Drama un-act

Y Tŷ ar y Rhos (1944)

Amy Parry-Williams

Ⓗ 1944 Amy Parry-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Gwelir yr Hen Ŵr yn darllen wrth ei ddesg, a llyfrau trymion o'i gwmpas. Y mae'n ffwdanu, ac yn aflonydd wrth ddarllen. Cyfyd. Ei Ysgrifenyddes yn eistedd mewn cadair yn agos i'r tân. Merch ifanc fywiog ydyw hi.

Hen Ŵr

"... alter the whole temperature of the body..." Mae'n syniad rhyfedd.

Ysgrifenyddes

Ond tybed a yw'n wir?

Hen Ŵr

"The whole temperature of the body."



Enter y Gwas o'r dde─yntau'n go hen, ac yn meddu ar ryw hynodrwydd yn ei ymddygiad a'i ymarweddiad a wna i bobl sylwi arno. Y mae ganddo'r teip hwnnw o wyneb a gysylltir â breuddwyd drwg; ac y mae ef mor beiriannol a llyfn ei ddull o fynd a dod ag yw bwtler da.

Gwas

A fydd arnoch chi eisiau rhywbeth yn rhagor heno, syr?

Hen Ŵr

Na, dim─dim byd. Gelli fynd i'r gwely. Y─ Beth o'r gloch yw hi?

Gwas

Hanner awr wedi deg.



Sŵn cloch y drws yn canu.

Hen Ŵr

Pwy yn y byd all fod yma yr amser hyn o'r nos?

Gwas

Esgusodwch fi, syr.



Exit i'r dde. Yr Hen Ŵr yn troi'n ôl at ei ddarllen.

Hen Ŵr

"Alter the whole temperature of the body." A gwrandewch ar hyn,─"Move the soul and spirits...."

Ysgrifenyddes

(Ar ei draws.) Dwyf i ddim yn credu y gellir damcanu am bethau fel hyn, heb gael prawf.

Hen Ŵr

Prawf! Dyna'r maen tramgwydd bob cynnig,─sut i gael prawf pendant, digamsyniol. Y mae'r corff yn prysur gael ei goncro, a gwyddoniaeth yn dwyn ei gyfrinachau i olau dydd,─ ond amdanom ni sy'n chwilio cyfrinachau'r meddwl, yr ydym hanner ein hamser yn bwrw ein pennau yn erbyn wal, eisiau gallu profi ein damcaniaethau.



Daw'r Gwas yn ôl.

Hen Ŵr

Wel?

Gwas

Mae'n debyg bod y bws diwetha' o Abertawe wedi dod i drwbwl ar dro'r hen felin, a'i fod ar ei drwyn ar ben clawdd. Mae'r ffordd yn gythreulig o slip heno. Ac y mae e'r gyrrwr 'nawr yn gofyn a gaiff e' ffonio am fws arall, ac a fyddech chi mor garedig â gadael i'r bobl oedd yn y bws ddod i mewn nes bod y llall yn cyrraedd. Maen' hw' i gyd ar rewi, syr.

Hen Ŵr

Faint sydd ohonyn' hw'?

Gwas

Rhyw─gadewch weld 'nawr─rhyw chwech, 'rwy'n credu.

Hen Ŵr

Niwsans! Niwsans! a minnau─

Ysgrifenyddes

(Ar ei draws.) Na,─na, nid cymaint o niwsans.

Hen Ŵr

Beth?

Ysgrifenyddes

Cyfle heb ei ail! Chwech o bobl at y pwrpas! Siawns fendigedig─y prawf yn curo wrth ein drws!

Hen Ŵr

Pam lai? Ie, pam lai? (Wrth y Gwas.) Tyrd â hwy i mewn yma.

Gwas

Yma, syr? Ond 'rown i'n meddwl─

Hen Ŵr

Yma.



Exit y Gwas. Yr Hen Ŵr yn codi'r llyfr y bu'n ei ddarllen. Y mae'n gyffrous yn mynd ymlaen â darllen eto.

Hen Ŵr

"... alter the whole temperature of the body."─ Cawn weld─ "Move the soul and spirits... imminent danger when a terrible object is at hand... tragical alarms, outcries, hideous noise." Tybed hynny, wir?... "refrigerates the heart."

Ysgrifenyddes

Syniad da yw hwnna.

Hen Ŵr

"... takes away stomach... thickens the blood... and makes them weary of their lives, cry out, howl and roar for very anguish of their souls."



Tra dywed ef y frawddeg olaf, clywir cynnwrf o'r tu allan i'r ystafell yn nesáu.

Ysgrifenyddes

Brysiwch. Byddant yma ar ein traws.

Hen Ŵr

Mae ffawd o'm hochr i heno. Rhaid cael popeth yn barod.

Ysgrifenyddes

Oes gennych chi gynllun?

Hen Ŵr

(Wrth fynd.) Fe wnawn ni gynllun. "Takes away stomach"─ Go lew wir.



Exeunt i'r chwith. Enter cwmni'r bws ar rewi, a'r Gwas yn eu harwain. Y mae golwg ofnus, ddrwgdybus ar y Ddwy Wraig. Ni wellheir pethau pan welant benglog ar ford fach sydd wrth eu cadeiriau.

Gwas

(Yn gweld nad yw ei feistr yn yr ystafell.) .Y──dewch i mewn. Gwnewch eich hunain yn berffaith gartrefol. Nid yn aml y byddwn ni'n cael cymaint o bobl yma ar unwaith.

Cwac

Na, debyg iawn. Mae'n dawel yma. Ac oni bai am yr anap i'r hen tin Lizzie

Gwas

(Wrth yr Athrawes.) Eisteddwch fan yma, Miss.

Athrawes

Diolch. Peth braf yw gweld tân ar noswaith mor ofnadwy o oer.

Gwas

(Wrth bawb.) Eisteddwch i lawr i gyd a gwnewch y gorau o bethau fel y maen' hw'.



Aethai'r Dyn Di-waith yn syth at gadair freichiau pan ddaeth ef i mewn. Nesaodd y Ddwy Wraig at ei gilydd i ben arall yr ystafell gan edrych yn graff ar y lle; a thra bo'r gwas yn gweld bod y lleill yn setlo i lawr, ac yn cario o'r neilltu y benglog, etc., y mae'r ddwy yn ymgomio â'i gilydd.}

Gwraig 1

Dyma'r lle, 'rwy'n dweud wrthyt ti.

