Ei Seren Tan Gwmwl

Ciw-restr ar gyfer Rolant

(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
 
(1, 0) 11 Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin.
(Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn?
 
(Sara) Pa lyfr, 'neno'r dyn?
(1, 0) 13 "Seren tan Gwmwl".
(Sara) O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na!
 
(Sara) 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur.
(1, 0) 16 Dim syndod.
(1, 0) 17 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod.
(Sara) Doniol?
 
(Sara) Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys.
(1, 0) 21 Wel ie, diolch bod rhywun yn...
(Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged.
 
(Sara) A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged.
(1, 0) 23 Ie, Sara, ond wrth gwrs...
(Sara) Bobol bach!
 
(Sara) A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol?
(1, 0) 26 Ydw.
(1, 0) 27 Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma.
(Sara) A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions.
 
(1, 0) 30 Y nhw sy'n cyfrifol... y brenhinoedd, yr esgobion a'r arglwyddi.
(1, 0) 31 Cymer di'r ardal yma...
(Sara) {Yn gwaredu.}
 
(1, 0) 35 Trefn yr Hollalluog, yn wir!
(Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu.
 
(Sara) Ein dyletswydd ni ydi plygu.
(1, 0) 37 I drefn yr esgobion a'r bobol fawr?
(1, 0) 38 Gwared ni!
(1, 0) 39 Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle.
(Sara) Paid â rhyfygu, Rolant!
 
(1, 0) 42 Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw!
(Sara) Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg.
 
(1, 0) 45 Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni.
(Sara) Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr.
 
(1, 0) 48 Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle!
(Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant!
 
(Sara) Rhag cywilydd iti, Rolant!
(1, 0) 50 Mae Jac yn ei le, Sara.
(1, 0) 51 'R ydw i reit hoff o'r bachgen... 'r oedd 'i dad a minne yn ffrindie mawr erstalwm yng Ngherrig y Drudion.
(1, 0) 52 Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm.
(Sara) 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag.
 
(Sara) Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd.
(1, 0) 55 Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed?
(Sara) Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos.
 
(1, 0) 58 Go dda yr hen Sara!
 
(1, 0) 60 Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|.
(Sara) Rhyngddo fo â'i botes!
 
(Sara) Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn...
(1, 0) 63 Rhaid imi ddatgan fy marn.
(Sara) Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.}
 
(Sara) Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures.
(1, 0) 69 Ac nid yr unig un o lawer.
(1, 0) 70 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti.
(Sara) Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer.
 
(Sara) Lle mae o, Rolant?
(1, 0) 74 Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer.
(1, 0) 75 'D ydi o'n meddwl am ddim arall.
(Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn.
 
(Sara) Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn.
(1, 0) 77 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm...
(Sara) Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi.
 
(Sara) A chofia bod Janet yn |lady|.
(1, 0) 80 Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma...
(Sara) {Yn mynd at ddrws y gegin fach, ac yn bloeddio.}
 
(1, 0) 97 Nid fel yna y mae iti siarad â'th fam!
(Ifor) 'Fedra 'i ddod o hyd i affeth o ddim yn y llofft 'na.
 
(1, 0) 106 I fynd i dŷ'r Person am |afternoon tea|, wrth gwrs!
(Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd!
 
(Ifor) 'D oes dim rhaid ichi fod mor sbeitlyd!
(1, 0) 108 'D ydw i ddim, 'ngwas i.
(1, 0) 109 'R wy'n falch dy fod ti'n ffrind i Janet y ferch.
(1, 0) 110 Mae hi'n eneth hoffus iawn.
(Ifor) Wel?
 
(Ifor) Wel?
(1, 0) 112 Yn bur wahanol i'w thad.
(Sara) Da thi, Rolant, rho'r gore iddi...
 
(Ifor) Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad...
(1, 0) 115 Ydi!
(1, 0) 116 Cymeriad caled... fel haearn Sbaen.
(1, 0) 117 Dim owns o gydymdeimlad â'r werin bobl y mae o'n gyfrifol amdanyn' nhw.
(Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion...
 
(Ifor) Mae Janet yn ymweld â'r tlodion...
(1, 0) 119 Ydi, chware teg iddi.
(1, 0) 120 Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster.
(Sara) Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu!
 
(Sara) Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog.
(1, 0) 123 Dyna hi eto!
(1, 0) 124 Be' ydi gwaith gwas yr Arglwydd, tybed?
(1, 0) 125 Hel bechgyn i'r Milishia?
(Ifor) Mae'n rhaid inni amddiffyn y wlad 'ma.
 
(1, 0) 132 Ffordd yr hen Feti Ifans o fyw, er enghraifft?
(1, 0) 133 Yn hanner llwgu yn yr hofel bwthyn 'na!
(1, 0) 134 A miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru!
(Ifor) {Yn dal ati fel parot.}
 
(1, 0) 138 Wel, wel!
(1, 0) 139 Hawdd gweld dy fod |ti| wedi cael y fraint o eistedd wrth draed Hugh Foster.
(1, 0) 140 "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir!
(Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i...
 
(Sara) Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i...
(1, 0) 142 Meddwl?
(1, 0) 143 'Ddaru o 'rioed feddwl yr un eiliad!
(1, 0) 144 Dim ond ail-adrodd pregeth yr hen Foster fel parot.
(1, 0) 145 Yn enw'r Mawredd, dysga feddwl drosot dy hun, ngwas i!
(Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs.
 
(Ifor) Yr un fath â chi, wrth gwrs.
(1, 0) 147 Wel... ie... pam?
(Ifor) {Yn sarcastig.}
 
(Ifor) Byth yn benthyca syniadau yr un cr'adur byw, John Jones o Lan-y-Gors na neb arall.
(1, 0) 150 Mi fydde'n iechyd iti ddarllen |Seren tan Gwmwl|.
(Ifor) 'R ydw i wedi ei ddarllen.
 
(1, 0) 155 Beth?
(1, 0) 156 Bradwr?
(Ifor) Ie!
 
(1, 0) 159 'Chaiff neb alw Jac Glan-y-Gors yn fradwr yn y tŷ yma!
(Ifor) {Yn dal ati.}
 
(1, 0) 165 Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr?
(Ifor) {Yn haerllug.}
 
(Ifor) Pawb bron.
(1, 0) 169 Pwy?
(Ifor) 'R wyf wedi dweud unwaith... pawb.
 
(1, 0) 172 Ateb... PWY?
(Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall
 
(Ifor) {Yn dechrau cloffi.} Wel... y... hwn a'r llall
(1, 0) 174 Brysia... pwy oedd o?
(Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un...
 
(Ifor) O wel... y... Mr. Foster yn un...
(1, 0) 176 Pwy arall?
(Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall.
 
(Ifor) {Yn ddof erbyn hyn.} N... n... neb arall.
(1, 0) 178 Na, 'feiddiai neb yn y pentre' heblaw Hugh Foster alw Jac yn fradwr.
(Sara) {Yn ceisio tawelu'r storm.}
 
(1, 0) 182 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person...
(Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi.
 
(Sara) Gad lonydd i'r bachgen, da thi.
(1, 0) 184 Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed?
 
(1, 0) 186 'D oes dim hanner digon o hwnnw yng Nghymru heddiw.
(1, 0) 187 Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd!
(Sara) Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory...
 
(Sara) 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant.
(1, 0) 203 Dim ond y gwir.
(Sara) Mae Ifor yn iawn yn y bôn.
 
(1, 0) 206 Nac ydi, Sara.
(Sara) {Wedi dychryn braidd.}
 
(Sara) Paid â dweud 'i fod o yn...
(1, 0) 209 Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar....
(Sara) Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet.
 
(1, 0) 212 Mi ddaw hynny i ben pan fydd y Wyddfa i gyd yn gaws!
(Sara) {Ym poethi mymryn.}
 
(Sara) Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o!
(1, 0) 215 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno?
(Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg.
 
(Sara) I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg.
(1, 0) 217 Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny!
(Sara) 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod?
 
(1, 0) 220 Tacluso?
(1, 0) 221 Ar gyfer rhyw ddyn fel...
 
(1, 0) 223 Wel hwyrach dy fod ti'n iawn, Sara.
 
(1, 0) 225 Rhy hwyr!
(1, 0) 226 Dyna'r hen Foster, os nad wy'n methu.
(Sara) {Mewn helynt.}
 
(Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 236 Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn.
 
(1, 0) 239 Eisteddwch yma, Mr. Foster.
(Foster) Diolch.
 
(Foster) Esgusodwch fi, Mrs. Huw, ond nid i olrhain y tywydd y deuthum i yma heno.
(1, 0) 251 Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster.
(1, 0) 252 Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda?
(Foster) Y mae a wnelo â chwi yn bersonol, ac hefyd â'ch mab Ifor.
 
(Sara) O, Mr. Foster!
(1, 0) 256 Ewch ymlaen.
(Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw.
 
(Foster) Barn pob dyn cyfrifol yn y wlad hon yw fod Prydain mewn argyfwng pur enbyd heddiw.
(1, 0) 258 Wel?
(Foster) Dyletswydd pawb sy'n deyrngarol i'r Brenin a'r Llywodraeth ydyw ceisio helpu'r wlad yn ei dyddiau blin.
 
(Foster) Fel gŵr o sylwedd a dylanwad ymhlith gwerin y pentref, byddwch yn barod i ategu hyn...
(1, 0) 261 Ac felly?
(Foster) Disgwylir brwdfrydedd gan bawb at yr ymgyrch y mae Prydain wedi ei galw gan Dduw iddi...
 
(1, 0) 264 Mr. Foster, siaradwch yn blaen, da chi.
(1, 0) 265 Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc?
(Foster) Ie, os mynnwch.
 
(Foster) Ie, os mynnwch.
(1, 0) 267 Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd.
(Foster) {Yn sarcastig braidd.}
 
(1, 0) 272 Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud.
(Foster) O? A beth ydyw?
 
(Foster) O? A beth ydyw?
(1, 0) 274 Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster.
(Sara) {Yn dechrau ofni.}
 
(Foster) Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol.
(1, 0) 278 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd.
(Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau.
 
(Foster) Ac eto, ni ddangoswch unrhyw frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn anffyddwyr Ffrainc, gelynion eich crefydd chwi a minnau.
(1, 0) 280 Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor.
(Foster) Chwarae teg iddo, yn wir.
 
(Foster) Dywedais fod a wnelo fy neges ag yntau hefyd.
(1, 0) 283 Wel?
(Foster) Ymddengys ei fod ef, o leiaf, yn sylweddoli ei ddyletswydd.
 
(1, 0) 287 Beth?
(Foster) Fe ddylech fod yn falch o'i sêl wlatgarol a'i ysbryd gwrol...
 
(1, 0) 290 F...f...fy mab i yn y Milishia?
(Foster) Ie, yn ymladd dan faner rhyddid a chyfiawnder...
 
(1, 0) 297 Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia!
(Foster) Dynion dewr, gwlatgarol.
 
(Foster) Dynion dewr, gwlatgarol.
(1, 0) 299 Gwehilion cymdeithas!
(Foster) Syr!
 
(Foster) Syr!
(1, 0) 301 Lladron, dihirod, treiswyr merched!
(Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich...
 
(Foster) Mr. Huw, ystyriwch eich...
(1, 0) 303 A'u drygioni yn drewi drwy'r sir!
(Foster) {Yn llymach na'i arfer.}
 
(Foster) Mr. Huw, nid wyf am wrando ar y fath sen...
(1, 0) 306 Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon?
(Foster) {Yn bontifficaidd.}
 
(Foster) Y maer Diafol a'r Anghrist ar gerdded yn Ffrainc...
(1, 0) 309 Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid!
(Sara) {Wedi dychryn.}
 
(1, 0) 313 Pa le mae llais yr Efengyl heddiw?
(Foster) {Yn offeiriadol.}
 
(1, 0) 317 Treftadaeth!
(1, 0) 318 Pa faint sydd gan drueiniaid tlawd y pentref hwn, er enghraifft?
(1, 0) 319 'R ydych chwi a'ch degymau a'ch trethi wedi ei ddwyn oddi arnynt!
(Foster) {Yn awgrymiadol.}
 
(Foster) Syniadau peryglus yw y rhai hyn, Mr. Huw.
(1, 0) 322 Peryglus i bwy, tybed?
(Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors.
 
(Foster) Mae'n amlwg eich bod wedi llyncu athrawiaeth |The Rights of Man|, Tom Paine, a'i ddynwaredwr yng Nghymru, Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 324 Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder!
(1, 0) 325 Fe wnai les i chwi ddarllen y llyfryn hwn, Mr. Foster.
 
(Foster) ... Yr Efengyl yn ôl Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 332 Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi!
(Sara) Rolant bach, paid â rhyfygu!
 
(1, 0) 340 Bradwr?
(Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad.
 
(Foster) Ac wrth goleddu eu syniadau llygredig, Mr. Huw, yr ydych chwithau yn elyn i'ch gwlad.
(1, 0) 342 Ond nid gelyn i gyfiawnder!
(Sara) {Wedi dychryn eto.}
 
(Foster) Yr wyf i yn ŵr o ddylanwad...
(1, 0) 349 Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn.
(Foster) O'r gorau.
 
(Sara) Dyna ti wedi andwyo popeth.
(1, 0) 359 Pam, 'neno'r dyn?
(Sara) Ifor a Janet.
 
(Sara) Ifor a Janet.
(1, 0) 361 A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di?
 
(1, 0) 363 Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi.
(Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl.
 
(Sara) Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl.
(1, 0) 365 Digon posibl.
(1, 0) 366 Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster.
(Sara) Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs.
 
(Sara) Cannwyll 'i lygad o.
(1, 0) 370 Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno.
(1, 0) 371 Ond cofia, 'd ydi Hugh Foster ddim yn ddyn drwg, Sara.
(1, 0) 372 Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad...
(Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno!
 
(Sara) Ond yn elyn iti byth ar ôl heno!
(1, 0) 374 Dichon 'i fod o.
(1, 0) 375 Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir.
(Sara) Gobeithio'r annwyl!
 
(Sara) Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld!
(1, 0) 379 Ond mae'n rhaid imi sefyll...
(Sara) Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air...
 
(Sara) "Os na bydd gryf..."
(1, 0) 382 Mi gawn weld...
 
(1, 0) 384 O'r annwyl, 'r oeddwn i wedi edrych ymlaen heno am noson go dawel yng nghwmni'r Seren.
(1, 0) 385 Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd.
(Sara) 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan.
 
(Sara) Mae'n ddrwg gen' i drosti.
(1, 0) 391 Y gre'dures!
(1, 0) 392 Yr hen ryfel felltith 'ma!
(1, 0) 393 Pobol yn hanner llwgu.
 
(1, 0) 395 Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall!
(Sara) Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors!
 
(Sara) Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn...
(1, 0) 398 O wel...
 
(1, 0) 422 Jac!
(1, 0) 423 Be ar y ddaear...
(Jac) {Ar dop ei lais.}
 
(Jac) Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch?
(1, 0) 426 Sh!
(1, 0) 427 Paid â bloeddio!
(Jac) Pam?
 
(Jac) A phan weles i Mrs. Huw...
(1, 0) 432 Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith?
(Jac) Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae.
 
(Jac) Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma.
(1, 0) 437 A dod yr holl ffordd o Lundain?
(Jac) Ie.
 
(Jac) 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn?
(1, 0) 442 O, ofn i rywun dy weld, Jac.
(Jac) Dyna welliant!
 
(Jac) 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch?
(1, 0) 447 Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac.
(Jac) {Yn eithaf hapus.}
 
(1, 0) 454 Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn.
(Jac) O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch.
 
(Jac) Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai.
(1, 0) 457 'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno.
(1, 0) 458 Be' oedd yr achos?
(1, 0) 459 |Seren tan Gwmwl|?
(Jac) Ie.
 
(Jac) Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw.
(1, 0) 464 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod.
(Jac) Ond gwrandewch!
 
(Jac) Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i.
(1, 0) 469 Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd.
(1, 0) 470 Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr!
(Jac) Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos.
 
(Jac) Noswaith o leia'.
(1, 0) 474 Â chroeso, Jac.
(1, 0) 475 'R wyt ti'n haeddu gorffwys... mi ge'st amser digon caled, mi'wn.
(Jac) {Yn eithaf hapus.}
 
(1, 0) 480 Mae'r werin yn dy hanner addoli.
(Jac) Ydi.
 
(Jac) ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried.
(1, 0) 486 Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac.
(1, 0) 487 Hwyrach bod Ifor y bachgen 'ma yn deud y drefn amdanat ti ambell dro, ond mi ofala'i y bydd |o| yn iawn.
(1, 0) 488 Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|...
(Jac) O?
 
(Jac) A phwy ydi hwnnw, felly?
(1, 0) 491 Person y plwy.
(Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.}
 
(Jac) Yr hen deip, mi'wn.
(1, 0) 496 Ie, efallai.
(1, 0) 497 Dim symud arno ar gwestiwn y wladwriaeth a'r Eglwys.
(1, 0) 498 Cyfiawnhau'r rhyfel...
 
(1, 0) 500 "Crwsâd sanctaidd yn erbyn yr i Anghrist"...
(Jac) {Yn chwerthin.}
 
(Jac) Dyna'r teip... i'r blewyn!
(1, 0) 503 Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin.
(1, 0) 504 Mae o'n ddyn i'w |ofni|.
(Jac) Ofni?
 
(1, 0) 526 Y... y... dyma Miss Foster.
 
(1, 0) 528 D... Dyma Mr.... Mr.... |Williams|!
(Jac) {Yn mwynhau'r sefyllfa ddiddorol.}
 
(1, 0) 537 Y... ie... Mr. Williams.
(Janet) Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl.
 
(1, 0) 541 Wel ie, am wn i... yn wir.
(Jac) {Ar ei orau yng ngŵydd y rhyw deg.}
 
(1, 0) 556 Wel... y... eisteddwch am funud, Janet.
(Jac) Janet?
 
(1, 0) 564 Mae Mr.... y... Williams a minnau yn hen gyfeillion, Janet.
(1, 0) 565 'R oeddwn i'n adnabod ei dad yn dda erstalwm.
(1, 0) 566 Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn...
(Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.
 
(Janet) O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw.
(1, 0) 571 Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê?
 
(Jac) Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw?
(1, 0) 588 Wel do... am wn i... wir.
(Janet) Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela.
 
(Janet) Dillad, 'r wy'n credu.
(1, 0) 643 Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti...
(Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall.
 
(Janet) Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall.
(1, 0) 645 Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan.
(Janet) {Yn swynol.}
 
(1, 0) 657 Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman...
(Janet) O?
 
(Janet) Os gwelwch yn dda.
(1, 0) 663 Ar bob cyfrif, Janet.
(1, 0) 664 'Fyddai'r un dau funud.
(Janet) Wel... JAC GLAN-Y-GORS!
 
(Janet) Mae gennyf ofn amdanoch... ofn.
(1, 0) 690 Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da...
(Janet) {Yn hollol fel pe bai dim wedi digwydd.}
 
(Jac) Merch y person!
(1, 0) 705 Ie.
(1, 0) 706 Biti dy fod ti wedi dweud...
(Jac) {Yn dal i edrych tua'r drws.}
 
(1, 0) 711 Diolch i'r nefoedd nad oedd hi'n sylweddoli pwy oeddet ti, Jac!
(1, 0) 712 "Mistar Williams"!
(1, 0) 713 Mi fum i'n glyfar yn meddwl am hwnna!
(Jac) {Yn hanner breuddwydiol.}
 
(1, 0) 717 Do, yn wir.
(Jac) {Â'i feddwl ymhell, a dal i edrych tua'r drws.}
 
(Jac) "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê?
(1, 0) 720 Wel ie... ond...
(Jac) {Yn freuddwydiol eto.}
 
(1, 0) 727 'Neno'r dyn, be' sy'n bod?
(1, 0) 728 Wyt ti'n sâl?
(Jac) {Yn hynod o dawel.}
 
(Jac) Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith!
(1, 0) 736 Ffoi?
(Jac) 'D oes dim aros i fod!
 
(Jac) 'D oes dim aros i fod!
(1, 0) 738 Ofn yr hen Foster?
(Jac) Na.
 
(Jac) Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch...
(1, 0) 741 'Neno'r dyn, Jac...
(Jac) {Yn dechrau byrlymu.}
 
(Jac) Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw?
(1, 0) 745 Wel do... ond...
(Jac) {Yn dal ati.}
 
(Jac) Ie, yng Nghymru!
(1, 0) 753 Ond beth sydd a wnelo Tom Paine...
(Jac) Y fi ydi Tom Paine Cymru!
 
(Jac) 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|.
(1, 0) 757 Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma...
(Jac) Nac ydw'!
 
(1, 0) 769 Y... y... 'd wyt ti ddim yn 'i 'nabod o, Sara?
(Ifor) {Ar unwaith, ac yn eithaf siriol.}
 
(Sara) Ond be'ar y ddaear...
(1, 0) 781 Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw...
(Jac) {Yn cellwair unwaith eto.}
 
(Sara) Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma.
(1, 0) 788 Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith.
(Sara) 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny?
 
(1, 0) 794 Wel, chware teg iti Ifor, ond...
(Ifor) Mae hwn yn achlysur pwysig iawn.
 
(Ifor) Bydd sôn am ymweliad y gwron o Lan-y-Gors...
(1, 0) 797 Yn anesmwyth.}
(1, 0) 798 Na... mae Jac ar gychwyn...
(Ifor) {Yn dal ati.}
 
(1, 0) 810 Pwy sy' 'na, tybed?
(Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!
 
(1, 0) 825 Ifor, beth yw hyn?
(Ifor) Mae hi'n rhy hwyr, Jac Glan-y-Gors.
 
(Jac) Hen ffrindie!
(1, 0) 834 Dyna Hugh Foster,
(Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen!
 
(Jac) Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen!
(1, 0) 836 Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
 
(1, 0) 839 Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster?
(Foster) Gwaith y Brenin.
 
(1, 0) 851 A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw.
(Foster) Y mae'n haeddu pob clod, Mr. Huw.
 
(1, 0) 857 Ti, felly, bia'r |clod| am hyn!
(Ifor) {Yn wawdlyd.}
 
(1, 0) 862 Fy mab i fy hun yn bradychu ei deulu... bradychu fy nghyfaill!
(1, 0) 863 Ac yn cymryd arno ei fod yn falch o'i weld...
(Ifor) Wrth gwrs!
 
(Ifor) Y fi... Ifor... nad oedd neb yn meddwl y gallwn i...
(1, 0) 870 'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma...
(Foster) 'R wyf fi yn dal ei bod yn ganmoladwy.
 
(1, 0) 874 Na, melltith a gwawd!
(Sara) {Yn ceisio'i gysuro.}
 
(1, 0) 883 Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
(Foster) Tewi a fyddai orau i chwithau, Mr. Huw.
 
(Janet) Ifor?
(1, 0) 922 Ie... fy mab i fy hun...
(Jac) {Yn ceisio cyfiawnhau Ifor.}
 
(1, 0) 938 Nage, gwaith bradwr!
(1, 0) 939 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto!