Pros Kairon

Ciw-restr ar gyfer Mac

(Martin) O'r gora, hogia.
 
(Martin) Mae'n rhaid i mi aros yma am dipyn...
(1, 0) 30 Palas, ar fenaid i!...
(1, 0) 31 Be wyt ti'n 'i ddweud?...
(1, 0) 32 E?
(Sadi) {Dod ymlaen.}
 
(Sadi) Clud.
(1, 0) 36 Agos atat ti.
(Sadi) Cartrefol.
 
(Sadi) Cartrefol.
(1, 0) 38 Ia, dyna'r gair,─cartrefol.
(1, 0) 39 Fel tae o wedi'i wneud inni.
(1, 0) 40 A'r dodrefn─edrych ar y dodrefn.
 
(1, 0) 42 Dyma iti goedyn!
(1, 0) 43 E?
(1, 0) 44 Coedyn gwerth chweil.
(1, 0) 45 Heb gainc na thwll pry.
(1, 0) 46 Mae o fel melfed.
(1, 0) 47 A graen arno fo fel be-wyt-ti'n-alw, fel cefn macrell.
(Sadi) Gwerth arian.
 
(Sadi) Gwerth arian.
(1, 0) 49 Gwaith llaw, 'sti.
(1, 0) 50 Llafur cariad.
(1, 0) 51 Crefftwr.
(1, 0) 52 'Dydyn nhw ddim yn gwneud dodrefn fel hyn heddiw.
(Sadi) Cofia di, mae yna dipyn o lwch yma─
 
(Sadi) Cofia di, mae yna dipyn o lwch yma─
(1, 0) 54 Cadeiria reit solet hefyd.
 
(1, 0) 56 Ia, solet iawn.
(Sadi) Gwaith llnau─
 
(1, 0) 59 Eisio hoelen neu ddwy efalla.
(1, 0) 60 Ond pethma bach ydy hynny─
(Sadi) Ond buan iawn y daw o efo dipyn o eli penelin... wnes i ddim dychmygu, wnest ti?
 
(Sadi) Ond buan iawn y daw o efo dipyn o eli penelin... wnes i ddim dychmygu, wnest ti?
(1, 0) 62 E?
(Sadi) Crwydro'r strydoedd, ddoe fel,─wel fel sipsiwn.
 
(Sadi) Crwydro'r strydoedd, ddoe fel,─wel fel sipsiwn.
(1, 0) 64 Fel sipsiwn, ia.
(Sadi) A heddiw, dyma ni yn y nyth bach yma!
 
(Sadi) A heddiw, dyma ni yn y nyth bach yma!
(1, 0) 66 Cartre am y tro cynta...
(1, 0) 67 Sut mae deall y Drefn, sgwn i!
(Sadi) Y Drefn?
 
(Sadi) Y Drefn?
(1, 0) 69 Ia, wyddost ti─petha.
(1, 0) 70 Sut mae deall petha?
(Sadi) Fedrwn ni mo'u deall nhw.
 
(Sadi) Derbyn, a dal ein gafael, dyna'r peth gora.
(1, 0) 75 E?
(1, 0) 76 Wyt ti'n meddwl?...
(1, 0) 77 Ia, dodrefn gwerth chweil.
(1, 0) 78 Gwaith crefftwr, digon hawdd gweld.
(1, 0) 79 A dyna iti beth arall...
 
(1, 0) 81 Dewcs annwyl!
(Sadi) {Nid yw hi wedi sylwi.}
 
(Sadi) Be?
(1, 0) 84 Dewcs annwyl!
(Sadi) {Troi.}
 
(1, 0) 89 Dewcs, wyddwn i ddim 'chi.
(1, 0) 90 Hynny ydy 'doeddwn i ddim wedi'ch gweld chi yn fan'na.
(1, 0) 91 E?
(1, 0) 92 'Doeddwn i ddim yn meddwl...
(1, 0) 93 O'r Swyddfa 'rydych chi, decini?...
(1, 0) 94 Hynny ydy, wedi dwad yma i be-ydach-chi'n alw?
 
(1, 0) 96 Mi ddywedodd y dyn rywbeth, wyt ti'n cofio?
(Sadi) Ydw.
 
(Sadi) Ydw.
(1, 0) 98 Wel, mae'n dda gen i'ch cyfarfod chi...
(1, 0) 99 Mac ydy'r enw.
(1, 0) 100 A dyma'r wraig, Sadi.
(1, 0) 101 Mae'n siŵr iddyn nhw sôn wrthych chi amdanom ni.
(1, 0) 102 Hynny ydy, yn y Swyddfa yna?
(Martin) Beth ddywedodd o wrthych chi?
 
(Martin) Beth ddywedodd o wrthych chi?
(1, 0) 105 Pwy,─dyn y Swyddfa?
(Martin) Beth ddwedodd o?
 
(Martin) Beth ddwedodd o?
(1, 0) 107 E?
(1, 0) 108 Wel, dweud wnaeth o.
(1, 0) 109 Hynny ydy...
 
(1, 0) 111 Ia, eistedd di i lawr.
(1, 0) 112 Mae'n siŵr dy fod ti wedi blino...
(1, 0) 113 Heb gael gorffwys yn iawn ers tro byd, wyddoch chi, Mr...?
(1, 0) 114 Mr...?
(1, 0) 115 Wel, mi wyddoch fel mae hi wedi bod arnom ni yn y wlad yma.
(1, 0) 116 Yr holl drybini a'r tryblith a─
(Martin) Martin.
 
(Martin) Martin.
(1, 0) 118 E?
(Martin) Martin,─dyna ydy f'enw.
 
(Martin) Martin,─dyna ydy f'enw.
(1, 0) 120 O, ia?...
(1, 0) 121 Dewcs!
(1, 0) 122 Ond fel roeddwn i'n dweud Mr. Martin, digwydd troi i'r Swyddfa wnes i, y bore yma.
(1, 0) 123 Busnes preifat.
(1, 0) 124 Hynny ydy, wel, newid ein cardia.
(1, 0) 125 Mi wyddoch mor bwysig ydy cael eich cardia'n iawn.
(1, 0) 126 A dyma'r dyn yn gofyn imi, hynny ydy, cynnig swydd imi.
(1, 0) 127 'Wel', medda finna, 'mae'n dibynnu', medda fi.
(1, 0) 128 'Ar natur y gwaith', medda fi.
(1, 0) 129 'Hynny ydy', medda fi, 'be fyddwn i'n 'i wneud?', medda fi.
(Sadi) Fi ddwedodd hynny.
 
(Sadi) Fi ddwedodd hynny.
(1, 0) 131 E?...
(1, 0) 132 Tybed?
(Sadi) Ta waeth.
 
(Sadi) Dos ymlaen.
(1, 0) 135 Reit.
(1, 0) 136 Ble 'roeddwn i?
(1, 0) 137 O ia.
(1, 0) 138 'Dim ond byw mewn tŷ', medda fo.
(1, 0) 139 'Tŷ sy'n perthyn i'r Swyddfa yma.
(1, 0) 140 Byw ynddo fo, a'i gadw fo'n dwt ac yn lân.
(1, 0) 141 Gwneud eich cartre ynddo fo.
(1, 0) 142 Ei ddefnyddio fo'n ôl eich doethineb', medda fo.
(Sadi) 'Ei gadw fo mewn trefn', medda fo.
 
(Sadi) Fydd yna ddim rhent.'
(1, 0) 146 'Am amser amhenodol', medda fo wedyn.
(1, 0) 147 Mae'n debyg bod arnyn nhw eisio'i gadw fo'n barod rhag ofn,─wel, ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd.
(1, 0) 148 Er na ddwedodd o ddim am hynny, cofiwch.
(Sadi) A dyma ni'n derbyn, ydych chi'n gweld.
 
