Y Tŷ ar y Rhos

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Gwelir yr Hen Ŵr yn darllen wrth ei ddesg, a llyfrau trymion o'i gwmpas.
(1, 0) 2 Y mae'n ffwdanu, ac yn aflonydd wrth ddarllen.
(1, 0) 3 Cyfyd.
(1, 0) 4 Ei Ysgrifenyddes yn eistedd mewn cadair yn agos i'r tân.
(1, 0) 5 Merch ifanc fywiog ydyw hi.
(Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body..."
 
(Hen Ŵr) "The whole temperature of the body."
(1, 0) 10 Enter y Gwas o'r dde─yntau'n go hen, ac yn meddu ar ryw hynodrwydd yn ei ymddygiad a'i ymarweddiad a wna i bobl sylwi arno.
(1, 0) 11 Y mae ganddo'r teip hwnnw o wyneb a gysylltir â breuddwyd drwg; ac y mae ef mor beiriannol a llyfn ei ddull o fynd a dod ag yw bwtler da.
(Gwas) A fydd arnoch chi eisiau rhywbeth yn rhagor heno, syr?
 
(Gwas) Hanner awr wedi deg.
(1, 0) 18 Sŵn cloch y drws yn canu.
(Hen Ŵr) Pwy yn y byd all fod yma yr amser hyn o'r nos?
 
(Gwas) Esgusodwch fi, syr.
(1, 0) 21 Exit i'r dde.
(1, 0) 22 Yr Hen Ŵr yn troi'n ôl at ei ddarllen.
(Hen Ŵr) "Alter the whole temperature of the body."
 
(Hen Ŵr) Y mae'r corff yn prysur gael ei goncro, a gwyddoniaeth yn dwyn ei gyfrinachau i olau dydd,─ ond amdanom ni sy'n chwilio cyfrinachau'r meddwl, yr ydym hanner ein hamser yn bwrw ein pennau yn erbyn wal, eisiau gallu profi ein damcaniaethau.
(1, 0) 30 Daw'r Gwas yn ôl.
(Hen Ŵr) Wel?
 
(Hen Ŵr) Yma.
(1, 0) 53 Exit y Gwas.
(1, 0) 54 Yr Hen Ŵr yn codi'r llyfr y bu'n ei ddarllen.
(1, 0) 55 Y mae'n gyffrous yn mynd ymlaen â darllen eto.
(Hen Ŵr) "... alter the whole temperature of the body."─
 
(Hen Ŵr) "... takes away stomach... thickens the blood... and makes them weary of their lives, cry out, howl and roar for very anguish of their souls."
(1, 0) 63 Tra dywed ef y frawddeg olaf, clywir cynnwrf o'r tu allan i'r ystafell yn nesáu.
(Ysgrifenyddes) Brysiwch.
 
(Hen Ŵr) Go lew wir.
(1, 0) 73 Exeunt i'r chwith.
(1, 0) 74 Enter cwmni'r bws ar rewi, a'r Gwas yn eu harwain.
(1, 0) 75 Y mae golwg ofnus, ddrwgdybus ar y Ddwy Wraig.
(1, 0) 76 Ni wellheir pethau pan welant benglog ar ford fach sydd wrth eu cadeiriau.
(Gwas) {Yn gweld nad yw ei feistr yn yr ystafell.}
 
(Gwas) Eisteddwch i lawr i gyd a gwnewch y gorau o bethau fel y maen' hw'.
(1, 0) 90 Aethai'r Dyn Di-waith yn syth at gadair freichiau pan ddaeth ef i mewn.
(1, 0) 91 Nesaodd y Ddwy Wraig at ei gilydd i ben arall yr ystafell gan edrych yn graff ar y lle; a thra bo'r gwas yn gweld bod y lleill yn setlo i lawr, ac yn cario o'r neilltu y benglog, etc., y mae'r ddwy yn ymgomio â'i gilydd.}
(Gwraig 1) Dyma'r lle, 'rwy'n dweud wrthyt ti.
 
(Cwac) Pan own i yn y "States"─
(1, 0) 107 Mae'r Dyn Di-waith yn bwyta cnau mwnci yn ddi-stop.
(1, 0) 108 Taflu'r plisg i gyfeiriad y tân 'nawr ac yn y man.
(1, 0) 109 Sieryd heb godi ei ben.
(Di-waith) Cyfforddus!
 
(Cwac) Edyn buan ganddo sydd..."
(1, 0) 116 Hymia'r gweddill.
(Athrawes) {Wrth y Gwas.}
 
(Comiwnist) Beth ych chi'n feddwl?
(1, 0) 150 Y Ddwy Wraig yn edrych ar ei gilydd.
(Athrawes) Wel, dewch, dywedwch eich meddwl, da chi.
 
(Di-waith) Rwy'n cofio fel ddoe y diwrnod y daethon' nhw' ag ef tua thre,─ac y mae rhyw felltith yn dynn wrth fy sodlau innau fyth o'r diwrnod hwnnw.
(1, 0) 163 Fel y gellid disgwyl, cafodd yr hanes gryn effaith ary Ddwy Wraig.
(1, 0) 164 Hobnobiant â'i gilydd, a'u dychryn yn eglur ar eu hwyneb, ac yn eu hystumiau.
(1, 0) 165 Gwrando'n barchus a wna'r lleill.
(Athrawes) Fachgen ifanc, 'dych chi'n credu dim yn y stori wallgof yma, gobeithio, beth bynnag yw hi.
 
(Gwraig 2) Dewch inni gael mynd ma's o'r tŷ yma.
(1, 0) 172 Mae hi'n codi.
(1, 0) 173 Enter yr Hen Ŵr─yn sydyn ac yn ddistaw.
(Hen Ŵr) Nos da ichwi i gyd.
 
(Hen Ŵr) Nos da ichwi i gyd.
(1, 0) 175 Distawrwydd.
(1, 0) 176 Y dynion yn codi.
(1, 0) 177 "Nos da syr," etc.
(Hen Ŵr) Eisteddwch, da chi, a gwnewch eich hunain mor gysurus ag y gellwch.
 
(Hen Ŵr) 'Roedd yn oer arnoch chi allan heno─bron mor oer â'r bedd.
(1, 0) 198 Edrych ar y Ddwy Wraig.
(1, 0) 199 Exit i'r dde.
(Y Ddwy Wraig) O!
 
(Gwraig 1) Rych chi wedi clywed amdano fe, on'd ydych chi'?
(1, 0) 229 Cwac a'r Comiwnist yn amneidio.
(Athrawes) Ydym, ydym.
 
(Gwraig 2) B'le?
(1, 0) 261 Pandemoniwm cyffredinol.
(1, 0) 262 "Dyma hi," "Nage," "Dyna hi dan y gadair," etc.
(1, 0) 263 Y Ddwy Wraig yn ceisio ei tharo â'u basgedi, y Comiwnist â'i gap, y Cwac â'i draed.
(1, 0) 264 Cododd y Di-waith ei goesau dros fraich y gadair, dyna i gyd.
(1, 0) 265 ~
(1, 0) 266 Yr Athrawes, cyn gynted ag y clywodd sôn am lygoden, yn gwichian.
(1, 0) 267 Neidio i ben eì chadair a thynnu ei dillad ati.
(1, 0) 268 Gwichian yn ddi-stop.
(1, 0) 269 Yna chwerthin.
(1, 0) 270 Tipyn o sterics.
(1, 0) 271 Hyn yn tynnu sylw'r lleill.
(1, 0) 272 Llewygu ym mraich y Cwac.
(Cwac) {Wrth ei derbyn.}
 
(Cwac) "Dan fy maich─"
(1, 0) 275 Y Comiwnist yn ei helpu ef i'w chario, a'r Ddwy Wraig yn paratoi'r soffa.
(1, 0) 276 Rhoi'r Athrawes arni.
(1, 0) 277 Tynn y Cwac ei fflasg allan a rhoi dracht iddi, a'r Comiwnist yn chwifio hances goch o flaen ei hwyneb.
(1, 0) 278 Mae'r Ddwy Wraig yn hofran o'i chwmpas ganrwbio'i dwylo a cheisio gweinyddu arni.
(1, 0) 279 Ar ôl edrych ennyd ar y pandemoniwm, rhoes y Di-waith ei sylw i'r cwdyn cnau unwaith eto.
(1, 0) 280 Sŵn cyffredinol.
(Athrawes) {Yn dadebru.}
 
(Cwac) Ie, cymerwch hi gan bwyll 'nawr am bum munud.
(1, 0) 301 Aeth y Ddwy Wraig 'nôl i'w lle, a buont yn clebran am y digwyddiad â'i gilydd.
(1, 0) 302 Mae'r Comïwmnst yn awr yn galw eu sylw.
(Comiwnist) Wel, chi'ch dwy, i fynd 'nôl at eich stori chi─beth am y trydydd corff?
 
(Comiwnist) Hei!
(1, 0) 314 Mynd ymlaen â chanu'n hanner cwsg a wna'r athrawes.
(Cwac) Hei, Miss.
 
(Cwac) Hei, Miss.
(1, 0) 316 Canu o hyd.
(1, 0) 317 Â'r Comiwnist ymlaen ati a'i hysgwyd.
(Athrawes) {Yn codi ar ei heistedd, â'i llygaid ynghau.}
 
(Cwac) "It never came a wink too soon."
(1, 0) 326 Dechreua'r Athrawes chwerthin, a'r Cwac yntau gyda hi.
(1, 0) 327 Y Ddwy Wraig yn amneidio ar ei gilydd ei bod hi'n feddw.
(1, 0) 328 Mae'r Cwac yn symud i eistedd ar y soffa gyda hi.
(1, 0) 329 Y Comiwnist yn tynnu'r "Daily Worker" o'i boced, ac yn setlo lawr i'w ddarllen.}
(Gwraig 1) Diws ario'd, edrychwch.
 
(Gwraig 1) Diws ario'd, edrychwch.
(1, 0) 331 Enter yr Ysgrifenyddes o'r chwith, yn sgrifennu ar dabled ac yn edrych o'i hamgylch.
(1, 0) 332 Gesyd ei phensil y tu ôl i'w chlust.
(1, 0) 333 Dweud "t-t-t" yn anfoddog, a cherdded at y mur.
(1, 0) 334 Mynd drwy ystumiau rhoddi darlun i hongian yn gymwys, ond nid oes darlun yno.
(1, 0) 335 Cerdded i ffrynt y llwyfan.
(1, 0) 336 Baglu.
(Ysgrifenyddes) Bydd ddistaw, pws,─bydd ddistaw.
 
(Ysgrifenyddes) Bydd ddistaw, pws,─bydd ddistaw.
(1, 0) 338 Nid oes cath.
(1, 0) 339 Cwmni'r bws yn chwilio.
(Ysgrifenyddes) O, 'r teliffon yna!
 
(Ysgrifenyddes) Canu, canu, drwy'r dydd yn ddistop!
(1, 0) 342 Nid oes teliffon.
(1, 0) 343 Â at y ddesg fel petai i'w ddefnyddio, heibio i'r Ddwy Wraig.
(Ysgrifenyddes) Hylo.
 
(Ysgrifenyddes) O, peidiwch─peidiwch â dweud wrtho.
(1, 0) 352 Y mae'n wylo erbyn hyn.
(1, 0) 353 Gesyd y "receiver" anweledig yn ôl, a symud oddi wrtho heb dynnu ei llygaid i ffwrdd.
(1, 0) 354 Anwybydda'n hollol y ffaith fod y lleill yn yr ystafell.
(1, 0) 355 Mae ei chefn at y drws yr aeth yr Hen Ŵr allan drwyddo, ac y mae hi eto'n ysgrifennu'n ddyfal ar y dabled, pan ddaw ef i mewn.
(1, 0) 356 Gwêl cwmni'r bws ef.
(Hen Ŵr) A, dyma chi.
 
(Hen Ŵr) Dyma bobl wedi dod i roi tro amdanom.
(1, 0) 366 Yr Ysgrifenyddes yn edrych oddi amgylch.
(Ysgrifenyddes) Pobl?
 
(Hen Ŵr) Does neb─
(1, 0) 380 Â tuag ati wrth siarad.
(1, 0) 381 Hithau'n rhoi sgrech ac yn rhuthro allan i'r chwith.
(1, 0) 382 Mae'r cwmni erbyn hyn ar eu traed, ac wedi delwi gan syfrdandod.
(Hen Ŵr) Esgusodwch fi.
 
(Hen Ŵr) Esgusodwch fi.
(1, 0) 384 Exit.
(1, 0) 385 Eiliad o ddistawrwydd, yna symud.
(1, 0) 386 Mae'r Ddwy Wraig yn casglu eu pethau at ei gilydd yn ffwdanus.
(Gwraig 1) Dyna ddigon i fi, ta' beth.
 
(Gwraig 1) O'r gore, arhoswch.
(1, 0) 404 Y ddwy'n martsio'n bendant at y drws i'r dde a'i agor.
(1, 0) 405 Y Gwas yn eu cwrdd yno wyneb yn wyncb yn cario hambwrdd a chwpanau te.
(Gwas) Mae'n ddrwg gen i fod cyhyd.
 
(Gwas) Oeddech chi wedi blino disgwyl?
(1, 0) 408 Sefyll yn stond.
(1, 0) 409 Hwythaw'n cilio 'nôl, ac yn eistedd yn anesmwyth ar y cadeiriau lle'r oeddent o'r blaen. Mae'r Gwas yn mynd â'r te o gwmpas.
(1, 0) 410 Dechrau gyda'r Athrawes.
(1, 0) 411 "Diolch," etc., "Siwgr?", "Llaeth?"
(1, 0) 412 Y Cwac yn cymryd y cyfle i gael llwnc o'i fflasg, ac yna ei phasio i'r Comiwnist: "Diolch, frawd."}
(Cwac) {Wrth y Gwas.}
 
(Gwas) {Winc.}
(1, 0) 422 Exit.
(Gwraig 2) Beth oedd e'n feddwl?
 
(Gwraig 2) Peidiwch.
(1, 0) 430 A'r Athrawes ymlaen â'i yfed.
(Cwac) Beth wnawn ni, fenyw?
 
(Gwraig 1) Arhoswch.
(1, 0) 434 Cerdda at aspidistra wrth y mur, ac arllwys ei the.
(1, 0) 435 Yna mae Gwraig 2 yn gwneud yr un peth.
(Comiwnist) Lot o sothach.
 
(Comiwnist) Does dim byd o'i le ar y te.
(1, 0) 438 Mae'r Di-waith wedi gorffen ei gwpanaid, ac yn rhoi ei gwpan ar y llawr, a'i setlo ei hunan yn ôl yn gysurus yn ei gadair.
(Gwraig 1) O'r gorau, 'machgen i, cerwch ymlaen â'i yfed─y tri ohonoch chi.
 
(Gwraig 1) Cerwch ymlaen, yfwch e'─bawb ohonoch chi.
(1, 0) 443 Mae golwg annifyr ac ansicr ar y Cwac.
(1, 0) 444 Â ymlaen at yr aspidistra─yn ddibwrpas hollol, gellid meddwl.
(1, 0) 445 Wedi cyrraedd ato, mae'n amlwg bod rhywbeth yn peri syndod iddo.
(Cwac) Mae─mae clefyd ar y planhigyn hwn.
 
(Gwraig 2) Beth ddaw ohonom ni?
(1, 0) 452 Mae'r Cwac 'nawr yn arllwys ei gwpanaid, yn ddigywilydd ac yn agored.
(1, 0) 453 Y Comiwnist yn teimlo'n annifyr.
(1, 0) 454 Nid yw'r Di-waith yn symud o gwbl.
(1, 0) 455 Dechreua'r Athrawes chwerthin eto braidd yn "hysterical" ar y soffa.
(1, 0) 456 Mae teimlad o straen yn yr ystafell nes bod y Cwac yn ymroi i liniaru tipyn ar nerfau'r lleill.
(Cwac) Wel... wel... peidiwch â phryderu, gyfeillion... peidiwch â phryderu, does gennym ni ddim sicrwydd bod dim byd o'i le ar y te─hynny yw, does dim yn sicr, yn hollol sicr, 'oes e?... hynny yw, efallai y bydd popeth yn iawn yn y man─mae popeth yn sicr o fod yn iawn─peidiwch â phryderu─yn hollol sicr o fod yn iawn.
 
(Comiwnist) 'Rych chi'n siarad fel doctor, ac eto rych chi'n ddieithr i mi.
(1, 0) 468 Mae'r Comiwnist yn setlo i lawr unwaith eto i ddarllen y "Daily Worker."
(Gwraig 1) I minnau hefyd.
 
(Cwac) Gwrandewch arna' i, fenyw, a dywedwch wrthyn' hw' fod "Barton's Pectoria" wedi gwella mwy o bobl mewn mis yn y "States" nag sydd yn y gymdogaeth hon o ben bwy gilydd iddi.
(1, 0) 483 Tynnu potel o'r "Pectoria" o'i boced.
(Comiwnist) Gwaith sâl, frawd,─byw ar dwyllo pobl.
 
