Y Practis

Ciw-restr ar gyfer Wil

(Jacob) Os na gynni di nawr, cer allan i gynllw'n a thi.
 
(1, 0) 98 O?
(Jacob) Ma' bron pawb yn marw yn nramas William Tomos!
 
(1, 0) 101 Rwy i'n mynd yn ffast, 'ta beth.
(Jacob) Bob tro mae e' am gael gwared un o'r gymeriadau, mae e'n 'i ladd e!
 
(Jacob) Slaughter House, myn brain i — a'r llwyfan yn ddim byd ond celfi a chyrff!
(1, 0) 104 Ond be' allwn ni wneud?
(Jacob) Dwedwch wrtho'ch bod chi wedi cael llond bola ar 'i ddr—
 
(Tomos) Ble ma'r lleill?
(1, 0) 140 Mae'n gynnar eto.
(Tomos) Yn gynnar?
 
(Tomos) Yn gynnar?
(1, 0) 142 Iddyn nhw, rwy'n feddwl.
(Tomos) Mae bron a bod yn hanner awr ar ol amser.
 
(Tomos) Does gyda ni ddim mumud i'w gwastraffu, a...
(1, 0) 276 Mr. Tomos!
(Tomos) Ie?
 
(Tomos) Ie?
(1, 0) 278 Mae gen i awgrym.
(Tomos) Wel, cadw e'.
 
(Tomos) {Yn troi oddi wrtho.}
(1, 0) 281 Nawr, nawr, am eich helpu chi 'rwy i!
(Tomos) {Yn llygaid agored.}
 
(Tomos) Hon? Diain i!...
(1, 0) 290 Nawr, nawr, dim ond cael joc roedd e'.
(1, 0) 291 Twm, gad hi nawr.
(1, 0) 292 William Tomos, gwrandewch. 'Does 'na neb yma am eich helpu a'r trefnu a'r...
(Tomos) Pwy yma all fy helpu?
 
(Tomos) Beth wyt ti'n feddwl?
(1, 0) 297 Dim, William Tomos bach — dim!
(1, 0) 298 Ond dyma beth 'rown i am ddweud.
(1, 0) 299 'Rych chi am wybod os yw pawb yma...
(Tomos) Ydw.
 
(Tomos) Ydw.
(1, 0) 301 Wel, 'ma 'na chwech yn y cast, a ma' 'na chwech yma,
(Tomos) {Ar ol ennyd.}
 
(Tomos) O!
(1, 0) 304 Felly, 'does dim eisie galw'r enwau.
(Tomos) Y... nagoes.
 
(Tomos) Y... nagoes.
(1, 0) 306 Wel, beth am ddechre' te?
(Tomos) Y... ie, dyna fe.
 
(1, 0) 410 Nawr, nawr, William Tomos, nid felna...
(Tomos) Ca' dy geg, a cher nol i dy le!
 
(Tomos) Fe wn am gwmni fydd yn falch ohonof!
(1, 0) 424 William Tomos!
(Tomos) Rwy'n dweud y gwir.
 
(Tomos) Fy musnes i yw hynny, ond dyn nhw ddim can milltir oddi yma, a ma' 'na groese cynnes yn fy aros.
(1, 0) 428 Wel, wrth gwrs, William Tomos, so 'dych chi am fynd...
(Tomos) Pwy sy'n siarad am fynd?
 
(1, 0) 519 Ydw.
(Tomos) Nawr, Marged,
 
(Tomos) Yn enw pob synnwyr, pam y chwerthin 'ma?
(1, 0) 534 Y joc, William Tomos!
 
(1, 0) 536 Lled dda, wir; ma' honna'n good; fe aiff hi fel fflam.
(Tomos) Ond-ond pa joc?
 
(Tomos) Wela i ddim joc.
(1, 0) 540 Ond fe ddwedodd John...
(Tomos) Fe ddwedodd, "Oes, mae'n debyg" — dyna i gyd.
 
(Tomos) Os ydi hwnna'n joc...
(1, 0) 544 O, sorry, — ni oedd yn camsyniad.
(Tomos) Diolch yn fawr.
 
(Tomos) Nawr, ymlaen, a chofiwch hyn: fydd na ddim jokes yn y ddrama hon.
(1, 0) 547 Reit, mae'n well inni wybod.
(Tomos) Unwaith eto, Marged.
 
(1, 0) 556 Ha!
(Tomos) Wel done, Robert!
 
