi fy hun a gwrando ar ddysg yr offeiriad a'm gwneud fy hun yn well, fel y mynnit ti.]
(0, 5) 577 [Ni allaf i ganiatáu mo hynny.
(0, 5) 578 Pan fyddaf i'n dyfod wyneb yn wyneb â dyn, rhof ergyd chwyrn i'w galon, ac ni bydd rybudd ymlaen llaw.]
(Pobun) Gwae fi, daeth amser wylo arnaf!
 
(Pobun) Gwae fi, daeth amser wylo arnaf!
(0, 5) 580 Ni bydd wylo ond gwastraffu amser.
(Pobun) Gwae fi, pa beth a wnaf?
 
(Pobun) Pe na bai i mi ond rhyw orig fach yn rhydd i gael hyd i ryw gydymaith, fel na byddai raid i mi fod o flaen fy marnwr ar fy mhen fy hun yn unig.
(0, 5) 583 Ai tybio'r wyt ti y gellit ddyfod o hyd i rywun o'r fath?
(0, 5) 584 O'm rhan fy hun, rhof iti fy ngair mai gwrthod y gymwynas a wnai pawb.
(Pobun) Dim ond na bawn yn unig yn y farn honno!
 
(Pobun) Dim ond orig i gael ymddiddan a chyngor, er mwyn tosturi Crist!
(0, 5) 587 O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion.
(Pobun) {Gan droi at ei gydymaith.}
 
(Goruchwyliwr) Dacw fo'n dyfod tuag atom yn ei rym a'i lid.
(0, 8) 785 Ti ynfyd, buan yr aeth dy awr drosodd, ac ni ddysgaist tithau eto ddim doethineb.
(0, 8) 786 Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun.