Pobun

Ciw-restr ar gyfer Ffydd

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(0, 11) 952 Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di?
(Pobun) 'Rwy'n credu, yn credu.
 
(Pobun) 'Rwy'n credu, yn credu.
(0, 11) 954 Truan o leferydd!
(Pobun) O, trugarhaed Duw!
 
(Pobun) Rwy'n credu, 'rwy'n credu.
(0, 11) 959 Darn go druan o Ffydd yw hynny.
(0, 11) 960 Ni chyfyd hynny iti bont i groesi drosodd.
(0, 11) 961 Oni wyddost ti am beth gwell?
(Pobun) [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.]
 
(Pobun) [Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.]
(0, 11) 963 [{Gan gymryd cam yn nes ato.}
(0, 11) 964 A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?]
(Pobun) Credaf—
 
(Pobun) Credaf—
(0, 11) 966 A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw?
(Pobun) Credaf!
 
(Pobun) Ond gwelwch, dyma fy ngweithredoedd i: y mae fy mhechodau yn un mynydd mor drwm yn gorwedd arnaf fel na all Duw roi gras i mi, gan mai efô yw'r perffaith gyfiawn.
(0, 11) 971 Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw?
(Pobun) Ofnadwy yw cosb Duw!
 
(Pobun) Ofnadwy yw cosb Duw!
(0, 11) 973 Fe faddau Duw'n ddifesur!
(Pobun) Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd!
 
(Pobun) Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd!
(0, 11) 975 Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol.
(0, 11) 976 "Er mwyn Pechadur y deuthum i, nid rhaid i'r iach wrth feddyg"; daeth y geiriau o'r genau na allai ddywedyd celwydd.]
(0, 11) 977 Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw.
(Pobun) O, y mae deiriau'n dyner; yr wyf fel pe'm ail-enid.
 
(Pobun) Credaf, cyhyd ag yr anadlaf ar y ddaear, y byddaf gadwedig drwy Grist.
(0, 11) 980 Daeth yr awr.
(0, 11) 981 Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau.
(Pobun) [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?]
 
(Pobun) [Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?]
(0, 11) 984 [Mae cymorth da yn disgwyl amdanat.
(0, 11) 985 Drwy ei wasanaeth ef bydd d'enaid yn lân.
(0, 11) 986 Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.]
(Pobun) [{Ar ei liniau.}
 
(Gwas 1) Y mae'r amser yn mynd, y mae'r wawr yn torri eisoes.
(0, 13) 1014 Pobun, Duw gyda thi!
(0, 13) 1015 A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall.
 
(0, 13) 1017 Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr.
(Gweithredoedd Da) Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych.
 
(Pobun) [O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.]
(0, 13) 1020 [Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.]
(Pobun) [Am hynny ni cheisiaf i nac oedi nacaros.]
 
(Diawl) Feallai y bydd raid i mi aros yn hir—bydded! nid wy'n ofni dim amdano,] eiddof i ydyw yn groen ac yn flew, cyn sicred ag y bu neb erioed.
(0, 13) 1036 [Saf yna!]
(Diawl) [{Heb glywed.}
 
(Diawl) Rhaid mynd y ffordd yma.]
(0, 13) 1039 [Nid yma!]
(Diawl) [Yn sicr, neges gennyf yma.]
 
(Diawl) [Yn sicr, neges gennyf yma.]
(0, 13) 1041 ['Does yma ddim lle i'th debyg di.]
(Diawl) [Benyw gwerylgar!
 
(0, 13) 1046 Nid oes yma ffordd!
(Diawl) Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig.
 
(Diawl) Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig.
(0, 13) 1048 Nid ymddiddanaf â thi.
(Diawl) Na mi â thithau, af y ffordd acw.
 
(Diawl) Bydd yma ffordd ar unwaith!
(0, 13) 1062 A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi?
(0, 13) 1063 Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni!
(Diawl) Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?]
 
(Diawl) A hynny a hawl a chyfiawnder o'm plaid i?
(0, 13) 1078 Nid oes lawer o'th blaid di, ac yr wyt eisoes wedi colli 'r chwarae.
(0, 13) 1079 Bwriodd Duw i'r glorian ei aberth ei hun a'i angau loes, a thrwy hynny dilewyd dyledion Pobun dros byth.
(Diawl) Ers pa bryd?
 
(Diawl) [Os bydd un wedi rhoi ei fywyd a'i weithredoedd i ni yn unig, o fwriad ac amcan, faen ar faen ac o ddydd i nos, a dry peth cyson felly ar un amrantiad yn newydd?]
(0, 13) 1085 [Try, drwy ddwfn edifeirwch, sydd fel tân yn puro'r enaid oll.]
(Diawl) [Hai! chwedl gwrâch a rhagrith noeth!
 
(Diawl) Dygwch gymaint â gair a roddai i chwi un hawl arno ger bron barn!
(0, 13) 1093 Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..]
 
(0, 13) 1096 Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau.
(Diawl) {gan wasgu ei glustiau.}
 
(Gweithredoedd Da) Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.
(0, 14) 1127 Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus.
(Pobun) {Gan gau ei lygaid.}
 
(Pobun) Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd!
(0, 14) 1134 Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.
(Gweithredoedd Da) A deuaf innau gyda thi, Pobun.
 
(Pobun) Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.]
(0, 14) 1142 Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith.
(0, 14) 1143 Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto.
(0, 14) 1144 Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau.