Rhys Lewis

Ciw-restr ar gyfer Bob

(Mari) {yn siarad wrthi ei hun} Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan.
 
(Mari) Nos da, a diolch i chi am alw.
(1, 1) 41 Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?
(Mari) Do, machgen i; ond wyt tì yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd?
 
(Mari) Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?
(1, 1) 47 Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i.
(1, 1) 48 Gwna dy ddyledswydd, a gad rhwng y Brenin Mawr a'r canlyniadau, oedd un o'r gwersi cyntaf ddysgasoch i mi.
(1, 1) 49 Nid yw hyn ond y peth oeddwn yn ei ddisgwyl.
(1, 1) 50 Mae yn rhaid i rywun ddiodde cyn y daw daioni i'r lliaws; ac os ydw i ac ychydig ereill yn cael ein gwneyd yn fwch dihangol i'r tri chant sydd yn gweithio yn y Caeau Cochion, ac os bydd i ni fod yn foddlon i ddwyn eu rhyddid oddi amgylch, a'u llesad, popeth yn dda.
(1, 1) 51 Nid ydwyf wedi dweyd un gair ond y gwir, a'r hyn y mae pawb sydd yn y gwaith yn ei gredu a'i deimlo, ond eu bod yn rhy lwfr i'w adrodd yn gyhoeddus.
(1, 1) 52 Fel y dywedais, rhaid i rywun ddioddef er mwyn y lliaws.
(1, 1) 53 Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl,—yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—
(Mari) Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad.
 
(Mari) 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost.
(1, 1) 56 Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.
(Mari) Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn |'Fforddwr| Mr. Charles.
 
(Mari) Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn |'Fforddwr| Mr. Charles.
(1, 1) 58 Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth.
(Mari) 'Bwtler!'
 
(Mari) Be oedd o yn feddwl o'r helynt?
(1, 1) 66 Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi.
(Mari) Wel, mae arna i ofn y canlyniadau.
 
(Mari) Wel, mae arna i ofn y canlyniadau.
(1, 1) 68 Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd.
(Mari) Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt.
 
(Mari) Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt.
(1, 1) 71 'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros.
 
(1, 1) 74 Yr wyf yn meddwl fy mod yn deall eich neges.
(Sgt Williams) Wel, neges digon anymunol sydd gen i, Robert Lewis, yn siwr i chi; ond yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn iawn dydd Llun.
 
(Sgt Williams) Dowch, Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd.
(1, 1) 81 Mam, mi wyddoch b'le i droì.
(1, 1) 82 Mae fy nghydwybod i yn dawel.
(Mari) {ar draws ryw siarad yn y cwmni} Wyt ti'n siwr 'does dim d'eisio yn y shop heddyw?
 
(Mari) Well i chi fynd, mae rhywun arall yn siwr o ddwad——
(1, 2) 262 Holo! Gamekeeper, beth ydach chi eisio yma?
 
(1, 2) 264 Wel, mam, sut yr ydach chi?