Y Practis

Ciw-restr ar gyfer Tomos

(Jacob) Os na gynni di nawr, cer allan i gynllw'n a thi.
 
(1, 0) 119 Ah! Ma'r tan wedi'i gynneu, 'rwy'n gweld!
(1, 0) 120 Nos da, chi'ch dau,
(Jacob) Ydi — mae e' wedi'i gynneu, — ond 'does dim diolch â chi, William Tomos.
 
(Jacob) Ydi — mae e' wedi'i gynneu, — ond 'does dim diolch â chi, William Tomos.
(1, 0) 122 O, 'rwyt ti yma, wyt ti?
(Jacob) {Yn nesu ato.}
 
(1, 0) 126 Pwy all feddwl am beth bach dibwys felna, a'i ben yn llawn o'r gwaith sydd o'i flaen?
(1, 0) 127 Symudwch y blowar 'ma!
(Jacob) {Yn cymryd y blowar.}
 
(Jacob) Faint o amser fyddwch chi heno?
(1, 0) 134 Byddwn yma hyd ddiwedd y practis.
(Jacob) O!...
 
(Jacob) {Yn mynd i'r dde.}
(1, 0) 139 Ble ma'r lleill?
(Wil) Mae'n gynnar eto.
 
(Wil) Mae'n gynnar eto.
(1, 0) 141 Yn gynnar?
(Wil) Iddyn nhw, rwy'n feddwl.
 
(Wil) Iddyn nhw, rwy'n feddwl.
(1, 0) 143 Mae bron a bod yn hanner awr ar ol amser.
(1, 0) 144 Os na yn 'dyn nhw'n dod mewn pum munud...
 
(1, 0) 146 A.
(1, 0) 147 Dyma nhw.
(Winni) Beth am gael practis o flaen y tan heno, Mr. Tomos?
 
(Winni) Beth am gael practis o flaen y tan heno, Mr. Tomos?
(1, 0) 149 'Rarswyd!
(1, 0) 150 Na!
(1, 0) 151 Gwastraff amser — dim ond clebran a-a-a-a chlebran!
(1, 0) 152 Na, y llwyfan amdani!
(Twm) {Yn symud at y tan.}
 
(Twm) Symudwch, William Tomos, i ni gael y sêt 'ma o flaen y tan!
(1, 0) 161 Na, na!
(1, 0) 162 Does 'na ddim eistedd o flaen y tân i fod heno.
(Twm) Beth!
 
(Twm) Ond mae'n oer, William Tomos.
(1, 0) 166 Fe ddylset fod wedi brysio i'r practis, 'machgen i.
(1, 0) 167 Fe gei di dy wres yn ol 'nawr, wrth actio.
(Twm) Pum munud fach,
 
(Twm) Pum munud fach,
(1, 0) 169 Na, dim munud.
(1, 0) 170 Ma' 'na dros hanner awr wedi mynd yn barod.
(1, 0) 171 Os y'ch chi am eistedd wrth y tan — dewch yn gynnar,
(Harri) Clywch! Clywch!
 
(Harri) Wyt ti am wneud cawl o'r ddrama — trwy ei thynnu hi'n racs felna?
(1, 0) 184 Nawr, 'nawr, gwrandewch...
(Harri) Gadewch chi hyn i fi, William Tomos.
 
(1, 0) 203 Fôt?
(1, 0) 204 Beth gynllw'n sy' 'ma heno — lecsiwn?...
 
(1, 0) 206 'Falle y ca' i — fel yr awdur a'r producer — ddweud gair?
 
(1, 0) 209 Yr arswyd fawr!
(Twm) Be sy'?
 
(1, 0) 214 Yn-yn-yn wrong?
(Twm) 'Roedd e'n berffaith gen i 'rwythnos dwetha'.
 
(Twm) {Yn diflannu. y piano yn dechrau eto.}
(1, 0) 218 Taw, fachgen —
(1, 0) 219 T-t-taw.
 
(1, 0) 221 'Rwyt ti'n potsiach ar y piano 'na byth a beunydd.
(1, 0) 222 Rho dy feddwl ar y ddrama, wnei di?
(Twm) {Yn dod i'r golwg.}
 
(Twm) Ond 'rych chi heb ddechre eto.
(1, 0) 225 Dechre?
(1, 0) 226 Fydd 'na ddim shâp ar ddechre' tra byddi di'n pwnio'r perfedd allan o'r offeryn 'na.
(Twm) Yn Act II rwy' i'n dod i mewn.
 
(Twm) Yn Act II rwy' i'n dod i mewn.
(1, 0) 228 O, wyt ti'n meddwl chware emynau drwy y ddwy act gynta?...
(1, 0) 229 Ca'r piano 'nal!
 
(1, 0) 231 Wel, 'nawr te, falle y cawn ni ddechre'.
(1, 0) 232 Fe ddechreuwn gyda Act I.
(Harri) Exactly! Dyna beth 'row'n i...
 
(Harri) Exactly! Dyna beth 'row'n i...
(1, 0) 234 Dyna ddigon o dy glebran di!
(Harri) Ond, William Tomos...
 
(Harri) Ond, William Tomos...
(1, 0) 236 Un gair arall, a-a-a mi ddechreuaf gydag Act II!
 
(1, 0) 238 Ydy' pawb yma?
(1, 0) 239 Atebwch eich enwau.
(1, 0) 240 John Roberts!...
 
(1, 0) 242 Ti yw John Roberts, onid e'?
(Dic) Fi?
 
(Dic) Dic Huws yw fy...
(1, 0) 246 Nage, nage.
(1, 0) 247 Nid Dic Huws wyt ti 'nawr.
(1, 0) 248 Anghofia dy enw iawn.
(1, 0) 249 Cofia mai John Roberts wyt ti.
(1, 0) 250 'Rwyf am iti fyw y part — drwy'r dydd a phob dydd.
(1, 0) 251 Yn y gwaith, yn y ty — cymer ef i'r gwely gyda thi.
(Dic) {Yn syml.}
 
(Dic) 'Ry'm yn dri yn y gwely 'nawr.
(1, 0) 255 Tawelwch!...
(1, 0) 256 Paid a chellwair, 'machgen i!
(1, 0) 257 Dyma'r unig ffordd i roi portread teilwng o gymeriad.
(1, 0) 258 Byw y part!
(1, 0) 259 Cofia mai John Roberts wyt ti.
(1, 0) 260 Dyn pwysica'r dre' — dyn yn berchen miloedd o bunnau...
(Dic) O!
 
(Dic) O!
(1, 0) 262 Rhaid iti ddychmygu'r peth.
(Dic) Rhaid, wir.
 
(Dic) Rhaid, wir.
(1, 0) 264 A bydda i yma i dy helpu di.
(Dic) O! —
 
(Dic) Wel — y — beth am fenthyg swllt i ddechre'?
(1, 0) 268 Tawelwch!
(1, 0) 269 'Rarswyd fawr, ydi golygfa' fel yma yn destun chwerthin?
(1, 0) 270 Gwel'd bachgen mor hurt nes methu deall peth syml fel...
(Dic) Hei, William Tomos, llai o'r hurt 'na!
 
(Dic) Hei, William Tomos, llai o'r hurt 'na!
(1, 0) 272 Wyt ti yn deall, 'ta?
(Dic) Wrth gwrs 'mod i!
 
(Dic) Wrth gwrs 'mod i!
(1, 0) 274 Pam wyt ti'n ymddwyn fel hyn 'te?
(1, 0) 275 Does gyda ni ddim mumud i'w gwastraffu, a...
(Wil) Mr. Tomos!
 
(Wil) Mr. Tomos!
(1, 0) 277 Ie?
(Wil) Mae gen i awgrym.
 
(Wil) Mae gen i awgrym.
(1, 0) 279 Wel, cadw e'.
 
(1, 0) 283 Fy helpu i?...
(1, 0) 284 'Dwy i ddim am help neb!
(1, 0) 285 Nid dyma'r ddrama gynta' i mi drefnu.
(1, 0) 286 'Rwy'n gyfarwydd a'r gwaith o A i Z.
(1, 0) 287 'Rown i wedi sgrifennu drama cyn i dy eni di!
(Twm) Hon yw hi?
 
(Twm) Hon yw hi?
(1, 0) 289 Hon? Diain i!...
(Wil) Nawr, nawr, dim ond cael joc roedd e'.
 
(Wil) William Tomos, gwrandewch. 'Does 'na neb yma am eich helpu a'r trefnu a'r...
(1, 0) 293 Pwy yma all fy helpu?
(1, 0) 294 Y fi 'sgrifennddd y ddrama, a myfi, yn unig, sy'n i deall hi,
(Dic) Eitha reit.
 
(Dic) Eitha reit.
(1, 0) 296 Beth wyt ti'n feddwl?
(Wil) Dim, William Tomos bach — dim!
 
(Wil) 'Rych chi am wybod os yw pawb yma...
(1, 0) 300 Ydw.
(Wil) Wel, 'ma 'na chwech yn y cast, a ma' 'na chwech yma,
 
(1, 0) 303 O!
(Wil) Felly, 'does dim eisie galw'r enwau.
 
(Wil) Felly, 'does dim eisie galw'r enwau.
(1, 0) 305 Y... nagoes.
(Wil) Wel, beth am ddechre' te?
 
(Wil) Wel, beth am ddechre' te?
(1, 0) 307 Y... ie, dyna fe.
(1, 0) 308 Ma 'na lawer gormod o siarad 'ma.
(1, 0) 309 Act I i ddechre!
 
(1, 0) 311 'Nawr 'te, y ford yn y canol.
(1, 0) 312 'B'le ma'r ford?
(1, 0) 313 Dewch a hi mlaen.
(1, 0) 314 Dyna fe!
(1, 0) 315 Cadair fan yma — cadair fan yna — drws ar y dde —- drws ar y chwith — i ddechre.
(1, 0) 316 Ble ma' Marged?
(Winni) Dymo fi!
 
(Winni) {Pawb arall o'r golwg.}
(1, 0) 319 Yn eistedd wrth y ford.
(Winni) Fel hyn?
 
(Winni) Fel hyn?
(1, 0) 321 Nage, nage, — nid y fenyw drws nesa' sy' 'ma.
(1, 0) 322 Ond y chi, — perchen y ty a'r cyfan sydd ynddo.
(1, 0) 323 Eisteddwch ar y sêt i gyd — nid ar ei hymyl.
(1, 0) 324 John y Gwas!
(1, 0) 325 Wyt ti'n barod?
(Twm) {Yn dod i'r golwg ar y dde.}
 
(Twm) Ydw.
(1, 0) 328 Wyt ti wedi dysgu dy bart?
(Twm) Ydw.
 
(Twm) Ond, William Tomos, ma' 'na ran ohono sy'n swno'n od iawn.
(1, 0) 331 Yn od?
(1, 0) 332 Beth wyt ti'n feddwl?
(Twm) Wel... y... yn od, fel!
 
