Y Pwyllgor

Ciw-restr ar gyfer Malachi

 
(1, 0) 7 Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych!
(Mari) {Yn y "rwm-genol".}
 
(1, 0) 12 Go, darro!
(Mari) Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi!
 
(1, 0) 15 Beth wetas-i, yn wir!
(Mari) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna.
 
(Mari) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna.
(1, 0) 17 Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chitha i ddod â shwd Iassis a hyn i'r ty.
 
(1, 0) 19 Welas-i shwt beth ariod, os bydd ast arno-i i fynd i rwla, wy-i mor wirad o dorri lassan ne golli bwtwn, a mod i'n ddyn.
(Mari) Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt.
 
(Mari) Wn-i ar y ddaear ble ma'ch |front| chi.
(1, 0) 23 |Front|!
(1, 0) 24 Pwy isha |front| sy heno?
(1, 0) 25 Dewch â'r grafat goch 'na yma.
(Mari) Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn.
 
(Mari) Ble dotsoch-chi'r |front| 'na nos Sul?
(1, 0) 28 Dyna wyr.
(1, 0) 29 Ma rhyw hen wynt rhyfadd wedi mynd yndo chi oddiar ath Lisa Jane i'r college.
(1, 0) 30 Beth fydd raid i fi nithir nesa wn-i gwishgo cuffs i fynd i'r seiat falla?
 
(1, 0) 32 Wel, tawn i'n trico!
(1, 0) 33 Mari, os dim lassan letar yn y ty 'ma rwla?
(Mari) Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt!
 
(1, 0) 44 Mari, lassis lletar sy gita Jacob.
(Mari) D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr.
 
(Mari) Nawr, y |front|, nesa.
(1, 0) 61 Mwfflar sy am wddwg Jacob!
(Mari) Ma brest Jacob yn wan.
 
(Mari) Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi!
(1, 0) 65 O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach!
(Mari) Rhy fach, dyma'r |front| fwya ôdd yn y shop—17½.
 
(Mari) Dyna {wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y |front|}, 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr.
(1, 0) 69 Fe fysa'n well gen i ddishgwl yn depyg i rwpath arall, wath felny wy'i'n teimlo.
(Jacob) {Yn codi.}
 
(1, 0) 75 Jacob, glwsoch-chi a'n mynd?
(Jacob) Clwad beth?
 
(1, 0) 80 Jacob Evans, 'r wy-i 'n gallu godda profedigitha mawr bywyd yn weddol iawn, ond ma rwpath fel hyn yn strain ofnadw ar y ticyn crefydd sy gen i.
(Mari) O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad.
 
(Mari) O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad.
(1, 0) 82 Dewch a'm strapan i 'ma.
(Mari) Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall.
 
(Jacob) Fe naiff un bwtwn y tro am heno.
(1, 0) 87 Gnaiff a!
(1, 0) 88 Dyna i gyd ych-chi'n wpod.
 
(1, 0) 90 'D ych-chi ddim wedi gweld y galasis ffashiwn newydd 'ma?
(1, 0) 91 O bobpath dwl welas i ariod, sylwch ar y wheel fach yna, ma-hi fel sheave ingin windo.
(1, 0) 92 Os collwch chi un bwtwn ma'r un man i chi golli dou.
(Jacob) Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i.
 
(Jacob) Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i.
(1, 0) 94 Iefa?
(1, 0) 95 Ma gita chi ffydd fawr yn Rhagluniath.
(Jacob) Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw.
 
(Mari) Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth.
(1, 0) 99 Wfft shwt bresant weta-i.
(Jacob) Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto.
 
(Matthew) 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma.
(1, 0) 113 Itha right, cymerwch gatar.
(1, 0) 114 Ishteddwch Obadiah, dewch ymlan.
(Mari) O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.
 
(Mari) Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr.
(1, 0) 126 Ia, ia, fe fyddwn yn fwy cysurus manny.
(Matthew) Pwy ishai chi gynnu tân yn y rwm genol sy?
 
(Obadiah) Bifan.
(1, 0) 139 Os yn-ni yn mynd i aros yn y gecin, a Mari yn yn plith ni, 'd ôs dim isha i chi chynnyg hi yn aelod o'r pwyllgor,—dyna fi yn roi rypudd teg i chi nawr.
(Jacob) Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad?
 
(1, 0) 158 Os raid i fi wed rwpath nawr?
(Jacob) Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith.
 
(Jacob) Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith.
(1, 0) 160 Hannar munad ta!
 
(1, 0) 162 Frotyr a chwiorydd,...
(Mari) {Yn crechwen.}
 
(1, 0) 166 Os ych-chi, Mari, yn mynd i wherthin ar ym mhen i, weta-i ddim gair arall.
(Matthew) Galwch hi i gownt, Malachi, galwch hi i gownt; chi yw'r cadeirydd.
 
(1, 0) 171 Dyna fe! glywsoch chi!
(1, 0) 172 Ma'n raid i chi acto'n weddus miwn pwyllgor.
(Mari) Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith.
 
(Mari) Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith.
(1, 0) 174 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni?
(Mari) Otyn, otyn.
 
(Mari) Otyn, otyn.
(1, 0) 177 Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma.
(Mari) Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i.
 
(1, 0) 188 Wel, 'r ych chi gyd yn gwpod nag wy-i ddim llawar o sharatwr.
(Mari) Clywch, clywch!
 
(Mari) Clywch, clywch!
(1, 0) 190 Dyna chi 'to!
(Matthew) Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr.
 
(Matthew) Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr.
(1, 0) 192 Fel gwetas i, 'wy-i ddim llawar o sharatwr, ond ma ngalon-i yn y gwaith.
(1, 0) 193 'R wy wedi bod gita chrefydd nawr ers dros ddeugain mlynadd...
(Mari) Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch?
 
(1, 0) 199 A... a... 'rwy wedi talu'r shop yn gyson pob pythewnos drw'r blynydda... a... a... a os pariff y tywydd fel hyn, fe ddylsan gal steddfod hyfryd.
(Y Gwyr) Clywch, clywch.
 
(Y Gwyr) {Curo dwylaw.}
(1, 0) 202 Ond... ond, i fynd ymlan... ia... a... i fynd ymlan... ia... {yn troi yn sydyn at JACOB}, Jacob Evans, 'r ych chi'n gwpod beth i wêd yn well na fi, a chitha'n cyoeddi bob Sul─dewch nawr, gair bach yn fyr.
(Jacob) Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd.
 
(1, 0) 211 Beth ych-chi'n gofyn i fi!
(Jacob) Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall—
 
(Mari) Ma nhw lawn mor barchus a ni.
(1, 0) 215 Ordor, Mari.
(Jacob) Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni.
 
(1, 0) 225 Nawr, Mari, tynnwch ych geira nol, gwnewch |apology| ar unwaith.
(Mari) O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi?
 
(Obadiah a Matthew) C'wilydd, c'wilydd!
(1, 0) 236 Ia, c'wilydd mawr hefyd.
(Jacob) Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i.
 
(1, 0) 258 Ah?
(Obadiah) 'R wy'n cwnnu ar |boint of ordor|.
 
(Obadiah) 'R wy'n cwnnu ar |boint of ordor|.
(1, 0) 260 Obadiah, 'r ych-chi gwpod nag os dim llawar o Sisnag gen-i; gobitho nag ych-chi ddim yn trio'n shimplo-i.
(Jacob) Nagyw, nagyw, |point of ordor| bachan, |point of ordo|r—wastod miwn pwyllgor,
 
(1, 0) 263 'R wy-i wedi bod ar gannodd o bwyllgora—
(Mari) O—h!
 
(Mari) O—h!
(1, 0) 265 Wel, fe alla wêd ma nid dyma'r tro cynta i fi fod ar bwyllgor, ond chlywas i ariod son am |boint of ordor| miwn pwyllgor Cwmrag o'r blan.
(1, 0) 266 Ond cerwch ymlan i ni gal clwad beth sy gita chi.
(Obadiah) Dyna beth sy gen i: pwy isha i ni gal 'steddfod sy, pwy les ma'r hen 'steddfota bach ma'n nithir?
 
(Obadiah) 'R wy-i 'n cynnyg yn bod ni yn cal drama.
(1, 0) 272 Beth!
(1, 0) 273 Wara hen blai yn y capal!
(Matthew) Ma gen-i welliant.
 
(Jacob) Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw!
(1, 0) 277 'D os dim drama na chonsart i fod.
(1, 0) 278 |Fi| yw'r cadeirydd, a wetyn, tewch son.
(1, 0) 279 Heblaw hynny, ma cwrdd y brotyr wedi penderfynu cal 'steddfod.
(1, 0) 280 Os na chynaliwn ni 'steddfod nawr fe fydd aelota Salam yn meddwl 'u bod nhw wedi cal y gora arno-ni.
(Mari) {Yn annerch y gadair yn ffurfiol iawn.}
 
(Mari) Mr. Cadeirydd, |point of ordor|.
(1, 0) 283 O, beth wyddoch chi am beth felny?
(Mari) Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a?
 
(Mari) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd.
(1, 0) 290 Dyna i gyd sy gita-chi i wed?
(Mari) Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam.
 
(1, 0) 299 Dyna chi! arno-chi ma'r bai.
(1, 0) 300 Fe roias i rypudd teg i chi; fe wyddwn-i o'r gora y gnelsa Mari gawl o'r cwbwl.
(Mari) Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi.
 
(Matthew) 'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam.
(1, 0) 317 Nag-yn, a nawr, gan 'i bod hi wedi mynd yn waetha waetha, 'd wy-i ddim yn gweld fod isha i ni bito cal 'steddfod.
(Jacob) Nagw inna chwaith.
 
(Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program.
(1, 0) 323 Ia, ia; dyma ni wedi bod bron hannar awr man hyn, a 'd yn-ni ddim tamad nes mlan, dim ond o'ch hachos chi, Mari.
(1, 0) 324 Dos dim isha mynd i'r shop arno-chi, ne rwpath?
(Mari) Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn.
 
(Mari) A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi.
(1, 0) 327 Wel, beth gymerwn ni gynta?
(1, 0) 328 Y prif-ddarn?
(1, 0) 329 Dewch Matthew, chi yw'r dechreuwr canu, beth yw'ch barn chi?
(Obadiah) Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar |boint of ordor|.
 
(Obadiah) Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar |boint of ordor|.
(1, 0) 331 Wel 'tawn i'n marw, rhyw gratur penstiff ych chi Obadiah!
(1, 0) 332 Beth sy'n bod nawr?
(Obadiah) Pwy isha sy i ni roi'r lle blaena i'r hen ganu 'ma?
 
(Mari) 'R wy inna yn eilio'r cynyciad.
(1, 0) 342 Na, na, fe gymerwn y prif-ddarn gynta.
(1, 0) 343 Os yma ryw gynyciad?
(Jacob) 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program.
 
(Jacob) 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program.
(1, 0) 345 Beth yw hwnnw?
(Jacob) "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
 
(Mari) Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi—
(1, 0) 357 Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa?
(Jacob) Malachi bach, plant ôn-ni.
 
(Obadiah) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanes caru Jacob Evans?
(1, 0) 366 Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma.
(Mari) Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni.
 
(Jacob) Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys.
(1, 0) 372 Daw-a'n wir!
(1, 0) 373 Cymerwch chi bwyll Jacob.
(1, 0) 374 Llai o'r hen amsar melys 'na, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 375 Matthew, chi yw'r dyn yn y dryswch 'ma.
(1, 0) 376 Dewch nawr.
(Matthew) Y peth cynta sy gita ni gofio pan yn dewish y prif-ddarn yw bod y byd-cerddorol yn symud ymlan.
 
(Matthew) Ma isha rwpath mwy na |phitchfork|, cofiwch, i nithir cerddor.
(1, 0) 385 Dyna glatchan yn 'i lle, Matthew.
(1, 0) 386 Ishteddwch lawr, Obadiah, a dysgwch wrando'n barchus pan bodyn o wybotath yn gwêd gair.
(Jacob) Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew?
 
(Matthew) Wel, dyna'r dernyn ôdd ar ym meddwl i, "Worthy is the Lamb."
(1, 0) 400 O, Sisnag, iefa?
(Matthew) Ia, Sisnag yw-a.
 
(Matthew) Atnod o'r Scrythur yw'r geira.
(1, 0) 403 Iefa'n wir.
(1, 0) 404 Shwt ma'r Ysgrythur yn canu yn Sisnag, Matthew?
(Matthew) Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth.
 
(Matthew) Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth.
(1, 0) 406 Dyna-fe lwchi, Cwmrag yw iaith crefydd, ontefa?
(Jacob) Ia,ia,—ia.
 
(1, 0) 411 Mari, chi'n cofio 'steddfod Aberdar!
(Mari) Cofio, ddala-i mod-i!
 
(1, 0) 414 Dyna le gwelais-i Mari gynta; yn canu gita altos Côr y Cwm.
(1, 0) 415 'R wy'n 'i gweld hi nawr, ffroc lâs, shacad goch, het felan a phlufyn gwyrdd—ôdd hi fel twmplan fach, ôdd!
(1, 0) 416 Fuas-i fawr o dro cyn dala 'i llycad hi, a fe ddath rwpath drosto-i bob tamad, do; "Dyna ngwraig i," myntwn-i, "dyna ngwraig i."
(Mari) Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob?
 
(Mari) Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod.
(1, 0) 419 Ia, ia, ond, ha! ha!—gita fi yr ithoch chi sha thre.
(Jacob) {Yn sychlyd.}
 
(Jacob) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams?
(1, 0) 422 Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah.
(Mari) Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys.
 
(Mari) Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys.
(1, 0) 424 Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn |glassical|, on'd yw hi?
(Jacob) |Classical|, nag yw!
 
(Jacob) |Classical|, nag yw!
(1, 0) 426 Ma-hi'n ddicon mwy |classical| na'r "Blotyn bach."
(1, 0) 427 Dewch nawr, Matthew, gwetwch ych barn yn onast.
(Matthew) {Yn ddifrifol.}
 
(Matthew) 'R wy-i'n cynnyg "Worthy is the Lamb."
(1, 0) 434 Os yma rywun yn eilio'r cynyciad?
(Obadiah) {Yn ffyrnig.}
 
(Matthew) Mannars, Obadiah, mannars os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 438 Ryw gynyciad arall?
(Matthew) {Yn codi.}
 
(Jacob) 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
(1, 0) 444 Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna?
(Mari) Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa.
 
(Mari) Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa.
(1, 0) 446 Mari!
(Jacob) 'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê.
 
(1, 0) 449 Pob un sy dros y "Blotyn bach," i ddod a'r hen amsar melys nol?
 
(1, 0) 451 Pob un sy'n grôs?
 
(1, 0) 454 Nawr ta, Jacob, ble 'r ych-chi nawr, eh?
 
(1, 0) 456 Dewch chi, merch-i!
(Mari) {Yn siriol.}
 
(Mari) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd."
(1, 0) 459 Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan!
(Mari) Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a.
 
(1, 0) 462 Eiliwch-a 'ch hunan.
(Obadiah) Fe eilia-i'r cynyciad.
 
(1, 0) 465 O'n wir; ym mhwy 'steddfod buoch |chi|, Obadiah?
(Mari) Lan âg ê, lan âg ê.
 
(1, 0) 468 Pob un sy dros "Y don o flan y gwyntodd"?
 
(1, 0) 470 Pob un sy'n grôs?
(Obadiah) O'n i'n eilio'r cynyciad er mwyn dangos y dryswch sy'n dilyn o gymeryd yr hen ganu 'ma gynta.
 
(Obadiah) 'R wy-i'n cretu y dylsa-ni fynd ymlan at yr ochor lenyddol.
(1, 0) 476 Itha right.
(1, 0) 477 Ishteddwch i lawr, Matthew, fe ddewn ni'n ol at y canu eto.
(Obadiah) {Yn chwyddo.}
 
(Mari) 'R wy-i'n eilio'r cynyciad.
(1, 0) 482 Barddoniath a pheth?
(Obadiah) Barddoniath a ryddiath.
 
(1, 0) 485 Ryddiath?
 
(1, 0) 487 Fe fyddwn-ni'n cynnal y 'steddfod, Obadiah, miwn ty cysegredig.
 
(1, 0) 489 Os gita chi ryw syniad beth ma-fa'n gisho'i wêd?
(Jacob) Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru.
 
(Jacob) Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru.
(1, 0) 491 O—h, wel, pam na wetiff y dyn 'i feddwl yn blan.
(1, 0) 492 O'r gora, fe ddechreuwn gita'r llythyr caru.
(1, 0) 493 Faint o wobor gynycwn-ni?
(Mari) Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi?
 
(1, 0) 498 Ma ryw wendid ryfadd wedi dod drosto chi yn ych henaint, nagos-a?
(Mari) Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn.
 
(Jacob) Ordor, ordor.
(1, 0) 511 Gadewch i bob un spelian fel ma-fa'n dewish, yn enw'r bendith, spelian fel dysgws-a yn yr Ysgol Sul, spelian 'r un ffordd a'r Beibl.
(Obadiah) 'Dyw orgraff y Beibl ddim hannar |right|.
 
(1, 0) 515 Obadiah, ma'n flin gen-i'ch clwad chi yn wilia felna, bachan ifanc gobithol fel chi, sy â'i lycad ar y sêt fawr.
(Jacob) Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na.
 
(1, 0) 519 Nawr Obadiah, ishteddwch lawr, ne dyn a wyr beth wetwch chi nesa.
(1, 0) 520 Os triwch chi fod yn gymedrol, fe driwn ninna anghofio'r hyn wetsoch chi.
(1, 0) 521 Cofiwch chi, tsa aelota Pisgah yn dod i wpod am hyn, fe fysa hi yn galed iawn arnoch-chi.
(Jacob) Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora.
 
(Matthew) Dyna ryw synnwyr nawr.
(1, 0) 526 Ar bwy destun, Jacob?
(Jacob) "Noah yn mynd miwn i'r Arch."
 
(Jacob) "Noah yn mynd miwn i'r Arch."
(1, 0) 528 Testun hyfryd.
(Mari) Ma gen-i welliant at y testun yna.
 
(Mari) Ma gen-i welliant at y testun yna.
(1, 0) 530 Wel?
(Mari) "Noah yn dod mas o'r arch."
 
(1, 0) 544 Os yma rywun yn diall Obadiah?
(Matthew) 'R wy-i'n cretu mod i yn 'i ddiall-a wath ma'r hen grotyn 'na sy gen i yn clepran petha tepyg amball waith.
 
(1, 0) 552 Nawr, nawr, Obadiah, ôs dim ffraeo i fod yn y ty 'ma.
(1, 0) 553 Ishteddwch lawr.
(Jacob) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch."
 
(Mari) Druan a chi!
(1, 0) 557 Ag ar bwy ma'r bai.
(1, 0) 558 Fe fysan-ni'r dynon wedi nithir gwaith onibai amdano chi.
(Mari) 'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi.
 
(Obadiah) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n gofyn i Mr. Bifan i nithir |apology| i fi.
(1, 0) 562 'R wy-inna yn gofyn i chitha i ishta lawr.
(1, 0) 563 'Rych chi lawn cynddrwg a Mari.
(Matthew) Ma fa lawar gwath.
 
(1, 0) 566 Odd hawl gita ni i ddewis Mari yn aelod o'r pwyllgor 'ma?
(Jacob a Matthew) Odd, ôdd—ôdd.
 
(Jacob a Matthew) Odd, ôdd—ôdd.
(1, 0) 569 O'r gora, os odd hawl gita ni idd 'i nithir hi'n aelod, ma hawl gita ni idd 'i diaeloti hi.
(Jacob) Ma reswm yn 'yna hefyd.
 
(Jacob) Ma reswm yn 'yna hefyd.
(1, 0) 571 A os ôs hawl gita ni i ddiaeloti Mari ma hawl gita ni i ddiaeloti Obadiah.
(Matthew) Clywch, clywch.
 
(Matthew) Clywch, clywch.
(1, 0) 573 'D yw Mari a Obadiah yn ddim byd ond rhwystyr, a wetyn, ma'n well i ni idd 'i diaeloti nhw.
(1, 0) 574 Fyddwn ni'n tri ddim wincad yn partoi program: fe gewch chi, Matthew, ych ffordd gita'r gerddoriath, fe gaiff Jacob drefnu'r farddoniath a'r—a'r peth arall 'na, a fe ofala inna am yr amrywiath.
(Mari) Pwyllgor o ddynon, wel, wel!
 
(Mari) Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall?
(1, 0) 580 Y |ni| yn mynd i ofyn iddyn |nhw|!
(1, 0) 581 Otyn |nhw| wedi dod i ofyn i |ni|?
(Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i.
 
(Mari) Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul?
(1, 0) 584 Dim |fear|, ma nhw lawar rhy gysglyd.
(Mari) {Yn codi ac yn siarad yn araf a thawel.}
 
(1, 0) 608 Obadiah!