Pobun

Ciw-restr ar gyfer Cydymaith

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Pobun) Awn yn awr at borth y dref i edrych y darn tir, gael i ni weld a dalo at wneud gardd bleser.
(0, 2) 66 Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd.
(0, 2) 67 Y mae'r moddion gennyt, felly dyna ben.
(Cymydog Tlawd) Dyma dŷ'r gŵr goludog, Pobun.
 
(0, 2) 71 le, fel y dywedwyd, rhaid i ni frysio, nid gwiw i ni oedi'n hwy.
(Cymydog Tlawd) {Gan godi ei law yn erfyngar.}
 
(0, 2) 75 A adwaenost ti'r creadur yna?
(Pobun) Myfi?
 
(Pobun) Dim ond hynny?
(0, 2) 95 Mae'r gŵr drwg yn ei groen!
(0, 2) 96 Byddai miloedd o fegeriaid ar dy warthaf di—beth, miloedd?
(0, 2) 97 Cannoedd o filoedd!
(Cymydog Tlawd) Yr wyt ti'n gyfoethog dros fesur.
 
(Pobun) Pwy roes gennad i ti sôn am fy nghistiau, fy rhenti a'm llogau i?
(0, 2) 102 O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth!
(Pobun) {wrth y Cydymaith.}
 
(Pobun) Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran.
(0, 2) 122 Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth.
(0, 2) 123 Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth!
(Pobun) Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau.
 
(Pobun) Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau.
(0, 2) 126 Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes?
(0, 2) 127 Mynd ag ef i garchar am ei ddyled, ond odid.
(0, 2) 128 Buasai well iddo edrych ati'n amgenach.
(0, 2) 129 Rhaid iddo bellach feddwl am fara a dŵr, neu ymgrogi wrth ryw hoel neu gilydd.
(0, 2) 130 Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion!
(Dyledwr) Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg.
 
(Pobun) Os drwg dy sut wyt ti, beth a allaf i wrth hynny?
(0, 2) 139 Beth?
(Dyledwr) Gair digon ysgafn am ergyd drom.
 
(Dyledwr) Gair digon ysgafn am ergyd drom.
(0, 2) 141 Beth!
(Pobun) Pwy roes ergyd i ti?
 
(Pobun) Beth?
(0, 2) 148 Beth!
(Dyledwr) Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar.
 
(Pobun) Arian, fel pob masnach arall, y mae arian dan gytundeb a thegwch.
(0, 2) 167 Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen.
(Gwraig y Dyledwr) Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw.
 
(Dyledwr) [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.]
(0, 2) 176 [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.]
(Pobun) Cymer y ddysg hon gennyf i—gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeisiodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fan-werthu salw, daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch, a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan, [fel y gallo yn ei ffordd gynhyrchu ac achosi llawer o bethau].
 
(Pobun) Mi rof yr ardd bleser a'r tŷ pleser ynddi yn rhodd i'm meistres ar ben eì blwydd eto.
(0, 2) 206 Honno y caf i dy weled gyda hi heno?
(0, 2) 207 Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys.
(Pobun) Llawer o ddiolch i ti, gydymaith da, mae awydd arnaf am brysuro yno—dyna'r unig fan yn y byd na bydd ynddo ddim yn andwyo fy mhleser; rhyw wynfyd cwbl baradwysaidd yw'r croeso parod a gaf ganddi hi.
 
(Pobun) Am hynny, f'ewyllys yw bod pa beth bynnag a ddygaf yn rhodd iddi hi yn dangos fy niolchgarwch iddi megis mewn drych.
(0, 2) 210 Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull?
(Pobun) Trefnais yr ardd gyda gofal, a bod tŷ pleser i fod yn ei chanol, a'r gwaith yn union wrth fy mryd fy hun, megis llwyfan agored, a cholofnau teg o faen yno, a dwfr yn neidio i'r awyr a delwau pres na bont yn ôl am un addurn; ac yno hefyd, gosod y gwelâu fel y bo arogleuon blodau o lawer math yn llenwi awel y bore a'r hwyr, lilîau, rhosynnau a lafant.
 
(Pobun) At hynny, mewn rhyw lannerch gudd, megis gwely y ryw dduwies, mi fynnaf gael ystafell o faen llyfn caboledig, a bâdd ynddi.
(0, 2) 214 Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg.
(Pobun) Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr].
 
(Pobun) Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr].
(0, 2) 216 Mi welaf dy fam yn dyfod draw.
(0, 2) 217 Afynni di gyfarfod â hi yma?
(Pobun) Ni fynnwn ei hysgói hi, ond yn wir nid oes imi ond ychydig amser.
 
(Pobun) Ni byddaf ddedwydd byth eto tra bwyf!
(0, 4) 498 Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw,
(Meistres Pobun) Pobun!
 
(0, 4) 517 Dy dwyllo y mae dy glust.
(0, 4) 518 Y mae golwg drwg arnat.
(0, 4) 519 A gaf i d'arwain di i'r tŷ.
(Pobun) Pan drof fy ngolwg atoch, daw fy nerth yn ôl i mi, [hynny yw, ni allai'r fath gri ddigwydd ddwywaith yma.
 
