Rybeca

Ciw-restr ar gyfer Jac

(Betsi) {Yn groesawus.}
 
(1, 1) 11 Do, mam; ond alla i ddim godde pethe fel ma nhw bŵer yn rhagor.
(Betsi) {Mewn ychydig syndod.}
 
(Betsi) Dyw hi'n awr ddim ond tri o'r gloch.
(1, 1) 16 Se popeth gystled â'r amser, mam, mi fydde'n burion.
(Betsi) Beth sy o le 'te, fachgen?
 
(Betsi) Ma dy wep di cyd â milltir.
(1, 1) 19 Wi ddim yn diall pam ŷn ni'n gallu bod mor ddishtaw ffordd hyn, a manne erill yn |gneud| rhwbeth.
(Betsi) Gneud beth, Jac?
 
(Betsi) Gwed tho i beth sy'n bod.
(1, 1) 23 Wel, dyma beth sy'n bod, mam.
(1, 1) 24 Ych chi'n y 'ngweld i newydd ddod 'n ol â'r llwyth glo 'ma.
(1, 1) 25 Dyna fe wedi costi bron cymint i fi yn y gâts âg ar ben y lefel.
 
(1, 1) 27 Wyth gwaith y tales i heddy, a grot bob tro!
(1, 1) 28 'Dôs dim sens yn y peth.
(1, 1) 29 Doi ag wyth am werth triswllt o lo!
(1, 1) 30 A neb yma'n gweyd dim.
(1, 1) 31 Neb trwy blwyf Llannon yn gneud dim i gâl gwared o'r gâts y felltith 'ma!
(1, 1) 32 Ma pob man arall, mam, yn codi fel un gwr.
(1, 1) 33 Ma shir Gâr i gyd ar ddihun─a Llannon yn cysgu.
(1, 1) 34 Fe fydd raid i rwun gynnu'r tân yma hefyd, ag wrth i fi dalu'r rot ddiwetha yng ngât Llether Mawr, gynne, ôn i'n shwr pwy ôdd i ddechre.
(Betsi) Pwy, Jac?
 
(1, 1) 45 Os, ma whant tipyn o gino arna i, hefyd, mam.
(1, 1) 46 Ond fydda i fawr dishtawach ar ol i gâl e.
(1, 1) 47 Pwy dŵel all dyn fod?
(1, 1) 48 Rhy dŵel ŷn ni yma.
(1, 1) 49 Pan bo fi'n meddwl am yr Eglwys Wen ag ochre Castell Newydd Emlyn, w i'n timlo'n bod ni'n fwy nag ôs ar ol.
(1, 1) 50 Ble ŷn |ni| yn ochor gwŷr Cynwil, ne wŷr Llansadwrn, ne wŷr Llandybie?
(1, 1) 51 Dŷn ni ddim yn werth yn seiffro.
(1, 1) 52 Ma 'ngwâd i'n berwi at y dynon côd sy yn Llannon a Llanedi 'ma.
(1, 1) 53 Dôs 'ma neb â thipyn o asgwrn cefen 'dag e.
(1, 1) 54 Dynon godde popeth sy'n Llannon, mam.
(Betsi) Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal.
 
(Betsi) Bit dy fwyd, Jac bach; fe ddaw amser gwell ar y byd, heb i ti golli dy anal.
(1, 1) 56 Daw, mam fach, fe ddaw amser gwell, ond ddaw e ddim heb i rwun i brynu fe, a'i brynu fe'n brud, f'alle.
(1, 1) 57 Ddaw e byth, mwy na theyrnas nefodd, wrth ddishgwl, a godde, godde o hyd.
(Betsi) Mi weles i amser gwâth o lŵer, Jac, pan ôn i'n dechre 'myd.
 
(Dafydd) Wi ddim yn gwbod beth ddaw ohonon ni cyn diwedd.
(1, 1) 73 A dyma'r degwm 'ma, nhad!
(1, 1) 74 Ma Goring wedi brynu fe, ag wedi godi e deirgwaith y peth ôdd e.
(Dafydd) Wyt ti'n gweyd y gwir, y machgen i.
 
(Dafydd) Wyt ti'n gweyd y gwir, y machgen i.
(1, 1) 76 A dyma'r dreth eglws yn dala fel âg ôdd hi.
(1, 1) 77 Ddaw honno ddim lawr, nhad, tra bo cloch mwn clochty.
(Dafydd) Paid ti â gweyd dim, Jac, yn erbyn y dreth eglws.
 
(Betsi) Eglwyswr yw e o hyd, ti'n gweld, er i fod e'n dod 'da fi i Fethania oddar priodson ni.
(1, 1) 82 Fe gewn dalu popeth ŷn ni'n gweyd dim yn erbyn u talu nhw, nhad.
(1, 1) 83 Dir yn helpo ni, dyma i chi ddeddf newydd y tlodion 'ma.
(1, 1) 84 'Dyw hi ddim hanner cystled â'r hen.
(1, 1) 85 Ond ma cefne dynon sy'n folon i'r dreth eglws, ag yn folon i'r degwm 'ma ma Goring yn i hala ar i rasis, yn ddigon llydan.
(1, 1) 86 A dyma i chi'r cwnstablied newydd 'ma sy'n byta'r wlad, a'r dyn 'ma sy'n ben arnyn nhw â'i arian mawr.
(1, 1) 87 A dyma i chi'r haid 'ma o swyddogion y dreth.
(1, 1) 88 Ma nhw'n wâth na locustiaid Joel, 'slwer dydd.
(Dafydd) Ma pŵer o wir yn y peth wyt ti'n weyd, Jac, ond fe fydd yn well i ni blygu i'r drefen, wedi'r cyfan, er i ni fynd yn glotach.
 
(Dafydd) Ma pŵer o wir yn y peth wyt ti'n weyd, Jac, ond fe fydd yn well i ni blygu i'r drefen, wedi'r cyfan, er i ni fynd yn glotach.
(1, 1) 90 Alla i ddim credu dim o'r short, nhad, esguswch fi'n gweyd tho chi.
(1, 1) 91 Plygwch chi, a fe gewch blygu nes bo'ch pen chi yn y baw, a fe ddaw'r gyfreth â'i cheffyle drwstoch chi wedyn.
(Dafydd) Wel, y machgen bach i, w i wedi gweld tipyn yn fwy na ti, cyn dod i'r fan hyn.
 
(Dafydd) Mynd o wâth i wâth ma'r hen fyd 'ma, a nei di, mwy na finne, fe fymryn gwell, er i ni whalu a whalu, a chodi'n cloch hyd Glyngia.
(1, 1) 97 W i'n meddwl gneud mwy na chodi 'nghloch, nhad.
(1, 1) 98 Ddŵa i ddim i glôs Tyisha to, a thalu doi ag wyth i'r gâts am werth triswllt o lo, fentra i chi.
(Dafydd) Paid â chodlan pethe felna.
 
(Dafydd) Fe hanner laddwd y Capten Napier.
(1, 1) 118 Itha gwaith âg e.
(Dafydd) A ma un o'r bechgyn─John, wy'n meddwl─wedi sithu, ac yn y jâil yn Bertŵe, yn ddiargol byw.
 
(Betsi) Ma 'ngwâd i'n twymo peth, Dafydd, wrth glwed pethe fel hyn.
(1, 1) 122 Ma 'ngwâd i wedi twymo, ys cetyn, mam.
(1, 1) 123 Shwd ma godde'r pethe 'ma'n rhagor?
(Dafydd) Cymer di bethe gam bwyll, y machgen i, ne falle bydd hi'n wâth arnot ti yn y pen draw nag ar John Cwm Cile.
 
(Betsi) Dw i ddim yn gwbod shwd ma gwella pethe, ond w inne'n gweld fod yr hen fyd 'ma dipyn mawr o'i le,─Druan o dilu Cwm Cile!
(1, 1) 139 Ie'n wir, mam.
(1, 1) 140 Odd gen i olwg ar John.
(1, 1) 141 Bachgen trwyddo yw John Morgan.
(1, 1) 142 A drychwch ar Bontarddyles.
(1, 1) 143 Ma hi fel dinas girog o'r Hen Destament, yn byrth o bob pen, heb sôn am i chenol hi.
(1, 1) 144 Grindwch chi arna i─fe glywwn ni rwbeth am Gât y Bont, ag am Gât yr Hendy, cyn bo hir, er gwitha'r Capten Napier 'na a'i griw.
(1, 1) 145 A falle clywwn ni rwbeth am le sy'n nes na'r Bont, na'r Hendy.
(Betsi) Falle gnewn ni'n wir; ond ta beth sydd i fod, da ti, Jac bach, paid |ti| â bod yn y ffrynt, y machgen i, er mwyn dy fam.
 
(Betsi) {Yn mynd allan.}
(1, 1) 149 O wel, ma'r ffermwyr 'ma fel côd!
(1, 1) 150 Ond pwy ŵyr?
(1, 1) 151 Ma rhai ohenyn nhw yn dechre dod mas o'u plishg, a ma 'ngobeth i'n gryf mwn tri neu bedwar ohenyn nhw.
(1, 1) 152 Fe gwrddes â Dai'r Cantwr a Shoni Sgubor Fawr heddy, a mi ddŵa nhw i gwrdd nesa'r Allt Fawr.
(1, 1) 153 Yn ni wedi cwrdda 'no droeon─odyn─a gneud dim.
(1, 1) 154 Ond ma'r byd i wella rwbryd, er gwitha nhad, a phan ddaw'r tân o'r diwedd, dros Fynydd Bach Llannon, w i'n meddwl y bydd 'no ffagal gwerth i gweld.