Sibrwd yn y Nos

Ciw-restr ar gyfer Desc

(Alff) Patshyn!
 
(Alff) Sosban!
(1, 0) 6 Daw Alff i'r llwyfan.
(1, 0) 7 Mae hi ar goll.
(1, 0) 8 Mae hi'n cario siwtces mawr, sy'n achosi cryn drafferth iddi.
(1, 0) 9 Mae hi'n syrthio'n swp, wedi blino, ond yna mae'n cofio am rywbeth sy yn y siwtces.
(1, 0) 10 Mae'n ei agor, a thynnu allan – siwtces arall, ychydig yn llai, gan fwynhau'r joc.
(1, 0) 11 Wedyn allan o hwnnw mae hi'n tynnu siwtces arall llai fyth, ac yna un arall eto sy hyd noed yn llai.
(1, 0) 12 O'r siwtces ola, bach, mae hi'n tynnu rhywbeth gwahanol iawn.
(1, 0) 13 ~
(1, 0) 14 Llyfr – un hen, un hardd, a chywrain.
(1, 0) 15 Mae hi'n trysori hwn, yn ei ddal yn dynn, ac ebychu'n hapus wrth ei fwytho.
(1, 0) 16 Wedyn mae hi'n syllu arno, mewn penbleth, heb fod yn sicr beth yw'r trysor rhyfedd.
(1, 0) 17 ~
(1, 0) 18 Maen ei lyfu, yn cnoi mymryn ar ei glawr.
(1, 0) 19 Ond mae'n amlwg nad yw e'n flasus iawn.
(Alff) {Yn dyfynnu rhywbeth o'i chof.}
 
(Alff) "Allwch chi dim 'i fwyta fe – ond ma hwn yn rhoi bwyd i'r meddwl... "
(1, 0) 22 Dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr iddi.
(1, 0) 23 Mae hi'n treio rhywbeth arall, gan roi'r llyfr ar ei phen, fel het.
(1, 0) 24 Ond mae'r llyfr yn mynnu syrthio oddiar ei chorun.
(Alff) {Yn dyfynnu.}
 
(Alff) "Allwch chi ddim 'i glywed e, ond yn hwn ma lleisie'r holl fyd..."
(1, 0) 32 Mae hi'n ochneidio, ac yn syllu'n drist ar y llyfr heb ddeall ystyr yr hen ddyfyniadau.
(1, 0) 33 Wedi ymladd nawr, mae hi'n dylyfu gen, ac ar ol galw unwaith eto ar Patshyn a Sosban, mae hi'n ochneidio a gorwedd lawr i gysgu.
(1, 0) 34 ~
(1, 0) 35 Yn sydyn mae hi'n eistedd fyny, wedi cael syniad gwych.
(1, 0) 36 Mae hi'n gafael yn y llyfr, ac yn ei osod o dan ei phen, fel pebai hi nawr yn gwybod yn union beth yw ei swyddogaeth.
(Alff) Gobennydd!
 
(Alff) Gobennydd!
(1, 0) 38 Mae'n chwerthin yn hapus.
(1, 0) 39 Dyna beth yw e!
(Alff) Gobennydd hyfryd!
 
(Alff) Gobennydd hyfryd!
(1, 0) 41 Mae'n cwtsho lawr a chwympo i gysgu.
(1, 0) 42 ~
(1, 0) 43 Daw Patshyn i'r llwyfan.
(1, 0) 44 Mae e'n gwisgo cot fawr.
(1, 0) 45 Mae e'n edrych ar goll ac yn ofnus.
(1, 0) 46 O weld Alff gwelwn ryddhad mawr ar ei wyneb.
(Patshyn) Alff!
 
(Patshyn) Ma'i mor dywyll fan hyn, lan yn y mynyddoedd... A mor beryglus.
(1, 0) 50 Mae'n diosg ei got.
(1, 0) 51 O dan hon mae clogyn rhyfedd o batshus a lluniau, sy'n frodwaith o straeon amrywiol.
(1, 0) 52 Mae rhai patshus yn newydd a llachar, eraill wedi pylu ac yn dreuliedig.
(1, 0) 53 Mae'n taenu'r got fawr dros Alff.
(Patshyn) Cysga di'n dawel nawr, Alff.
 
(Patshyn) Fydd Patshyn yn edrych ar dy ol di, a cadw'r bleiddied bant.
(1, 0) 56 Swn blaidd yn udo.
(1, 0) 57 Mae Patshyn yn llawn ofn.
(1, 0) 58 Swn udo eto.
(1, 0) 59 Mae Patshyn yn crynu fel deilen, ac yn treio ad-ennill ei hunan-feddiant.
(Patshyn) {yn gweiddi.}
 
(Patshyn) Y cwbwl all blaidd neud yw codi ofon ar bobol, a'u lladd nhw, ond ma Patshyn yn gallu adrodd straeon!
(1, 0) 65 Mae'n eistedd yn ymyl Alff, a thynnu'r got yn dynnach o'i hamgylch.
(Patshyn) Weda i stori, ble ma'r blaidd yn ca'l 'i ladd.
 
(Patshyn) Weda i stori, ble ma'r blaidd yn ca'l 'i ladd.
(1, 0) 67 Swn udo eto.
(Patshyn) {Yn uchel.}
 
(Patshyn) Wy'n mynd i adrodd stori Hugan Goch Fach.
(1, 0) 71 O un o bocedi'r got mae e'n tynnu dol mewn hugan goch, ac yna trwyn blaidd, gan eu defnyddio wrth adrodd y stori.
(Patshyn) O'dd hi'n gwisgo cap coch, a clogyn coch, a o'dd hi'n byw gyda'i mam ar ymyl y goedwig.
 
(Patshyn) A wedyn...
(1, 0) 89 Mae'n stopio, a chrafu ei ben mewn penbleth.
(Patshyn) A wedyn...
 
(Patshyn) A wedyn...
(1, 0) 91 Mae'n stopio eto, yn ansicr iawn o'i hunan.
(Patshyn) A wedyn...
 
(Patshyn) A wedyn...
(1, 0) 93 Ond ddaw hi ddim.
(Patshyn) O diar, wy wedi anghofio diwedd y stori.
 
(Patshyn) Wy erio'd wedi angofio hon o'r bla'n...!
(1, 0) 96 Mae'n dal ei ben yn ei ddwylo ac yn dechrau crio.
(1, 0) 97 Mae hyn yn dihuno Alff, sy'n mynd ati i gysuro Patshyn.
(Alff) Patshyn!
 
(Patshyn) Diflannu o'r clogyn, a diflannu o mhen i.
(1, 0) 105 Mae e'n crio mwy fyth.
(1, 0) 106 Mewn ymgais i godi ei galon mae Alff yn pigo'r llyfr fyny..
(Alff) Edrych!
 
(Alff) Wy'n gwybod beth yw hwn nawr.
(1, 0) 109 Gan wneud sioe fawr o feimio cysgu a'r llyfr o dan ei phen mae hi'n dangos i Patshyn beth all swyddogaeth y llyfr fod.
(Alff) Gobennydd yw e!
 
(Alff a Patshyn) A'ch dannedd chi!!
(1, 0) 149 Ar hyn daw Sosban i fewn yn ddirybudd.
(Sosban) Fan hyn y'ch chi!
 
(Sosban) Fan hyn y'ch chi!
(1, 0) 151 Maen nhw'n amlwg yn hapus o'i weld, ac yn teimlo rhyddhad mawr.
(Alff a Patshyn) Sosban!
 
(Sosban) A sibrwd yn y nos
(1, 0) 221 Mae Alff yn neidio ar ei thraed, yn ddig, ac yn gweiddi allan at y nos.
(Alff) Grandawch 'ma, yr hen gewri mawr – wy ddim y'ch ofon chi!
 
(Patshyn) Yr aderyn bach perta a mwya lliwgar yng Nghymru...
(1, 0) 246 Mae Sosban wedi casglu ei offer creu cerddoriaeth.
(1, 0) 247 Gall Alff ddefnyddio aderyn papur ar ddarn o bren fel y titw.
(1, 0) 248 Ac fe all Patshyn ddefnyddio amrywiaeth o bropiau fel nyth a wyneb cath y mae e'n eu tynnu o'i got.
(1, 0) 249 Bydd canu yn plethu drwy'r adrodd stori.
(Patshyn) Ma'r Titw Tomos bach yn hedfan dros y gerddi, yn gwrando, yn chwilio.
 
(Alff) Dyw'r Titw Tomos ddim yn gadel i'r deryn bach lleia i fynd!
(1, 0) 288 Mae'r adrodd stori a'r canu yn dod i ben yn ddirybudd.
(Patshyn) Odi ma hi Alff.
 
(Patshyn) mynd i ddiflannu...
(1, 0) 344 Does gan Alff ddim amynedd i wrando ar yr hunan dosturi yma.
(1, 0) 345 Mae hi'n meddwl am rywbeth arall ac mae golwg heriol ar ei hwyneb nawr.
(Alff) Olreit, chi'ch dau yn mynd i farw...
 
(Sosban) Briwsion cawr?
(1, 0) 372 O blygion ei chot mae Alff yn tynnu tri briwsionyn anferth.
(Alff) Briwsion o fara...
 
(Patshyn) W!
(1, 0) 386 Ceir portread drwy ystum o'r tri yn rhannu bwyd wrth i'r briwsion gael eu taflu gan y naill at y llall mewn cylch.
(1, 0) 387 Mae'r tri yn mwynhau'r ddefod a'r bwyta yn fawr iawn, ac yn gorffen sglaffio yr un pryd.
(Sosban) Wy'n mwynhau gymaint, ma nghalon i'n mynd bwm-bwm-bwm...
 
(Sosban) Bwm-bwm-bwm!
(1, 0) 395 Clywir rhythm trwm yn atseinio, fel traed cawr yn yn taro'r ddaear.
(Patshyn) A nghalon i...
 
(Alff) A nghalon i...
(1, 0) 398 Mae'r swn yn chwyddo.
(Patshyn) Fel swn...
 
(Y Tri) Cewri!!!!!
(1, 0) 402 Panic cyffredinol.
(Sosban) Ma nhw wedi nghlywed i'n canu!
 
(Alff) Glou!
(1, 0) 408 Maen nhw'n treio cuddio'r offerynau a'r propiau gan fynd i strach ofnadwy, tra ar yr un pryd yn treio cuddio rhag pwy bynnag sy'n agoshau.
(1, 0) 409 Daw'r swn yn nes ac yn nes.
(1, 0) 410 ~
(1, 0) 411 Daw'r cawr i'r llwyfan.
(1, 0) 412 Mae'n horwth o beth yn cerdded ar sgidiau uchel mawr, a'i gorff dan glogyn du gyda dwylo anferth yn gwthio drwodd.
(1, 0) 413 Ar ei ben mae het uchel fawr, a lliain yn cuddio'r wyneb.
(1, 0) 414 Mae'r tri yn cuddio ac yn crynu.
(Llais) Clump clump clump, here I come.
 
(Llais) I've come for the songsinger.
(1, 0) 428 Tro Patshyn yw hi nawr i fod yn llawn ofn.
(Sosban) Gwed rwbeth!
 
(Sosban) O'n i'n trio dechre sgwrs fach...
(1, 0) 442 Maen nhw'n dechrau dadlau ymysg ei gilydd.
(1, 0) 443 Ar yr un pryd mae Alff yn mentro at y cawr ac yn sbecian o dan arffed ei glogyn.
(1, 0) 444 Ar dop y sgidiau anferth mae par o goesau tenau iawn.
(Alff) Dim cawr yw e...
 
(Alff) Get down and show us who you are!
(1, 0) 458 Mae'r dieithryn yn raddol yn diosg y clogyn ac yn camu lawr oddi ar y sgidiau uchel.
(1, 0) 459 Merch ifanc yw hi, yn edrych fel doli, yn bert ond yn sinistr.
(Alff) Why were you dressed as a giant?
 
(Patshyn) A beth y'n ni'n neud a sbeis, eh?
(1, 0) 494 Mae ganddo ddarn o raff yn ei ddwylo.
(1, 0) 495 Mae Sosban yn cuddio ei lygaid gyda'i ddwylo.
(Sosban) O Patshyn...
 
(Patshyn) Os yw hi'n sbei, rhaid crogi hi.
(1, 0) 500 Dechreua symud yn agosach at y dieithryn.
(Sosban) Alff, ti'n rhy ifanc i ddiall.
 
(Sosban) Ma rhaid neud pethe ofnadw withe...
(1, 0) 503 Mae Patshyn yn codi'r rhaff.
(1, 0) 504 Yn sydyn mae Alff yn llamu rhyngddo fe a'r dieithryn.
(Alff) Na!
 
(Alff) Plis Patshyn!
(1, 0) 509 Mae'r tri yn syllu ar y dieithryn.
(Y Ferch) Fi'n gweud stori i chi.
 
(Sosban) Patshyn!
(1, 0) 519 Mae e'n gwneud hynny.
(Alff) Beth yw'r stori?
 
(Patshyn) Rybish...
(1, 0) 530 Adrodda'r dieithryn y stori, ac yn raddol mae rhywbeth yn ystwyrian yng nghof Alff, nes ei bod yn ymuno yn y stori gan actio'r rhannau.
(1, 0) 531 Mae hyn yn denu Sosban, sy'n llai gelyniaethus na Patshyn, i ymuno hefyd.
(Y Ferch) Y dyn ifanc...
 
(Y Ferch) Yn farw!
(1, 0) 564 Erbyn hyn mae Patshyn yntau wedi ei rwydo i fewn i'r chwarae.
(Alff) A ma'r bobol i gyd yn llefen.
 
(Alff) Ma's on gafael ni....
(1, 0) 590 Can.
(Y Ferch) The most wonderful place in the world
 
(Corws) Mond i ni chwilio amdani... gyda'n gilydd.
(1, 0) 608 Maen nhw wedi blino ar ol y chwarae egniol.
(1, 0) 609 Patshyn a Sosban sy'n cwympo i gysgu gyntaf.
(1, 0) 610 Mae Alff yn dylyfu gen, yna'n cymryd ei llyfr o'r siwtces a'i ddangos i'r dieithryn.
(Alff) Ti ishe'r gobennydd ma?
 
(Alff) {Mae hithe'n cysgu.}
(1, 0) 616 Cogio cysgu a wna'r dieithryn.
(1, 0) 617 Mae'r lleill yn mwmial a thuchan yn eu cwsg.
(1, 0) 618 Pan fo'r dieithryn yn siwr eu bod yn cysgu'n sownd mae hi yn gafael yn y llyfr, yna'r clogyn straeon, yna'r offerynnau cerdd ac yn dechrau cilio i'r tywyllwch yn slei bach.
(1, 0) 619 Ond mae Patshyn yn dihuno'n sydyn ac yn gweld beth sy'n digwydd.
(Patshyn) Alff!
 
(Patshyn) Help!
(1, 0) 623 Mae'r lleill yn dihuno.
(Patshyn) {Yn pwyntio.}
 
(Sosban) Yr offerynne!
(1, 0) 627 Mae nhw'n treio corneli'r dieithryn...
(Patshyn) Wedes i bod hi'n gweud celwydd....
 
(Patshyn) Wedes i bod hi'n gweud celwydd....
(1, 0) 629 Yn ystod y cwrso mae'r dieithryn yn gollwng y clogyn, yna'r offerynnau ac mae Patshyn a Sosban yn cipio'r rhain yn ol.
(1, 0) 630 Mae nhw allan o bwff yn lan.
(Patshyn) Sbei yw hi.
 
(Alff) Y gobennydd!
(1, 0) 634 Mae Alff yn dal i gwrso ar ol y dieithryn.
(Sosban) O diolch i ti Patshyn...
 
(Sosban) Ni ddim ishe fe!
(1, 0) 647 Mae Alff wedi hanner dal y diethryn, sy'n troi arni yn fygythiol ac yn ffyrnig.
(Y Ferch) Wrong!
 
(Y Ferch) The book.
(1, 0) 655 Mae clywed hyn yn sioc i'r tri teithiwr.
(1, 0) 656 Mae Alff yn treio cipio'r llyfr eto.
(Alff) Wel ni eishe fe nol!
 
(Y Ferch) Wel, watshwch!
(1, 0) 663 Mae hi'n agor y llyfr yn ofalus, yna'n fwriadus ac yn filain mae hi'n rhwygo'r dudalen gynta allan ohono.
(1, 0) 664 Mae hi'n gwasgu'r dudalen yn belen a'i thaflu at Alff.
(1, 0) 665 Gyda sgrech fach o boen mae Alff yn pigo'r dudalen fyny.
(1, 0) 666 Mae Patshyn a Sosban yn ei chysuro.
(Alff) Mamgu roiodd hwn i fi....
 
(Y Ferch) Beth yw hwnna?
(1, 0) 679 Mae hi'n pwyntio.
(1, 0) 680 Mae nhw'n agor y belen bapur a syllu ar y dudalen.
(Y Ferch) Page – tudalen...
 
(Y Ferch) Fi ishe hwnna.
(1, 0) 713 Mae hi'n pwyntio at glogyn straeon Patshyn.
(1, 0) 714 Dyw e ddim am ollwng ei afael arno.
(Y Ferch) Nawr!
 
(Y Ferch) Ne bydda i'n...
(1, 0) 717 Mae'n paratoi i rwygo tudalen arall o'r hen lyfr.
(1, 0) 718 Mae e'n dal yn gyndyn.
(Alff) Plis Patshyn.
 
(Alff) Plis...
(1, 0) 722 Mae Patshyn yn mynd ati a rhoi'r clogyn lawr yn ei hymyl, yn anfoddog iawn.
(Y Ferch) {Wrth Sosban.}
 
(Y Ferch) Y pethe miwsic!
(1, 0) 726 Mae Sosban yn gwneud yr un peth, dan brotest.
(Y Ferch) Reit!
 
(Y Ferch) Eishe fi gario mlaen?
(1, 0) 751 Maent yn nodio, yn bryderus.
(Y Ferch) "A dyma ran fwya trist fy stori i.
 
(Y Ferch) 'It is our law that the youngest child is taken into our keeping to sleep on fine feather beds andeat the richest food...' "
(1, 0) 766 Mae hi'n oedi am ennyd, fel pe'n cofio rhywbeth, yna'n cario mlaen ond yn llai hyderus.
(Y Ferch) "'And we will make her forget her childhood.
 
(Y Ferch) Then she will know only what we want her to know... ' "
(1, 0) 769 Unwaith eto mae hi'n oedi, fel pe'n ymdrechu i gofio rhywbeth eto.
(Alff) Caria mla'n!
 
(Y Ferch) Dyna beth ddwedodd y cewri wrtho i pan aethon nhw a Beth fach bant."
(1, 0) 777 Y tro yma mae hi yn stopio, ac yn cael anhawster wrth geisio darllen ymlaen.
(Alff) Caria mla'n!
 
(Y Ferch) A nawr wy'n cofio rwbeth arall...
(1, 0) 799 Mae'r lleill yn ymwybodol nawr fod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd, ac mae'r dieithryn yn gafael yn y dudalen a rwygwyd ganddi o'r llyfr.
(Y Ferch) Ar y dudalen gynta yn y llyfyr...
 
(Y Ferch) "Mae hwn i'm dwy wyres fach...."
(1, 0) 803 Mae Alff yn edrych ar y dudalen ac yn pwyntio at y gair.
(Alff) "Alffa"...
 
(Y Ferch) "A Beth."
(1, 0) 808 Mae Alff yn syllu ar y dieithryn dan deimlad mawr.
(Patshyn) Wy'n gwbod siwd ma'r stori 'ma yn gorffen!
 
(Sosban) Dy neud di yn sbei, am byth.
(1, 0) 839 Mae'n codi ei law ac yn pwyntio fel pe'n gorchymyn Beth i adael.
(1, 0) 840 Mae Alff a Patshyn yn edrych yn brudd.
(1, 0) 841 Dechreua Beth gerdded i ffwrdd.
(1, 0) 842 Ond all Sosban ddim cynnal y ffugio, ac mae'n prysuro i alw Beth yn ol.
(Sosban) Ond os wyt ti ishe aros, allu di ddysgu ni i ddarllen.
 
(Sosban) Falle gallwn ni...
(1, 0) 864 Mae'r pedwar yn edrych ar ei gilydd, yna gyda gobaith a hyder maen nhw'n sibrwd yn gryf:
(Pawb) Ga'l gwared y cewri!!!
 
(Pawb) Ga'l gwared y cewri!!!
(1, 0) 866 Llawenydd.
(1, 0) 867 Maen nhw'n dechrau pacio eu pethau wrth iddyn nhw ganu y gan olaf.
(Pawb) {Can.}
 
(Pawb) Ar dy gof a dy galon di... a ti... a ti... a ti...
(1, 0) 879 Erbyn diwedd y gan maen nhw wedi gadael y llwyfan – ag eithrio Alff.
(1, 0) 880 Clywn Patshyn yn galw arni o'r pellter.
(1, 0) 881 Mae hi'n gafael yn y siwtces ac yn prysuro i ffwrdd ar eu hol.
(1, 0) 882 Y DIWEDD