Y Pwyllgor

Ciw-restr ar gyfer Mari

(Malachi) Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych!
 
(1, 0) 9 Chi a'ch hen gefan!
(1, 0) 10 Dewch, mwstrwch-hi, ne ewch chi ddim i'r pwyllgor heno.
(Malachi) {Yn tynnu yn rhy egniol gan dorri y garai.}
 
(Malachi) Go, darro!
(1, 0) 13 Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi!
(Malachi) {Yn syllu yn ofidus ar y darn yn ei law.}
 
(Malachi) Beth wetas-i, yn wir!
(1, 0) 16 Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna.
(Malachi) Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chitha i ddod â shwd Iassis a hyn i'r ty.
 
(Malachi) Welas-i shwt beth ariod, os bydd ast arno-i i fynd i rwla, wy-i mor wirad o dorri lassan ne golli bwtwn, a mod i'n ddyn.
(1, 0) 20 Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt.
(1, 0) 21 Torri lassis a cholli bwtwna wy-i yn ych cofio chi.
(1, 0) 22 Wn-i ar y ddaear ble ma'ch |front| chi.
(Malachi) |Front|!
 
(Malachi) Dewch â'r grafat goch 'na yma.
(1, 0) 26 Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn.
(1, 0) 27 Ble dotsoch-chi'r |front| 'na nos Sul?
(Malachi) Dyna wyr.
 
(Malachi) Mari, os dim lassan letar yn y ty 'ma rwla?
(1, 0) 34 Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt!
(1, 0) 35 Tasa |chi|'n cal ych ffordd, fe wishgsach fel |navvy|.
(1, 0) 36 Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford.
(Jacob) Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno?
 
(Jacob) Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod.
(1, 0) 40 Dewch miwn, Jacob, dewch miwn, fe fydd Malachi yn barod nawr miwn hannar munad,
 
(Malachi) Mari, lassis lletar sy gita Jacob.
(1, 0) 46 D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr.
(1, 0) 47 Cerwch o'r ffordd.
 
(1, 0) 49 Jacob, oti'ch gwraig chi yn gorffod lasso'ch scitsha chi fel hyn?
(Jacob) {Yn eistedd mewn cadair freichiau wrth y tân.}
 
(Jacob) Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna.
(1, 0) 52 Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.
(Jacob) Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch.
 
(1, 0) 56 Dyna.
 
(1, 0) 58 Nawr, y |front|, nesa.
(Malachi) Mwfflar sy am wddwg Jacob!
 
(Malachi) Mwfflar sy am wddwg Jacob!
(1, 0) 62 Ma brest Jacob yn wan.
 
(1, 0) 64 Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi!
(Malachi) O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach!
 
(Malachi) O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach!
(1, 0) 66 Rhy fach, dyma'r |front| fwya ôdd yn y shop—17½.
(1, 0) 67 Well i chi gal colar ceffyl.
(1, 0) 68 Dyna {wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y |front|}, 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr.
(Malachi) Fe fysa'n well gen i ddishgwl yn depyg i rwpath arall, wath felny wy'i'n teimlo.
 
(Jacob) Ma'n well i ni fynd.
(1, 0) 72 Dewch nawr, Malachi, {yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd} mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd.
(Malachi) {Yn ofidus.}
 
(Jacob) Clwad beth?
(1, 0) 77 Beth sy'n bod nawr?
(1, 0) 78 Y nefoedd annwl, bwtwn arall eto!
(Malachi) {Yn alarus, ar ol gosod ei law dde tu cefn, ac yn dangos bwtwm ar gledr ei law.}
 
(Malachi) Jacob Evans, 'r wy-i 'n gallu godda profedigitha mawr bywyd yn weddol iawn, ond ma rwpath fel hyn yn strain ofnadw ar y ticyn crefydd sy gen i.
(1, 0) 81 O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad.
(Malachi) Dewch a'm strapan i 'ma.
 
(Malachi) Dewch a'm strapan i 'ma.
(1, 0) 83 Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall.
(Jacob) Pwy isha bwtwn arall sy?
 
(1, 0) 98 Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth.
(Malachi) Wfft shwt bresant weta-i.
 
(1, 0) 106 Dewch miwn, Matthew, fydd Malachi ddim hannar munad cyn dod.
 
(1, 0) 109 O, 'r ych-chi Obadiah 'na hefyd.
(1, 0) 110 Dewch miwn, dewch miwn.
(Matthew) 'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma.
 
(Malachi) Ishteddwch Obadiah, dewch ymlan.
(1, 0) 115 O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.
(Jacob) Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi.
 
(1, 0) 122 Llaw futur yw Jacob, ontefa?
(1, 0) 123 Dyna, os collwch chi'r bwtwn yna eto, fe'i gwinia fa â chordyn y tro nesa.
 
(1, 0) 125 Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr.
(Malachi) Ia, ia, fe fyddwn yn fwy cysurus manny.
 
(Jacob) A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol.
(1, 0) 132 Allwch-chi ddim bod yn y gecin, ne fydd gen i ddim un lle i fynd.
(1, 0) 133 Ble 'r af fi?
(Jacob) 'D ôs dim isha i chi fynd i unman.
 
(1, 0) 164 Ma Malachi yn mynd i gynnal gwasanath.
(Malachi) {Yn ddigofus.}
 
(Malachi) Ma'n raid i chi acto'n weddus miwn pwyllgor.
(1, 0) 173 Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith.
(Malachi) 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni?
 
(Malachi) 'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni?
(1, 0) 175 Otyn, otyn.
(Malachi) Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma.
 
(Malachi) Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma.
(1, 0) 178 Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i.
(Matthew) Ia, ia, Malachi, trio'ch helpu chi ôdd hi.
 
(1, 0) 185 O, 'r wy'n gweld.
(Matthew) Dewch mlan, Malachi, dechreuwch eto.
 
(Malachi) Wel, 'r ych chi gyd yn gwpod nag wy-i ddim llawar o sharatwr.
(1, 0) 189 Clywch, clywch!
(Malachi) Dyna chi 'to!
 
(Malachi) 'R wy wedi bod gita chrefydd nawr ers dros ddeugain mlynadd...
(1, 0) 194 Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch?
(Obadiah) |Chair, chair|.
 
(Jacob) Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa.
(1, 0) 207 Naddo, phenderfynws yr eclws ddim shwt beth.
(Matthew) Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr.
 
(Matthew) Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr.
(1, 0) 209 Do, dair wthnos i bora Sul dwetha yn y cwrdd brotyr buws son gynta am 'steddfod, ontefa Malachi?
(Malachi) {Yn anghysurus.}
 
(Obadiah) Parchus yn wir!
(1, 0) 214 Ma nhw lawn mor barchus a ni.
(Malachi) Ordor, Mari.
 
(Jacob) Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni.
(1, 0) 217 Dyna gelwdd.
(Obadiah) |Chair, chair|.
 
(Malachi) Nawr, Mari, tynnwch ych geira nol, gwnewch |apology| ar unwaith.
(1, 0) 226 O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi?
(1, 0) 227 Pology a finna'n gwpod gwell!
(Obadiah) Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd.
 
(Obadiah) Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd.
(1, 0) 229 O─h wel, dyna waniath nawr.
(1, 0) 230 Wyddwn i ddim o hynny.
(1, 0) 231 O'r gora, er mwyn mynd ymlan, 'r wy'n folon tynnu'r gair 'celwdd' yn ol, ond... ôdd Jacob ddim yn gwêd y gwir.
(Matthew) Cerwch mlan Jacob.
 
(Y Brodyr) Clywch, clywch!
(1, 0) 241 'D yn-nhw damad gwath na thacla eclws Pisgah, ond falla 'u bod nhw dicyn yn fwy |cute|.
(Jacob) 'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam.
 
(Malachi) 'R wy-i wedi bod ar gannodd o bwyllgora—
(1, 0) 264 O—h!
(Malachi) Wel, fe alla wêd ma nid dyma'r tro cynta i fi fod ar bwyllgor, ond chlywas i ariod son am |boint of ordor| miwn pwyllgor Cwmrag o'r blan.
 
(1, 0) 282 Mr. Cadeirydd, |point of ordor|.
(Malachi) O, beth wyddoch chi am beth felny?
 
(Malachi) O, beth wyddoch chi am beth felny?
(1, 0) 284 Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a?
(Jacob, Matthew, Obadiah) Os, ôs.
 
(Jacob, Matthew, Obadiah) Os, ôs.
(1, 0) 286 Wel, ma Jacob Evans wedi gwêd fod aelota Salam wedi mynd yn grôs i ni yn Pisgah.
(Jacob) Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy?
 
(Jacob) Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch."
(1, 0) 289 Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd.
(Malachi) Dyna i gyd sy gita-chi i wed?
 
(Malachi) Dyna i gyd sy gita-chi i wed?
(1, 0) 291 Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam.
(Y Brodyr) {Yn codi fel un.}
 
(1, 0) 295 'Dos dim isha i chi waeddi, 'dos dim tamad o'ch hofan chi arno-i, dim un o chi.
(1, 0) 296 Y gwir yn erbyn y byd, myn brain-i, Jacob.
(Malachi) {Yn annerch y tri gwr.}
 
(Malachi) Fe roias i rypudd teg i chi; fe wyddwn-i o'r gora y gnelsa Mari gawl o'r cwbwl.
(1, 0) 301 Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi.
(1, 0) 302 Fe naiff les i chi lyncu tipyn o wirionadd.
 
(1, 0) 304 Fuws dim son am 'steddfod yng nghapal Pisgah cyn tair wthnos i bora dydd Sul dwetha—all un o chi watu hynna?
 
(1, 0) 306 Wel, ôdd capal Salam wedi penderfynu dros bump wthnos yn ol.
(Matthew) O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na?
 
(Matthew) O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na?
(1, 0) 308 'D yw-a ddim ond peth glwas-i â'm clusta 'm hunan, Matthew.
(1, 0) 309 On-i yn shop y Coparetif, fish i nos Satwn dwetha, a fe glwas Ifan Twm Shon yn gwêd wrth Shân Ty-Cornal fod y brotyr yn eclws Salam yn meddwl cal 'steddfod dydd Calan nesa, a wetyn, o ble gallwch chi wêd 'u bod nhw wedi mynd yn grôs i chi?
(Jacob) Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim.
 
(Jacob) Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw.
(1, 0) 312 'D wy-i ddim am wed shwt beth.
(1, 0) 313 Falla ma wedi dicwdd yn lletwith ma petha, falla nace-fa hefyd.
 
(1, 0) 315 Ta pun, dyna'r gwirionadd.
(Matthew) 'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam.
 
(Jacob) Nagw inna chwaith.
(1, 0) 319 O'r gora, a dyma finna yn roi rypudd i chi.
(1, 0) 320 Cerwch chi mlan â'r program, ond os gnewch chi ffwliad o chi 'ch hunen, arno-chi bydd y bai.
(Matthew) 'R yn-ni yn fwy tebyg o nithir ffwliad o aelota Salam o beth dychrynllyd.
 
(Malachi) Dos dim isha mynd i'r shop arno-chi, ne rwpath?
(1, 0) 325 Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn.
(1, 0) 326 A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi.
(Malachi) Wel, beth gymerwn ni gynta?
 
(1, 0) 341 'R wy inna yn eilio'r cynyciad.
(Malachi) Na, na, fe gymerwn y prif-ddarn gynta.
 
(Jacob) "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
(1, 0) 347 Chi ithoch â'r gair oddiar flan y nhafod-i Jacob.
(1, 0) 348 'R wy-i'n dwli 'n lân ar y pishin bach yna.
(1, 0) 349 Chi'n cofio côr Panteg yn cystadlu?
(Jacob) Cofio, wel am otw.
 
(Jacob) Cofio, wel am otw.
(1, 0) 351 Fe geson-ni lawar i rali fach prynny, ondofa Jacob?
(1, 0) 352 Deryn doniol och-chi'n arfadd bod yn grotyn.
(Jacob) A thwisan ofnatw och chitha, Mari.
 
(Matthew) Ordor, ordor.
(1, 0) 355 Der, der, fel ma'r hen fyd 'ma; ôn-i'n meddwl dim am gysgod Malachi prynny.
(1, 0) 356 Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi—
(Malachi) Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa?
 
(1, 0) 360 Plant ia, beth ôn-ni?
(1, 0) 361 Rhyw un ar bymtheg ôn-i, a 'd och-chitha, Jacob, ddim yn ddeunaw.
(1, 0) 362 A chi'n cofio'r tro arall 'ny, y noswaith lyb 'ny ar y ffordd 'n ol o 'steddfod Merthyr ôch chi a fi yn cysgoti o dan y dderwen?
(Jacob) {Yn mwynhau'r atgof.}
 
(Malachi) Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma.
(1, 0) 367 Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni.
(1, 0) 368 O gadewch i ni gal "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."
(1, 0) 369 'R wy-i'n dymuno cynnyg y dernyn yna.
(Jacob) 'R wy inna yn 'i eilio fa.
 
(Obadiah) Ha, ha!
(1, 0) 397 Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew.
(Jacob) Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi?
 
(Jacob) {Yn ddwys iawn.}
(1, 0) 409 Wel, 'dwy inna ddim yn gyfarwydd iawn â cherddoriath {gan droi at MATTHEW}, yn enwetig 'r hen nodiant, ond ma 'na ddernyn ar ym meddwl i, wn-i ddim os yw-a'n |glassical| ne bito, "Y don o flan y gwyntodd."
(Malachi) {Yn nwyfus.}
 
(Malachi) Mari, chi'n cofio 'steddfod Aberdar!
(1, 0) 412 Cofio, ddala-i mod-i!
(Malachi) {Yn annerch JACOB a MATTHEW bob yn ail.}
 
(Malachi) Fuas-i fawr o dro cyn dala 'i llycad hi, a fe ddath rwpath drosto-i bob tamad, do; "Dyna ngwraig i," myntwn-i, "dyna ngwraig i."
(1, 0) 417 Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob?
(1, 0) 418 Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod.
(Malachi) Ia, ia, ond, ha! ha!—gita fi yr ithoch chi sha thre.
 
(Malachi) Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah.
(1, 0) 423 Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys.
(Malachi) Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn |glassical|, on'd yw hi?
 
(Obadiah) Ho! dyna Gymro, dyna Gymro; son am anwybotath!
(1, 0) 431 |Classical| ne bito, 'r wy-i am gal y dernyn yna.
(Matthew) Ma'n ddrwg gen-i fynd yn ych herbyn chi, ond fel cerddor ma'n rhaid i fi fod yn gydwybotol.
 
(Malachi) Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna?
(1, 0) 445 Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa.
(Malachi) Mari!
 
(1, 0) 458 Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd."
(Malachi) Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan!
 
(Malachi) Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan!
(1, 0) 460 Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a.
(Malachi) {Yn sarrug.}
 
(Malachi) O'n wir; ym mhwy 'steddfod buoch |chi|, Obadiah?
(1, 0) 466 Lan âg ê, lan âg ê.
(Malachi) {Yn anfoddlon.}
 
(Obadiah) 'R wy-i'n cynnyg yn ffurfiol yn bod ni'n cymeryd at y farddoniath a'r ryddiath.
(1, 0) 481 'R wy-i'n eilio'r cynyciad.
(Malachi) Barddoniath a pheth?
 
