Y Tŷ ar y Rhos

Ciw-restr ar gyfer Comiwnist

(Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body..."
 
(Gwas) Rych chi'n weddol gyfforddus, gobeithio.
(1, 0) 103 Mor gyfforddus, frawd, ag y gall neb fod yn y byd yma fel y mae.
(Cwac) Cyfforddus!
 
(Gwraig 1) Faint o amser gymer hi i fws arall ddod?
(1, 0) 134 Hanner awr, man pellaf.
(1, 0) 135 Cwac
 
(1, 0) 137 Os daw e' heb gael sgìd, 'nghariad i.
(Gwraig 2) Duw a'n helpo ni!
 
(Gwraig 1) Mae pethau gwaeth i'w hofni na chael annwyd, Miss, credwch chi fi.
(1, 0) 149 Beth ych chi'n feddwl?
(Athrawes) Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.
 
(Di-waith) Na, 'dwyf i ddim yn credu'r stori─na fawr o ddim byd arall chwaith.
(1, 0) 169 Bei'r sistem, frawd─bai'r gapitaliaeth ddiawledig sy'n tagu'r ddynoliaeth.
(Gwraig 2) Duw a'n helpo ni!
 
(Hen Ŵr) Trist yw marw, a meddwl am farw.
(1, 0) 188 Mae rhai ohonom ni'n ddigon lwcus i fod â rhy ychydig o amser sbâr i feddwl am bethau felly.
(Di-waith) A rhai ohonom â chymaint o amser sbâr nes ein bod ni wedi blino meddwl bellach, ac wedi dysgu peidio.
 
(Cwac) Rum old bird!
(1, 0) 202 Tipyn o granc.
(1, 0) 203 Dim ond un tant sydd ganddo i rygnu arno, gellid meddwl.
(Gwraig 1) 'Welsoch chi ei lygaid e?
 
(1, 0) 208 Rych chi'ch dwy fel pâr o ffowls ar gols tân.
(1, 0) 209 Eisteddwch lawr.
(1, 0) 210 'Ddaw dim niwed i chi, peidiwch â becso.
(1, 0) 211 Mae yma dri dyn, un i bob un ohonoch chi, ac yn barod am bopeth a ddaw.
(Cwac) Hear, hear.
 
(Gwraig 2) Mae'r tŷ wedi ei reibio.
(1, 0) 233 Hyh!
(Athrawes) Sothach!
 
(Cwac) Da 'merch i.
(1, 0) 254 A does arnoch |chi| ddim ofn dim byd, sbo? [3]
(Athrawes) Ofn!
 
(1, 0) 299 Gwell ichi orwedd lawr fanna am dipyn.
(Cwac) Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud.
 
(Cwac) Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud.
(1, 0) 303 Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff?
(Y Ddwy Wraig) Ie, wel.
 
(Athrawes) Hey, nonny, nonny."
(1, 0) 313 Hei!
(Cwac) Hei, Miss.
 
(1, 0) 392 Arhoswch funud.
(1, 0) 393 Fydd mo'r bws yn hir 'nawr.
(Gwraig 1) Ddim un funud yn rhagor.
 
(Gwraig 1) Arhoswch.
(1, 0) 436 Lot o sothach.
(1, 0) 437 Does dim byd o'i le ar y te.
(Gwraig 1) O'r gorau, 'machgen i, cerwch ymlaen â'i yfed─y tri ohonoch chi.
 
(Cwac) Wel... wel... peidiwch â phryderu, gyfeillion... peidiwch â phryderu, does gennym ni ddim sicrwydd bod dim byd o'i le ar y te─hynny yw, does dim yn sicr, yn hollol sicr, 'oes e?... hynny yw, efallai y bydd popeth yn iawn yn y man─mae popeth yn sicr o fod yn iawn─peidiwch â phryderu─yn hollol sicr o fod yn iawn.
(1, 0) 458 Ha─ha, go lew 'nawr, frawd.
(Cwac) {Wedi edrych yn ddrwgdybus arno.}
 
(Cwac) Rwyf i wedi delio o'r blaen â gwragedd fel chi─do, droeon─ac â dynion hefyd, o ran hynny─sydd wedi cael effeithio arnynt gan sioc sydyn.
(1, 0) 467 'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi.
(Gwraig 1) I minnau hefyd.
 
(Cwac) Gwrandewch arna' i, fenyw, a dywedwch wrthyn' hw' fod "Barton's Pectoria" wedi gwella mwy o bobl mewn mis yn y "States" nag sydd yn y gymdogaeth hon o ben bwy gilydd iddi.
(1, 0) 484 Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.
(Athrawes) Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes?
 
(Athrawes) Ond mac gennych chi dystysgrif i brofi eich bod chi wedi pasio'n ddoctor, on'd oes?
(1, 0) 486 Oes, gellwch fentro─ddwy neu dair!
(1, 0) 487 Fydd cwacs ddim yn poeni eu pennau i fynd ati i ddysgu eu crefft.
(1, 0) 488 Twyll.
(1, 0) 489 Dim byd ond twyll i gyd.
(Cwac) Twyll, iefe?
 
(1, 0) 509 Wir, mae'r hen olau yma yn pallu, yn siŵr i chi.
(1, 0) 510 Dewch, y doctor, rhowch ddropyn neu ddau o'ch "Pectoria" iddo fe, i gael gweld pa effaith gaiff hynny arno.
(1, 0) 511 Dyw hi ddim yn ddigon golau i weld print y papur.
(Gwraig 2) {Yn ddistaw gan ddychryn.}
 
(1, 0) 556 Mae e'n ddigon iach.
 
(1, 0) 558 Popeth yn iawn, frawd.
(1, 0) 559 Ofni'r oeddem ni eich bod chi, efallai, wedi─wel─eich bod chi─
(Di-waith) Myn 'yfryd i, mae'n dod i rywbeth pan na all dyn gymryd nap wrth ddisgwyl y bly-blincin bws.
 
(Gwraig 2) Y mae'r cwpanaid te wedi ei sobri hi, beth bynnag.
(1, 0) 565 Rych chi'r menywod yn disgwyl braidd gormod o barch.
(Gwraig 1) Disgwyl yw'n rhan ni hefyd, gan mwyaf.
 
(Gwraig 1) Disgwyl yw'n rhan ni hefyd, gan mwyaf.
(1, 0) 567 Ac fe allech ei gael─parch pob gweithiwr gonest yn y wlad yma, petaech chi'n gwneud eich rhan, a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr, gyda'ch gwŷr a'ch brodyr, gallem fynnu chwarae teg i bawb; chwarae teg i'n brawd fan yma.
 
(1, 0) 569 Gallem fynnu rhoddi i bob dyn yr hawl i fyw, a byw'n lân ac yn gysurus.
(1, 0) 570 Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad.
(Athrawes) 'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf.
 
(Athrawes) Wedyn, 'does dim byd ond sŵn.
(1, 0) 574 Peth hawdd i'w ddweud, wir, Miss.
(1, 0) 575 Ond a ydych chi erioed wedi gwrando'n ddigon hir i'w brofi?
(Athrawes) A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid.
 
(Athrawes) A pheth arall, pobl arw iawn a di-chwaeth a fyddaf i'n weld yn ymuno â chi'r Comiwnistiaid.
(1, 0) 577 A beth feddyliwch chi sy'n gwneud i bobl fod felly?
(Athrawes) 'Dwyf i ddim yn gweld bob pethau mor ddrwg yn y wlad yma 'nawr.
 
(Athrawes) Mae'n well byd ar y gweithiwr heddiw nag ydoedd ugain mlynedd nôl.
(1, 0) 580 Yn well?
(1, 0) 581 'Ydych chi o ddifri' yn credu hynny?
(1, 0) 582 Gwrandewch.
(1, 0) 583 'Rydym ni'r gweithwyr yn hawlio gwell cyflog─miliynau ohonom ni yn ei hawlio am nad oes gan ein hanner ni y modd i fyw arno a magu teulu.
(Cwac) Hear, hear.
 
(Gwraig 2) Felly, sbariwch eich llais.
(1, 0) 587 Pwy yw llywodraethwyr ein gwlad ni heddiw?
(1, 0) 588 Y grŵp bach cyfoethog sy'n rheoli ein gweithiau a'n harian a'n masnach, y dynion sy'n benderfynol o feithrin Capitaliaeth a chadw llywodraeth y wlad yn eu crafangau nhw'u hunain.
(1, 0) 589 Mae polisi'r llywodraethwyr ymhob cylch yn ei gwneud yn amlwg mai da'r bobl gyfoethog yn unig sydd ganddynt mewn golwg.
(1, 0) 590 Rhaid rhoddi i lawr y fath lywodraethu unwaith ac am byth, a chael yn ei le lywodraeth fydd yn gofalu am ddaioni'r bobl.
(Hen Ŵr) Pyls cyflym─cant.
 
(Cwac) {Â i deimlo pyls y Comiwnist.}
(1, 0) 609 Hei, beth yw hyn?
(1, 0) 610 Beth ydych chi'n feddwl 'rych chi'n ei wneud?
(Gwraig 1) 'Welais i erio'd shwd beth, naddo i.
 
(Hen Ŵr) A chwithau, syr?
(1, 0) 672 Wedi'r cwbwl, frawd, does dim drwg wedi'i wneud...
(Gwraig 1) Dim drwg, wir?
 
(Athrawes) Mae hi |mor| ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau |mawr| bywyd, wyddoch chi─
(1, 0) 709 Nos da, frawd...
(1, 0) 710 Ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr...
(1, 0) 711 Petaem ni'n cael y menywod o'n hochr...