Y Tŷ ar y Rhos

Ciw-restr ar gyfer Cwac

(Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body..."
 
(Gwas) Nid yn aml y byddwn ni'n cael cymaint o bobl yma ar unwaith.
(1, 0) 81 Na, debyg iawn.
(1, 0) 82 Mae'n dawel yma.
(1, 0) 83 Ac oni bai am yr anap i'r hen |tin Lizzie|─
(Gwas) {Wrth yr Athrawes.}
 
(Comiwnist) Mor gyfforddus, frawd, ag y gall neb fod yn y byd yma fel y mae.
(1, 0) 104 Cyfforddus!
(1, 0) 105 Gair bach od─gair bach mor llawn o atgofion.
(1, 0) 106 Pan own i yn y "States"─
(Di-waith) Cyfforddus!
 
(1, 0) 114 "Pe dymunem olud bydol,
(1, 0) 115 Edyn buan ganddo sydd..."
(Athrawes) {Wrth y Gwas.}
 
(Gwraig 2) 'Rwy'n gwybod gormod o hanes y tŷ yma i 'mofyn aros ynddo funud yn rhagor.
(1, 0) 142 Fenyw fach, beth ych chi'n whilia? [2]
(1, 0) 143 Eisteddwch i lawr, a pheidiwch â chreu cymaint o dwrw.
(Gwraig 2) Twrw?
 
(Athrawes) Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.
(1, 0) 152 Neu anghofiwch y cwbwl am y peth, beth bynnag ydoedd, ac eisteddwch 'nôl yn braf fel hyn.
 
(1, 0) 154 A─o─o, a chysgwch nes daw'r "Primrose de Luxe" at y drws.
(Di-waith) {Bu'n edrych o'i amgylch dipyn yn ystod y siarad diwethaf yma, gan ddal i fwyta eì gnau o hyd.}
 
(Hen Ŵr) 'Dŷm ni ddim yn hir yn yr hen fyd yma.
(1, 0) 181 Eitha' gwir, syr.
(1, 0) 182 "Ber ennyd einioes," yntê?
(1, 0) 183 Pan own i'n grwtyn ysgol─
(Hen Ŵr) Ust!
 
(Y Ddwy Wraig) O!
(1, 0) 201 Rum old bird!
(Comiwnist) Tipyn o granc.
 
(Gwraig 1) 'Welsoch chi ei lygaid e?
(1, 0) 205 Do─dwy ohonyn' hw', yntefe?
(Gwraig 2) Peidiwch â sbortan.
 
(Comiwnist) Mae yma dri dyn, un i bob un ohonoch chi, ac yn barod am bopeth a ddaw.
(1, 0) 212 Hear, hear.
(Gwraig 1) Fe ellwch chi siarad.
 
(Gwraig 2) Mae tri o gyrff ym mynwent Llanrhos a allai ddweud stori am y lle yma i godi gwallt eich pen.
(1, 0) 217 Wel, mae hi dipyn yn hwyr i fynd i chwilio amdanyn' hw'u tri─ac 'rwy'n leicio bod yn siŵr o'm croeso.
(1, 0) 218 Beth petaech chi'ch dwy yn rhoi'r |lowdown| inni?
(Gwraig 1) Dwed di wrtho fe.
 
(Athrawes) Yr ydym wedi gadael tywyllwch ansicrwydd o'n hôl ac yn dysgu gafael yn dynn mewn ffeithiau─|ffeithiau|, nad oes ynddynt le i dwyll hen gredoau sydd wedi eu sylfaenu ar ofn yr anwybodus a'r hanner-gwybodus.
(1, 0) 252 Hear, hear.
(1, 0) 253 Da 'merch i.
(Comiwnist) A does arnoch |chi| ddim ofn dim byd, sbo? [3]
 
(1, 0) 274 "Dan fy maich─"
(Athrawes) {Yn dadebru.}
 
(1, 0) 284 Mae popeth yn iawn, 'merch i, popeth yn iawn.
(Gwraig 2) Diws ario'd!
 
(1, 0) 292 Acha-finne!
 
(Athrawes) Na, na, 'fydda' i byth yn cwrdd â'r stwff.
(1, 0) 295 Ond |moddion| [4] yw e' nawr.
(Athrawes) O wel, mae hynny'n wahanol, wrth gwrs.
 
(Comiwnist) Gwell ichi orwedd lawr fanna am dipyn.
(1, 0) 300 Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud.
(Comiwnist) Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff?
 
(Comiwnist) Hei!
(1, 0) 315 Hei, Miss.
(Athrawes) {Yn codi ar ei heistedd, â'i llygaid ynghau.}
 
(1, 0) 322 "It never came a wink too soon."
(Athrawes) {Yn agor ei llygaid.}
 
(Athrawes) Yh?
(1, 0) 325 "It never came a wink too soon."
(Gwraig 1) Diws ario'd, edrychwch.
 
(1, 0) 396 We─we─wel, fe fydd yn edrych yn go od os awn ni i gyd yn ddirybudd fel hyn.
(Di-waith) Waeth inni yma nag unman arall.
 
(1, 0) 414 Beth am y bws?
(1, 0) 415 'Oes sôn amdano?
(Gwas) Cafodd y bechgyn acw dipyn o drafferth gyda'r ffôn, ond aeth drwodd o'r diwedd.
 
(Gwraig 2) Peidiwch.
(1, 0) 431 Beth wnawn ni, fenyw?
(1, 0) 432 Fedrwn ni ddim ei adael.
(Gwraig 1) Arhoswch.
 
(Gwraig 1) Cerwch ymlaen, yfwch e'─bawb ohonoch chi.
(1, 0) 446 Mae─mae clefyd ar y planhigyn hwn.
(1, 0) 447 Mae ei ddail isaf i gyd wedi crino─wedi crino'n goch.
(Gwraig 1) Dyna!
 
(Gwraig 2) Beth ddaw ohonom ni?
(1, 0) 457 Wel... wel... peidiwch â phryderu, gyfeillion... peidiwch â phryderu, does gennym ni ddim sicrwydd bod dim byd o'i le ar y te─hynny yw, does dim yn sicr, yn hollol sicr, 'oes e?... hynny yw, efallai y bydd popeth yn iawn yn y man─mae popeth yn sicr o fod yn iawn─peidiwch â phryderu─yn hollol sicr o fod yn iawn.
(Comiwnist) Ha─ha, go lew 'nawr, frawd.
 
(1, 0) 460 Yr ydym wedi gadael i awyrgylch y tŷ yma, a'r storïau amdano, effeithio dipyn yn ormod arnom ni, efallai─dyna i gyd.
(1, 0) 461 Nerfau─dim byd ond nerfau.
 
(1, 0) 463 'Nawr, madam, dyna ddigon o chwerthin.
(1, 0) 464 Dewch.
(1, 0) 465 Gadewch imi eistedd wrth eich ochr.
(1, 0) 466 Rwyf i wedi delio o'r blaen â gwragedd fel chi─do, droeon─ac â dynion hefyd, o ran hynny─sydd wedi cael effeithio arnynt gan sioc sydyn.
(Comiwnist) 'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi.
 
(Gwraig 1) Nid un o'r ardal yma ydych chi, iefe?
(1, 0) 471 Rwy'n enedigol o'r cylch yma, ac wedi bod 'nôl yma ers pum wythnos bellach.
(1, 0) 472 Doctora yn y "States" 'roeddwn i cyn hynny.
(Athrawes) Yn America?
 
(Athrawes) Mae gen i chwaer yn New York.
(1, 0) 476 Wel─y, fe fûm i'n feddyg yn fy amser ymhob man, fwy neu lai─meddyg cylchynol, fel petai─y─y─peripatetic, mewn ffordd o siarad.
(Gwraig 2) Diws ario'd!─
 
(Gwraig 1) Gwerthu moddion [6] cwac oeddech chi yno, yntefe, medden' hw'?
(1, 0) 481 Cwac, ddwetsoch chi?
(1, 0) 482 Gwrandewch arna' i, fenyw, a dywedwch wrthyn' hw' fod "Barton's Pectoria" wedi gwella mwy o bobl mewn mis yn y "States" nag sydd yn y gymdogaeth hon o ben bwy gilydd iddi.
(Comiwnist) Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.
 
(Comiwnist) Dim byd ond twyll i gyd.
(1, 0) 490 Twyll, iefe?
(1, 0) 491 Gwrandewch arna'i, madam; a chwithau hefyd, mistar.
(1, 0) 492 Mae mwy o rinwedd yn y botel fach hon am hanner coron na dim a gewch chi mewn unrhyw siop gemist am ddwywaith y pris.
 
(1, 0) 494 "Barton's Pectoria─the secret formula obtained at great risk from the priest of a temple in Tibet."
(1, 0) 495 Gwadwch hynny, os gellwch chi.
(1, 0) 496 "Compounded from the rarest health-giving herbs.
(1, 0) 497 Cures coughs, colds and colic."
(Gwraig 2) {Ar ei draws}
 
(Gwraig 1) Mae hi dipyn yn dywyllach nag yr─
(1, 0) 502 Nonsens!
(1, 0) 503 Nonsens!
(1, 0) 504 Dim byd ond nerfau.
(1, 0) 505 "Relieves flatulence, feverishness, and neuralgia.
(1, 0) 506 A wonderful all-round medicament.
(1, 0) 507 Every housewife should have a bottle handy."
(Comiwnist) {Ar ei draws.}
 
(Gwraig 2) Nage─yn |un| ac |un| 'roedden, hw'n mynd.
(1, 0) 523 "The only guaranteed specific antidote to snake-bite and alcoholic poisoning...
(1, 0) 524 Dose: One tablespoonful to be taken three times daily after meals."
(Hen Ŵr) Rhaid imi ymddiheuro am y golau gwael sydd yma.
 
(1, 0) 554 Gan bwyll, gyfaill, gan bwyll.
(Comiwnist) {Wrth y Menywod.}
 
(Comiwnist) 'Rydym ni'r gweithwyr yn hawlio gwell cyflog─miliynau ohonom ni yn ei hawlio am nad oes gan ein hanner ni y modd i fyw arno a magu teulu.
(1, 0) 584 Hear, hear.
(Gwraig 2) 'Ddaw pethau ddim yn well yn eich amser chi na finne, 'machgen i.
 
(Hen Ŵr) Cannwyll y llygad wedi cyfyngu.
(1, 0) 607 Wel─wel, yr─wel, wel─wel.
 
(Hen Ŵr) Bu fy ysgrifenyddes mor garedig â chydweithio â mi yn hyn o beth.
(1, 0) 666 Wel─hm─wel, fel un doctor wrth ddoctor arall─os eisiau prawf oedd arnoch chi, syr─ rwy'n fodlon.
(Athrawes) Rwyf innau'n fodlon, gan fod achos rhesymol gwyddonol am y perfformans, a chwithau'n ymddangos yn ŵr bonheddig.
 
(Di-waith) Nos da, syr,─a diolch.
(1, 0) 703 We l... wel... y... nos da syr.
(1, 0) 704 Y... fe wyddom ni'r doctoriaid beth yw gorfod talu'n ddrud am ein harbrofion.