(Tomos) Unwaith eto.
(1, 0) 559 Ha!
(Tomos) Ardderchog!
 
(Tomos) Cer 'mlaen, Robert, machgen i — o'r dechre eto.
(1, 0) 569 Ha!... y... {yn aros}... y... beth sy' nesa nawr?
(1, 0) 570 Y...
(Tomos) Distawrwydd, os gwelwch yn dda!
 
(Tomos) Distawrwydd, os gwelwch yn dda!
(1, 0) 573 Rown i'n gwybod pob gair cyn gadael y ty, ond...
(Tomos) Wrth gwrs, wrth gwrs, does na ddim syndod dy fod ti wedi anghofio — yr holl ffys a rhialtwch sy' ma.
 
(Tomos) Dyma'r geiriau: "Ha. John, beth wyt ti..."
(1, 0) 576 O, ie, dyna fe. Unwaith eto.
(Twm) Dyna beth rwy i'n galw'n favourite.
 
(Tomos) Robert ymlaen!
(1, 0) 581 Ha! John, beth wyt ti'n wneud yma?
(Twm) {Yn fflat ac yn ddiystyr.}
 
(Tomos) Robert!
(1, 0) 617 John, beth wyt ti'n wneud yma?
(Twm) Dim, Mr. Bifan.
 
(Tomos) Unwaith eto, Robert.
(1, 0) 672 John, beth wyt ti'n wneud yma?
(Twm) {Yn swrth.}
 
(1, 0) 676 Fel arfer, John!
(Twm) Ha!... Ha!... Ha!
 
(Tomos) Paid a dweud,
(1, 0) 727 Gwell agor y drws, William Tomos.
(1, 0) 728 Falle bod y mater yn bwysig,
(Tomos) O, wrth gwrs — ma popeth yn fwy pwysig na'r ddrama.
 
(Llais) Agorwch y drws 'ma.
(1, 0) 744 Rwy'n adnabod y llais.
(1, 0) 745 Gwraig...
(Llais) Agorwch y drws 'ma.
 
(Llais) Agorwch y drws 'ma.
(1, 0) 747 Ie, dyna hi.
(1, 0) 748 Dic — dyna Jane?
(Dic) {Yn ansicr.}
 
(Dic) Be' sy', wn i?
(1, 0) 762 Dim, Dic bach, — dim.
(Llais) {Tu fewn i'r festri.}
 
(Tomos) Cauwch y drws yn dynn!
(1, 0) 814 Be' sy'n bod ar Jane heno, Dic?
(Dic) O, mae hi wedi clywed mai sponar Miss Lewis wy' i yn hon.
 
(Tomos) Dewch!
(1, 0) 831 Ond ma' Dic...
(Tomos) Fe gaiff Richard Huws noson o gwsg gan i os bydd 'i wraig e' wedi...
 
(Tomos) Ma'r lle 'ma'n fwy tebyg i farchnad na festri!
(1, 0) 838 Falle bod Mrs. Huws wedi dod 'nol.
(Tomos) Beth?
 
(Tomos) Pwy sy' 'na?
(1, 0) 849 Wn i ddim.
(1, 0) 850 Mae e' yn y tywyllwch.
(1, 0) 851 Ma' 'na ddau...
(Tomos) O!
 
(1, 0) 854 Rwy'n credu mai — ie — dyna fe — Jacob yw un.
(Tomos) Jacob?
 
(Tomos) Pwy yw'r llall?
(1, 0) 858 Dwn i ddim.
(Jacob) {Yn croesi'r llwyfan.}
 
(Tomos) {Yn troi yn sydyn i fynd.}
(1, 0) 924 Ond Wiliam Tomos, ble ych chi'n mynd?
(Tomos) Mynd?
 
(Tomos) Nos dal!
(1, 0) 932 Wel, wel, dyma gawl!
(Twm) Traed moch, myn hyfryd i.
 
(Jacob) Samuel Morgan, arweinydd y—
(1, 0) 941 O, peidiwch a dechre ar y peth eto.
(1, 0) 942 Ma' William Tomos wedi mynd!
(Dic) Ie, ie— ond beth am y dyfodol?
 
(Winni) Dyma gyfle i ddewis drama dda — a dyn a helpo Caersalem.
(1, 0) 949 Hanner munud!
(1, 0) 950 Fe fydd yn rhaid talu am chware drama arall.
(Pawb) O-O.
 
(Pawb) O-O.
(1, 0) 952 Nid oedd William Tomos yn cael dimai goch am ei ddrama.