Y Sosban

Ciw-restr ar gyfer Cadeiryddes

(Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn.
 
(Clerc) Barchus ynadon?
(1, 0) 734 Y-hym.
(1, 0) 735 Diolch i dystiolaeth y doctor, mi rydan ni'n sylweddoli cyflwr meddyliol y diffynnydd.
 
(1, 0) 737 Ond ar y llaw arall, fedrwn ni ddim anwybyddu'r ffaith ei fod o'n lleidr.
(1, 0) 738 Mi ddaru o ddwyn côt.
(1, 0) 739 Mae o'n euog o geisio 'chydig gynhesrwydd.
(Robin) {Heb symud dim ond ei geg.}
 
(Sian) Rhaid i ni feddwl am ddiogelwch ein plant ni.
(1, 0) 745 Ond, y-hym, mae gweddill yr ynadon a minnau wedi penderfynu mai ei wendid o oedd yn gyfrifol am hyn.
(1, 0) 746 Doedd o ddim yn ymwybodol o'r peth.
(1, 0) 747 Gan ei fod o mor anabl ei hun, mi rydan ni'n teimlo mai ein dyletswydd |ni|, bawb ohonom, ydi edrych ar ei ôl o.
 
(1, 0) 749 Felly mi rydan ni wedi penderfynu ei yrru o i ffwrdd i'r 'sbyty.