Ei Seren Tan Gwmwl

Ciw-restr ar gyfer Sara

 
(1, 0) 6 Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
(1, 0) 7 Wyt ti wedi colli dy ben, dywed?
(Rolant) {Yn dal i chwerthin.}
 
(Rolant) Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin.
(1, 0) 12 Pa lyfr, 'neno'r dyn?
(Rolant) "Seren tan Gwmwl".
 
(Rolant) "Seren tan Gwmwl".
(1, 0) 14 O, yr hen Jac Glan-y-Gors 'na!
(1, 0) 15 'R wyt ti wedi meddwi'n lân ar y cr'adur.
(Rolant) Dim syndod.
 
(Rolant) 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod.
(1, 0) 18 Doniol?
(1, 0) 19 Sych iawn 'r oeddwn i'n ei weld o.
(1, 0) 20 Lladd ar y byddigions a deud y drefn am yr offeiriaid a'r Eglwys.
(Rolant) Wel ie, diolch bod rhywun yn...
 
(Rolant) Wel ie, diolch bod rhywun yn...
(1, 0) 22 A brolio pobol Ffrainc am dorri pen y brenin a'i roi mewn basged.
(Rolant) Ie, Sara, ond wrth gwrs...
 
(Rolant) Ie, Sara, ond wrth gwrs...
(1, 0) 24 Bobol bach!
(1, 0) 25 A 'r wyt ti'n galw peth felly yn ddoniol?
(Rolant) Ydw.
 
(Rolant) Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma.
(1, 0) 28 A rhoi'r bai am hynny ar y byddigions.
(Rolant) {Yn cynhesu i'r hoff destun.}
 
(1, 0) 33 Ond Rolant, mae o'n bechod anfaddeuol cwyno yn erbyn trefn yr Hollalluog...
(Rolant) {Yn wawdlyd.}
 
(Rolant) Trefn yr Hollalluog, yn wir!
(1, 0) 36 Ein dyletswydd ni ydi plygu.
(Rolant) I drefn yr esgobion a'r bobol fawr?
 
(Rolant) Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle.
(1, 0) 40 Paid â rhyfygu, Rolant!
(Rolant) {Yn dal ati.}
 
(Rolant) Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw!
(1, 0) 43 Mae Mr. Foster, ein person |ni|, yn gallu siarad Cymraeg.
(Rolant) {Yn sbeitlyd braidd.}
 
(Rolant) Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni.
(1, 0) 46 Nid peth gweddus o gwbl ydi gwneud sbort o weision y Brenin Mawr.
(Rolant) {Yn wawdlyd eto.}
 
(Rolant) Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle!
(1, 0) 49 Rhag cywilydd iti, Rolant!
(Rolant) Mae Jac yn ei le, Sara.
 
(Rolant) Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm.
(1, 0) 53 'D ydw i ddim yn cydweld â'r cr'adur, beth bynnag.
(1, 0) 54 Mae o'n fachgen digon teidi, am wn i, er na weles i mohono ers plwc byd.
(Rolant) Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed?
 
(Rolant) Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed?
(1, 0) 56 Mae'n rhaid iddo fo fihafio'i hun mewn lle felly, a'r brenin mor agos.
(Rolant) {Yn chwerthin.}
 
(Rolant) Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|.
(1, 0) 61 Rhyngddo fo â'i botes!
(1, 0) 62 Ond paid |ti| â brygawtha' gormod... rhag ofn...
(Rolant) Rhaid imi ddatgan fy marn.
 
(Rolant) Rhaid imi ddatgan fy marn.
(1, 0) 64 Wel, rhaid... ond... {yn torri'r ddadl.}
(1, 0) 65 Bobol bach!
(1, 0) 66 Be' ydi rhyw gyboli fel hyn a minne â llond y byd o waith trwsio... {yn cydio yn rhai o'r dillad.}
(1, 0) 67 'R ydw i wedi addo dilledyn neu ddau i'r hen Feti Ifans, druan.
(1, 0) 68 Mae'n bur gyfyng arni, y gre'dures.
(Rolant) Ac nid yr unig un o lawer.
 
(Rolant) 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti.
(1, 0) 71 Mae'n rhaid i rywun swcro'r hen chwaer.
(1, 0) 72 'S gwn i os oes ar Ifor eisie'r crys 'ma yn o fuan?
(1, 0) 73 Lle mae o, Rolant?
(Rolant) Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer.
 
(Rolant) 'D ydi o'n meddwl am ddim arall.
(1, 0) 76 Caru ma'r bachgen, 'neno'r dyn.
(Rolant) 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm...
 
(Rolant) 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm...
(1, 0) 78 Rhaid i Ifor symud efo'r oes, weldi.
(1, 0) 79 A chofia bod Janet yn |lady|.
(Rolant) Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma...
 
(1, 0) 82 Ifor! Ifor!
(Ifor) {O bell.}
 
(Ifor) Be' sy'n bod?
(1, 0) 85 'Ddoi di 'lawr am funud, 'nghariad i?
 
(1, 0) 87 Be' aflwydd ydech chi'r dynion yn 'i wneud â'ch dillad, deudwch?
(1, 0) 88 Ma' nhw'n garpie gwyllt.
(1, 0) 89 Edrych ar y pâr 'sane 'ma... yn dylle mân ulw botes.
(1, 0) 90 'Dase ti'n gorfod trwsio dy 'sane dy hun...
(Ifor) {Yn ddreng.}
 
(Ifor) Rhywbeth ar goll beunydd.
(1, 0) 100 O Ifor, 'oes gen ti eisie'r crys 'ma yn fuan?
(1, 0) 101 Mae rhyw 'chydig o waith trwsio arno.
(Ifor) Fy nghrys gorau?
 
(Rolant) Yn bur wahanol i'w thad.
(1, 0) 113 Da thi, Rolant, rho'r gore iddi...
(Ifor) Mae Mr. Foster yn ddyn o gymeriad...
 
(Rolant) Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster.
(1, 0) 121 Rolant, 'r wyt ti'n rhyfygu!
(1, 0) 122 Cofia 'i fod o'n un o weision yr Hollalluog.
(Rolant) Dyna hi eto!
 
(Ifor) Be' dase'r Ffrancod yn landio?
(1, 0) 128 Gwarchod ni, ie!
(1, 0) 129 A thorri'n penne ni, bodyg-un!
(Ifor) 'R yden ni'n ymladd dros egwyddorion Cristnogaeth, a'n ffordd ni o fyw.
 
(Rolant) "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir!
(1, 0) 141 Ond Rolant, os ydi Ifor bach yn meddwl fel yna, mae ganddo fo berffaith hawl i...
(Rolant) Meddwl?
 
(1, 0) 180 Rolant, dyna ddigon.
(Rolant) {Yn dal ati.}
 
(Rolant) 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person...
(1, 0) 183 Gad lonydd i'r bachgen, da thi.
(Rolant) Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed?
 
(Rolant) Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd!
(1, 0) 190 Ifor bach, mi gei di'r crys erbyn yfory...
(Ifor) {Yn swta, heb gymaint â diolch.}
 
(Ifor) {Yn mynd allan gan roì clec ar 'y drws, a chwerthin yn sbeitlyd.}
(1, 0) 201 O, 'machgen bach annwyl i!
(1, 0) 202 'R wyt ti wedi dweud pethe reit cas wrtho fo, Rolant.
(Rolant) Dim ond y gwir.
 
(Rolant) Dim ond y gwir.
(1, 0) 204 Mae Ifor yn iawn yn y bôn.
(Rolant) {Yn bendant.}
 
(1, 0) 208 Paid â dweud 'i fod o yn...
(Rolant) Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar....
 
(Rolant) Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar....
(1, 0) 210 Ond mi fydd yn well ar ôl priodi Janet.
(Rolant) {Yn chwerthin.}
 
(1, 0) 214 Ma'n teulu ni gystal â theulu Mr. Foster, be' siŵr iawn ydi o!
(Rolant) 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno?
 
(Rolant) 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno?
(1, 0) 216 I sôn am Ifor a Janet, mae'n amlwg.
(Rolant) Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny!
 
(Rolant) Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny!
(1, 0) 218 'Fydde hi ddim yn well iti dacluso mymryn arnat dy hun cyn iddo ddod?
(Rolant) {Yn wawdlyd.}
 
(1, 0) 228 Bobol bach!
(1, 0) 229 Yr holl lanast 'ma!
 
(1, 0) 231 Y Person, o bawb!
(1, 0) 232 Wn i ddim be' fydd o'n ei feddwl ohono'i!
(Foster) Fe garwn gael gair â chwi, Mr. Huw, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 242 Mae hi'n hwyro'n braf.
(Foster) Ydyw.
 
(Foster) Ydyw.
(1, 0) 244 M... mae hi'n gynhesach nag arfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
(Foster) {Heb fawr o ddiddordeb.}
 
(1, 0) 248 Flwyddyn yn ôl, 'r oedd hi'n oerach o gryn dipyn.
(Foster) {Ym sych.}
 
(1, 0) 255 O, Mr. Foster!
(Rolant) Ewch ymlaen.
 
(1, 0) 276 Rolant, paid â d' anghofio dy hun!
(Foster) Fe'ch clywais yn datgan un tro eich bod yn ddyn crefyddol.
 
(1, 0) 293 O, 'machgen bach dewr i!
(Rolant) {Yn bendant iawn.}
 
(1, 0) 311 Rolant bach, cymer ofal...!
(Rolant) {Yn dal ati.}
 
(Rolant) Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi!
(1, 0) 333 Rolant bach, paid â rhyfygu!
(Foster) {Fel o'r blaen.}
 
(1, 0) 344 Rolant, cymer ofal...
(Foster) {Yn codi.}
 
(1, 0) 357 O, rhag dy g'wilydd, Rolant, yn colli dy dymer!
(1, 0) 358 Dyna ti wedi andwyo popeth.
(Rolant) Pam, 'neno'r dyn?
 
(Rolant) Pam, 'neno'r dyn?
(1, 0) 360 Ifor a Janet.
(Rolant) A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di?
 
(Rolant) Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi.
(1, 0) 364 Ond amdanyn' nhw yr ydw i'n meddwl.
(Rolant) Digon posibl.
 
(Rolant) Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster.
(1, 0) 367 Mae o'n ddyn caled, wrth gwrs.
(1, 0) 368 Ond ma nhw'n deud y gall Janet ei droi a'i drosi fel y mynno.
(1, 0) 369 Cannwyll 'i lygad o.
(Rolant) Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno.
 
(Rolant) Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad...
(1, 0) 373 Ond yn elyn iti byth ar ôl heno!
(Rolant) Dichon 'i fod o.
 
(Rolant) Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir.
(1, 0) 376 Gobeithio'r annwyl!
(1, 0) 377 'R wyt ti wedi mynd â dy ben i dy botes heno, Rolant.
(1, 0) 378 Gofala fod 'chydig yn gallach o hyn ymlaen, ne' yn y carchar yn Rhuthun y byddwn ni, gei di weld!
(Rolant) Ond mae'n rhaid imi sefyll...
 
(Rolant) Ond mae'n rhaid imi sefyll...
(1, 0) 380 Mi gei sefyll faint 'fynni di, ond iti gofio'r hen air...
(1, 0) 381 "Os na bydd gryf..."
(Rolant) Mi gawn weld...
 
(Rolant) Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd.
(1, 0) 389 'R ydw i'n mynd â'r ychydig bethe 'ma i'r hen Feti, druan.
(1, 0) 390 Mae'n ddrwg gen' i drosti.
(Rolant) Y gre'dures!
 
(Rolant) Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall!
(1, 0) 396 Da thi, eistedd i lawr, a cheisia anghofio popeth amdano fo a dy hen Jac Glan-y-Gors!
(1, 0) 397 Darllen rywbeth arall, 'neno'r dyn...
(Rolant) O wel...
 
(1, 0) 401 Mi bicia'i allan yrŵan, Rolant.
(1, 0) 402 'Fydda' i fawr o dro, os na fydd yr hen Feti'n waeth.
(Rolant) {Yn sibrwd.}
 
(1, 0) 764 Yr hen Feti, druan!
(1, 0) 765 Mae hi ar ben arni...
 
(1, 0) 767 Helo, pwy ydi'r dyn diarth 'ma?
(Rolant) {Yn bur ffwndrus.}
 
(Ifor) Dyn y mae llawer o sôn amdano y dyddiau hyn.
(1, 0) 778 Wel, 'da i byth o'r fan'ma!
(1, 0) 779 Jac Glan-y-Gors!
(1, 0) 780 Ond be'ar y ddaear...
(Rolant) Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw...
 
(Ifor) Ie, clywsom stori yn y pentref eich bod wedi cyrraedd Cymru.
(1, 0) 786 Dyn a helpo di, Jac!
(1, 0) 787 Ond mi gadwn ni chwarae teg iti yma.
(Rolant) Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith.
 
(Rolant) Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith.
(1, 0) 789 'Rheswm annwyl, mor fuan â hynny?
(Ifor) {Yn wên i gyd.}
 
(Jac) Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!
(1, 0) 813 Y Brenin!
(1, 0) 814 Bobol bach, be' wnawn ni, deudwch?
(Jac) {Yn hollol ddi-gyffro.}
 
(1, 0) 876 Rolant bach, paid â theimlo fel yna...
(Foster) {Mor galed ag erioed.}
 
(Rolant) 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto!
(1, 0) 940 Rolant, paid da thi...
(Ifor) {Wrth y drws canol.}
 
(1, 0) 947 Ifor... 'y 'machgen annwyl i...