(Twm) Wel... y... yn od, fel!
(1, 0) 334 O!
(1, 0) 335 Er pryd wyt tì yn gritig ar ddrama?
(Twm) O... y... dim ond meddwl o'wn i , â...
 
(Twm) O... y... dim ond meddwl o'wn i , â...
(1, 0) 337 Gad di'r meddwl i fi, machgen i.
(1, 0) 338 Wyt ti wedi dysgu dy bart?
(Twm) Ydw.
 
(Twm) Ydw.
(1, 0) 340 Ymlaen a thi, 'te.
(Twm) Mae twm yn mynd o'r golwg.
 
(Twm) Mae twm yn mynd o'r golwg.
(1, 0) 342 'Nawr te, pawb yn barod?
(1, 0) 343 Marged yn eistedd wrth y ford!
(Twm) {Yn dod i mewn ac yn sefyll a siarad fel adroddwr.}
 
(Twm) Dyn tua'r hanner cant yw John, ac yn ei law...
(1, 0) 348 Be-be-be' ddwedaist di?
(Twm) Pam?
 
(Twm) Beth sy'?
(1, 0) 351 Be' ddwedaist ti?
(Twm) {Mewn llais ansicr.}
 
(Twm) Daw John y...
(1, 0) 355 Y nefoedd fawr!
(Twm) Ond mae e' yn y copi-bwc 'ma.
 
(Twm) Ond mae e' yn y copi-bwc 'ma.
(1, 0) 357 Beth sy' yn dy gopi-bwc di?
(Twm) Fy-fy-fy mhart i.
 
(1, 0) 360 Dy bart di?
(1, 0) 361 Ond y-y-y beth alla' i dy alw di?
(1, 0) 362 Nid dy bart di yw hwnna.
(Twm) Part pwy yw e', te.
 
(Twm) Fi sy'n siarad gynta'.
(1, 0) 365 Siarad gynta...
(1, 0) 366 Ond y —
(1, 0) 367 O'r arswyd! beth alla'i dy alw di?
(1, 0) 368 Nid part yw hwnna!
(Twm) O?
 
(Twm) Beth yw e' te?
(1, 0) 371 Stage directions! Stage directions!
(Twm) O! 'rwy'n gweld.
 
(Twm) Dyma'r tro cynta' i fi fod mewn drama.
(1, 0) 375 Ie, a'r olaf.
(1, 0) 376 Cer tua thre a phaid â...
(1, 0) 377 Na, aros.
(1, 0) 378 'Rwy wedi cael digon o drafferth yn barod i gasglu'r chwech ohonoch chi.
(1, 0) 379 Cer i dy le, a chofia, dwed dy bart, ac actia'r "stage directions".
(Twm) Rown i'n meddwl 'i fod e'n swnio'n od.
 
(Twm) Rown i'n meddwl 'i fod e'n swnio'n od.
(1, 0) 381 Ti oedd yn od, y ff... ff...
(1, 0) 382 Ond brysia, neu fe fyddwn yma drwy'r nos.
(1, 0) 383 Wyt ti'n deall nawr?
(Twm) Ydw.
 
(Twm) Ydw.
(1, 0) 385 Wel, ymlaen a thi, a thyrd i mewn eto.
(Twm) Reit.
 
(Twm) {Mynd.}
(1, 0) 388 A Marged, eisteddwch yn gartrefol, da chi!
(Winni) Ond, Mr, Tomos, 'falle y bydd i'n well imi wneud rhywbeth, hefyd.
 
(Winni) Ond, Mr, Tomos, 'falle y bydd i'n well imi wneud rhywbeth, hefyd.
(1, 0) 390 Gwneud rhywbeth?
(1, 0) 391 Beth y'ch chi'n feddwl?
(Winni) Wel... y... gwneud rhywbeth wrth eistedd yma.
 
(Winni) Wel... y... gwneud rhywbeth wrth eistedd yma.
(1, 0) 393 Gwneud beth?
(Winni) Wel... y... gwau, neu...
 
(Winni) Wel... y... gwau, neu...
(1, 0) 395 O, ma' pawb yn gwau mewn drama Gymraeg.
(1, 0) 396 Fe fydd yn ychydig o newid i weld menyw yn eistedd yn llonydd, John!
 
(1, 0) 398 John!!
(Twm) Mi fydda i na nawr.
 
(Twm) Mi fydda i na nawr.
(1, 0) 400 Be' gynllw'n wyt ti wneud?
(Twm) Ma' bys Dic Huws yn dost, ac ma'r bandage wedi...
 
(Twm) Ma' bys Dic Huws yn dost, ac ma'r bandage wedi...
(1, 0) 402 Ond nid gwas Dic Huws wyt ti.
(Twm) Rwyf bron a gorffen.
 
(Twm) Rwyf bron a gorffen.
(1, 0) 404 A myn brain i, rwy innau bron a gorffen hefyd!
(1, 0) 405 Os nad wyt ti'n dod, 'rwy i'n mynd.
(Winni) Mynd, Mr, Tomos?
 
(Winni) Mynd, Mr, Tomos?
(1, 0) 407 Ydw, mor wired a mod i'n sefyll fan yma.
(1, 0) 408 Rwyf wedi cael digon ar y ffolineb 'ma, a...
(Wil) {Yn dod o'r chwith.}
 
(Wil) Nawr, nawr, William Tomos, nid felna...
(1, 0) 411 Ca' dy geg, a cher nol i dy le!
(1, 0) 412 Rwy o ddifrif.
(1, 0) 413 Nid chwarae drama sy' 'ma, ond chware plant bach.
(Twm) {Yn dod o'r dde.}
 
(Twm) Rwy'n barod nawr.
(1, 0) 416 O, wyt ti? Wel, ti elli aros i mi 'nawr.
 
(1, 0) 418 Ai dyma'r ffordd i wneud cyfiawnder a'r ddrama 'ma?
(1, 0) 419 Mae chware drama yn golygu gwaith, a gwaith caled, ac os nad i chi yn barod i weithio mi a i oddi yme i rywle lle y caiff y ddrama chware teg!
(Winni) Ond, Mr. Tomos...
 
(Winni) Ond, Mr. Tomos...
(1, 0) 421 Fi sy'n siarad nawr.
(1, 0) 422 Dyma rybudd i chi: os na 'dych chi'n gwella, rwy'n mynd.
(1, 0) 423 Fe wn am gwmni fydd yn falch ohonof!
(Wil) William Tomos!
 
(Wil) William Tomos!
(1, 0) 425 Rwy'n dweud y gwir.
(Twm) Pwy y'n nhw?
 
(Twm) Pwy y'n nhw?
(1, 0) 427 Fy musnes i yw hynny, ond dyn nhw ddim can milltir oddi yma, a ma' 'na groese cynnes yn fy aros.
(Wil) Wel, wrth gwrs, William Tomos, so 'dych chi am fynd...
 
(Wil) Wel, wrth gwrs, William Tomos, so 'dych chi am fynd...
(1, 0) 429 Pwy sy'n siarad am fynd?
(1, 0) 430 Rhoi rhybudd wnes i.
(1, 0) 431 'Nawr te, ydych chi'n addo gwella?
 
(1, 0) 433 Wel?
(Lleisiau) {Yn dawel.}
 
(Lleisiau) Ydym.
(1, 0) 436 O'r gore.
(1, 0) 437 Ymlaen a ni, ond cofiwch, dim rhialtwch!
(1, 0) 438 John, i dy le, a dechre' eto.
(1, 0) 439 Marged, barod?
(Winni) Ydw.
 
(Winni) Ydw.
(1, 0) 442 Nawr te.
(Twm) {Yn dod i mewn ac yn sefyll wrth y drws.}
 
(Winni) O, — llythyr.
(1, 0) 449 O, llythyr?
(1, 0) 450 Yn enw popeth, Marged, sawl gwaith y dydd byddwch chi'n cael llythyr?
(Winni) Be-beth y'ch chi'n feddwl?
 
(Winni) Be-beth y'ch chi'n feddwl?
(1, 0) 452 Rhowch groeso i'r llythyr, ferch.
(1, 0) 453 Nid bil yw e.
(1, 0) 454 O! llythyr!
(1, 0) 455 Unwaith eto.
(Twm) Mistres! Dyma lythyr!
 
(Twm) Mistres! Dyma lythyr!
(1, 0) 457 Nid y ti — nid y ti — y — y.
(1, 0) 458 O! beth alla i dy alw di?
(1, 0) 459 Beth yw'r llythyr i ti?
(1, 0) 460 I Marged ma'r llythyr.
(Twm) O, yn-yn dawel, iefe?
 
(Twm) O, yn-yn dawel, iefe?
(1, 0) 462 Ie, yn dawel.
(1, 0) 463 Bydd yn olreit.
(1, 0) 464 Cofia mai gwas wyt ti.
(1, 0) 465 Yn gweiddi felna.
(1, 0) 466 Nid 'i —'i gwr hi wyt ti.
(Twm) Mistres.
 
(Winni) O! Llythyri
(1, 0) 471 Dyna welliant,
(Twm) Pwy?
 
(1, 0) 474 Pwy?
(Twm) Ie.
 
(Twm) Pwy sy'n well?
(1, 0) 477 Yr arswyd fawr!
(1, 0) 478 Cer ymlaen a'r ddrama.
(Twm) Gwnaf, gwnaf; ond byddwn yn falch cael clywed os ydwy'n gwella,
 
(Twm) Gwnaf, gwnaf; ond byddwn yn falch cael clywed os ydwy'n gwella,
(1, 0) 480 Edrych yma.
(1, 0) 481 Dyma'r tro cynta i ti fod mewn drama.
(Twm) Ie.
 
(Twm) Ie.
(1, 0) 483 Gwna'n fawr o'r cyfle yma.
(Twm) Pam?
 
(Twm) Pam?
(1, 0) 485 Fe gei di weld paml
(Twm) Pryd?
 
(Twm) Pryd?
(1, 0) 487 Y nefoedd fawr!
(1, 0) 488 Glywsoch chi'r fath beth erioed.
(1, 0) 489 Pob tro rwy'n agor fy ngheg, ma' — ma' — ma' hwn yn gosod i droed ynddo!
(1, 0) 490 Cer 'nol i dy le, a dechre eto!
(Twm) Mistres.
 
(Twm) Wel, 'nawr ces i e.
(1, 0) 499 Beth ddwedais di?
(Twm) O... y... y...
 
(Twm) O... y... y...
(1, 0) 501 Ydi hwnna yn dy gopi-bwc di?
(Twm) Nagyw, ond mae'n — mae'n joc go dda.
 
(Twm) Nagyw, ond mae'n — mae'n joc go dda.
(1, 0) 503 O! joc, iefe?
(1, 0) 504 Be' sy' gan y ddrama i wneud a jokes?
(1, 0) 505 Dyna pam y mae'r ddrama Gymraeg mor wael ei safle heddiw; meddwl mai dim ond jokes sydd eisie!
(1, 0) 506 I'r cythraul a'r jokes!
(1, 0) 507 Beth sy' yn dy lyfr di?
(Twm) Wel — wel.
 
(Twm) Wel — wel.
(1, 0) 509 Dwed e, te.
(Twm) Wel — wel.
 
(Twm) Wel — wel.
(1, 0) 511 Nawr te, Marged.
(Winni) O ble, Mr. Tomos?
 
(Winni) O ble, Mr. Tomos?
(1, 0) 513 O'r "Wel, wel".
(1, 0) 514 Rho'r llythyr iddi, John,
(Winni) Diolch, John, ond cofiwch, — dim gair am hyn —- wrth neb.
 
(Winni) Diolch, John, ond cofiwch, — dim gair am hyn —- wrth neb.
(1, 0) 517 Robert Bifan, wyt ti'n barod?
(Wil) {O'r golwg.}
 
(Wil) Ydw.
(1, 0) 520 Nawr, Marged,
(Winni) John... Gwrandewch!
 
(Twm) Oes, mae'n debyg.
(1, 0) 533 Yn enw pob synnwyr, pam y chwerthin 'ma?
(Wil) Y joc, William Tomos!
 
(Wil) Lled dda, wir; ma' honna'n good; fe aiff hi fel fflam.
(1, 0) 537 Ond-ond pa joc?
(1, 0) 538 Wela i ddim joc.
(Wil) Ond fe ddwedodd John...
 
(Wil) Ond fe ddwedodd John...
(1, 0) 541 Fe ddwedodd, "Oes, mae'n debyg" — dyna i gyd.
(1, 0) 542 Mae'n glir i bawb, mi obeithiaf, fod gan Marged rywbeth i'w ddweud, ac mae John yn dweud, "Oes, mae'n debyg":!
(1, 0) 543 Os ydi hwnna'n joc...
(Wil) O, sorry, — ni oedd yn camsyniad.
 
(Wil) O, sorry, — ni oedd yn camsyniad.
(1, 0) 545 Diolch yn fawr.
(1, 0) 546 Nawr, ymlaen, a chofiwch hyn: fydd na ddim jokes yn y ddrama hon.
(Wil) Reit, mae'n well inni wybod.
 
(Wil) Reit, mae'n well inni wybod.
(1, 0) 549 Unwaith eto, Marged.
(1, 0) 550 Bydd yn barod, Robert Bifan.
(Winni) Mae gen i rywbeth i'w ddweud.
 
(Wil) Ha!
(1, 0) 557 Wel done, Robert!
(1, 0) 558 Unwaith eto.
(Wil) Ha!
 
(Wil) Ha!
(1, 0) 560 Ardderchog!
(1, 0) 561 Glyw di, John.
(1, 0) 562 Dyna'r ffordd i siarad!
(Twm) Ond chi ddwedsoch fod yn rhaid i fi siarad yn isel.
 
(Twm) Ond chi ddwedsoch fod yn rhaid i fi siarad yn isel.
(1, 0) 564 Do, do, rwy'n gwybod, ond...
(Twm) Pam y'ch chi'n dal Wil i fyny fel patrwm nawr?
 
(Twm) Pam y'ch chi'n dal Wil i fyny fel patrwm nawr?
(1, 0) 566 O, ca' dy geg!
(1, 0) 567 Mae'n bleser cael gafael ar fachgen fel Robert 'na, a'i holl galon yn y gwaith, ac yn gwybod pob gair o'i bart.
(1, 0) 568 Cer 'mlaen, Robert, machgen i — o'r dechre eto.
(Wil) Ha!... y... {yn aros}... y... beth sy' nesa nawr?
 
(Wil) Y...
(1, 0) 572 Distawrwydd, os gwelwch yn dda!
(Wil) Rown i'n gwybod pob gair cyn gadael y ty, ond...
 
(Wil) Rown i'n gwybod pob gair cyn gadael y ty, ond...
(1, 0) 574 Wrth gwrs, wrth gwrs, does na ddim syndod dy fod ti wedi anghofio — yr holl ffys a rhialtwch sy' ma.
(1, 0) 575 Dyma'r geiriau: "Ha. John, beth wyt ti..."
(Wil) O, ie, dyna fe. Unwaith eto.
 
(Twm) Dyna beth rwy i'n galw'n favourite.
(1, 0) 578 O, favourite, ife?
(1, 0) 579 Wel, gwrando: fyddi di ddim yn favourite gan neb, hyd yn oed gan dy fam.
(1, 0) 580 Robert ymlaen!
(Wil) Ha! John, beth wyt ti'n wneud yma?
 
(Twm) Ond —- Mr. — Bifan —
(1, 0) 584 Beth ddwedaist di?
(Twm) {Yn swrth.}
 
(Twm) Ond — Mr. Bifan — mae e' yn y copi-bwc 'ma!
(1, 0) 587 O! rwyt ti'n dechre pwti, wyt ti?
(Twm) Pwti? Be y'ch chi'n feddwl?
 
(Twm) Pwti? Be y'ch chi'n feddwl?
(1, 0) 589 Yn dweud: Ond —- Mr. Bifan, felna.
(1, 0) 590 Rho ystyr i'r peth!
(Twm) {Yn wyllt.}
 
(Twm) Ond...
(1, 0) 593 Dyna well.
(Twm) Beth sy'n well?
 
(Twm) Beth sy'n well?
(1, 0) 595 Yr "Ond" na.
(Twm) Dwy i ddim yn dweud fy mhart nawr!
 
(Twm) Dwy i ddim yn dweud fy mhart nawr!
(1, 0) 597 Be' gynllw'n wyt ti yn ddweud, te?
(Twm) Rwyf am ddweud rywbeth wrthych chi!
 
(Twm) Rwyf am ddweud rywbeth wrthych chi!
(1, 0) 599 Cer ymlaen a dy bart, a phaid â...
(Twm) {Yn wyllt eto.}
 
(Twm) Ond...
(1, 0) 602 Dyna fe.
(Twm) {Yn fwy gwyllt.}
 
(Twm) Ond...
(1, 0) 605 Ardderchog.
(Twm) {Yn colli ei dymer.}
 
(1, 0) 609 Ti?
(Twm) Ie — fi. Rwy am i chi wrando arna' i.
 
(Twm) Ie — fi. Rwy am i chi wrando arna' i.
(1, 0) 611 Ond rwy'n gwrando amnat ti — rwy'n gorfod gwrando?
(1, 0) 612 Dwed cy bart a gad dy...
(Twm) {Yn mynnu cael dweud.}
 
(Twm) Ond...
(1, 0) 615 Dyna fe — fe wnaiff y tro; ond cer ymlaen, does na neb yma yn drwm 'i glyw...
(1, 0) 616 Robert!
(Wil) John, beth wyt ti'n wneud yma?
 
(Twm) Dim, Mr. Bifan.
(1, 0) 619 Ma 'na air cyn y "dim" 'na,
(Twm) Nag oes.
 
(Twm) Nag oes.
(1, 0) 621 Oes.
(Twm) Nag oes.
 
(Twm) Nag oes.
(1, 0) 623 Pwy sgrifennodd y ddrama 'ma, fi neu ti? Ble mae dy gopi-bwc di?
(Twm) {Yn tynnu allan ei lyfr.}
 
(1, 0) 629 Edrych eto.
(Twm) {Yn wyllt.}
 
(Twm) Drychwch chi.
(1, 0) 633 Beth am y bracet 'na?
(Twm) {Yn hurt.}
 
(Twm) Bracet?
(1, 0) 636 Ie — ar ol y gair "John".
(Twm) Ond stage directions yw hwnna.
 
(Twm) Ond stage directions yw hwnna.
(1, 0) 638 Beth mae'n ddweud?
(Twm) {Yn edrych.} Yn-yn ddiniwed...
 
(Twm) Dwy i ddim i ddweud hwnna,
(1, 0) 641 Eitha reit.
(1, 0) 642 Ond rhaid iti actio 'fe.
(Twm) O...
 
(Twm) Sut?
(1, 0) 645 Defnyddia dy wyneb.
(1, 0) 646 Dangos y peth: facial expression — dyna be' sydd eisie!
(Twm) {A'i law yn esgyn yn araf i'w wyned.}
 
(Twm) O?
(1, 0) 649 Rhywbeth fel hyn, nawr?
(1, 0) 650 Gwel.
(Twm) O... ie... tynnu gwynebau, ife?
 
(Twm) O... ie... tynnu gwynebau, ife?
(1, 0) 652 Nage, nade, nage!
(1, 0) 653 Fe all y wyneb ddangos y cyfan.
(1, 0) 654 Edrych ar yr expression nawr...
(1, 0) 655 Weldi e?
(1, 0) 656 Dyma fe eto iti...
(1, 0) 657 Ges di e?
(1, 0) 658 Beth oedd hwnna'n ddangos?
(Twm) {Yn amheus.}
 
(Twm) Wn i ddim yn iawn...
(1, 0) 661 Edrych eto...
(Twm) O — rwy'n gweld yn awr.
 
(Twm) O — rwy'n gweld yn awr.
(1, 0) 663 Beth yw e?
(Twm) Poen.
 
(Twm) Poen.
(1, 0) 665 Ardderchog!
(1, 0) 666 Rwyt ti'n gwella!
(Twm) Yn y stumog!
 
(1, 0) 669 O, cer 'mlaen a dy bart.
(1, 0) 670 Gad dy wyneb fel y mae e.
(1, 0) 671 Unwaith eto, Robert.
(Wil) John, beth wyt ti'n wneud yma?
 
(Twm) Ha!... Ha!... Ha!
(1, 0) 678 Hei!
(1, 0) 679 Chwerthin sy'n eisieu fan 'na — nid asthma.
(Twm) O, ma' 'na asthma arna i nawr, oes e?
 
(Twm) O, ma' 'na asthma arna i nawr, oes e?
(1, 0) 681 Wel, chwerthin, te!
(Twm) {Yn ymollwng.}
 
(Twm) Ma' 'na dri ohonyn nhw yn dost ac yn hanner marw, ac yn...
(1, 0) 688 Be' sy'n bod arnyn' nhw?
(Twm) Wn i ddim.
 
(Twm) Gorwedd ma' nhw o hyd, ac yn...
(1, 0) 692 Beth wyt ti'n rhoi iddyn nhw?
(Twm) O, tipyn o bopeth.
 
(Twm) O, tipyn o bopeth.
(1, 0) 694 Tipyn o bopeth?
(1, 0) 695 Gwarchod pawb.
(1, 0) 696 Be' wyt ti'n ddisgwyl ond trwbwl os wyt ti'n...
(Twm) Ond rwyf wedi codi ffowls am bum mlyn—
 
(Twm) Ond rwyf wedi codi ffowls am bum mlyn—
(1, 0) 698 Nagwyt.
(1, 0) 699 Ma' hanner ffowls y wlad 'ma yn codi'u hunain.
(1, 0) 700 Oedd 'na deisen ar ol ddydd Sul?
(Twm) Oedd.
 
(Twm) Oedd.
(1, 0) 702 A dyna be' roes di iddyn' nhw?
(Twm) Wel, ie,
 
(Twm) Wel, ie,
(1, 0) 704 Rown i'n meddwl.
(1, 0) 705 Gormod o lard.
(1, 0) 706 Gormod o siwgr.
(Twm) Ond, William Tomos...
 
(Twm) Ond, William Tomos...
(1, 0) 708 Gwrando.
(1, 0) 709 Heno, rho lonydd iddyn nhw.
(Twm) Ie?
 
(Twm) Ie?
(1, 0) 711 Fory, gwna'r un peth.
(1, 0) 712 Mewn diwrnod fe fydd popeth yn iawn,
(Twm) Y'ch chi'n credu hynny, wir?
 
(Twm) Y'ch chi'n credu hynny, wir?
(1, 0) 714 Credu?
(1, 0) 715 Rwy'n gwybod, 'machgen i.
(1, 0) 716 Cer ymlaen a dy bart.
(Twm) Reit.
 
(Twm) Ble o'wn i?
(1, 0) 719 Y chwerthin.
(Twm) {Yn chwerthin yn iachus.}
 
(Twm) Ha, ha, ha!
(1, 0) 723 Beth gynllw'n sy'n bod nawr?
(Twm) Ma' 'na rywun wrth y drws.
 
(Twm) Ma' 'na rywun wrth y drws.
(1, 0) 725 Paid a dweud,
(Wil) Gwell agor y drws, William Tomos.
 
(Wil) Falle bod y mater yn bwysig,
(1, 0) 730 O, wrth gwrs — ma popeth yn fwy pwysig na'r ddrama.
 
(1, 0) 732 Ymlaen a ni.
(1, 0) 733 Fe fydd e'n siwr o flino cyn bo hir.
(Twm) Ond fydd na ddim shap ar y practis yng nghanol y swn 'ma.
 
(Twm) Ond fydd na ddim shap ar y practis yng nghanol y swn 'ma.
(1, 0) 735 Does fawr o siap arno nawr.
 
(1, 0) 737 Rarswyd fawr!
(1, 0) 738 Pwy sy' 'na?
(Llais) Fi!
 
(Llais) Fi!
(1, 0) 740 Ie, rwy'n gwybod.
(1, 0) 741 Ond pwy y'ch chi?
(Llais) Fe gewch chi weld pwy wy i pan ddo' i i mewn.
 
(Dic) Gwell imi fynd i...
(1, 0) 753 Aros di fan 'na.
(Dic) Ond, Mr. Tomos...
 
(Dic) Ond, Mr. Tomos...
(1, 0) 755 Fe all rhywun arall fynd.
(Dic) Diolch yn fawr!
 
(Dic) Diolch yn fawr!
(1, 0) 757 Ewch, — un o chi tu ol 'na.
(Llais) Agorwch y drws 'ma.
 
(Jane) Ie, — allwedd y drws.
(1, 0) 772 Wel, ar fy ngeir!
(1, 0) 773 Yr holl ffys hyn am allwedd drws!
(Jane) O — ffys, iefe?
 
(Jane) A fi a Dili Dach yn sythu tuallan tra 'rwyt ti'n gwneud ffwl o dy hunan fan yma!
(1, 0) 787 O...
(1, 0) 788 Felly?...
(1, 0) 789 Dyna'ch syniad am waith y ddrama, ife?
(Jane) Nage, nid i gyd.
 
(Jane) Dere a'r allwedd na i fi!
(1, 0) 792 Richard Hughes, — aros ble'r wyt ti!
(Dic) Ond, Mr, Tomos...
 
(1, 0) 796 Ar y llwyfan yna, fi yw y... y... fi yw cadben y llong!...
(1, 0) 797 Rho'r allwedd i mi...
(1, 0) 798 Diolch!
(1, 0) 799 Dyma hi, Mrs, Huws, a nawr, nos da!
(Jane) Nos da, iefe?
 
(Jane) Paid a bod yn hir!
(1, 0) 806 Nawr, nawr, Mrs. Huws...
(Jane) Dyna ddigon o'ch interference chi, William Tomos.
 
(Jane) Dic, paid a bod yn hir, neu fe fydd yr allwedd gen — ar y llofft!
(1, 0) 813 Cauwch y drws yn dynn!
(Wil) Be' sy'n bod ar Jane heno, Dic?
 
(Dic) O, mae hi wedi clywed mai sponar Miss Lewis wy' i yn hon.
(1, 0) 816 Nawr, dewch ymlaen, heb oedi!
(1, 0) 817 Ma'r amser yn mynd!
(Winni) A rhaid i Dic fynd adre'n gynnar heno?
 
(Winni) {Y lleill yn chwerthin.}
(1, 0) 820 Dyna ddigon — dyna ddigon.
(1, 0) 821 O'r dechre eto.
(Twm) Be-beth?
 
(Twm) O'r dechre eto?
(1, 0) 825 Ie, o'r dechre eto.
(1, 0) 826 Pam?
(Winni) Ond, Mr. Tomos, fe fyddwn yma drwy'r nos!
 
(Twm) A beth am Mrs. Huws?
(1, 0) 829 Beth sy gan Mrs. Huws i wneud a'r practis yma?
(1, 0) 830 Dewch!
(Wil) Ond ma' Dic...
 
(Wil) Ond ma' Dic...
(1, 0) 832 Fe gaiff Richard Huws noson o gwsg gan i os bydd 'i wraig e' wedi...
 
(1, 0) 835 Wel, wel!
(1, 0) 836 Dyna'r drws 'na eto.
(1, 0) 837 Ma'r lle 'ma'n fwy tebyg i farchnad na festri!
(Wil) Falle bod Mrs. Huws wedi dod 'nol.
 