Gwraig 2

'Wyt ti'n siŵr?

Gwraig 1

Mor wired â 'mod i'n fyw.

Gwraig 2

Rwy'n mynd 'te. Dyma fì bant. 'Does dim enaid byw bedyddiol a ell 'y nghadw i yma ar ôl─

Gwraig 1

I ble'r ei di, fenyw?

Gwraig 2

Yn ddigon pell o'r tŷ hwn, ta beth. (Eistedd.)

Gwas

Dyna. Rych chi'n weddol gyfforddus, gobeithio.

Comiwnist

Mor gyfforddus, frawd, ag y gall neb fod yn y byd yma fel y mae.

Cwac

Cyfforddus! Gair bach od─gair bach mor llawn o atgofion. Pan own i yn y "States"─



Mae'r Dyn Di-waith yn bwyta cnau mwnci yn ddi-stop. Taflu'r plisg i gyfeiriad y tân 'nawr ac yn y man. Sieryd heb godi ei ben.

Di-waith

Cyfforddus! Cadair freichiau, a thraed sydd wedi hen anghofio shwd deimlad sydd i waddan. [1] esgid.

Cwac
(Yn canu.)
"Pe dymunem olud bydol,
Edyn buan ganddo sydd..."



Hymia'r gweddill.

Athrawes

(Wrth y Gwas.) Samariad caredig yw eich meistr yn wir, yn gadael inni ddod yma a llanw ei dŷ fel hyn.

Gwas

Fe ddaw 'nôl ei hunan yn y man, debyg iawn. Yma yn yr ystafell hon y bydd yn gweithio. Nid yn fynych y caiff neb ddod i mewn yma ganddo.

Gwraig 1

Beth yw ei waith e'?

Gwas

Ei waith?─ Wel─mae hynny'n anodd ei egluro, welwch chi. Mi af i 'nawr i weld a yw eich gyrrwr yn cael ateb ar y ffôn 'co. (Exit.)

Gwraig 2

(Wrth Gwraig 1.) 'Wyt ti'n gweld? 'Wêl yr un gopa walltog ohonom ni olau dydd eto.

Gwraig 1

Taw â'th gyboli.

Gwraig 2

Cei di weld. O diar annwyl!

Gwraig 1

Faint o amser gymer hi i fws arall ddod?

Comiwnist

Hanner awr, man pellaf. Cwac (Wrth Gwraig 1.) Os daw e' heb gael sgìd, 'nghariad i.

Gwraig 2

Duw a'n helpo ni! (Codi.) Wel, gwneled y lleill ohonoch chi fel y mynnoch, 'rwyf i'n mynd. 'Rwy'n gwybod gormod o hanes y tŷ yma i 'mofyn aros ynddo funud yn rhagor.

Cwac

Fenyw fach, beth ych chi'n whilia? [2] Eisteddwch i lawr, a pheidiwch â chreu cymaint o dwrw.

Gwraig 2

Twrw? 'Rwy'n gwybod hyd a lled hwnnw, ta beth, a dyna fwy nag y gall neb ei ddweud am beth all ddigwydd inni i gyd os arhoswn ni yma.

Athrawes

Nonsens! Dyma ni, yn fwy lwcus nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl, yn glyd a chysurus─tân a golau, heb orfod ofni cael annwyd.

Gwraig 1

Mae pethau gwaeth i'w hofni na chael annwyd, Miss, credwch chi fi.

Comiwnist

Beth ych chi'n feddwl?



Y Ddwy Wraig yn edrych ar ei gilydd.

Athrawes

Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.

Cwac

Neu anghofiwch y cwbwl am y peth, beth bynnag ydoedd, ac eisteddwch 'nôl yn braf fel hyn. (Dylyfu gên.) A─o─o, a chysgwch nes daw'r "Primrose de Luxe" at y drws.

Di-waith

(Bu'n edrych o'i amgylch dipyn yn ystod y siarad diwethaf yma, gan ddal i fwyta eì gnau o hyd.) Mae stori y byddai'r hen bobl yn arfer ei chredu am y tŷ yma.

Gwraig 1

Dyna! Rown i'n gwybod 'mod i'n iawn.

Di-waith

Bu nhad yn arddwr yma. Doedd e'n credu dim yn y stori.─ Fe'i cafwyd un gyda'r hwyr yn farw gelain yn yr ardd flodau. Rwy'n cofio fel ddoe y diwrnod y daethon' nhw' ag ef tua thre,─ac y mae rhyw felltith yn dynn wrth fy sodlau innau fyth o'r diwrnod hwnnw.



Fel y gellid disgwyl, cafodd yr hanes gryn effaith ary Ddwy Wraig. Hobnobiant â'i gilydd, a'u dychryn yn eglur ar eu hwyneb, ac yn eu hystumiau. Gwrando'n barchus a wna'r lleill.

Athrawes

Fachgen ifanc, 'dych chi'n credu dim yn y stori wallgof yma, gobeithio, beth bynnag yw hi. Rhaid i chwi gofio, mae pobl yn marw bob dydd wrth eu gwaith, yn yr awyr agored.

Di-waith

Na, 'dwyf i ddim yn credu'r stori─na fawr o ddim byd arall chwaith.

Comiwnist

Bei'r sistem, frawd─bai'r gapitaliaeth ddiawledig sy'n tagu'r ddynoliaeth.

Gwraig 2

Duw a'n helpo ni! Dewch inni gael mynd ma's o'r tŷ yma.



Mae hi'n codi. Enter yr Hen Ŵr─yn sydyn ac yn ddistaw.

Hen Ŵr

Nos da ichwi i gyd.



Distawrwydd. Y dynion yn codi. "Nos da syr," etc.

Hen Ŵr

Eisteddwch, da chi, a gwnewch eich hunain mor gysurus ag y gellwch. Fe fydda'i o hyd yn dal y dylai pawb gael cymaint o gysur ac o bleser allan o fywyd ag y gallant. 'Dŷm ni ddim yn hir yn yr hen fyd yma.

