Ei Seren Tan Gwmwl

Ciw-restr ar gyfer Janet

(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
 
(1, 0) 520 O... esgusodwch fi, Mr. Huw, 'wyddwn i ddim fod yma neb dieithr, a mi ddois i mewn heb gnocio fel arfer.
(Rolant) {Yn cyflwyno Janet.}
 
(Jac) {Yn ymgrymu'n foesgar.}
(1, 0) 532 Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê?
(Jac) Ie siŵr.
 
(Rolant) Y... ie... Mr. Williams.
(1, 0) 538 Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl.
(1, 0) 539 Galw i weld Mrs. Huw wnes i, ond gan nad yw yma...
(Rolant) {Yn gweld mymryn o obaith.}
 
(1, 0) 550 Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams.
(Jac) Hen lanc?
 
(Jac) Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"...
(1, 0) 560 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams?
(Jac) Rhyw dalcen slip hwyrach.
 
(Rolant) Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn...
(1, 0) 570 O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.
(Rolant) Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê?
 
(Jac) A dod yma ar garlam gwyllt.
(1, 0) 575 Rhyw |flying visit|, fel pe tae...
(Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.}
 
(Jac) |Flying visit|!
(1, 0) 580 Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams.
(1, 0) 581 Gwneud y gorau o'r gwaethaf?
(Jac) Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi.
 
(Jac) Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi.
(1, 0) 583 Gallai yn siŵr.
(1, 0) 584 Mae hi'n amser cyfyng arnom.
(1, 0) 585 Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela?
(Jac) Eithaf cwestiwn.
 
(Rolant) Wel do... am wn i... wir.
(1, 0) 589 Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela.
(Jac) O?
 
(Jac) A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed?
(1, 0) 592 Jac Glan-y-Gors.
(Y Ddau) P... p... |PWY|?
 
(1, 0) 597 Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 598 Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams?
(Jac) O do, coeliwch fi!
 
(Jac) Gryn dipyn!
(1, 0) 601 Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|?
(Jac) O do... lawer gwaith.
 
(Jac) O do... lawer gwaith.
(1, 0) 603 Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o |polish| yn perthyn iddo.
(Jac) {Braidd yn siomedig.}
 
(Jac) |Polish|?
(1, 0) 606 Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus?
(Jac) Y... y... anwybodus?
 
(Jac) Y... y... anwybodus?
(1, 0) 608 Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny.
(Jac) Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur!
 
(Jac) Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur!
(1, 0) 610 Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur.
(Jac) {Yn llawen unwaith eto.}
 
(Jac) Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny.
(1, 0) 614 Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol.
(Jac) O, yn wir?
 
(Jac) O, yn wir?
(1, 0) 616 Yn hynod felly.
(1, 0) 617 Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid.
(Jac) Wel ydi, efallai.
 
(Jac) Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle!
(1, 0) 621 Ond y mae hi ar ben arno, druan.
(Jac) Pam?
 
(Jac) Pam?
(1, 0) 623 Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru.
(1, 0) 624 Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth.
(Jac) O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch.
 
(Jac) O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch.
(1, 0) 626 Gobeithio'n wir.
(1, 0) 627 Hei lwc na chaiff yr un offeiriad afael ynddo.
(Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.}
 
(1, 0) 633 Felly'n wir!
(Jac) Ydi.
 
(Jac) Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi.
(1, 0) 636 Wel, synnwn i ddim, wyddoch.
(Jac) 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw...
 
(Jac) 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw...
(1, 0) 638 Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e?
 
(1, 0) 640 Mae'n rhaid imi fynd adre'n ôl, wyddoch.
(1, 0) 641 Esgusodwch fi, Mr. Huw, ydi'r pecyn yr addawodd Mrs. Huw ei adael imi wrth law?
(1, 0) 642 Dillad, 'r wy'n credu.
(Rolant) Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti...
 
(Rolant) Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti...
(1, 0) 644 Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall.
(Rolant) Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan.
 
(1, 0) 648 Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna.
(Jac) O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster.
 
(Jac) O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster.
(1, 0) 650 Efallai na welaf mohonoch eto.
(1, 0) 651 Byddwch yn ein gadael yn lled fuan, mae'n siŵr.
(Jac) {Yn edrych braidd yn hurt arni.}
 
(Jac) Gadael?
(1, 0) 654 |Flying visit| i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr?
 
(Rolant) Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman...
(1, 0) 658 O?
(1, 0) 659 Dyna beth od.
(1, 0) 660 Efallai iddi ei adael yn y llofft, Mr. Huw.
(1, 0) 661 A fyddai'n ormod gennych fynd i chwilio yno?
(1, 0) 662 Os gwelwch yn dda.
(Rolant) Ar bob cyfrif, Janet.
 
(Rolant) 'Fyddai'r un dau funud.
(1, 0) 667 Wel... JAC GLAN-Y-GORS!
(Jac) {Yn ffugio syndod.}
 
(1, 0) 673 O'r dechrau cyntaf.
(1, 0) 674 'R wy'n cofio eich gweld un tro yn rhywle.
(1, 0) 675 Nid ydych yn ddyn hawdd ei anghofio...
 
(1, 0) 678 Gwrandewch!
(1, 0) 679 'D oes dim moment i'w golli... 'r ydych mewn perygl dybryd.
(1, 0) 680 Ewch ar unwaith!
(1, 0) 681 Er mwyn Rolant Huw a'i wraig... ac er eich mwyn chwithau.
(1, 0) 682 Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch...
(Jac) Ond Miss Foster, pam yr ydych...
 
(Jac) Ond Miss Foster, pam yr ydych...
(1, 0) 684 Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man...
(1, 0) 685 Daw Mr. Huw yn ôl toc heb ei becyn.
(1, 0) 686 Rhaid oedd cael gwared ohono er mwyn eich rhybuddio.
(1, 0) 687 Ond ewch ar unwaith!
(1, 0) 688 Mae gennyf ofn amdanoch... ofn.
(Rolant) Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da...
 
(1, 0) 692 Peidiwch â thrafferthu, Mr. Huw.
(1, 0) 693 Gallaf alw eto, efallai.
(1, 0) 694 Diolch yn fawr.
 
(1, 0) 696 Wel, noson dda, eich dau.
(1, 0) 697 Efallai na chewch amser i alw acw, Mr. Williams.
(1, 0) 698 Gresyn!
(1, 0) 699 Byddai fy nhad yn falch o'ch cael dan ei do.
(1, 0) 700 Ond os ydych am alw, cofiwch yr address...
(1, 0) 701 Y Vicarage!
 
(1, 0) 901 Y fi sydd i benderfynu hynny.
(1, 0) 902 Deuthum i wybod fod rhywbeth ar droed yma.
(1, 0) 903 Beth ydyw?
(Foster) Gwaith y Brenin.
 
(Foster) Gwaith y Brenin.
(1, 0) 905 Pa waith?
(Jac) A pha frenin?
 
(Foster) Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 908 Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma.
(Ifor) {Yn ymffrostgar eto.}
 
(Ifor) Anffyddiwr!
(1, 0) 914 Ac yr ydych am ei daflu i garchar?
(Foster) Dyna'm dyletswydd.
 
(Foster) Dyna'm dyletswydd.
(1, 0) 916 Y mae rhywun wedi ei fradychu.
(1, 0) 917 Pwy?
(Foster) Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw.
 
(1, 0) 921 Ifor?
(Rolant) Ie... fy mab i fy hun...
 
(1, 0) 927 O Ifor, Ifor, yn bradychu ffrind eich tad... a'ch teulu...
(Ifor) Dyna fy nyletswydd, yn ôl Mr. Foster!
 
(Ifor) Er eich mwyn chi y gwnes i hyn...
(1, 0) 932 Er fy mwyn i, Ifor?
(1, 0) 933 Bradychu...
(Ifor) I'ch plesio chi, Janet... a Mr. Foster.
 
(1, 0) 951 Arhoswch!
(Foster) {Yn ddi-amynedd.}
 
(Foster) Wel... beth sy'n bod?
(1, 0) 954 Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych.
(Foster) Ewch ymlaen.
 
(Foster) Ewch ymlaen.
(1, 0) 956 Ond nid o flaen Capten Rogers.
(Foster) Pam hynny?
 
(Foster) Pam hynny?
(1, 0) 958 Yr wyf o ddifrif.
(1, 0) 959 Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau?
(Foster) O'r gorau, Janet.
 
(1, 0) 965 Dim ond hyn.
(1, 0) 966 Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd.
(Foster) Nid ydych o ddifrif...
 
(Foster) Nid ydych o ddifrif...
(1, 0) 968 Ni fum erioed mor sicr.
(Foster) {Gyda braw.}
 
(Foster) Yn enw rheswm, pam?
(1, 0) 971 Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder...
(Foster) {Wedi ei syfrdanu.}
 
(Foster) Bradychu eich |teulu|!
(1, 0) 976 Efallai yn wir.
(1, 0) 977 Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod.
(Foster) Cydwybod!
 
(Foster) Disgybl i |hwn|, yn wir!
(1, 0) 982 Ie.
(1, 0) 983 Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors.
(Jac) 'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster.
 
(Foster) {Y mae'n cychwyn at y drws.}
(1, 0) 989 'R wy'n benderfynol!
(1, 0) 990 Gollyngwch ef, a 'r wy'n addo na fydd yn aros o fewn y plwy hwn.
(1, 0) 991 Ond os anfonwch ef i Ruthun...
(Foster) Fy merch i fy hun yn fy herio!
 
(Foster) Yn troi'n fradwr!
(1, 0) 994 Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel...
(Jac) Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster.
 
(Jac) Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster.
(1, 0) 996 Nid y chwi sydd i benderfynu bellach.
(Foster) Ffolineb yw hyn!
 
(1, 0) 999 Efallai.
(1, 0) 1000 Ond hefyd peth bendigedig a hyfryd.
 
(1, 0) 1002 Ond a ellwch chwi oddef gweld eich unig ferch... cannwyll eich llygad... yn mynd i garchar?
(1, 0) 1003 Yn syrthio i ddwylo Milishia Sir Ddinbych?
(Foster) {Wedi ei frifo.}
 
(1, 0) 1007 Dyna'r dewis.
(Foster) Fy merch i... er mwyn popeth...
 
(Foster) Fy merch i... er mwyn popeth...
(1, 0) 1009 Ac nid oes symud arno!
(Foster) {Yn teimlo i'r byw, ond o dan orfod i ildio.}
 
(Foster) Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael...
(1, 0) 1018 Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau.
(Jac) Nid oes dewis i mi, druan!
 
(Foster) Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers?
(1, 0) 1022 Dywedwch a fynnwch wrtho.
(1, 0) 1023 Yr ydych yn ŵr o ddylanwad ac awdurdod.
(1, 0) 1024 Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed.
(Foster) O'r gorau, Janet.
 
(Jac) Janet... a gaf fi eich galw felly?
(1, 0) 1040 Cewch... Jac.
(Jac) A oedd raid i chwi wneuthur hyn?
 
(Jac) A oedd raid i chwi wneuthur hyn?
(1, 0) 1042 Oedd.
(1, 0) 1043 Y mae gennyf gymaint o feddwl o...
(Jac) Jac Glan-y-Gors?
 
(Jac) Jac Glan-y-Gors?
(1, 0) 1045 Efallai'n wir!
(Jac) {Yn frysiog a byrbwyll, yn ei anghofio'i hun am foment.}
 
(Jac) Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau!
(1, 0) 1051 Na, Jac.
(1, 0) 1052 'R wyf wedi addo mai fel arall y mae hi i fod.
(1, 0) 1053 Yma y mae fy lle i.
(1, 0) 1054 Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn.
(Jac) Gallwch, Janet.
 
(Jac) Gallwch, Janet.
(1, 0) 1056 Ac Ifor, druan.
(1, 0) 1057 Rhaid ceisio'i helpu yntau.
(1, 0) 1058 Yma y mae'n rhaid imi aros.
(Jac) Ie.
 
(Jac) Ie.
(1, 0) 1060 Ond daliwch i ymladd, Jac.
(1, 0) 1061 Byddaf gyda chwi yn y frwydr.
(1, 0) 1062 Cadwch eich golwg ar y Seren...
(1, 0) 1063 Wel, dyma fi'n mynd...
 
(1, 0) 1068 Nos da, Jac.
(1, 0) 1069 Cofiwch am y |Seren|.