(Cwac) Mae mwy o rinwedd yn y botel fach hon am hanner coron na dim a gewch chi mewn unrhyw siop gemist am ddwywaith y pris.
(1, 0) 493 Y mae'n codi hwyl, ac o hyn ymlaen yn areithio fel y gwnâi yn y ffeiriau ar ei deithiau gwerthu moddion.
(Cwac) "Barton's Pectoria─the secret formula obtained at great risk from the priest of a temple in Tibet."
 
(Gwraig 2) Nage─yn |un| ac |un| 'roedden, hw'n mynd.
(1, 0) 518 Dechreuasai'r golau losgi'n wannach cyn y cyfeiriad cyntaf ato.
(1, 0) 519 Aeth yn raddol yn wannach wannach.
(1, 0) 520 Mae'r Cwac erbyn hyn yn gorfod cyfaddef wrtho'i hunan fod rhywbeth o le.
(1, 0) 521 Â ymlaen yn beiriannol iawn â'i areithio.
(1, 0) 522 Yna arafu a stopio.
(Cwac) "The only guaranteed specific antidote to snake-bite and alcoholic poisoning...
 
(Cwac) Dose: One tablespoonful to be taken three times daily after meals."
(1, 0) 525 Rhydd Gwraig 2 sgrech cyn iddo orffen─
(1, 0) 526 Mae'r Hen Ŵr wedi ymddangos yn y drws.
(Hen Ŵr) Rhaid imi ymddiheuro am y golau gwael sydd yma.
 
(Hen Ŵr) Fe ddaw 'nôl yn y man.
(1, 0) 531 Daw'r golau'n gryfach.
(Hen Ŵr) A, dyna hi'n goleuo eto.
 
(Hen Ŵr) Esgusodwch fi.
(1, 0) 545 Exit i'r chwith.
(1, 0) 546 Distawrwydd.
(1, 0) 547 Gwel Gwraig 2 fod y Di-waith wedi mynd yn swp yn y gadair.
(1, 0) 548 Sgrech, a phwyntio.
(1, 0) 549 Rhuthra'r Cwac a'r Comiwnist ato, ar ôl edrych ar ei gilydd.
(1, 0) 550 Agor ei grafat; rhwbio'i ddwylo; slapio'i wyneb, etc.
(1, 0) 551 Yntau'n dihuno, ac yn ymladd ei ffordd o'r gadair.
(Di-waith) Be felltith 'rych chi'n ei wneud?
 
(Gwraig 2) Y mae'r cwpanaid te wedi ei sobri hi, beth bynnag.
(1, 0) 564 Mae'r Di-waith yn eistedd nôl yn ei gadair, ac yn paratoi am nap pellach.
(Comiwnist) Rych chi'r menywod yn disgwyl braidd gormod o barch.
 
(Comiwnist) Gallem hawlio llais yn llywodraeth ein gwlad.
(1, 0) 571 Y mae yn ei hwyliau erbyn hyn.
(Athrawes) 'Rych chi'r Comiwnistiaid yn rhy fyrbwyll─yn eich cario eich hunain ymlaen ar lanw eich huodledd, ac yn gorffen meddwl ar ôl y frawddeg neu ddwy gyntaf.
 
(Comiwnist) Rhaid rhoddi i lawr y fath lywodraethu unwaith ac am byth, a chael yn ei le lywodraeth fydd yn gofalu am ddaioni'r bobl.
(1, 0) 591 Ac yntau yn ei hwyliau tua therfyn yr araith, y mae'r golau yn diffodd glec, a sgrech hir yr Ysgrifenyddes yn melltennu drwy'r tywyllwch.
(1, 0) 592 Distawrwydd hollol─yna hwb-wb yn yr ystafell.
(1, 0) 593 Daw'r golau nôl.
(1, 0) 594 Mae'r Hen Ŵr yn y drws.
(1, 0) 595 Pawb yn sefyll yn stond─ond bod y Di-waith yn dal i gysgu.
(1, 0) 596 Mae'r Hen Ŵr yn rhuthro í mewn, a'r Ysgrifenyddes gydag ef.
(1, 0) 597 Â ef o amgylch y Menywod, gan deimlo eu pyls, eu talcen, edrych eu llygaid; mae'r Cwac a'r Comiwnist yn ffyrnig ar ôl y syfrdandod cyntaf.
(1, 0) 598 Drwy'r adeg gwaedda'r Hen Ŵr ei gasgliadau, a'r Ysgrifenyddes yn eu copio ar ei thabled.)
(Hen Ŵr) Pyls cyflym─cant.
 
(Gwraig 1) A chael gêm â ni 'roeddech chi, iefe, meiledi, yn actio mor benwan?
(1, 0) 637 Bu'r Ysgrifenyddes yn sefyll yn ddistaw o'r neilltu, yn copio'n brysur drwy'r adeg, heb godi ei phen.
(1, 0) 638 Yn awr, edrych o amgylch, ac a'r ddwy fenyw yn ymosod arni mor fygythiol, y mae fel petai'n ansicr beth i'w wneud.
(1, 0) 639 Sieryd yr Hen Ŵr â hi.
(Hen Ŵr) Byddai'n dda gen i gael y casgliadau yma wedi eu teipio ar unwaith.
 
(Comiwnist) Wedi'r cwbwl, frawd, does dim drwg wedi'i wneud...
(1, 0) 673 Bu'r Di-waith yn eistedd i fyny yn ei gadair wrth y tân yn bwyta cnau drwy'r adeg.
(1, 0) 674 Mae'r Ddwy Wraig mewn ymgom dawel, ddig â'i gilydd.
(1, 0) 675 Pan sieryd y Comiwnist, dyma eu dicter yn fflamio.
(Gwraig 1) Dim drwg, wir?
 
(Gwraig 2) 'Dych chi ddim yn credu, efallai, fod i ddyn roi ei law ar fenyw ddesant yn ddrwg bellach?
(1, 0) 678 Y ddwy 'nawr yn ymosod ar yr Hên Ŵr â'u basgedi a'u siolau.
(Gwraig 1) Cym'rwch honna am eich trafferth, Mr. Seicoleg.
 
(Gwraig 1) A honna.
(1, 0) 682 Teifl y siôl am ei ben.
(1, 0) 683 Mae'r ddwy'n baglu ar ei draws ac â'u pwysau wedi ei fwrw 'nôl yn erbyn y soffa, lle y lled-orwedd.
(1, 0) 684 Mae'r lleill yn edrych ar ei gilydd, heb wybod yn iawn sut i ymyrryd.
(1, 0) 685 Edrychodd y Di-waith ar yr ymosod, ac yna, mynd 'nôl at ei gnau.
(1, 0) 686 Enter y Gwas.
(1, 0) 687 Edrych yn syn.
(Gwas) Mae'r bws wedi cyrraedd.
 
(Gwas) Mae'r bws wedi cyrraedd.
(1, 0) 689 Y Ddwy Wraig yn dechrau casglu eu pethau ar unwaith.
(Gwraig 1) Diolch i'r brenin am hynny.
 
(Gwraig 1) Bant â thi.
(1, 0) 698 Exeunt, yn gadael yr Hen Ŵr yn llipa ar y soffa─llyfr Robert Burton dan ei gesail o hyd.
(1, 0) 699 Edrych y Gwas arno.
(1, 0) 700 Yna â allan yn fwtleraidd ar ôl y Ddwy Wraig.
(1, 0) 701 Ffwdan cyffredinol y lleill yn paratoi i ymadael.
(Di-waith) Nos da, syr,─a diolch.
 
(Athrawes) Mae hi |mor| ddrwg gen i am ddiffyg dealltwriaeth y ddwy chwaer─heb ymdeimlo â phethau |mawr| bywyd, wyddoch chi─
(1, 0) 708 Exit, a'r Cwac yn mynd allan y tu cefn iddi.
(Comiwnist) Nos da, frawd...
 
(Hen Ŵr) Gwell eu cael o'ch ochr nag yn eich erbyn.
(1, 0) 715 Sylweddola fod y llyfr dan ei gesail o hyd.
(1, 0) 716 Edrych arno.
(1, 0) 717 Dechrau ei agor.
(1, 0) 718 Ei daflu oddi wrtho i'r llawr.
(Hen Ŵr) "... move the soul and spirits... tragical alarms... hideous noise..."
 
(Hen Ŵr) Hw-w!
(1, 0) 721 Enter y Gwas.
(Gwas) A fydd arnoch chi eisiau rhywbeth yn rhagor heno, syr?
 
(Gwas) A fydd arnoch chi eisiau rhywbeth yn rhagor heno, syr?
(1, 0) 723 Try'r Hen Ŵr ei ben yn araf ac edrych arno.
(Hen Ŵr) {Yn syn ac yn bwyllog.}
 
(Hen Ŵr) Rwy'i wedi cael hen ddigon am heno.
(1, 0) 728 LLEN.