Cwac

Eitha' gwir, syr. "Ber ennyd einioes," yntê? Pan own i'n grwtyn ysgol─

Hen Ŵr

Ust! (Yn gwrando, yn gwgu─yna'n dod 'nôl fel petai o bellter.) Ie, ber ennyd. Trist yw marw, a meddwl am farw.

Comiwnist

Mae rhai ohonom ni'n ddigon lwcus i fod â rhy ychydig o amser sbâr i feddwl am bethau felly.

Di-waith

A rhai ohonom â chymaint o amser sbâr nes ein bod ni wedi blino meddwl bellach, ac wedi dysgu peidio.

Hen Ŵr

Dyna ein diwedd ni i gyd, p'run ai a feddyliwn amdano ai peidio. (Troi'n sydyn at_y Ddwy Wraig.) Onid e? (Hwythau'n brawychu.) (Wrth y cwmni.) Esgusodwch fi. Rhaid ichwi gael cwpaned o de. 'Roedd yn oer arnoch chi allan heno─bron mor oer â'r bedd.



Edrych ar y Ddwy Wraig. Exit i'r dde.

Y Ddwy Wraig

O!

Cwac

Rum old bird!

Comiwnist

Tipyn o granc. Dim ond un tant sydd ganddo i rygnu arno, gellid meddwl.

Gwraig 1

'Welsoch chi ei lygaid e?

Cwac

Do─dwy ohonyn' hw', yntefe?

Gwraig 2

Peidiwch â sbortan.

Comiwnist

(wrth y Ddwy Wraig) Rych chi'ch dwy fel pâr o ffowls ar gols tân. Eisteddwch lawr. 'Ddaw dim niwed i chi, peidiwch â becso. Mae yma dri dyn, un i bob un ohonoch chi, ac yn barod am bopeth a ddaw.

Cwac

Hear, hear.

Gwraig 1

Fe ellwch chi siarad. Rych chi'n ddewr iawn 'nawr─a chithe hefyd, Miss. Ond petaech chi ddim ond yn gwybod─

Gwraig 2

Mae tri o gyrff ym mynwent Llanrhos a allai ddweud stori am y lle yma i godi gwallt eich pen.

Cwac

Wel, mae hi dipyn yn hwyr i fynd i chwilio amdanyn' hw'u tri─ac 'rwy'n leicio bod yn siŵr o'm croeso. Beth petaech chi'ch dwy yn rhoi'r lowdown inni?

Gwraig 1

Dwed di wrtho fe.

Gwraig 2

Na wna'i. Dwed di.

Y Ddwy Wraig

(Gyda'i gilydd.) Wel─ (Edrych ar ei gilydd.) Tŷ'r hen sgweier Price─ (Edrych ar ei gilydd.)

Gwraig 1

(Yn mynd ymlaen yn frysiog.) Rych chi wedi clywed amdano fe, on'd ydych chi'?



Cwac a'r Comiwnist yn amneidio.

Athrawes

Ydym, ydym. Ewch ymlaen.

Gwraig 2

Mae'r tŷ wedi ei reibio.

Comiwnist

Hyh!

Athrawes

Sothach!

Gwraig 1

Peidiwch chi â bod mor siŵr. Gwrandewch.

Gwraig 2

Mae yma olau trydan nawr, welwch chi; ond yn amser Price, canhwyllau oedd ymhob ystafell. Un noswaith─noswaith dawel fel hon, heb awel o wynt─dyma fflam pob cannwyll oedd ynghynn yn y tŷ yn llosgi lawr yn isel, isel, a bron mynd ma's; ac yna, yr un mor ddirybudd, yn llosgi'n olau unwaith eto.

Gwraig 1

Bore drannoeth, cariwyd corff ei fab hyna' 'nôl i'r tŷ. Y ceffyl wedi ei daflu.

Gwraig 2

Chwe mis wedyn, digwyddodd yr un peth eto i'r canhwyllau.

Gwraig 1

A bu farw ei ferch ymhen dau ddiwrnod.

Gwraig 2

A'r doctoriaid yn methu'n lân â dirnad beth oedd yn bod arni.

Athrawes

Coel gwrach yw'r cwbl. Dewch, dewch! 'Rŷm ni wedi tyfu allan o gredu pethau fel'na heddiw. Mae addysg wedi clirio o'r neilltu niwl tew anwybodaeth a choelion gwlad.

Y Ddwy Wraig

Ond, Miss─

Athrawes

(Ei dull areithiol yn cynyddu wrth fynd ymlaen.) Fel y dywedais i wrth annerch athrawon y sir yma heddiw, y mae gwyddoniaeth yn ein dysgu bod rheswm am bopeth, a'r ysgolion yn disgyblu ein greddfau ac yn ein hannog i resymu a defnyddio'r ymennydd a roddodd Duw inni. Yr ydym wedi gadael tywyllwch ansicrwydd o'n hôl ac yn dysgu gafael yn dynn mewn ffeithiau─ffeithiau, nad oes ynddynt le i dwyll hen gredoau sydd wedi eu sylfaenu ar ofn yr anwybodus a'r hanner-gwybodus.

Cwac

Hear, hear. Da 'merch i.

Comiwnist

A does arnoch chi ddim ofn dim byd, sbo? [3]

Athrawes

Ofn! Mae gwareiddiad wedi symud ymlaen yn rhy bell i neb deallus ofni ei gynffon mwyach. Mae addysg, gwybodaeth, rheswm, yn lladd ofn.

Gwraig 1

(Yn sydyn) Diws, dyna lygoden!

Gwraig 2

B'le?



Pandemoniwm cyffredinol. "Dyma hi," "Nage," "Dyna hi dan y gadair," etc. Y Ddwy Wraig yn ceisio ei tharo â'u basgedi, y Comiwnist â'i gap, y Cwac â'i draed. Cododd y Di-waith ei goesau dros fraich y gadair, dyna i gyd.

Yr Athrawes, cyn gynted ag y clywodd sôn am lygoden, yn gwichian. Neidio i ben eì chadair a thynnu ei dillad ati. Gwichian yn ddi-stop. Yna chwerthin. Tipyn o sterics. Hyn yn tynnu sylw'r lleill. Llewygu ym mraich y Cwac.

Cwac

(Wrth ei derbyn.) "Dan fy maich─"



Y Comiwnist yn ei helpu ef i'w chario, a'r Ddwy Wraig yn paratoi'r soffa. Rhoi'r Athrawes arni. Tynn y Cwac ei fflasg allan a rhoi dracht iddi, a'r Comiwnist yn chwifio hances goch o flaen ei hwyneb. Mae'r Ddwy Wraig yn hofran o'i chwmpas ganrwbio'i dwylo a cheisio gweinyddu arni. Ar ôl edrych ennyd ar y pandemoniwm, rhoes y Di-waith ei sylw i'r cwdyn cnau unwaith eto. Sŵn cyffredinol.

Athrawes

(Yn dadebru.) Beth ddigwyddodd?

Cwac

(Yn dal ei llaw.) Mae popeth yn iawn, 'merch i, popeth yn iawn.

Gwraig 2

Diws ario'd! 'Fyddwch chi'n gwneud hyn yn aml?

Gwraig 1

Fe roesoch shwd start i mi. Rwy'n teimlo'n reit beth-alla'-i-ddweud-wrtho-chi. (Cydia yn y fflasg o law'r Cwac, a chymryd dracht hir.) Ach-a-fi!

Cwac

(Yn cymryd y fflasg nôl ac edrych arni.) Acha-finne! (Rhoi'r fflasg eto i'r Athrawes.)

Athrawes

Na, na, 'fydda' i byth yn cwrdd â'r stwff.

Cwac

Ond moddion [4] yw e' nawr.

Athrawes

O wel, mae hynny'n wahanol, wrth gwrs. (Yfed dracht hir.)

Comiwnist

(Wrth yr Athrawes.) Gwell ichi orwedd lawr fanna am dipyn.

Cwac

Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud.



Aeth y Ddwy Wraig 'nôl i'w lle, a buont yn clebran am y digwyddiad â'i gilydd. Mae'r Comïwmnst yn awr yn galw eu sylw.

Comiwnist

Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff?

Y Ddwy Wraig

Ie, wel.

Gwraig 2

Wel─fe ddaeth teulu o'r enw Uppington i fyw yma ar ôl amser Price; lampau oel ymhob ystafell 'nawr yn lle canhwyllau.

Gwraig 1

Ac un noswaith─

Gwraig 2

'Run peth yn gwmws ag o'r blaen─

Gwraig 1

Dim awel o gwbwl─

Gwraig 2

Dyma'r fflam ymhob lamp yn llosgi lawr, lawr, nes bod y lle bron yn dywyll,─ac yna yn llosgi lan eto'n sydyn.

Athrawes
(Yn canu o'r soffa.)
"Hey, nonny, nonny.
Hey, nonny, nonny."

Comiwnist

Hei!



Mynd ymlaen â chanu'n hanner cwsg a wna'r athrawes.

Cwac

Hei, Miss.



Canu o hyd. Â'r Comiwnist ymlaen ati a'i hysgwyd.

Athrawes
(Yn codi ar ei heistedd, â'i llygaid ynghau.)
"The little window where the sun
Came peeping in at morn."

Cwac

(Yn uchel.) "It never came a wink too soon."

Athrawes

(Yn agor ei llygaid.) Yh?

Cwac

"It never came a wink too soon."



Dechreua'r Athrawes chwerthin, a'r Cwac yntau gyda hi. Y Ddwy Wraig yn amneidio ar ei gilydd ei bod hi'n feddw. Mae'r Cwac yn symud i eistedd ar y soffa gyda hi. Y Comiwnist yn tynnu'r "Daily Worker" o'i boced, ac yn setlo lawr i'w ddarllen.}

Gwraig 1

Diws ario'd, edrychwch.



Enter yr Ysgrifenyddes o'r chwith, yn sgrifennu ar dabled ac yn edrych o'i hamgylch. Gesyd ei phensil y tu ôl i'w chlust. Dweud "t-t-t" yn anfoddog, a cherdded at y mur. Mynd drwy ystumiau rhoddi darlun i hongian yn gymwys, ond nid oes darlun yno. Cerdded i ffrynt y llwyfan. Baglu.

Ysgrifenyddes

Bydd ddistaw, pws,─bydd ddistaw.



Nid oes cath. Cwmni'r bws yn chwilio.

Ysgrifenyddes

O, 'r teliffon yna! Canu, canu, drwy'r dydd yn ddistop!



Nid oes teliffon. Â at y ddesg fel petai i'w ddefnyddio, heibio i'r Ddwy Wraig.

Ysgrifenyddes

Hylo. Na, nid yw'r Doctor yma 'nawr. Mae e' allan. Na, 'fedra'i ddim gofyn iddo ddod ar hyn o bryd. Na, na! (Yn gyffrous.) Na, peidiwch â gwneud hynny. O, peidiwch─peidiwch â dweud wrtho.



Y mae'n wylo erbyn hyn. Gesyd y "receiver" anweledig yn ôl, a symud oddi wrtho heb dynnu ei llygaid i ffwrdd. Anwybydda'n hollol y ffaith fod y lleill yn yr ystafell. Mae ei chefn at y drws yr aeth yr Hen Ŵr allan drwyddo, ac y mae hi eto'n ysgrifennu'n ddyfal ar y dabled, pan ddaw ef i mewn. Gwêl cwmni'r bws ef.

Hen Ŵr

A, dyma chi.

Ysgrifenyddes

(Mewn dychryn.) Dim ond am ychydig, dim ond─

Hen Ŵr

Arhoswch. Peidiwch â bod mor ofnus, 'merch i. Dewch yma. (Hithaw'n mynd ato, fel petai yn eì chwsg.) Edrychwch. Dyma bobl wedi dod i roi tro amdanom.



Yr Ysgrifenyddes yn edrych oddi amgylch.

Ysgrifenyddes

Pobl? Fydd pobl byth yn dod i'r tŷ hwn. Na, does yma ddim lle i bobl. (Wrth yr Hen Ŵr.) Eich llygaid! Peidiwch ag edrych! Dim ond am ychydig. (Yn symud oddi wrtho.)

Hen Ŵr

(Yn mynd ati.) Dewch. Pam na ddewch chi yma? 'Does dim byd i'w ofni. Does neb─



 tuag ati wrth siarad. Hithau'n rhoi sgrech ac yn rhuthro allan i'r chwith. Mae'r cwmni erbyn hyn ar eu traed, ac wedi delwi gan syfrdandod.

Hen Ŵr

Esgusodwch fi.



Exit. Eiliad o ddistawrwydd, yna symud. Mae'r Ddwy Wraig yn casglu eu pethau at ei gilydd yn ffwdanus.

Gwraig 1

Dyna ddigon i fi, ta' beth.

Gwraig 2

Bws neu beidio, 'rwy'n mynd i ben'r heol.

Gwraig 1

Hwre, [5] ti piau'r basged yma.

Gwraig 2

Dyma dy siôl dithau.

Comiwnist

(Wedi ei gynhyrfu braidd) Arhoswch funud. Fydd mo'r bws yn hir 'nawr.

Gwraig 1

Ddim un funud yn rhagor.

Cwac

(Mewn penbleth.) We─we─wel, fe fydd yn edrych yn go od os awn ni i gyd yn ddirybudd fel hyn.

Di-waith

Waeth inni yma nag unman arall.

Athrawes

(Yn gwenu yn lledfeddw.) Rwy'n aros yma.

Gwraig 1

Gwell ichi ddod.

Gwraig 2

Mae'n ddigon am eich bywyd chi.

Athrawes

Rwy'n aros yma─aros yma─aros yma.

Gwraig 1

O'r gore, arhoswch.



Y ddwy'n martsio'n bendant at y drws i'r dde a'i agor. Y Gwas yn eu cwrdd yno wyneb yn wyncb yn cario hambwrdd a chwpanau te.

Gwas

Mae'n ddrwg gen i fod cyhyd. Oeddech chi wedi blino disgwyl?



Sefyll yn stond. Hwythaw'n cilio 'nôl, ac yn eistedd yn anesmwyth ar y cadeiriau lle'r oeddent o'r blaen. Mae'r Gwas yn mynd â'r te o gwmpas. Dechrau gyda'r Athrawes. "Diolch," etc., "Siwgr?", "Llaeth?" Y Cwac yn cymryd y cyfle i gael llwnc o'i fflasg, ac yna ei phasio i'r Comiwnist: "Diolch, frawd."}

Cwac

(Wrth y Gwas.) Beth am y bws? 'Oes sôn amdano?

Gwas

Cafodd y bechgyn acw dipyn o drafferth gyda'r ffôn, ond aeth drwodd o'r diwedd.

Gwraig 1

Pam na ddôn' hw' yma?

Gwraig 2

le, b'le maen' hw' ar hyd yr amser?

Gwas

Petawn i yn eich lle chi, mam, 'fuaswn i ddim yn holi gormod yn eu cylch nhw'u dau. Maen' hw' mewn cwmni da erbyn hyn. (Winc.)



Exit.

Gwraig 2

Beth oedd e'n feddwl?

Athrawes

(Wedi sipian ei the.) Mae hwn yn dda.

Gwraig 1

Peidiwch â'i yfed.

Athrawes

Ha─ha─ha.

Gwraig 2

Peidiwch. Peidiwch.



A'r Athrawes ymlaen â'i yfed.

Cwac

Beth wnawn ni, fenyw? Fedrwn ni ddim ei adael.

Gwraig 1

Arhoswch.



Cerdda at aspidistra wrth y mur, ac arllwys ei the. Yna mae Gwraig 2 yn gwneud yr un peth.

Comiwnist

Lot o sothach. Does dim byd o'i le ar y te.



Mae'r Di-waith wedi gorffen ei gwpanaid, ac yn rhoi ei gwpan ar y llawr, a'i setlo ei hunan yn ôl yn gysurus yn ei gadair.

Gwraig 1

O'r gorau, 'machgen i, cerwch ymlaen â'i yfed─y tri ohonoch chi. Ond os teimlwch chi'ch llwnc yn dechrau llosgi ac yn sychu lan, peidiwch â dweud na chawsoch chi rybudd teg. (Braidd yn gyffrous.) Cerwch ymlaen, yfwch e'─bawb ohonoch chi.



Mae golwg annifyr ac ansicr ar y Cwac. Â ymlaen at yr aspidistra─yn ddibwrpas hollol, gellid meddwl. Wedi cyrraedd ato, mae'n amlwg bod rhywbeth yn peri syndod iddo.

Cwac

Mae─mae clefyd ar y planhigyn hwn. Mae ei ddail isaf i gyd wedi crino─wedi crino'n goch.

Gwraig 1

Dyna! Duw a'n helpo ni!

Gwraig 2

Beth wnawn ni? Beth ddaw ohonom ni?



Mae'r Cwac 'nawr yn arllwys ei gwpanaid, yn ddigywilydd ac yn agored. Y Comiwnist yn teimlo'n annifyr. Nid yw'r Di-waith yn symud o gwbl. Dechreua'r Athrawes chwerthin eto braidd yn "hysterical" ar y soffa. Mae teimlad o straen yn yr ystafell nes bod y Cwac yn ymroi i liniaru tipyn ar nerfau'r lleill.

Cwac

Wel... wel... peidiwch â phryderu, gyfeillion... peidiwch â phryderu, does gennym ni ddim sicrwydd bod dim byd o'i le ar y te─hynny yw, does dim yn sicr, yn hollol sicr, 'oes e?... hynny yw, efallai y bydd popeth yn iawn yn y man─mae popeth yn sicr o fod yn iawn─peidiwch â phryderu─yn hollol sicr o fod yn iawn.

Comiwnist

Ha─ha, go lew 'nawr, frawd.

Cwac

(Wedi edrych yn ddrwgdybus arno.) Yr ydym wedi gadael i awyrgylch y tŷ yma, a'r storïau amdano, effeithio dipyn yn ormod arnom ni, efallai─dyna i gyd. Nerfau─dim byd ond nerfau. (Wrth yr Athrawes.) 'Nawr, madam, dyna ddigon o chwerthin. Dewch. Gadewch imi eistedd wrth eich ochr. Rwyf i wedi delio o'r blaen â gwragedd fel chi─do, droeon─ac â dynion hefyd, o ran hynny─sydd wedi cael effeithio arnynt gan sioc sydyn.

Comiwnist

'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi.



Mae'r Comiwnist yn setlo i lawr unwaith eto i ddarllen y "Daily Worker."

Gwraig 1

I minnau hefyd. Nid un o'r ardal yma ydych chi, iefe?

Cwac

Rwy'n enedigol o'r cylch yma, ac wedi bod 'nôl yma ers pum wythnos bellach. Doctora yn y "States" 'roeddwn i cyn hynny.

Athrawes

Yn America? Ymh'le yno? Mae gen i chwaer yn New York.

Cwac

Wel─y, fe fûm i'n feddyg yn fy amser ymhob man, fwy neu lai─meddyg cylchynol, fel petai─y─y─peripatetic, mewn ffordd o siarad.

Gwraig 2

Diws ario'd!─ Nid Harri bach Lisa'r "Plough" ydych chi?─ 'Rown i'n meddwl bod rhywbeth yn gyfarwydd yn eich gên chi─'run sbit â'ch tad, druan─wel, wel, wel.

Gwraig 1

Gwerthu moddion [6] cwac oeddech chi yno, yntefe, medden' hw'?

Cwac

Cwac, ddwetsoch chi? Gwrandewch arna' i, fenyw, a dywedwch wrthyn' hw' fod "Barton's Pectoria" wedi gwella mwy o bobl mewn mis yn y "States" nag sydd yn y gymdogaeth hon o ben bwy gilydd iddi.



Tynnu potel o'r "Pectoria" o'i boced.

Comiwnist

Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.

Athrawes

Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes?

Comiwnist

Oes, gellwch fentro─ddwy neu dair! Fydd cwacs ddim yn poeni eu pennau i fynd ati i ddysgu eu crefft. Twyll. Dim byd ond twyll i gyd.

Cwac

Twyll, iefe? Gwrandewch arna'i, madam; a chwithau hefyd, mistar. Mae mwy o rinwedd yn y botel fach hon am hanner coron na dim a gewch chi mewn unrhyw siop gemist am ddwywaith y pris.



Y mae'n codi hwyl, ac o hyn ymlaen yn areithio fel y gwnâi yn y ffeiriau ar ei deithiau gwerthu moddion.

Cwac

"Barton's Pectoria─the secret formula obtained at great risk from the priest of a temple in Tibet." Gwadwch hynny, os gellwch chi. "Compounded from the rarest health-giving herbs. Cures coughs, colds and colic."

Gwraig 2

(Ar ei draws) Beth sy'n bod ar y golau yma?

Athrawes

Wela' i ddim byd o le arno.

Gwraig 1

Mae hi dipyn yn dywyllach nag yr─

Cwac

Nonsens! Nonsens! Dim byd ond nerfau. "Relieves flatulence, feverishness, and neuralgia. A wonderful all-round medicament. Every housewife should have a bottle handy."

Comiwnist

(Ar ei draws.) Wir, mae'r hen olau yma yn pallu, yn siŵr i chi. Dewch, y doctor, rhowch ddropyn neu ddau o'ch "Pectoria" iddo fe, i gael gweld pa effaith gaiff hynny arno. Dyw hi ddim yn ddigon golau i weld print y papur.

Gwraig 2

(Yn ddistaw gan ddychryn.) O diar annwyl! Dyma hi! Melltith y tŷ wedi dod ar ein traws ni. Dyma hi'n ddiwedd y byd arnom ni i gyd, bobl fach. Nage─yn un ac un 'roedden, hw'n mynd.



Dechreuasai'r golau losgi'n wannach cyn y cyfeiriad cyntaf ato. Aeth yn raddol yn wannach wannach. Mae'r Cwac erbyn hyn yn gorfod cyfaddef wrtho'i hunan fod rhywbeth o le. Â ymlaen yn beiriannol iawn â'i areithio. Yna arafu a stopio.

Cwac

"The only guaranteed specific antidote to snake-bite and alcoholic poisoning... Dose: One tablespoonful to be taken three times daily after meals."



Rhydd Gwraig 2 sgrech cyn iddo orffen─ Mae'r Hen Ŵr wedi ymddangos yn y drws.

Hen Ŵr

Rhaid imi ymddiheuro am y golau gwael sydd yma. Fel hyn y bydd e' ar adegau, yn rhyw fynd a dod, nes bod yr hen dŷ yma fel petai'n gwgu ac yn bygwth rhywun. Does dim o'i le ar y gwifrau chwaith─dim rheswm pan y dylai'r golau ballu. Fe ddaw 'nôl yn y man.



Daw'r golau'n gryfach.

Hen Ŵr

A, dyna hi'n goleuo eto. Popeth yn iawn, felly. (Troi at y Ddwy Wraig.) Penderfynodd yr ysbrydion fod yn drugarog heno.

Gwraig 1

Ysbrydion, ddwetsoch chi?

Hen Ŵr

Ie. Mae'r lle yma'n llawn ohonyn' hw', wyddoch chi.

Athrawes

Ysbrydion, wir!

Hen Ŵr

Ond pam y siaradwn ni amdanyn' hw'. Mae'r golau 'nôl. 'Ddôn' hw' ddim i'n poeni ni heno. Fydd mo'ch bws chi'n hir 'nawr,─os daw e' o gwbl. Esgusodwch fi.



Exit i'r chwith. Distawrwydd. Gwel Gwraig 2 fod y Di-waith wedi mynd yn swp yn y gadair. Sgrech, a phwyntio. Rhuthra'r Cwac a'r Comiwnist ato, ar ôl edrych ar ei gilydd. Agor ei grafat; rhwbio'i ddwylo; slapio'i wyneb, etc. Yntau'n dihuno, ac yn ymladd ei ffordd o'r gadair.

Di-waith

Be felltith 'rych chi'n ei wneud?

Cwac

(Yn teimlo'n ffôl.) Gan bwyll, gyfaill, gan bwyll.

Comiwnist

(Wrth y Menywod.) Mae e'n ddigon iach. (Wrth y dyn.) Popeth yn iawn, frawd. Ofni'r oeddem ni eich bod chi, efallai, wedi─wel─eich bod chi─

Di-waith

Myn 'yfryd i, mae'n dod i rywbeth pan na all dyn gymryd nap wrth ddisgwyl y bly-blincin bws.

Athrawes

Fachgen ifanc, dyna ddigon o'r iaith yna. 'Ddysgodd neb ichi roi cwlwm ar eich tafod yng nghwmni menywod?

Gwraig 2

Y mae'r cwpanaid te wedi ei sobri hi, beth bynnag.



Mae'r Di-waith yn eistedd nôl yn ei gadair, ac yn paratoi am nap pellach.

Comiwnist

Rych chi'r menywod yn disgwyl braidd gormod o barch.

Gwraig 1

Disgwyl yw'n rhan ni hefyd, gan mwyaf.

Comiwnist

Ac fe allech ei gael─parch pob gweithiwr gonest yn y wlad yma, petaech chi'n gwneud eich rhan, a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr, gyda'ch gwŷr a'ch brodyr, gallem fynnu chwarae teg i bawb; chwarae teg i'n brawd fan yma. {Pwyntio at y Di-waith. Gallem fynnu rhoddi i bob dyn yr hawl i fyw, a byw'n lân ac yn gysurus. Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad.



Y mae yn ei hwyliau erbyn hyn.

Athrawes

'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf. Wedyn, 'does dim byd ond sŵn.

Comiwnist

Peth hawdd i'w ddweud, wir, Miss. Ond a ydych chi erioed wedi gwrando'n ddigon hir i'w brofi?

Athrawes

A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid.

Comiwnist

A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly?

Athrawes

'Dwyf i ddim yn gweld bob pethau mor ddrwg yn y wlad yma 'nawr. Mae'n well byd ar y gweithiwr heddiw nag ydoedd ugain mlynedd nôl.

Comiwnist

Yn well? 'Ydych chi o ddifri' yn credu hynny? Gwrandewch. 'Rydym ni'r gweithwyr yn hawlio gwell cyflog─miliynau ohonom ni yn ei hawlio am nad oes gan ein hanner ni y modd i fyw arno a magu teulu.

Cwac

Hear, hear.

Gwraig 2

'Ddaw pethau ddim yn well yn eich amser chi na finne, 'machgen i. Felly, sbariwch eich llais.

Comiwnist

Pwy yw llywodraethwyr ein gwlad ni heddiw? Y grŵp bach cyfoethog sy'n rheoli ein gweithiau a'n harian a'n masnach, y dynion sy'n benderfynol o feithrin Capitaliaeth a chadw llywodraeth y wlad yn eu crafangau nhw'u hunain. Mae polisi'r llywodraethwyr ymhob cylch yn ei gwneud yn amlwg mai da'r bobl gyfoethog yn unig sydd ganddynt mewn golwg. Rhaid rhoddi i lawr y fath lywodraethu unwaith ac am byth, a chael yn ei le lywodraeth fydd yn gofalu am ddaioni'r bobl.



Ac yntau yn ei hwyliau tua therfyn yr araith, y mae'r golau yn diffodd glec, a sgrech hir yr Ysgrifenyddes yn melltennu drwy'r tywyllwch. Distawrwydd hollol─yna hwb-wb yn yr ystafell. Daw'r golau nôl. Mae'r Hen Ŵr yn y drws. Pawb yn sefyll yn stond─ond bod y Di-waith yn dal i gysgu. Mae'r Hen Ŵr yn rhuthro í mewn, a'r Ysgrifenyddes gydag ef. Â ef o amgylch y Menywod, gan deimlo eu pyls, eu talcen, edrych eu llygaid; mae'r Cwac a'r Comiwnist yn ffyrnig ar ôl y syfrdandod cyntaf. Drwy'r adeg gwaedda'r Hen Ŵr ei gasgliadau, a'r Ysgrifenyddes yn eu copio ar ei thabled.)

Hen Ŵr

Pyls cyflym─cant. Chwys oer ar y talcen. Dagrau. Dwylo oer. Croen gŵydd ar y fraich─a'r wyneb. Gwres normal. (Â i edrych llygad y Cwac.) Cannwyll y llygad wedi cyfyngu.

Cwac

Wel─wel, yr─wel, wel─wel. (Â i deimlo pyls y Comiwnist.)

Comiwnist

Hei, beth yw hyn? Beth ydych chi'n feddwl 'rych chi'n ei wneud?

Gwraig 1

'Welais i erio'd shwd beth, naddo i.

Gwraig 2

Bihafio fel rhywun ddim yn gall.

Athrawes

Polîs!─ B'le mae'r polîs agosa'?

Y Ddwy Wraig

Polîs. Polîs.

Athrawes

Eisiau riportio hyn ar unwaith.

Di-waith

(Yn dihuno.) Ddaeth y b... b... y bws felltith na? Rych chi'n gwneud digon o dwrw i godi'r marw.

Hen Ŵr

Gyfeillion! Rhaid imi ymddiheuro. 'Roedd gennych chi bob hawl i deimlo'n ddig. Ond 'rwy'n gobeithio, pan fydda'i wedi egluro tipyn ar bethau, y byddwch chi'n fwy bodlon. Rwyf i wedi eich defnyddio chi heno─yn haerllug a digywilydd.

Gwraig 1

Gallwn i feddwl hynny, wir, y blagard.

Gwraig 2

Pwy ych chi?

Athrawes

Mater i'r polîs.

Hen Ŵr

(Yn torri ar draws eu dicter.) Hanner munud, foneddigesau. Yn enw Gwyddoniaeth y gwnes i'r cwbl.

Gwraig 2

Chi a'ch Gwyddoniaeth! (Troi at yr Ysgrifenyddes.) Y globen haerllug â hi.

Gwraig 1

(Yn fygythiol.) A chael gêm â ni 'roeddech chi, iefe, meiledi, yn actio mor benwan?



Bu'r Ysgrifenyddes yn sefyll yn ddistaw o'r neilltu, yn copio'n brysur drwy'r adeg, heb godi ei phen. Yn awr, edrych o amgylch, ac a'r ddwy fenyw yn ymosod arni mor fygythiol, y mae fel petai'n ansicr beth i'w wneud. Sieryd yr Hen Ŵr â hi.

Hen Ŵr

Byddai'n dda gen i gael y casgliadau yma wedi eu teipio ar unwaith.

Ysgrifenyddes

O'r gorau. (Exit, a'r Menywod yn gweiddi o'i hôl.)

Gwraig 1

Eitha' grasfa, dyna ddylech chi gael, yr hen slwt fach!

Gwraig 2

Mae'n ffitach eich bod chi yn rhywle na ellwch chi wneud drygioni.

Gwraig 1

'Arhoswch chi nes daw'r polîs i'ch holi chi.

Hen Ŵr

Foneddigesau, foneddigesau. 'Dych chi ddim yn deall. Rwyf i ers blynyddoedd bellach wedi bod yn astudio seicoleg.

Gwraig 1

Ho, coleg, iefe?

Gwraig 2

'Welais i'r un daioni yn dod o'r colegau yna, naddo i.

Athrawes

Mi fûm innau'n astudio seicoleg─seicoleg y plentyn. Ond welaf i ddim bod hynny'n rheswm dros ymosod ar bobl yn ddirybudd─I

Gwraig 1

Ie, nes eu bod nhw' bron marw gan ofn.

Hen Ŵr

Ofn! Dyna chi wedi taro'r hoelen, madam. Foneddigion, Seicoleg Ofn fu maes fy astudiaeth. Yn wir, 'rwyf wedi rhoi fy mywyd i gyd at y gwaith. Beth yw Ofn?─ 'Does dim ateb pendant wedi ei gael eto i'r testun hwn yn ei holl agweddau. Ond o ddarllen gweithiau'r dynion a ysgrifennodd ar y testun, yn awduron diweddar ac yn hen awduron, deuir at gasgliadau chwyldroadol ynghylch yr ateb o ganrif i ganrif. Diddorol iawn ydyw barn Robert Burton ar Ofn yn ei lyfr "Anatomy of Melancholy" yn yr ail ganrif ar bymtheg. (Y mae'r llyfr dan ei gesail.) Rown i'n astudio'r llyfr pan ddaethoch chi at y drws. Aeth fy chwilfrydedd yn drech na mi, ac oherwydd mai ein anhawster pennaf ni seicolegwyr ydyw gallu profi pwyntiau a damcaniaethau, penderfynais─maddeuwch imi─eich defnyddio chwi yn wrthrychau i wneud arbrawf arnoch o ganlyniadau Ofn ar y corff dynol. Bu fy ysgrifenyddes mor garedig â chydweithio â mi yn hyn o beth.

Cwac

Wel─hm─wel, fel un doctor wrth ddoctor arall─os eisiau prawf oedd arnoch chi, syr─ rwy'n fodlon.

Athrawes

Rwyf innau'n fodlon, gan fod achos rhesymol gwyddonol am y perfformans, a chwithau'n ymddangos yn ŵr bonheddig.

Hen Ŵr

Diolch, madam.

Athrawes

Ond, wir, 'rown i'n teimlo'n go ddig wrthych chi dro bach yn ôl...

Hen Ŵr

(Wrth y Comiwnist.) A chwithau, syr?

Comiwnist

Wedi'r cwbwl, frawd, does dim drwg wedi'i wneud...



Bu'r Di-waith yn eistedd i fyny yn ei gadair wrth y tân yn bwyta cnau drwy'r adeg. Mae'r Ddwy Wraig mewn ymgom dawel, ddig â'i gilydd. Pan sieryd y Comiwnist, dyma eu dicter yn fflamio.

Gwraig 1

Dim drwg, wir?

Gwraig 2

'Dych chi ddim yn credu, efallai, fod i ddyn roi ei law ar fenyw ddesant yn ddrwg bellach?



Y ddwy 'nawr yn ymosod ar yr Hên Ŵr â'u basgedi a'u siolau.

Gwraig 1

Cym'rwch honna am eich trafferth, Mr. Seicoleg.

Gwraig 2

A honna... a honna.

Gwraig 1

A honna.



Teifl y siôl am ei ben. Mae'r ddwy'n baglu ar ei draws ac â'u pwysau wedi ei fwrw 'nôl yn erbyn y soffa, lle y lled-orwedd. Mae'r lleill yn edrych ar ei gilydd, heb wybod yn iawn sut i ymyrryd. Edrychodd y Di-waith ar yr ymosod, ac yna, mynd 'nôl at ei gnau. Enter y Gwas. Edrych yn syn.

Gwas

Mae'r bws wedi cyrraedd.



Y Ddwy Wraig yn dechrau casglu eu pethau ar unwaith.

Gwraig 1

Diolch i'r brenin am hynny.

Gwraig 2

Dere. Gorau po gyntaf yr awn ni oddi yma.

Gwraig 1

Hwre. [7] Dy basged di yw hon.

Gwraig 2

Odi'r cwbl gen'ti?

Gwraig 1

Odi, am wni. Bant â thi.



Exeunt, yn gadael yr Hen Ŵr yn llipa ar y soffa─llyfr Robert Burton dan ei gesail o hyd. Edrych y Gwas arno. Yna â allan yn fwtleraidd ar ôl y Ddwy Wraig. Ffwdan cyffredinol y lleill yn paratoi i ymadael.

Di-waith

Nos da, syr,─a diolch.

Cwac

We l... wel... y... nos da syr. Y... fe wyddom ni'r doctoriaid beth yw gorfod talu'n ddrud am ein harbrofion.

Hen Ŵr

Mae'n ymddangos felly, wir.

Athrawes

Nos da─a llawer o ddiolch ichwi. Mae hi mor ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau mawr bywyd, wyddoch chi─



Exit, a'r Cwac yn mynd allan y tu cefn iddi.

Comiwnist

Nos da, frawd... Ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr... Petaem ni'n cael y menywod o'n hochr... (Exit.)

Hen Ŵr

Rych chi'n iawn, gyfaill. Gwell eu cael o'ch ochr nag yn eich erbyn.



Sylweddola fod y llyfr dan ei gesail o hyd. Edrych arno. Dechrau ei agor. Ei daflu oddi wrtho i'r llawr.

Hen Ŵr

"... move the soul and spirits... tragical alarms... hideous noise..." Hw-w!



Enter y Gwas.

Gwas

A fydd arnoch chi eisiau rhywbeth yn rhagor heno, syr?



Try'r Hen Ŵr ei ben yn araf ac edrych arno.

Hen Ŵr

(Yn syn ac yn bwyllog.) Rhagor? Dim diolch.─ Rwy'i wedi cael hen ddigon am heno.



LLEN.

Notes

1 wadn replay
2 cyboli replay
3 mae'n debyg replay
4 ffisig replay
5 hwde replay
6 ffisig replay
7 hwde replay
Drama un-act