(Malachi) Faint o wobor gynycwn-ni?
(1, 0) 494 Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi?
(Matthew) Ordor, ordor.
 
(Matthew) Ordor, ordor.
(1, 0) 496 Der, der, dyna garwr ôdd Malachi, a'r llythyron ta, 'rwy-i'n cretu y gallaswn-i atrodd rai o honyn nhw nawr air am air.
(Malachi) {Yn bybyr.}
 
(Malachi) Ma ryw wendid ryfadd wedi dod drosto chi yn ych henaint, nagos-a?
(1, 0) 499 Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn.
(Jacob) Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni.
 
(Obadiah) Otw, 'r wy-i'n cynnyg fod yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd.
(1, 0) 506 Beth gynllwn yw orgraff?
(Matthew) Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag.
 
(Matthew) Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag.
(1, 0) 508 Wel, ma'n raid gen-i ta orgraff ôdd gita Malachi yn 'i lythyron caru.
(Matthew) |Chair|, |chair|.
 
(Malachi) Testun hyfryd.
(1, 0) 529 Ma gen-i welliant at y testun yna.
(Malachi) Wel?
 
(Malachi) Wel?
(1, 0) 531 "Noah yn dod mas o'r arch."
(Jacob) {Yn cynhyrfu.}
 
(Jacob) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch."
(1, 0) 555 Wel, wel, a dyma shwt beth yw pwyllgor o ddynon.
(1, 0) 556 Druan a chi!
(Malachi) Ag ar bwy ma'r bai.
 
(Malachi) Fe fysan-ni'r dynon wedi nithir gwaith onibai amdano chi.
(1, 0) 559 'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi.
(Obadiah) {Yn parhau ar ei draed.}
 
(Malachi) Fyddwn ni'n tri ddim wincad yn partoi program: fe gewch chi, Matthew, ych ffordd gita'r gerddoriath, fe gaiff Jacob drefnu'r farddoniath a'r—a'r peth arall 'na, a fe ofala inna am yr amrywiath.
(1, 0) 575 Pwyllgor o ddynon, wel, wel!
(1, 0) 576 A dyma beth sy'n dod o gal 'steddfod miwn |spite| yn erbyn capal arall.
(Matthew) Nid 'steddfod |spite| fydd hi.
 
(Matthew) Ma gita ni gystlad hawl a nhw i gynnal 'steddfod ar ddydd Calan.
(1, 0) 579 Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall?
(Malachi) Y |ni| yn mynd i ofyn iddyn |nhw|!
 
(Jacob) Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i.
(1, 0) 583 Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul?
(Malachi) Dim |fear|, ma nhw lawar rhy gysglyd.
 
(1, 0) 586 Malachi, fe ddath papur yma i chi cyn i chi ddod nol o'r gwaith, ond fe anghofias 'i ddangos-a i chi.
(1, 0) 587 Ma 'r un man i chi gal i weld-a nawr.
(1, 0) 588 Desc
(1, 0) 589 (Y gwyr yn edrych ar ei gilydd yn anesmwyth.
(1, 0) 590 Mari yn tynnu allan raglen fawr o ddror y ford ac yn ei dadlennu o flaen eu llygaid.
(1, 0) 591 Gwelir yn eglur mai poster capel Salem ydyw yn cyhoeddi eisteddfod ar ddydd Calan.
(1, 0) 592 ~
(1, 0) 593 CAPEL SALEM
(1, 0) 594 ~
(1, 0) 595 EISTEDDFOD FAWREDDOG
(1, 0) 596 ~
(1, 0) 597 DYDD CALAN
(1, 0) 598 ~
(1, 0) 599 Saif y gwyr yn syfrdan am ychydig gan syllu ar y rhaglen.
(1, 0) 600 Dyma fe, lwchi: ac os bydd aelota Pisgah yn ddicon digwyddil i gynnal 'steddfod nawr, wel,—