Ei Seren Tan Gwmwl

Ciw-restr ar gyfer Foster

(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
 
(Sara) Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i!
(1, 0) 235 Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.
(Rolant) Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn.
 
(Rolant) Eisteddwch yma, Mr. Foster.
(1, 0) 240 Diolch.
(Sara) {Yn gysetlyd braidd, ac yn ceisio gwneud sgwrs.}
 
(Sara) Mae hi'n hwyro'n braf.
(1, 0) 243 Ydyw.
(Sara) M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
 
(1, 0) 246 Efallai ei bod, yn wir, Mrs. Huw.
(Sara) {Yn gwneud eì gorau, druan.}
 
(1, 0) 250 Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno.
(Rolant) Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster.
 
(Rolant) Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda?
(1, 0) 253 Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor.
(Sara) {Gyda diddordeb mawr.}
 
(Rolant) Ewch ymlaen.
(1, 0) 257 Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw.
(Rolant) Wel?
 
(Rolant) Wel?
(1, 0) 259 Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin.
(1, 0) 260 Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn...
(Rolant) Ac felly?
 
(Rolant) Ac felly?
(1, 0) 262 Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi...
(Rolant) {Wedi ei ddiflasu gan y bregeth.}
 
(Rolant) Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc?
(1, 0) 266 Ie, os mynnwch.
(Rolant) Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd.
 
(1, 0) 269 Cydwybod, ai e?
(1, 0) 270 Wel, wel!
(Rolant) {Yn bendant.}
 
(Rolant) Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud.
(1, 0) 273 O? A beth ydyw?
(Rolant) Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster.
 
(Sara) Rolant, paid â d' anghofio dy hun!
(1, 0) 277 Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol.
(Rolant) 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd.
 
(Rolant) 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd.
(1, 0) 279 Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau.
(Rolant) Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor.
 
(Rolant) Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor.
(1, 0) 281 Chwarae teg iddo, yn wir.
(1, 0) 282 Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd.
(Rolant) Wel?
 
(Rolant) Wel?
(1, 0) 284 Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd.
(1, 0) 285 Daeth ataf y dydd o'r blaen i ddweud y carai ymuno â'r Milishia.
(Rolant) {Fel ergyd.}
 
(Rolant) Beth?
(1, 0) 288 Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol...
(Rolant) {Yn methu â dal bron.}
 
(Rolant) F...f...fy mab i yn y Milishia?
(1, 0) 291 Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder...
(Sara) {Yn cael gweledigaeth newydd am ei hanwylyd.}
 
(Rolant) Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia!
(1, 0) 298 Dynion dewr, gwlatgarol.
(Rolant) Gwehilion cymdeithas!
 
(Rolant) Gwehilion cymdeithas!
(1, 0) 300 Syr!
(Rolant) Lladron, dihirod, treiswyr merched!
 
(Rolant) Lladron, dihirod, treiswyr merched!
(1, 0) 302 Mr. Huw, ystyriwch eich...
(Rolant) A'u drygioni yn drewi drwy'r sir!
 
(1, 0) 305 Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen...
(Rolant) Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon?
 
(1, 0) 308 Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc...
(Rolant) Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid!
 
(1, 0) 315 Y mae'n ein galw i Grwsâd Sanctaidd yn erbyn gelynion ein crefydd a'n treftadaeth.
(Rolant) {Yn ddirmygus.}
 
(1, 0) 321 Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw.
(Rolant) Peryglus i bwy, tybed?
 
(Rolant) Peryglus i bwy, tybed?
(1, 0) 323 Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors.
(Rolant) Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder!
 
(1, 0) 328 |Seren tan Gwmwl|.
(1, 0) 329 Yr wyf wedi ei ddarllen...
 
(1, 0) 331 ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors.
(Rolant) Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi!
 
(1, 0) 335 A rhaid mynd ati cyn bo hir i ail ysgrifennu Llyfrau'r Proffwydi.
(1, 0) 336 Er enghraifft... "A Duw a lefarodd wrth ei was Tom Paine"...
 
(1, 0) 338 Nid dau broffwyd mohonynt, ond dau fradwr!
(Rolant) {Wedi ei gynhyrfu'n fawr.}
 
(Rolant) Bradwr?
(1, 0) 341 Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad.
(Rolant) Ond nid gelyn i gyfiawnder!
 
(1, 0) 346 Dyna ddigon, Mr. Huw.
(1, 0) 347 Gwn yn union lle y sefwch yn yr argyfwng presennol.
(1, 0) 348 Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad...
(Rolant) Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn.
 
(Rolant) Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn.
(1, 0) 350 O'r gorau.
 
(1, 0) 352 Noson dda i chwi, Mrs. Huw.
 
(1, 0) 354 A chofiwch, Mr. Huw, fod gan Dduw ei ddamnedigaeth... ie, yn y byd hwn... i'r neb a feiddia wrthsefyll awdurdod Ei Eglwys Ef!
 
(Rolant) Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster?
(1, 0) 840 Gwaith y Brenin.
 
(1, 0) 842 Hwn yw eich dyn, Capten Rogers.
(Rogers) Ai chwi yw John Jones, yn enedipol o Lan-yGors, plwyf Cerrig-y-drudion, a ddihangodd o Lundain rhyw dair wythnos yn ôl?
 
(Rogers) Rhoddwyd hefyd bris am eich dal... pris uchel, Mr. Jones.
(1, 0) 849 A llawenydd yw canfod mai un o'r plwyf hwn a fu'n gyfrwng i ddal y bradwr.
(Rolant) {Yn edrych ar Ifor gyda dirmyg.}
 
(Rolant) A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw.
(1, 0) 852 Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw.
(1, 0) 853 Rhoes ar ddeall inni ei fod yma.
(1, 0) 854 Gwelodd ef yn ceisio cyfle i lithro'i mewn.
(1, 0) 855 Yn unol â'm dyletswydd, deuthum â Capten Rogers a'i wŷr yma ar unwaith.
(Rolant) {Wrth Ifor.}
 
(Rolant) 'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma...
(1, 0) 871 'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy.
(1, 0) 872 Ac o'r herwydd, caiff Ifor glod a mawredd...
(Rolant) {Yn ymollwng i'w gadair.}
 
(1, 0) 878 Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu...
(Jac) Ac o flaen yr efengyl!
 
(Jac) Ac o flaen yr efengyl!
(1, 0) 880 Dyna ddigon.
(1, 0) 881 Eich tynged chwi fydd mynd i Ruthun yng nghwmni'r Milishia.
(Rolant) {Yn drist, o'i gadair.}
 
(Rolant) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
(1, 0) 884 Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw.
(1, 0) 885 Y mae rhoi lloches i elyn y wladwriaeth ar adeg rhyfel yn drosedd.
(1, 0) 886 Gall fod yn gyfyng arnoch...
(Jac) {Yn tanio.}
 
(Jac) Byddai ei gosbi yn gam dybryd...
(1, 0) 890 A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr?
(1, 0) 891 Y mae'n amser symud, Capten Rogers...
(Rogers) Dewch, Mr. Jones...
 
(Ifor) {Y mae cyffro'r lleill hefyd yn amlwg.}
(1, 0) 898 Beth yw hyn, Janet?
(1, 0) 899 Nid oes a wnelo...
(Janet) {Yn dawel, ond pendant.}
 
(Janet) Beth ydyw?
(1, 0) 904 Gwaith y Brenin.
(Janet) Pa waith?
 
(Jac) A pha frenin?
(1, 0) 907 Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda.
(Janet) Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma.
 
(Janet) Ac yr ydych am ei daflu i garchar?
(1, 0) 915 Dyna'm dyletswydd.
(Janet) Y mae rhywun wedi ei fradychu.
 
