a1
Ⓗ 1960 Saunders Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1

PRELŴD




GOLYGFA: Lawnt a gwinllan gydag ogof. Chateau yn y cefn. Mae'r cynhaeaf gwin ar orffen a chôr o bentrefwyr, yn feibion a merched, yn canu a dawnsio:

Côr
Cwpan y grawnwin melys,
min wrth fin, min wrth fin,
cwpan a'i sawr fel y mefus,
cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus,
cwpan y gwin.

Mac carol y flwyddyn mewn cerwyni
yn sypiau, grawnsypiau gwin,
a'r winllan yn synnu ysgawned ei llwyni
a'r basgedeidiau grawn o'r twyni,
fin wrth fin,
wedi cyrraedd eu ffin.

Dawnsiwn, canwn, lanciau, llancesi,
glin wrth lin, min wrth fin,
Bacchws lon a'r grawn yn ei dresi
a'i draed dano, siawns,
i arwain y ddawns,
Bacchws a Fenws i gusanu ag anwesu,─
gwin ar fin yw min ar fin.
Dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden,
canwn i'r gwin, min wrth fin,
diod cariadon
ag offeiriadon,
hwb i galon
yr hen a'r blin,─
dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden,
glin wrth lin.

Cwpan y grawnwin melys,
min ar fin yw gwin ar fin,
cwpan a'i sawr a'i wawr fel y mefus,
cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus,
cwpan y gwin, y gwin.


CLITANDRE a LUCINDE yn dyfod allan o'r ddawns i ganu DEUAWD.

Clitandre
Mac gwin a serch yn unfryd
a charu'n ifanc hyfryd
yn hoen cynhaea.

Lucinde
Mae dawns curiadau calon
a'r traed yn prancio alawon
gan hoen cynhaea.

Clitandre
I serch
y trefnodd natur fab a merch,
a rhoi'r winwydden
i Noa lawen
i iro'i awen
'rôl clawstroffobia'r arch
a'r ddaear iddo i ddawnsio
i anghofio'r dŵr di-barch.

Lucinde
I serch
y trefnodd natur fab a merch,
a rhoi inni goesau
i ddawns ddiloesau
a bwrw'n croesau
yn foesau i'r Gŵr Drwg,
er dawnsio a charu ormod
a gorfod goddef gwg.

Clitandre
Fel cusan haul ar donnen
dy gusan dithau, feinwen,
i'm calon nwyfus.

Lucinde
Dy goel yw'r pum llawenydd,
dy freichiau yw'r awenydd
i'm calon glwyfus.

Clitandre
I serch
y trefnodd natur fab a merch.
Ond wele dlodi
fel gaea'n codi
a sydyn odi
i ddifodi heulwen ha,─
dy dad, ni ad briodi
gan fy mod i heb bres na da.

Lucinde
Ond serch
sy'n clymu c'lonnau mab a merch
a thithau dlodi,
byth nis datodi
na byth ddifodi
ymlyniad dau gariad gwir,─
ni fynna'i ond ti i'w briodi
er dy fod di heb bres na thir.

Côr
(canu a dawnsio)
Ond serch
sy'n clymu c'lonnau mab a merch,
a phlentyn siawns yw serch.
Unwn ddwylo,
pa raid wylo?
Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?

Os siawns
sy'n cyplu c'lonnau yn ei dawns,
hai, yfwn ati, Siawns!
Unwn ddwylo,
pa raid wylo?
Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?


Daw LISETTE at LUCINDE.



RESITATIF

Lisette
Mae meistr yn dyfod.

Clitandre
Fe waharddodd imi fod yma.

Lucinde
'Fyn fy nhad ddim mab-yng-nghyfraith heb ffortiwn.

Clitandre
Mi dd'wedais wrtho fod gen'i hen ewyrth cefnog iawn.
Myfi yw ei unig etifedd.

Lisette
Mae un ewyrth cefnog marw werth dau filiwnydd byw.

Clitandre
Ond ar hyn o bryd, medd f'ewyrth byddai marw'n anghyfleus.



ARIA

Lisette
I ŵr ym mlodau'i gryfder
mae marw braidd yn ddiflas:
(Wrth y côr sy'n cuddio'u hwynebau.)
Pa eneth landeg hoenus syber
a gymer benglog yn gyweithas?
Ond rhyfedd sôn fod hen ŵr gwargam
trigain oed a'i ddaint yn melynnu,
a'i ên yn gwynnu,
yntau fel hogen sionc ei cham
rhag llam yr angau yn dychrynu!
I ferch ym mlodau'i hienctyd
nid dawnsiwr pert mo'r angau:
On'd cerrig beddau swrth eu symud
yw traed y dawnsiwr, a'i grafangau
yn oedi'r miwsig, yn tarfu'r miri?
Dewised bartner trigain mlynedd,
a'i aur yn wmbredd,
siawns na bydd hwnnw rhag ei sbri
yn clywed oerni a chrynfa dannedd.

Côr
(Dawns a Chytgan)
Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod,
canwn i'r byw, y byw o bob oed;
gwell llygoden fyw na llew wedi darfod;
canwn cyn drewi; cyn rhewi o bob troed
a gorwedd yn y llan yn anniddan lonydd,
dawnsiwn i serch a llannerch llawenydd;
heddiw mae byw; canwn i ddaioni
a phêr haelioni'r ddaear crioed.


Daw SGANARELLE i mewn yn ddigllon.



RESITATIF

Sganarelle
Oni waherddais i hyn?
Oni ddywedais i na chaech chwi fyth fy merch i?

Clitandre
Syr, ni ddywed'soch na chawn i ddawnsio gyda hi.

Sganarelle
Yr ydych yn tresbasu.

Clitandre
Nid oeddwn yn pwrpasu.

Lisette
Meistr, dyma ddawns y cynhaea,
ni ellir gwahardd neb o'r plwy.



PEDWARAWD

Sganarelle
Y plwy? Y plwy?
Oblegid bod gen' i winllannau,
ai rhaid imi roi fy merch i'r plwy?
Fy unig ferch─nid oes gen' i ddwy─
fy unig ferch i'r plwy?

Lisette
Petai gennych chi ddwy,
be' fyddai hynny rhwng cynifer â'r plwy?

Clitandre
Petai ganddo fo ddwy, pla ar y plwy,
ni ellir cenedlaetholi dwy.

Lucinde
Nid ydw' i'n ddwy, ac ni fynna' i'r plwy,
Ni fynna'i neb ond fy nghariad, fy nghariad fyth mwy.

Sganarelle
Oblegid bod gen' i winllannau...

Y Tri Arall
Oblegid bod ganddo winllannau...


Mae'r côr yn casglu o gwmpas SGANARELLE, y merched ar eu gliniau, gan apelio ato.

Côr
Be' wnewch chi, be' wnewch chi â'r aeres?
Nid ei chloi hyd ei thranc
na'i chau mewn lleiandy
i suro'n grin
yn rhyw flin abades!
O rhowch hi i'r llanc,
rhowch hi i'r llanc gydag aur o'r banc
i goroni cynhaea'r gwinllandy.
Be' wnewch chi â'r ferch siwgwr candi?
Nid fel anwariad
ei bwrw i'r llaid,
ond ei rhoi hi i'w chariad,
ag fe brifiwch yn daid,
fe brifiwch yn daid
a mwyneiddio yn hen fel hen frandi.



RESITATIF

Sganarelle
Na wnaf! Na! Mae'r ddawns ar ben.
Ni chymeraf fy herio fel hyn.
Lisette, cymer dy feistres i'r tŷ.
A'r lleill, ymaith â chwi bob un, ciliwch!
Ffowch!


Y mae SGANARELLE yn hel y CÔR allan i bob cyfeiriad, a'r CÔR yn mynd dan ganu.

Côr
Unwn ddwylo,
pa raid wylo,
pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?


LLEN

a1