Pobun

Ciw-restr ar gyfer Dyledwr

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Cydymaith) Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion!
(0, 2) 131 Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg.
(Pobun) I bwy y mae'r ergyd yna?
 
(Pobun) I bwy y mae'r ergyd yna?
(0, 2) 133 I'r sawl sy'n holi.
(Pobun) Nid wyf yn deall monot.
 
(Pobun) Ni wn i ddim am bwy yr wyt ti'n fy nghymryd.
(0, 2) 136 Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen.
(Pobun) Dyna air caled i mi heb achos.
 
(Cydymaith) Beth?
(0, 2) 140 Gair digon ysgafn am ergyd drom.
(Cydymaith) Beth!
 
(Pobun) Pwy roes ergyd i ti?
(0, 2) 143 Ti dy hun, ac un drom.
(Pobun) [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.]
 
(Pobun) [Nid adwaen i monot wrth d'olwg.]
(0, 2) 145 [Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.]
(Pobun) Peth rhyfedd fyddai fy mod yn gwneud hynny ac heb wybod dim am y peth.
 
(Cydymaith) Beth!
(0, 2) 149 Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar.
(Pobun) [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?]
 
(Pobun) [Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?]
(0, 2) 151 [Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.]
(Pobun) 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth.
 
(Pobun) 'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth.
(0, 2) 153 [Gweision dy weision, efallai, sy'n rhoi trais arnaf, gorff a meddwl.
(0, 2) 154 Ond ti dy hun yw'r gŵr sy tu cefn i'r peth, a bydd yn warth arnat yn awr ac am byth.]
(Pobun) [Pwy a barodd iti fenthyg arian ar lôg?
 
(Pobun) Amser wedi mynd heibio, dydd wedi darfod—dwg dy gŵyn yn eu herbyn hwy.]
(0, 2) 159 [Dyma fo'n dirmygu ac yn gwawdio f'angenoctyd i.
(0, 2) 160 Dyna ŵr cyfoethog i chwi.
(0, 2) 161 Ni ŵyr ei galon ddim am orchymyn Duw.
(0, 2) 162 Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.]
(Gwraig y Dyledwr) Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed!
 
(Gwraig y Dyledwr) Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw.
(0, 2) 169 Arian?
(0, 2) 170 Nid yw arian fel pob masnach arall; peth melltigedig a llawn hudoliaeth yw; y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian.
(Pobun) Yr wyt yn cablu fel ynfytyn noeth!
 
(Pobun) Wrth fwrw dirmyg arno cyffelyb wyt i'r cadno a'r grawn surion; a'r sawl a ddifenwo unpeth yn ei gefn, ni chaiff hwnnw neb a'i credo ar ei air.
(0, 2) 175 [O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.]
(Cydymaith) [Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.]
 
(0, 2) 185 Pa beth a dâl dy ddagrau, fy ngwraig druan?
(0, 2) 186 Dyma fi yng nghrafanc Mamon.
(0, 2) 187 Paham yr ymroddais innau iddo erioed?
(0, 2) 188 Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw.