Rybeca

Ciw-restr ar gyfer Betsi

 
(1, 1) 9 Wel, fe ddethot yn ol, Jac bach.
(Jac) {Yn eistedd ar y sgiw chwith, ac yn ateb yn bur anfoddog.}
 
(1, 1) 13 Be sy te 'nawr, Jac?
(1, 1) 14 Rwyt ti'n ol yn gynnar, machgen i.
(1, 1) 15 Dyw hi'n awr ddim ond tri o'r gloch.
(Jac) Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion.
 
(Jac) Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion.
(1, 1) 17 Beth sy o le 'te, fachgen?
(1, 1) 18 Ma dy wep di cyd â milltir.
(Jac) Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth.
 
(Jac) Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth.
(1, 1) 20 Gneud beth, Jac?
(1, 1) 21 Dere mas â hi, fachgen, yn lle rhyw swddanu fel hyn.
(1, 1) 22 Gwed tho i beth sy'n bod.
(Jac) Wel, dyma beth sy'n bod, mam.
 
(Jac) Fe fydd raid i rwun gynnu'r tân yma hefyd, ag wrth i fi dalu'r rot ddiwetha yng ngât Llether Mawr, gynne, ôn i'n shwr pwy ôdd i ddechre.
(1, 1) 35 Pwy, Jac?
(1, 1) 36 Ti?
 
(1, 1) 38 Pwylla di 'nawr dipyn bach, y machgen annwl i.
(1, 1) 39 (Yn mynd at y pentan.).
(1, 1) 40 A beth sy arna inne fel hyn yn whalu pen rheswm â ti?
(1, 1) 41 Ma ishe bwyd arnot ti'n dost, wy'n gwbod, a ma 'ma dipyn o gino neis wedi gadw i ti.
(1, 1) 42 Dere mlân, y ngwas i, fan hyn, a fe gei amser i ddod i dy le gam bwyll.
 
(Jac) Dynon godde popeth sy'n Llannon, mam.
(1, 1) 55 Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal.
(Jac) Daw, mam fach, fe ddaw amser gwell, ond ddaw e ddim heb i rwun i brynu fe, a'i brynu fe'n brud, f'alle.
 
(Jac) Ddaw e byth, mwy na theyrnas nefodd, wrth ddishgwl, a godde, godde o hyd.
(1, 1) 58 Mi weles i amser gwâth o lŵer, Jac, pan ôn i'n dechre 'myd.
(1, 1) 59 Dwyt ti ddim yn gwbod dy eni, machgen bach i, wrth fel y gweles iddi.
(1, 1) 60 Beth se ti'n byw yn amser rhyfel Boni, a'r blynydde ar ol y batl o Waterlw!
(1, 1) 61 Fe welset fara dipyn yn gwrsach, a thipyn llai o enllyn, ddala i ti.
(1, 1) 62 Ma'r byd yn gwella, Jac, cred di fi, ond i fod e'n hala tipyn o amser.
(1, 1) 63 Ond dyma dy dad!
(Dafydd) {Dyn bychan tywyll, lygaid duon─pur felancolaidd─lberiad bob modfedd ohono─yn dod i mewn.}
 
(Dafydd) W i'n folon talu honno, ta beth.
(1, 1) 80 On i'n meddwl ma dyna wetse dy dad.
(1, 1) 81 Eglwyswr yw e o hyd, ti'n gweld, er i fod e'n dod 'da fi i Fethania oddar priodson ni.
(Jac) Fe gewn dalu popeth ŷn ni'n gweyd dim yn erbyn u talu nhw, nhad.
 
(1, 1) 105 Cato ni'n brudd!
(1, 1) 106 Pwy ddwad 'na tho chi, Dafydd?
(Dafydd) William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a |fe| ddwad tho i heddy yn y Red Lion.
 
(Dafydd) William Bryndu odd yn dwad drw'r Bont echdo, a |fe| ddwad tho i heddy yn y Red Lion.
(1, 1) 108 Syndod na fusen ni wedi clwed rhw air.
(1, 1) 109 Shwd buws hi, medde William?
(Dafydd) Ych chi'n cofio am wr y Llety, Llangyfelach.
 
(Dafydd) Nhw, medde fe, ôdd benna yn torri Gât y Gopa Fach a Gât y Bolgod.
(1, 1) 114 Odd ishe gwaith ar yr hen glymhercyn.
(Dafydd) Falle hynny, ond ddaw dim da o ddrwg, Betsi fach, byth.
 
(Dafydd) A ma un o'r bechgyn─John, wy'n meddwl─wedi sithu, ac yn y jâil yn Bertŵe, yn ddiargol byw.
(1, 1) 120 Druan bach!
(1, 1) 121 Ma 'ngwâd i'n twymo peth, Dafydd, wrth glwed pethe fel hyn.
(Jac) Ma 'ngwâd i wedi twymo, ys cetyn, mam.
 
(Dafydd) Cymer di bethe gam bwyll, y machgen i, ne falle bydd hi'n wâth arnot ti yn y pen draw nag ar John Cwm Cile.
(1, 1) 125 Fe fydde'n rhwyddach gwaith iddo fe arafu, Dafydd, se fe'n fwy o fab idd i dad.
(Dafydd) Falle'n wir, Betsi.
 
(Dafydd) Helpu'r hewl i fi ma nhw heddy.
(1, 1) 129 Dôs dim ishe i chi fynd mor bell â'r Red Lion i weld hynny, cofiwch.
(1, 1) 130 Dewch yn ol ar ych union, Dafydd, yn lle aros hyd |stop tap|, nos ar ol nos, a gweyd yn ych diod wrth bawb fod y byd yn mynd ar i wâth.
(Dafydd) Fe gewn weld, Betsi.
 
(Dafydd) {Yn myned allan.}
(1, 1) 133 Cewn, fe gewn weld.
 
(1, 1) 135 Jac bach, dw i ddim am gwnnu dy lewish di, ond w inne'n gweld nadi pethe ddim fel y dyle nhw fod.
(1, 1) 136 Dyw e ddim yn ddigon i ni dalu'r holl arian 'ma i'r gâts, heb yn bod ni'n gorffod helpu wedyn i wella'r hewlydd.
(1, 1) 137 Ma'r pwyse i gyd yn dod ar yr esgwdd wan, fel iti'n gweyd.
(1, 1) 138 Dw i ddim yn gwbod shwd ma gwella pethe, ond w inne'n gweld fod yr hen fyd 'ma dipyn mawr o'i le,─Druan o dilu Cwm Cile!
(Jac) Ie'n wir, mam.
 
(Jac) A falle clywwn ni rwbeth am le sy'n nes na'r Bont, na'r Hendy.
(1, 1) 146 Falle gnewn ni'n wir; ond ta beth sydd i fod, da ti, Jac bach, paid |ti| â bod yn y ffrynt, y machgen i, er mwyn dy fam.
(1, 1) 147 Wy'n dy adel di 'nawr, i edrych ar ol y morwmon 'na a'r godro.