(Wil) Falle bod Mrs. Huws wedi dod 'nol.
(1, 0) 839 Beth?
(1, 0) 840 Mrs. Huws?
(1, 0) 841 Ewch — un o chi — agorwch y drws!
 
(1, 0) 843 Brysiwch, brysiwch.
(1, 0) 844 Olreit, Mrs. Huws, — ma nhw'n dod.
 
(1, 0) 848 Pwy sy' 'na?
(Wil) Wn i ddim.
 
(Wil) Ma' 'na ddau...
(1, 0) 852 O!
(Wil) {Yn araf.}
 
(Wil) Rwy'n credu mai — ie — dyna fe — Jacob yw un.
(1, 0) 855 Jacob?
(1, 0) 856 Be' gynllw'n sy' eisie ar y creadur yna nawr?
(1, 0) 857 Pwy yw'r llall?
(Wil) Dwn i ddim.
 
(Jacob) Ewch chi 'mlaen — peidiwch a'n hidio ni.
(1, 0) 863 Pam?
(1, 0) 864 Beth y'ch chi am wneud?
(Jacob) Pwy?
 
(Jacob) Nid fi sy'n mynd i'w wneud e — ond fe' 'ma.
(1, 0) 868 Gwneud beth?
(Jacob) Tiwnio'r piano.
 
(1, 0) 871 T... t... tiwnio'r.... piano!
 
(1, 0) 873 Ond y dyn ofnadwy.
(1, 0) 874 Ma' hyn yn warthus!
 
(Jacob) Fyddwch chi ddim scrapyn gwell o siarad a fe.
(1, 0) 877 Ydi e'n fyddar?
(Jacob) Nagyw — Sais yw e'.
 
(Jacob) {Yn dangos.}
(1, 0) 882 Ond, Jacob, rym ni'n cael practis drama.
(Jacob) Wnaiff hynny fawr o wahaniaeth i Mr. Isaacs.
 
(Jacob) I know you are in a hurry.
(1, 0) 888 Ond beth amdanom ni?
(Jacob) Beth y'ch chi'n feddwl?
 
(Jacob) Beth y'ch chi'n feddwl?
(1, 0) 890 Rym ni'n cael practis drama.
(Jacob) Ydych — ydych — ewch 'mlaen ag e.
 
(Jacob) Ydych — ydych — ewch 'mlaen ag e.
(1, 0) 892 Oedd yn rhaid i chi ddod a hwn yma heno?
(Jacob) Nid y fi ddaeth ag e' yma.
 
(Jacob) Siaradwch chi a Samuel Mo—
(1, 0) 896 Ydi hi'n bosibl cynnal practis fan yma tra bydd e'n pwno un nodyn tragwyddol ar yr offeryn 'na?
(Jacob) Be' wn i?
 
(Jacob) ... ac ambell gord yn awr ac yn y man.
(1, 0) 903 Cord! Ambell gord!
 
(1, 0) 905 Clywch arno.
(1, 0) 906 Rarswyd fawr.
(1, 0) 907 Ma' hyn yn annioddefol.
(1, 0) 908 Rwy'n mynd.
(Lleisiau) William Tomos!
 
(1, 0) 911 Ydw!
(1, 0) 912 Rwy'n mynd.
(1, 0) 913 Rwy wedì cael digon ar y lle 'ma.
(1, 0) 914 Doedd na ddim shap ar y practis o'r dechre; ond ma'r tiwnio ma wedi gosod y cap arni.
(1, 0) 915 Y'ch chi'n credu fy mod i'n mynd i aros yma a gweld fy nrama i — plentyn fy nychymyg — yn cael ei diystyru fel yma?
(1, 0) 916 Na wnaf!
(1, 0) 917 Tra bo gennyf nerth i gerdded allan.
(1, 0) 918 Does 'na ddim parch i ddrama yn y lle hwn.
(1, 0) 919 Ma' popeth yn fwy pwysig na'r ddrama.
(1, 0) 920 Ond fe wn i am le fydd yn falch o'r cyfle i chware fy nrama i — lle y ceir pobl a wyr ystyr y gair talent.
 
(1, 0) 922 Ac os bydd rhaid tiwnio'r piano, ma' ganddynt ddigon o sens i wneud e' pan fydd na neb yno i'w glywed.
 
(Wil) Ond Wiliam Tomos, ble ych chi'n mynd?
(1, 0) 925 Mynd?
(1, 0) 926 Rwy'n mynd i Gaersalem.
(1, 0) 927 Nos dal!
(Wil) Wel, wel, dyma gawl!
 
(1, 0) 992 'Rwyf wedi dod nol!
 
(1, 0) 995 Wyddoch chi pwy sy' tuallan?
(1, 0) 996 Samuel Morgan, Arweinydd y Gan!
(1, 0) 997 Yn cerdded yn ol ac ymlaen.
(1, 0) 998 Ac i beth ddwedwch chi — i beth?
(1, 0) 999 Mae'n aros i ngweld i'n cerdded allan.
(1, 0) 1000 Welwch chi'r gem?
(1, 0) 1001 Welwch chi'r tric?
(1, 0) 1002 Ond fe all gerdded nol a mlaen drwy'r nos — 'rwy'n aros!
(Jacob) Mr. Isaacs, you can start again now.
 
(1, 0) 1006 Gall, gall. Fe all chware oratorio os y mynn e'!
 
(1, 0) 1008 O'r dechre eto!
(1, 0) 1009 Marged yn eistedd wrth y ford!
(Twm) {Wedi anghofio bopeth.}
 
(Twm)
(1, 0) 1016 Yr arswyd fawr!