Y Tŷ ar y Rhos

Ciw-restr ar gyfer Athrawes

(Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body..."
 
(Gwas) Eisteddwch fan yma, Miss.
(1, 0) 86 Diolch.
(1, 0) 87 Peth braf yw gweld tân ar noswaith mor ofnadwy o oer.
(Gwas) {Wrth bawb.}
 
(1, 0) 118 Samariad caredig yw eich meistr yn wir, yn gadael inni ddod yma a llanw ei dŷ fel hyn.
(Gwas) Fe ddaw 'nôl ei hunan yn y man, debyg iawn.
 
(Gwraig 2) 'Rwy'n gwybod hyd a lled hwnnw, ta beth, a dyna fwy nag y gall neb ei ddweud am beth all ddigwydd inni i gyd os arhoswn ni yma.
(1, 0) 146 Nonsens!
(1, 0) 147 Dyma ni, yn fwy lwcus nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl, yn glyd a chysurus─tân a golau, heb orfod ofni cael annwyd.
(Gwraig 1) Mae pethau gwaeth i'w hofni na chael annwyd, Miss, credwch chi fi.
 
(Comiwnist) Beth ych chi'n feddwl?
(1, 0) 151 Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.
(Cwac) Neu anghofiwch y cwbwl am y peth, beth bynnag ydoedd, ac eisteddwch 'nôl yn braf fel hyn.
 
(Di-waith) Rwy'n cofio fel ddoe y diwrnod y daethon' nhw' ag ef tua thre,─ac y mae rhyw felltith yn dynn wrth fy sodlau innau fyth o'r diwrnod hwnnw.
(1, 0) 166 Fachgen ifanc, 'dych chi'n credu dim yn y stori wallgof yma, gobeithio, beth bynnag yw hi.
(1, 0) 167 Rhaid i chwi gofio, mae pobl yn marw bob dydd wrth eu gwaith, yn yr awyr agored.
(Di-waith) Na, 'dwyf i ddim yn credu'r stori─na fawr o ddim byd arall chwaith.
 
(Gwraig 1) Rych chi wedi clywed amdano fe, on'd ydych chi'?
(1, 0) 230 Ydym, ydym.
(1, 0) 231 Ewch ymlaen.
(Gwraig 2) Mae'r tŷ wedi ei reibio.
 
(Comiwnist) Hyh!
(1, 0) 234 Sothach!
(Gwraig 1) Peidiwch chi â bod mor siŵr.
 
(Gwraig 2) A'r doctoriaid yn methu'n lân â dirnad beth oedd yn bod arni.
(1, 0) 244 Coel gwrach yw'r cwbl.
(1, 0) 245 Dewch, dewch!
(1, 0) 246 'Rŷm ni wedi tyfu allan o gredu pethau fel'na heddiw.
(1, 0) 247 Mae addysg wedi clirio o'r neilltu niwl tew anwybodaeth a choelion gwlad.
(Y Ddwy Wraig) Ond, Miss─
 
(1, 0) 250 Fel y dywedais i wrth annerch athrawon y sir yma heddiw, y mae gwyddoniaeth yn ein dysgu bod rheswm am bopeth, a'r ysgolion yn disgyblu ein greddfau ac yn ein hannog i resymu a defnyddio'r ymennydd a roddodd Duw inni.
(1, 0) 251 Yr ydym wedi gadael tywyllwch ansicrwydd o'n hôl ac yn dysgu gafael yn dynn mewn ffeithiau─|ffeithiau|, nad oes ynddynt le i dwyll hen gredoau sydd wedi eu sylfaenu ar ofn yr anwybodus a'r hanner-gwybodus.
(Cwac) Hear, hear.
 
(Comiwnist) A does arnoch |chi| ddim ofn dim byd, sbo? [3]
(1, 0) 255 Ofn!
(1, 0) 256 Mae gwareiddiad wedi symud ymlaen yn rhy bell i neb deallus ofni ei gynffon mwyach.
(1, 0) 257 Mae addysg, gwybodaeth, rheswm, yn lladd ofn.
(Gwraig 1) {Yn sydyn}
 
(1, 0) 282 Beth ddigwyddodd?
(Cwac) {Yn dal ei llaw.}
 
(Cwac) {Rhoi'r fflasg eto i'r Athrawes.}
(1, 0) 294 Na, na, 'fydda' i byth yn cwrdd â'r stwff.
(Cwac) Ond |moddion| [4] yw e' nawr.
 
(Cwac) Ond |moddion| [4] yw e' nawr.
(1, 0) 296 O wel, mae hynny'n wahanol, wrth gwrs.
 
(1, 0) 311 "Hey, nonny, nonny.
(1, 0) 312 Hey, nonny, nonny."
(Comiwnist) Hei!
 
(1, 0) 319 "The little window where the sun
(1, 0) 320 Came peeping in at morn."
(Cwac) {Yn uchel.}
 
(1, 0) 324 Yh?
(Cwac) "It never came a wink too soon."
 
(1, 0) 399 Rwy'n aros yma.
(Gwraig 1) Gwell ichi ddod.
 
(Gwraig 2) Mae'n ddigon am eich bywyd chi.
(1, 0) 402 Rwy'n aros yma─aros yma─aros yma.
(Gwraig 1) O'r gore, arhoswch.
 
(1, 0) 425 Mae hwn yn dda.
(Gwraig 1) Peidiwch |â'i| yfed.
 
(Gwraig 1) Peidiwch |â'i| yfed.
(1, 0) 427 Ha─ha─ha.
(Gwraig 2) Peidiwch.
 
(Cwac) Doctora yn y "States" 'roeddwn i cyn hynny.
(1, 0) 473 Yn America?
(1, 0) 474 Ymh'le yno?
(1, 0) 475 Mae gen i chwaer yn New York.
(Cwac) Wel─y, fe fûm i'n feddyg yn fy amser ymhob man, fwy neu lai─meddyg cylchynol, fel petai─y─y─peripatetic, mewn ffordd o siarad.
 
(Comiwnist) Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.
(1, 0) 485 Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes?
(Comiwnist) Oes, gellwch fentro─ddwy neu dair!
 
(Gwraig 2) Beth sy'n bod ar y golau yma?
(1, 0) 500 Wela' i ddim byd o le arno.
(Gwraig 1) Mae hi dipyn yn dywyllach nag yr─
 
(Hen Ŵr) Mae'r lle yma'n llawn ohonyn' hw', wyddoch chi.
(1, 0) 539 Ysbrydion, wir!
(Hen Ŵr) Ond pam y siaradwn ni amdanyn' hw'.
 
(Di-waith) Myn 'yfryd i, mae'n dod i rywbeth pan na all dyn gymryd nap wrth ddisgwyl y bly-blincin bws.
(1, 0) 561 Fachgen ifanc, dyna ddigon o'r iaith yna.
(1, 0) 562 'Ddysgodd neb ichi roi cwlwm ar eich tafod yng nghwmni menywod?
(Gwraig 2) Y mae'r cwpanaid te wedi ei sobri hi, beth bynnag.
 
(Comiwnist) Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad.
(1, 0) 572 'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf.
(1, 0) 573 Wedyn, 'does dim byd ond sŵn.
(Comiwnist) Peth hawdd i'w ddweud, wir, Miss.
 
(Comiwnist) Ond a ydych chi erioed wedi gwrando'n ddigon hir i'w brofi?
(1, 0) 576 A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid.
(Comiwnist) A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly?
 
(Comiwnist) A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly?
(1, 0) 578 'Dwyf i ddim yn gweld bob pethau mor ddrwg yn y wlad yma 'nawr.
(1, 0) 579 Mae'n well byd ar y gweithiwr heddiw nag ydoedd ugain mlynedd nôl.
(Comiwnist) Yn well?
 
(Gwraig 2) Bihafio fel rhywun ddim yn gall.
(1, 0) 613 Polîs!─
(1, 0) 614 B'le mae'r polîs agosa'?
(Y Ddwy Wraig) Polîs.
 
(Y Ddwy Wraig) Polîs.
(1, 0) 617 Eisiau riportio hyn ar unwaith.
(Di-waith) {Yn dihuno.}
 
(Gwraig 2) Pwy ych chi?
(1, 0) 628 Mater i'r polîs.
(Hen Ŵr) {Yn torri ar draws eu dicter.}
 
(Gwraig 2) 'Welais i'r un daioni yn dod o'r colegau yna, naddo i.
(1, 0) 651 Mi fûm innau'n astudio seicoleg─seicoleg y plentyn.
(1, 0) 652 Ond welaf i ddim bod hynny'n rheswm dros ymosod ar bobl yn ddirybudd─I
(Gwraig 1) Ie, nes eu bod nhw' bron marw gan ofn.
 
(Cwac) Wel─hm─wel, fel un doctor wrth ddoctor arall─os eisiau prawf oedd arnoch chi, syr─ rwy'n fodlon.
(1, 0) 667 Rwyf innau'n fodlon, gan fod achos rhesymol gwyddonol am y perfformans, a chwithau'n ymddangos yn ŵr bonheddig.
(Hen Ŵr) Diolch, madam.
 
(Hen Ŵr) Diolch, madam.
(1, 0) 669 Ond, wir, 'rown i'n teimlo'n go ddig wrthych chi dro bach yn ôl...
(Hen Ŵr) {Wrth y Comiwnist.}
 
(Hen Ŵr) Mae'n ymddangos felly, wir.
(1, 0) 706 Nos da─a llawer o ddiolch ichwi.
(1, 0) 707 Mae hi |mor| ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau |mawr| bywyd, wyddoch chi─