Serch Yw'r Doctor

Ciw-restr ar gyfer Lisette

(Hlin) PRELŴD
 
(Hlin2) RESITATIF
(1, 0) 101 Mae meistr yn dyfod.
(Clitandre) Fe waharddodd imi fod yma.
 
(Clitandre) Myfi yw ei unig etifedd.
(1, 0) 106 Mae un ewyrth cefnog marw werth dau filiwnydd byw.
(Clitandre) Ond ar hyn o bryd, medd f'ewyrth byddai marw'n anghyfleus.
 
(Hlin2) ARIA
(1, 0) 109 I ŵr ym mlodau'i gryfder
(1, 0) 110 mae marw braidd yn ddiflas:
 
(1, 0) 112 Pa eneth landeg hoenus syber
(1, 0) 113 a gymer benglog yn gyweithas?
(1, 0) 114 Ond rhyfedd sôn fod hen ŵr gwargam
(1, 0) 115 trigain oed a'i ddaint yn melynnu,
(1, 0) 116 a'i ên yn gwynnu,
(1, 0) 117 yntau fel hogen sionc ei cham
(1, 0) 118 rhag llam yr angau yn dychrynu!
(1, 0) 119 I ferch ym mlodau'i hienctyd
(1, 0) 120 nid dawnsiwr pert mo'r angau:
(1, 0) 121 On'd cerrig beddau swrth eu symud
(1, 0) 122 yw traed y dawnsiwr, a'i grafangau
(1, 0) 123 yn oedi'r miwsig, yn tarfu'r miri?
(1, 0) 124 Dewised bartner trigain mlynedd,
(1, 0) 125 a'i aur yn wmbredd,
(1, 0) 126 siawns na bydd hwnnw rhag ei sbri
(1, 0) 127 yn clywed oerni a chrynfa dannedd.
(Côr) {Dawns a Chytgan}
 
(Clitandre) Nid oeddwn yn pwrpasu.
(1, 0) 144 Meistr, dyma ddawns y cynhaea,
(1, 0) 145 ni ellir gwahardd neb o'r plwy.
(Hlin2) PEDWARAWD
 
(Sganarelle) fy unig ferch i'r plwy?
(1, 0) 152 Petai gennych chi ddwy,
(1, 0) 153 be' fyddai hynny rhwng cynifer â'r plwy?