(Sadi) A dyma ni'n derbyn, ydych chi'n gweld.
(1, 0) 150 Wel nid pob dydd y cewch chi gynnig fel yna.
(1, 0) 151 A rydyn ni wedi blino crwydro.
(1, 0) 152 Mae ar bawb eisio rhoi gwreiddia i lawr yn y diwedd.
(1, 0) 153 Hynny ydy, gwneud cartre, ac ati.
(Sadi) A dyma'r cynta inni ei gael, 'chi.
 
(Sadi) A dyma'r cynta inni ei gael, 'chi.
(1, 0) 155 Y cynta erioed.
(1, 0) 156 Wel, fel y dwedais i, mi wyddoch fel y mae wedi bod arnon ni yn y wlad yma.
(1, 0) 157 Chawson ni ddim cyfle o gwbwl...
(1, 0) 158 Wnewch chi ddim eistedd am funud, Mr. Martin?
 
(1, 0) 160 Go brin y medrwn ni gynnig paned o dê ichi.
(1, 0) 161 Hynny ydy, wyddon ni ddim ple mae'r gegin eto!
(Sadi) {Codi.}
 
(1, 0) 167 Maen debyg y byddwch chi'n dwad i'n gweld ni o bryd i'w gilydd, Mr. Martin?
(Martin) {Dod ar ffrynt y llwyfan ac edrych allan i'r gynulleidfa drwy'r ffenestr ddychmygol.}
 
(Martin) Na fyddaf.
(1, 0) 170 E?
(Martin) 'Rwy'i wedi gorffen yma rŵan.
 
(Martin) Fydda i ddim yn dwad yma eto, onibai i'r Swyddfa fy ngyrru i.
(1, 0) 174 O?
(1, 0) 175 Ia wel, dyna ni.
(1, 0) 176 Mae hynna'n ddigon teg...
(1, 0) 177 Ac wrth gwrs, mi wnawn ein gora glas, fel y dywedais i wrth y dyn...
 
(1, 0) 179 Mae modd ei wneud o'n lle bach digon be-ydach-chi'n-alw...
(1, 0) 180 Beth oedd o, dwedwch─hen stordy neu rywbeth?
(1, 0) 181 Ac eto mi fuo fo'n dŷ i fyw ynddo fo unwaith.
(1, 0) 182 Mi welais i'r enw wrth ochr y drws.
(1, 0) 183 Enw digon od ydy o hefyd,─ Pros... Pros...
(Martin) 'Pros Kairon'.
 
(Martin) 'Pros Kairon'.
(1, 0) 185 Ia, dyna fo.
(1, 0) 186 Pa iaith ydy honno, sgwn i?...
(1, 0) 187 Wrth gwrs, mi fydd yma ddigon i' wneud.
(1, 0) 188 Yn ara deg y daw o a─
(Martin) Groeg.
 
(Martin) Groeg.
(1, 0) 190 E?
(Martin) Groeg.
 
(Martin) 'Pros Kairon'─Groeg ydy o.
(1, 0) 193 O?
(1, 0) 194 Dewcs!...
(1, 0) 195 Be mae on 'i feddwl, sgwn i?
(1, 0) 196 Mae yna ryw ystyr iddo fo, decini?...
(1, 0) 197 Peth rhyfedd ydy enw 'te!
(1, 0) 198 Unwaith rydych chi'n rhoi enw i rywun ne rywbeth mae ganddo fo afael arnoch chi, rywsut.
(Martin) Wnaethoch chi arwyddo rhywbeth?
 
(Martin) Wnaethoch chi arwyddo rhywbeth?
(1, 0) 200 E?
(Martin) Yn y Swyddfa yna,─wnaethoch chi arwyddo cytundeb?
 
(Martin) Yn y Swyddfa yna,─wnaethoch chi arwyddo cytundeb?
(1, 0) 202 Naddo, 'chi.
(1, 0) 203 Dim o gwbl.
(1, 0) 204 Wnaeth y dyn ddim gofyn imi...
(1, 0) 205 Ydych chi am imi arwyddo rhywbeth?
(Martin) {Troi at y ffenestr ddychmygol.}
 
(Martin) Mae'r ffenest yma'n gollwng dŵr.
(1, 0) 208 Dewcs, tybed?
(Martin) Dim ond rhyw ddiferyn,─welwch chi?
 
(Martin) Dim ond rhyw ddiferyn,─welwch chi?
(1, 0) 210 'Rydych chi'n iawn ar f'engoch i.
(1, 0) 211 Ond mater bach fydd setlo hynny.
 
(1, 0) 213 Mae yna gytia defnyddiol i lawr acw.
(1, 0) 214 Rhai mawr hefyd.
(1, 0) 215 Hen stablau ac ati, mae'n debyg.
(1, 0) 216 Mi fedra i wneud defnydd o'r rheina.
(1, 0) 217 Hynny ydy, mi fydda'n bechod eu cadw nhw'n wag...
(1, 0) 218 Ydych chi'n siŵr na wnewch chi ddim eistedd, Mr. Martin?
(Martin) Yn ôl eich doethineb ddwedodd o?
 
(Martin) Yn ôl eich doethineb ddwedodd o?
(1, 0) 221 E?
(Martin) Defnyddio'r lle yma'n ôl eich doethineb,─dyna ddwedodd o?
 
(Martin) Defnyddio'r lle yma'n ôl eich doethineb,─dyna ddwedodd o?
(1, 0) 223 O ia, yn hollol.
(1, 0) 224 Ei gadw fo mewn trefn.
(1, 0) 225 A mi fyddwn ni'n siŵr o wneud, peidiwch â phryderu!
(1, 0) 226 Mi fydd y wraig wrthi, gyda hyn, fel mam y cnafon.
(1, 0) 227 A minna'r ochr arall fel dyn yn lladd nadrodd!
(1, 0) 228 O, mi edrychwn ni ar 'i ôl o!...
(1, 0) 229 Mae croeso ichi eistedd, Mr. Martin.
(1, 0) 230 Ond mae'n debyg eich bod yn ddyn prysur ac eisio mynd, ac ati.
(Martin) 'Dwyf inna ddim am ofyn ichi arwyddo dim chwaith.
 
(Martin) 'Dwyf inna ddim am ofyn ichi arwyddo dim chwaith.
(1, 0) 232 E?
(Martin) Wedi'r cyfan dydy o ddim yn fater cyfreithiol.
 
(Martin) Wedi'r cyfan dydy o ddim yn fater cyfreithiol.
(1, 0) 234 Na, dydy o ddim, 'rydych chi yn llygad eich lle...
(1, 0) 235 Y peth cynta fyddwn ni'n 'i wneud rŵan fydd dadbacio.
(1, 0) 236 Dyma hynny sydd gennym ar ein helw, Mr. Martin.
(1, 0) 237 Yn yr hen gas yma.
(1, 0) 238 Y cyfan o'n heiddo yn y byd mawr yma'n grwn.
(Martin) Fydd arnoch chi eisio fawr o ddim rŵan.
 
(Martin) Fydd arnoch chi eisio fawr o ddim rŵan.
(1, 0) 240 E?
(1, 0) 241 Na fydd, digon gwir.
(1, 0) 242 Hynny ydy, 'rydyn ni wedi bod yn hynod o lwcus...
(1, 0) 243 Arhoswch am funud, Mr. Martin, imi alw ar y wraig.
 
(1, 0) 245 Sadi!
(1, 0) 246 Sadi!
(1, 0) 247 Tyrd, mae Mr. Martin ar fynd...
 
(1, 0) 249 Fydda yna ddim tewi arni tawn i'n gadael ichi fynd â hitha ddim yma...
(1, 0) 250 Petha od ydy merched.
(1, 0) 251 Hynny ydy, 'dydyn nhw ddim 'run fath â ni, ddynion.
(1, 0) 252 Mae nhw mor be-ydych-chi'n-alw a chyfnewidiol.
(1, 0) 253 Fel ceiliogod-gwynt, neu ieir-gwynt yn hytrach!
(1, 0) 254 Rhaid bod yn ofalus sut 'rydych chi'n eu trin nhw, ne mae hi'n siop-siafins ar unwaith!
 
(1, 0) 256 Mr. Martin, Sadi─mae o ar gychwyn.
(Sadi) O?
 
(Sadi) O?
(1, 0) 258 Ia, wel, fedrwn ni wneud dim ond diolch ichi, Mr. Martin.
(Sadi) Ia wir─am bopeth.
 
(Sadi) Ia wir─am bopeth.
(1, 0) 260 Ac os digwydd ichi ddwad i'r cyffinia yma, dowch i'n gweld ni.
(1, 0) 261 Mi gewch paned bryd hynny, reit siŵr.
(Martin) Fydda i ddim yn dwad yma eto.
 
(Martin) Oni bai i'r Swyddfa fy ngyrru, fel y dywedais i o'r blaen.
(1, 0) 265 Ia wel, chi sy'n gwybod, Mr. Martin.
(1, 0) 266 Hynny ydy... ac fel dywedais inna o'r blaen, diolch o galon ichi.
(Sadi) Ia'n wir.
 
(Sadi) Ia'n wir.
(1, 0) 268 A phob hwyl ichi.
(Martin) Da boch chi.
 
(Sadi) Dyn od!
(1, 0) 273 E?
(1, 0) 274 Wel ia.
(1, 0) 275 Ond eto'n ddigon tawel; digon di-ffwdan.
(Sadi) 'Roedd o'n gwneud i mi deimlo'n annifyr.
 
(Sadi) 'Roedd o'n gwneud i mi deimlo'n annifyr.
(1, 0) 277 Twt, ti syn dychmygu petha'...
(1, 0) 278 Tae waeth, mae o wedi mynd.
(1, 0) 279 Welwn ni mono fo eto...
(1, 0) 280 Wel, be wyt ti'n feddwl o'r lle.
(1, 0) 281 Ydy o'n plesio?
(1, 0) 282 E?
(1, 0) 283 E?
(Sadi) I'r dim.
 
(Sadi) Tyrd i weld drosot dy hun.
(1, 0) 288 Toc.
(Sadi) Toc?
 
(Sadi) Toc?
(1, 0) 290 Toc.
(1, 0) 291 Tamaid o fwyd yn gynta.
(1, 0) 292 Fedra i ddim symud heb damaid o fwyd.
(1, 0) 293 Bron llwgu.
(1, 0) 294 Fy stumog i,─mae hi fel crempog ar fas cefn i.
(Sadi) Wel, 'does gen i fawr o ddim 'i gynnig iti!
 
(Sadi) {Mae'n eu tynnu allan a'u rhoi ar y bwrdd.}
(1, 0) 300 A photel o win, 'rhen chwaer!
(Sadi) Potel o win?
 
(Sadi) Ble gest ti hi?
(1, 0) 306 Hidia di befo ble ges i hi.
(1, 0) 307 Mae hi yma.
(1, 0) 308 Aros.
 
(Sadi) Wel, paid â'u rhoi nhw'n lluch-eu-tafl ar y llawr yna!
(1, 0) 311 E?
(1, 0) 312 Dim ond am funud.
(Sadi) Aros, tyrd â nhw i mi!
 
(Sadi) Aros, tyrd â nhw i mi!
(1, 0) 315 Hwyrach y cawn ni gyfle rŵan i wisgo rhai o'r rhain.
(1, 0) 316 E?
(1, 0) 317 Wedi'r cyfan, rhaid inni drio byw yn ôl ein safle newydd.
(Sadi) {Mae'n plygu dilledyn isaf arbennig, a hwnnw braidd yn hen-ffasiwn.}
 
(Sadi) Crefydd?
(1, 0) 336 Wel, mae'n rhaid inni drio bod yn barchus rŵan, fel pawb arall...
(1, 0) 337 Mae'r hen gloc yma wedi mesur dipyn go lew o'n hoes ni.
(1, 0) 338 E?
(1, 0) 339 A hynny heb nogio unwaith.
(Sadi) Ffyddlon.
 
(Sadi) Ffyddlon.
(1, 0) 343 Ffyddlon, a be-wyt-ti'n-alw, didrugaredd...
(1, 0) 344 Sôn am grefydd, dim ond tri chwestiwn sylfaenol sydd yna, 'sti.
(1, 0) 345 O ble y daethon ni?
(1, 0) 346 Be ydyn ni'n i wneud yma?
(1, 0) 347 A, i ble rydyn ni'n mynd?
(Sadi) Mae pig y tebot yma wedi torri.
 
(Sadi) Mae pig y tebot yma wedi torri.
(1, 0) 349 E?
(Sadi) Ond hwyrach bod yna un yn y gegin.
 
(Sadi) Ches i ddim ond cip at y cypyrdda.
(1, 0) 352 Ia, fel ro'n i'n dweud, chwilio am ateb i'r tri chwestiwn yna ydy swm a sylwedd pob crefydd ac athroniaeth, 'sti.
(1, 0) 353 Ffaith iti...
(1, 0) 354 Duwcs, mae'r corcyn yma'n be-wyt-ti'n-alw...
(1, 0) 355 A, dyna fo!...
(1, 0) 356 Rŵan...
 
(1, 0) 358 Gwaed a gwlith a chusan yr haul!
(Sadi) Mewn cwpan dun!
 
(Sadi) Mewn cwpan dun!
(1, 0) 360 Hidia befo.
 
(1, 0) 362 Yr un ydy'r awch.
 
(1, 0) 365 Does yna ddim tebyg i gaws i ddenu'r blas o'r gwin!
(Sadi) Be?
 
(Sadi) Be?
(1, 0) 367 Dweud roeddwn i─dim tebyg i─
(Sadi) Fedri di ddim siarad â llond dy geg o fwyd!
 
(Sadi) Fedri di ddim siarad â llond dy geg o fwyd!
(1, 0) 369 E?
 
(1, 0) 371 Caws,─dim tebyg iddo fo i hudo'r blas o hanfod y gwin.
(Sadi) Dim tebyg i win, chwaith, i dynnu allan gwir naws y caws.
 
(Sadi) Dim tebyg i win, chwaith, i dynnu allan gwir naws y caws.
(1, 0) 373 Ia, rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 374 Dwy ochor i'r un gwirionedd...
 
(Sadi) 'Rydyn ni'n siŵr o ddeffro, toc.
(1, 0) 379 Taw â sôn!
(1, 0) 380 Twt twt!
(1, 0) 381 E?
(Sadi) Mi ddeffrwn i ail-ddechrau crwydro eto.
 
(Sadi) Mi ddeffrwn i ail-ddechrau crwydro eto.
(1, 0) 383 Ia, mae'n anodd credu.
(1, 0) 384 Ond fel y dwedaist ti gynna, pa ddiben dyfalu?...
(1, 0) 385 Chwaneg o win?
(Sadi) Mi fyddi di'n feddw toc!
 
(Sadi) Mi fyddi di'n feddw toc!
(1, 0) 388 Melys moes mwy!
 
(1, 0) 390 Wyt ti wedi edrych allan yna?...
(1, 0) 391 Tyrd at y ffenast am funud.
 
(1, 0) 393 Tyrd.
(Sadi) {Yn ei ddilyn at ffrynt y llwyfan ac edrych allan drwy'r ffenestr ddychmygol.}
 
(Sadi) Be sy yna?
(1, 0) 396 Weli di?
(1, 0) 397 Gardd!
(1, 0) 398 Chwarter acer os ydy hi lathen sgwâr.
(Sadi) Tybed?
 
(Sadi) Sut drefn sydd arni?
(1, 0) 401 Eitha da...
(1, 0) 402 Hynny ydy, go lew.
(1, 0) 403 Ond mae yna bosibiliadau dirifedi.
(1, 0) 404 O, mi ydw i'n ysu i fynd ati!
(1, 0) 405 Ffaith iti,─ysu.
(1, 0) 406 Wyt ti'n gweld lawnt yna, ryw ddiwrnod?
(1, 0) 407 Lawnt fel─fel darn o felfed gwyrdd!
(Sadi) Ydw, a border o lafant a Phen-ci-bach!
 
(Sadi) Ydw, a border o lafant a Phen-ci-bach!
(1, 0) 409 Rhosynnau a pherlysiau!
(Sadi) Blodau Mihangel!
 
(Sadi) Blodau Mihangel!
(1, 0) 411 A Thresi Aur!
(1, 0) 412 A Blodau'r Cledd!
(Sadi) A phren afalau!
 
(Sadi) A phren afalau!
(1, 0) 414 Dyn yn ei ardd,─pinacl gwareiddiad!
(Sadi) Be sy draw acw?
 
(Sadi) Be sy draw acw?
(1, 0) 416 Cytia,─hen stablau ac ati.
(1, 0) 417 Digon o le...
(1, 0) 418 Wyddost ti be ddwedais i o dan fy ngwynt pan welais i nhw gynna efo Mr. Martin?
(Sadi) Be ddwedaist ti?
 
(Sadi) Be ddwedaist ti?
(1, 0) 420 Ieir!
(1, 0) 421 Dyna be ddwedais i,─Ieir!
(Sadi) O?
 
(1, 0) 425 Ia, cadw ieir.
(1, 0) 426 Bugeilio da-pluog.
(1, 0) 427 Cyfuno proffid a phleser.
(1, 0) 428 'Defnyddio'r lle yn ôl ein doethineb', ─dyna ddwedodd o.
(1, 0) 429 Dyna'r amod.
(1, 0) 430 Fedra i feddwl am ddim gwell, fedri di?
(Sadi) Wel...
 
(Sadi) Wel...
(1, 0) 432 Pleser a phroffid!
(1, 0) 433 Wya a chig a phlu i'r gobennydd!
(1, 0) 434 Heb sôn am eu cwmni tra byddan nhw'n fyw...
(1, 0) 435 Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad?
(Sadi) Syniad da.
 
(Sadi) Alis, Cleopatra, a Meri Ann Ddu!
(1, 0) 443 A'r ceiliog?
(Sadi) Siôn Chwimwth.
 
(Sadi) Siôn Chwimwth.
(1, 0) 445 O?
(Sadi) Ne Syr Harri,─'dwy' i ddim yn gwybod eto.
 
(Sadi) Wya, a be?
(1, 0) 450 Wya, a chig a phlu i'r gobennydd.
(Sadi) Wya, ia.
 
(Sadi) Fedrwn i byth!
(1, 0) 455 Twt, twt!
(Sadi) Mi fydda fel lladd fy nheulu, canibaliaeth!
 
(Sadi) Mi fydda fel lladd fy nheulu, canibaliaeth!
(1, 0) 457 E?
(1, 0) 458 Mae gen ti ormod o be-wyt-ti'n-alw dychymyg, 'sti.
(1, 0) 459 Hynny ydy... ia, wel... rhaid imi fynd i weld y stafelloedd eraill yna rŵan.
(Sadi) Weli di ddim llawer arnyn nhw, bellach.
 
(Sadi) Weli di ddim llawer arnyn nhw, bellach.
(1, 0) 461 E?...
(1, 0) 462 Pam?
(Sadi) Tywyll.
 
(Sadi) Tywyll.
(1, 0) 464 Be wyt ti'n 'i feddwl, 'tywyll'?
(Sadi) Dim gola.
 
(Sadi) Dim gola.
(1, 0) 466 Ond mae yna ola yma!
(Sadi) 'Does yna ddim yn unlle arall.
 
(Sadi) 'Does yna ddim yn unlle arall.
(1, 0) 468 Dewcs!
(1, 0) 469 Dim bylbia, mae'n debyg...
(1, 0) 470 O wel, mi ga i eu setlo nhw fory.
(1, 0) 471 Haws gwneud yng ngola dydd...
(1, 0) 472 A pheth arall, mi ydw i wedi hen flino heno.
(Sadi) Syrthni gwin.
 
(Sadi) Syrthni gwin.
(1, 0) 474 E?
(1, 0) 475 Ia, hwnnw hefyd...
(1, 0) 476 O wel, gorffwys amdani.
(Sadi) Ar y cadeiria.
 
(Sadi) Ar y cadeiria.
(1, 0) 478 Be wyt ti'n 'i feddwl?
(Sadi) Wel, ble arall?
 
(Sadi) Fedrwn ni ddim rhyfygu gwely tamp.
(1, 0) 481 Hidia befo.
(1, 0) 482 Esmwyth cwsg potas maip.
(Sadi) Mi gawn wely nos yfory os byddwn ni'n fyw ac iach.
 
(Sadi) Mi gawn wely nos yfory os byddwn ni'n fyw ac iach.
(1, 0) 484 Os na fyddwn ni, wnawn ni ddim poeni rhyw lawer!
(Sadi) Be?
 
(Sadi) Be?
(1, 0) 486 Pa gadair gymeri di?
(Sadi) Dim gwahaniaeth.
 
(Sadi) 'Run fath ydyn nhw i gyd.
(1, 0) 489 Ia, digon gwir.
(1, 0) 490 Mi gymera i hon felly...
 
(1, 0) 492 Dewcs, mae hi'n oer!
(Sadi) Côt amdanat.
 
(Sadi) Côt amdanat.
(1, 0) 494 Syniad da.
(Sadi) Paid â thynnu dy sgidia.
 
(Sadi) Mi fydd dy draed di fel llyffantod, toc.
(1, 0) 499 Fedra i ddim cysgu efo nhw am fy nhraed.
(1, 0) 500 Mi wyddost ti hynny'n iawn.
(Sadi) O wel, ti sy'n gwybod.
 
(Sadi) Het?
(1, 0) 506 Gwynt oer ar fy mhen i.
 
(1, 0) 508 A, dyna welliant!
 
(1, 0) 510 Wyt ti ddim wedi blino, dwed?
(Sadi) Blino?
 
(Sadi) Mi fedrwn gysgu ar lein ddillad!
(1, 0) 514 Cyffyrddus?
(Sadi) Go lew.
 
(Sadi) Go lew.
(1, 0) 516 Mi newidiwn ni gadeiria os mynni di.
(Sadi) Na, mi ydw i'n iawn.
 
(Sadi) Na, mi ydw i'n iawn.
(1, 0) 518 Ia, wel, ti sydd i ddweud.
 
(1, 0) 520 Mi gei di newid toc os byddi di'n teimlo felly.
(Sadi) Dos i gysgu.
 
(Sadi) Dos i gysgu.
(1, 0) 522 Dim ond iti wybod,─dyna oedd gen i.
(Sadi) Ia.
 
(Sadi) Ia.
(1, 0) 524 Nos dawch.
(Sadi) Nos dawch.
 
(Sadi) Mac!
(1, 0) 528 Ia?
(Sadi) Gola.
 
(Sadi) Gola.
(1, 0) 530 E?
(Sadi) Gola.
 
(Sadi) Iawn.
(1, 0) 548 Reit...
(1, 0) 549 Wel, nos dawch eto.
(Sadi) Nos dawch.
 
(Sadi) Nos dawch.
(1, 0) 552 Wyddost ti be, tawn i'n ddyn crefyddol...
(Sadi) Ia?
 
(Sadi) Ia?
(1, 0) 554 Tawn i'n ddyn crefyddol, diawch synnwn i flewyn na fyddwn i'n gweddïo heno!