(Pobun) F'annwyl gydymaith, fe wyddost, fe wyddost—
(0, 6) 591 Gwn.
(0, 6) 592 [Nid oeddwn bum cam oddi wrthyt, pan ddaeth Angau tuag atat, Pobun, ac fe glywais yr ymddiddan oll.
(0, 6) 593 Yr oedd fy nghalon yn neidio i'm gwddf!
(0, 6) 594 Dyn llawen, cyn iached â'r gneuen, oeddit ti hyd yr awr hon.]
(0, 6) 595 Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith.
(Pobun) Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith.
 
(Pobun) Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith.
(0, 6) 597 Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen.
(Pobun) [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.]
 
(Pobun) [Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.]
(0, 6) 599 [Ac felly y'm cei bob amser hefyd.
(0, 6) 600 A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.]
(Pobun) [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.]
 
(Pobun) [Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.]
(0, 6) 602 [Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.]
(Pobun) Fy nghyfaill!
 
(Pobun) Fy nghyfaill!
(0, 6) 604 Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da.
 
(0, 6) 606 Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf.
(0, 6) 607 Pa beth bynnag o faterion y byd hwn sy'n poeni dy galon di, mi edrychaf atynt ar dy ran yn ffyddlon.
(0, 6) 608 [Dywed, a wnaeth rhywun gam dro â thi?
(0, 6) 609 Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.]
(Pobun) Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr!
 
(Pobun) Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr!
(0, 6) 611 'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd.
(Pobun) [Nac wyf, gyfaill, nac wyf!
 
(Pobun) [Nac wyf, gyfaill, nac wyf!
(0, 6) 613 [Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi.
(0, 6) 614 Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.]
(Pobun) [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf]
 
(Pobun) [Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf]
(0, 6) 616 [Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.]
(Pobun) Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl.
 
(Pobun) Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl.
(0, 6) 618 [Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.]
(Pobun) [Ie, tydi, fy nghyfaill.]
 
(Pobun) [Ie, tydi, fy nghyfaill.]
(0, 6) 620 [Onid egluri di i mi?
(0, 6) 621 Efallai nad erys i ti lawer o amser.]
(Pobun) [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.]
 
(Pobun) [Och fi! peth chwerw fyddai hynny.]
(0, 6) 623 [Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun.
(0, 6) 624 Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?]
(Pobun) [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!]
 
(Pobun) [Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!]
(0, 6) 626 [Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.]
(Pobun) [Taled Duw i ti.]
 
(Pobun) Am hynny, dyred gyda mi, fy nghydymaith ffyddlon, fel yr addewaist eisoes.
(0, 6) 632 Ie, ie.
(0, 6) 633 [Dyna'r peth.
(0, 6) 634 Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth.
(Pobun) O, dydi!]
 
(Pobun) O, dydi!]
(0, 6) 636 Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da.
(Pobun) Beth!
 
(Pobun) Dywedaist wrthyf eisoes na throit mo'th gefn arnaf nac yn fyw nac yn farw, hyd yn oed ped ai'r ffordd ar ei hunion i uffern.
(0, 6) 639 Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir!
(0, 6) 640 Ond, a dywedyd y gwir, nid dyma'r amser i ysmalio felly.
(0, 6) 641 Pe cychwynnem ar y daith, pa bryd y deuem drachefn yma?
(0, 6) 642 Ha, dyro ateb?
(Pobun) Ni ddoem yma mwy.
 
(Pobun) Ni ddoem mwy hyd ddydd barn.
(0, 6) 645 Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma.
(0, 6) 646 Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith.
(Pobun) Nid ei di?
 
(Pobun) Nid ei di?
(0, 6) 648 Nid af.
(0, 6) 649 Os felly y saif, arosaf yma.
(0, 6) 650 [Dywedaf wrthyt beth sydd yn fy meddwl.
(0, 6) 651 Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.]
(Pobun) Yn enw Duw!
 
(Pobun) Peth arall a addewaist i mi!
(0, 6) 654 Da gwn.
(0, 6) 655 Ac addewais yn eithaf cywir.
(0, 6) 656 A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif.
(Pobun) O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly.
 
(Pobun) O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly.
(0, 6) 659 Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi.
(Pobun) 'Rwy'n erfyn arnat, gwna gymaint â hynny er mwyn tosturi Crist, a dyred i'm canlyn hyd at borth y ddinas.
 
(0, 6) 662 Ni ddof ddim, [ni rof droed o flaen y llall am bris yn y byd.
(0, 6) 663 Pe bai gennyf ychydig amser, ni adawn iti fod ar dy ben dy hun, ond yn awr ni allaf aros gyda thi.
 
(0, 6) 665 Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd.
(Pobun) [{gan roi cam ar ei ôl.}
 
(Pobun) A adewi di fi yn llwyr?]
(0, 6) 669 [Yn llwyr, lwyr.
(0, 6) 670 Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.]
(Pobun) Da boch, fy nghyfaill, y mae fy nghalon yn friw o'th achos di.
 
(Pobun) Da boch bob pryd, ni welaf i monot fyth eto.
(0, 6) 673 Da boch dithau, Pobun, da boch.
(0, 6) 674 Dyro i mi dy law.
(0, 6) 675 Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr.