Y Sosban

Ciw-restr ar gyfer Clerc

(Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn.
 
(1, 0) 14 Mi fyddwch chi'n sefyll yn rh'wla arall os na fyddwch chi'n byhafio.
(1, 0) 15 Rwan, gawn ni dipyn o drefn.
(Robin) Newid y drefn sy' isho.
 
(Robin) Newid y drefn sy' isho.
(1, 0) 17 Byddwch ddistaw neu fe fyddwch chi'n gorfod gadael.
(Sian) Ond mae gennon ni hawl i leisio'n barn.
 
(Sian) Ond mae gennon ni hawl i leisio'n barn.
(1, 0) 19 'Does gennoch chi ddim hawl i godi trwbwl.
(Robin) Tŷ cyhoeddus ydi llys barn, a mae gennon ni...
 
(Robin) Tŷ cyhoeddus ydi llys barn, a mae gennon ni...
(1, 0) 21 Tŷ cyfiawnder ydi llys barn, nid syrcas i bobol fel chi.
(1, 0) 22 Does gennoch chi'r bobol ifanc 'ma ddim parch at ddim byd.
(Gwyn) Yn wahanol i fel roeddach chi ynte?
 
(Gwyn) Yn wahanol i fel roeddach chi ynte?
(1, 0) 24 Mi rwyt ti'n dipyn o lanc yn 'dwyt? ─
(1, 0) 25 Wel, gwranda di ar hyn, o leia' mi roeddan ni'n dangos parch at rywun arall...
(Gwyn) Parch at arch rhywun arall.
 
(Gwyn) Heddwch i'w lwch o.
(1, 0) 30 Trefn!
(1, 0) 31 Dipyn o drefn yn y llys os gwelwch yn dda.
(1, 0) 32 Sefwch...
(Gwyn) ...ar ganiad y corn gwlad!
 
(Gwyn) ...ar ganiad y corn gwlad!
(1, 0) 34 Sefwch i'r fainc...
(Robin) ...y ddawns flodau.
 
(Robin) ...y ddawns flodau.
(1, 0) 37 Gawn ni DREFN yn y lle 'ma...
(Robin) Hist rwan, does dim eisiau gweiddi yn nagoes?
 
(1, 0) 43 Barchus Ynadon?
 
(1, 0) 45 Wnaiff y diffynydd sefyll?
 
(Cadeiryddes y Fainc) Ond, gan ein bod yn credu ei fod yn sefyll ar dir moesol arbennig, rydym yn gytun ein bod yn ei ryddhau'n ddiamod...
(1, 0) 52 Tawelwch!
(1, 0) 53 Pa achos sy'n dod nesa' offisar?
(Offisar) Un Samuel Jones, Llantraeth syr.
 
(Robin) {Cymeradwyaeth.}
(1, 0) 59 Os bydd 'na fwy o drwbwl, mi fydda i'n clirio'r cyfleusterau cyhoeddus...
(Sian) Yr oriel gyhoeddus 'dach chi'n feddwl.
 
(Sian) Yr oriel gyhoeddus 'dach chi'n feddwl.
(1, 0) 61 Dewch a'r diffynydd i'r llys.
(Robin) 'Gaf i apelio arnoch i aros yn eich llefydd am fymryn eto.
 
(Robin) Mae Iago ap Rhydderch ─ ymgyrchydd arall ger bron yn nes ymlaen ac mi rydan ni isho cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosibl iddo fo.
(1, 0) 66 Rhowch o i eistedd yn fanna wrth Ben Little, Offisar.
(Un o'r Gynulleidfa) Hei dwi'n nabod hwn.
 
(1, 0) 71 Cyn cychwyn ar yr achos hwn mi garwn i chi, barchus ynadon, wrando ar dystiolaeth seicolegydd am gyflwr meddyliol y diffynnydd.
 
(1, 0) 73 Doctor?
(Doctor) Mi rydw i wedi astudio'r person hwn yn ofalus iawn ─ mae o dan fy ngofal personol i yn yr ysbyty.
 
(Doctor) Felly mi garwn argymell fod y llys yn ystyried Samuel Jones yn ddiffygiol ei feddwl ac yn un nad yw'n gyfrifol am ei weithrediadau.
(1, 0) 95 Mae hynny'n golygu na chaiff o bledio na thyngu llw, na gofyn nac ateb unrhyw gwestiwn na'i gael yn euog na chael ei gosbi chwaith.
(1, 0) 96 Mi fydd y cyfreithiwr Ben Little yn ymddangos ar ei ran.
(Ben) {Mae'n deintio ymlaen, wedi ei wisgo'n smwdd ac yn siarad llediaith.}
 
(Ben) Ond, ond y fi fydd yn deud y siarad achos rwy'n ei wybod e ers blynyddoedd.
(1, 0) 100 Cyhuddir Samuel Jones o ddwyn côt fawr ar y degfed o Awst y flwyddyn hon, côt o eiddo David Howells.
(1, 0) 101 P.C. Davies?
(Sami) Dwi'n oer!
 
(Sami) {Gan godi'i law fel plentyn mewn dosbarth.}
(1, 0) 104 Ben Little!
(1, 0) 105 Wnewch chi gadw eich cleiant dan reolaeth?
(1, 0) 106 Does ganddo fo ddim hawl i ddeud dim byd ─ mae hynny er ei les ei hun.
 
(1, 0) 108 P.C. Davies?
(P.C. Davies) {Yn fecanyddol.}
 
(1, 0) 116 Gawn ni fynd yn ôl at yr achos dan sylw, P.C. Davies?
(P.C. Davies) Ia...wrth gwrs.
 
(P.C. Davies) Mi ddôth ar blat...
(1, 0) 120 Beth yn union rwan cwnstabl?
(P.C. Davies) Wel... {cychwyn yn bendant, wedyn edrych yn blanc}... ym... wel, sgiwsiwch fi.
 
(1, 0) 129 Ai hon oedd y gôt?
(P.C. Davies) Ie.
 
(P.C. Davies) Ie.
(1, 0) 131 Ewch ymlaen.
(P.C. Davies) Diolch.
 
(P.C. Davies) Wel, euthum allan o'r car ac at y dyn a gwelais mai Sami So...mai Samuel Jones ydoedd.
(1, 0) 134 Mi roeddach chi'n ei nabod felly?
(P.C. Davies) Yn rhy dda mae gen i ofn.
 
(P.C. Davies) Nid rhagfarn, ond precoshyns ─ mi rydw i wedi cael trafferth gyda fo o'r blaen.
(1, 0) 139 Oedd o'n anystywallt y tro yma?
(P.C. Davies) Na, mi ddoth fel oen.
 
(P.C. Davies) Mi wyddwn ei fod o'n mynd i'r seila... i'r sbyty am driniaeth ddwywaith yr wythnos ac mae o wedi bod yn reit dawal ers iddo ddechra ca'l rheiny.
(1, 0) 142 'Lwyddoch chi i'w gael o i ddeud rhywbeth?
(Ben) Esgeuluswch fi, ond 'doedd genno fe ddim hawl gan fe wyddai fe nad oedd fe yn normal.
 
(Ben) Esgeuluswch fi, ond 'doedd genno fe ddim hawl gan fe wyddai fe nad oedd fe yn normal.
(1, 0) 144 Peidiwch â thorri ar draws o hyd.
(P.C. Davies) Na, ddwedodd o ddim byd.
 
(P.C. Davies) Na, ddwedodd o ddim byd.
(1, 0) 146 Dim byd?
(P.C. Davies) Wel... wel, mi roedd o'n mwmial wrtho'i hun.
 
(P.C. Davies) Wel... wel, mi roedd o'n mwmial wrtho'i hun.
(1, 0) 148 Am be'?
(P.C. Davies) Rwbath am y tywydd.
 
(P.C. Davies) Rwbath am y tywydd.
(1, 0) 150 Beth yn union 'rwan?
(P.C. Davies) Wel... ei bod hi'n oer...
 
(P.C. Davies) Wel... ei bod hi'n oer...
(1, 0) 152 A sut dywydd oedd hi?
(P.C. Davies) Un o'r dyddiau poethaf yn Awst.
 
(P.C. Davies) Un o'r dyddiau poethaf yn Awst.
(1, 0) 154 Dwi'n gweld...diddorol iawn.
(Doctor) Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer...
 
(1, 0) 168 Brysiwch, brysiwch ─ mae hi'n dod.
(1, 0) 169 Hei, rho'r gadair na'n fanna yli.
 
(1, 0) 171 Na, tro hi rownd fel arall.
 
(1, 0) 173 ... Ia, dyna chi.
(1, 0) 174 Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod.
(Plant) Annie Pi-Pi'n trwsus!
 
(Annie) {Mae'n dechrau tynnu'r sgarff i ffwrdd.}
(1, 0) 186 O cê hogia, gadwch lonydd iddi am rwan i ni gael mynd ymlaen efo'r gêm.
(1, 0) 187 Cym on Annie ti'n oer, oer ar hyn o bryd...
(Annie) {Cerdded tua cefn y llwyfan.}
 
(Annie) Peidiwch â galw enwa' arna' i ne'...
(1, 0) 198 Ty'd o'na Annie, tria rhwla arall...
(Annie) Ffordd yma 'ta?
 
(Plant) C'nesu!
(1, 0) 203 Dal ati, Annie ─ mi rwyt ti bron â bod yno.
(Plant) Poethi!
 
(Annie) Pwy sy' nesa?
(1, 0) 211 Reit, tro pwy ydi hi rwan?
(Un o'r plant) Tro fi!
 
(1, 0) 218 O hist, hist!
(1, 0) 219 Mi wna i ddewis 'ta am ych bod chi mor anhrefnus.
(Un o'r plant) Nage ─ dewis yn iawn efo ini-mini-maini-mô.
 
(Un o'r plant) Nage ─ dewis yn iawn efo ini-mini-maini-mô.
(1, 0) 221 Fi 'di boss y gêm ─ mi wna i ddewis...
 
(1, 0) 223 Gadewch i mi weld rwan.
(Un o'r plant) Hy, dewis ei gariad wneith o ─ watsia di rwan.
 
(Un o'r plant) {Gweddill y plant yn ategu hyn a bwian y clerc.}
(1, 0) 226 Nage ddim.
 
(1, 0) 228 Hei, dwi'n gw'bod pwy fydd nesa' ─ sbiwch pwy sy'n fan'na!
 
(1, 0) 230 Sbiwch wir.
(1, 0) 231 Dowch yma.
 
(1, 0) 233 Sami-babi-mami!
(1, 0) 234 Wyt ti isho gem Sami?
(1, 0) 235 Wyt ti isho sgarff rownd dy lygaid?
(Sami) {Crebachu mwy eto.}
 
(Sami) Gadwch lonydd i fi... dwi ddim isio.
(1, 0) 239 Pam?
(1, 0) 240 E?
(1, 0) 241 Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'ta?
(Sami) {Gan godi.}
 
(1, 0) 250 Ho! mi wn i ─ dwi'n ei dallt hi rwan.
(1, 0) 251 Hen gena slei wyt ti ynte Sami?
(1, 0) 252 Sam slei...
 
(1, 0) 254 Wyddoch chi be mae |o| am wneud?
(Un o'r lleill) Be?
 
(Un o'r lleill) Be?
(1, 0) 256 Mae |o|... yn mynd i'r clastrwm... i lyfu Miss Robyts.
(1, 0) 257 Titsiars pet ─ dyna be ydi o.
(1, 0) 258 Titsiars pet ynte Sami?
(Sami) Na...na.
 
(Sami) Na...na.
(1, 0) 260 Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts.
(1, 0) 261 Titsiars pet!
(Plant) Titsiars' pet!
 
(1, 0) 267 Na, dwi'n gw'bod.
(1, 0) 268 Dwyt ti ddim yn pet siŵr iawn.
(1, 0) 269 A deud y gwir, dydi Miss Robyts ddim dy lecio dy di o gwbwl.
(Un o'r merched) Dwi wedi clywed hi'n deud wrth Mistar Williams dy fod ti'n rêl niwsans a'i bod hi wedi cael llond bol ohonat ti.
 
(Annie) Hei, paid a galw enwa' ne'...
(1, 0) 276 Na, mae o'n llawar iawn gwaeth.
(Un arall) A mae Miss Robyts yn gwylltio efo ti.
 
(Un arall) A mae Miss Robyts yn gwylltio efo ti.
(1, 0) 278 Ia, fel hyn...
 
(1, 0) 280 Ow!
(1, 0) 281 Beth ar wyneb y ddaear ydi'r ogla 'ma?
(1, 0) 282 Ow!
(1, 0) 283 Pwy wnaeth yr ogla drwg 'ma?
(Plant) {Mae pawb ond Sami mewn dwy res gweddol ddestlus rwan yn cogio bod mewn dosbarth.}Samuel Jones, Miss Robyts.
 
(Plant) {Mae pawb ond Sami mewn dwy res gweddol ddestlus rwan yn cogio bod mewn dosbarth.}Samuel Jones, Miss Robyts.
(1, 0) 285 Ow, yr hen hogyn bach drwg.
(1, 0) 286 Samuel, dowch ata i'r funud hon.
(1, 0) 287 Dewch yma, Samuel Jones.
 
(1, 0) 289 Chi wnaeth yr hen ogla drwg ych-a-fi yna eto Samuel Jones?
 
(1, 0) 291 Atebwch fi!
(Sami) Ia... y... ia, Miss Robyts.
 
(Sami) Ia... y... ia, Miss Robyts.
(1, 0) 293 Gadewch i mi weld.
 
(1, 0) 295 Ow, dear me!
(1, 0) 296 YCH-A-FI!
(1, 0) 297 Yr hen fochyn bach budur, budur, budur.
 
(1, 0) 299 Samuel Jones, pam ych bod chi'n baeddu'ch trowsus o hyd ac o hyd ac o HYD!
(1, 0) 300 Does gennoch chi ddim ofn codi'ch llaw yn nagoes?
(Sami) {A'i ben i lawr.}
 
(Sami) Nagoes, Miss Robyts.
(1, 0) 303 Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach?
(Sami) Yndw, miss.
 
(Sami) Yndw, miss.
(1, 0) 305 Wel, pam 'ta?
 
(1, 0) 307 Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach.
(Sami) Nain?
 
(Sami) Nain?
(1, 0) 309 Nain wir.
(1, 0) 310 Hen ddynas wyllt o'r coed fasa'n nes ati.
(1, 0) 311 Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn.
(Sami) Ond mae tŷ nain yn gynnas.
 
(Sami) Na...addo.
(1, 0) 318 Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di...
(Sami) Ond mae o'n deud clwydda!
 
(Sami) Ond mae o'n deud clwydda!
(1, 0) 320 (Gan droi at P.C. Davies)
(1, 0) 321 Wel?
(P.C. Davies) Dwi'n deud y gwir i gyd, Miss.
 
(P.C. Davies) Dwi'n deud y gwir i gyd, Miss.
(1, 0) 323 Dydi plant da ddim yn deud clwydda.
 
(1, 0) 325 Dim ond plant drwg sy'n gneud hynny.
(1, 0) 326 Dos i sefyll yn y gornal tra bydda i yn dysgu'r plant da i sgwennu.
(1, 0) 327 Dim ond plant da sy'n cael dysgu sgwennu a gneud syms.
(1, 0) 328 Plant da sy'n cael dysgu darllen.
(1, 0) 329 Plant da sy'n cael testimonial i gael job dda.
(1, 0) 330 Ond mae plant drwg yn mynd i drwbwl.
(1, 0) 331 Rwan dos i'r gornal...
(Sami) Ond dwi'n oer yn y gomal, Miss...
 
(1, 0) 341 Ia, chwilia am y gadair Sami.
 
(1, 0) 343 Fan hyn yli ─ fan hyn Sami.
(Plant) C'nesu!
 
(Sami) {Mae'n gwenu'n braf wrth baratoi i eistedd ynddi ond ar y funud olaf mae'r Clerc yn chwipio'r gadair i ffwrdd oddi tano ac mae'n disgyn ar ei gefn ar lawr i swn chwerthin y plant.}
(1, 0) 352 Ha! ha!
(1, 0) 353 Dydi o ddim mor hawdd a hynny, Sami bach.
(1, 0) 354 Fan hyn mae hi yli.
(Siopwraig) {Mae'n dad-rowlio ei phoster, ac arno mewn llythrennau bras mae 'Yn eisiau: llanc cryf, gweithgar.}
 
(1, 0) 712 Trefn!
(1, 0) 713 Gawn ni drefn yn y llys.
 
(1, 0) 717 Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal.
 
(1, 0) 719 Ewch 'mlaen efo'ch adroddiad, doctor.
(Doctor) Ie, wel ar ôl cyfnod y rhyfel 'roedd yn amhosibl i'r claf gael gwaith wrth gwrs.
 
(Sami) ...i'r ffrij!
(1, 0) 726 Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto.
(Ben) Mae'n ddrwg gen i.
 
(Ben) Wneith fe ddim digwydd eto.
(1, 0) 729 Daliwch ati, doctor.
(Doctor) Y cyfan sydd gen i i'w ddweud yw awgrymu mai'r peth gorau fyddai iddo ddychwelyd atom ni.
 
(Doctor) Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw.
(1, 0) 733 Barchus ynadon?
(Cadeiryddes) Y-hym.
 
(1, 0) 755 Pa achos sy nesa'?