(Janet) Pwy?
(1, 0) 918 Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw.
(1, 0) 919 Am hynny, fe genir clod Ifor...
(Janet) {Gyda syndod.}
 
(Ifor) Meddwl y byddai hynny yn help i mi eich...
(1, 0) 936 Gweithred nobl ydoedd, Ifor.
(Rolant) {Yn codi.}
 
(Sara) Ifor... 'y 'machgen annwyl i...
(1, 0) 949 Capten Roger s...
(Janet) {Yn bendant iawn.}
 
(1, 0) 953 Wel... beth sy'n bod?
(Janet) Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych.
 
(Janet) Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych.
(1, 0) 955 Ewch ymlaen.
(Janet) Ond nid o flaen Capten Rogers.
 
(Janet) Ond nid o flaen Capten Rogers.
(1, 0) 957 Pam hynny?
(Janet) Yr wyf o ddifrif.
 
(Janet) Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau?
(1, 0) 960 O'r gorau, Janet.
(1, 0) 961 Capten Rogers?
 
(1, 0) 963 Wel, fy merch i, beth ydyw?
(Janet) {Yn ddigon tawel.}
 
(Janet) Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd.
(1, 0) 967 Nid ydych o ddifrif...
(Janet) Ni fum erioed mor sicr.
 
(1, 0) 970 Yn enw rheswm, pam?
(Janet) Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder...
 
(1, 0) 973 Janet!
(1, 0) 974 Mae hyn yn beth difrifol.
(1, 0) 975 Bradychu eich |teulu|!
(Janet) Efallai yn wir.
 
(Janet) Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod.
(1, 0) 978 Cydwybod!
(1, 0) 979 Ffolineb merch ddi-brofiad wedi ei swyno gan syniadau rhigymwr cefn gwlad!
 
(1, 0) 981 Disgybl i |hwn|, yn wir!
(Janet) Ie.
 
(Jac) Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers.
(1, 0) 987 Ie... wel... y...
 
(Janet) Ond os anfonwch ef i Ruthun...
(1, 0) 992 Fy merch i fy hun yn fy herio!
(1, 0) 993 Yn troi'n fradwr!
(Janet) Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel...
 
(Janet) Nid y chwi sydd i benderfynu bellach.
(1, 0) 997 Ffolineb yw hyn!
(Janet) {Gan edrych ar Jac gydag edmygedd.}
 
(1, 0) 1005 Janet, yn enw Duw peidiwch â rhoi'r dewis hwn i mi.
(Janet) {Yn gadarn.}
 
(Janet) Dyna'r dewis.
(1, 0) 1008 Fy merch i... er mwyn popeth...
(Janet) Ac nid oes symud arno!
 
(1, 0) 1011 Dewis ofnadwy yw hwn.
(1, 0) 1012 Yr ydych yn gofyn llawer gennyf, mwy nag a ofynnwyd imi erioed.
(1, 0) 1013 Ni wyddwn eich bod yn coleddu'r syniadau newydd hyn.
(1, 0) 1014 Mae hi'n anodd... yn anodd gweithredu'n groes i'm hargyhoeddiad.
(1, 0) 1015 Ond...
 
(1, 0) 1017 Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael...
(Janet) Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau.
 
(Jac) Nid oes dewis i mi, druan!
(1, 0) 1020 Bydded felly.
(1, 0) 1021 Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers?
(Janet) Dywedwch a fynnwch wrtho.
 
(Janet) Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed.
(1, 0) 1025 O'r gorau, Janet.
(1, 0) 1026 Mr. Huw, carwn i chwi ddod allan gyda mi i siarad â'r swyddog...
 
(1, 0) 1028 Mr. Jones, y mae... y... wel... yr amgylchiadau yn caniatâu i chwi fod yn rhydd... i adael y plwyf hwn heb oedi.
(1, 0) 1029 Ond cofiwch, nid oes gennyf unrhyw awdurdod o'r tu allan i'm plwyf fy hun.
(1, 0) 1030 Dyna'r... telerau.
(Jac) Diolch, syr.
 
(Jac) Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt.
(1, 0) 1033 O'r gorau.
 
(1, 0) 1035 Noson dda i chwi, Mr. Jones.
(1, 0) 1036 A gawn ni fynd, Mr. Huw?