Yr Unig Fab

Ciw-restr ar gyfer Griffith

 
(1, 0) 6 Tipin chwanag o'r llaeth 'na, Gwen.
(Gwen) 'Does yna ddim yn y Jwg?
 
(Gwen) 'Does yna ddim yn y Jwg?
(1, 0) 8 Wela' i ddim, ond mae o'n haws i weld na'r menyn ar y frechdan yma.
(1, 0) 9 (Gwen yn tywallt y llaeth).
(Gwen) Sut ffair gawsoch chi heiddiw?
 
(Gwen) Sut ffair gawsoch chi heiddiw?
(1, 0) 11 'Roedd gofyn reit dda ar y gwarthaig.
(Gwen) Gawsoch chi bris go dda am Mwynig?
 
(Gwen) Gawsoch chi bris go dda am Mwynig?
(1, 0) 13 Mi ges bris go lew, ond fydd o ddim llawar ar gyfar y rhent.
(Gwen) 'Rhen Fwynig druan!
 
(Gwen) Llawar dendiodd John bach arni hi cyn iddo fo fynd i'r Mericia.
(1, 0) 17 Mi grefis i ddigon arno fo aros adra i ffarmio, ond 'doedd dim yn tycio.
(Gwen) Mi fydda yn dda gin i yn fy nghalon i weld o yma eto, ond mae'n debig i fod o yn well allan yno.
 
(Gwen) Mi fydda yn dda gin i yn fy nghalon i weld o yma eto, ond mae'n debig i fod o yn well allan yno.
(1, 0) 19 'Rodd i lythyr o'n bur galonnog.
(1, 0) 20 Ond mae misoedd ar hynny.
(Gwen) Tair blynadd i heno yr aeth o i ffwrdd.
 
(Gwen) 'Tydyn nhw ddim gwaeth na newydd.
(1, 0) 25 Tybad i fod o wedi tyfu llawar?
(Gwen) Ofn sy arna i y bydd o yn ormod o swell i wisgo'r rhein.
 
(Gwen) Amsar difir oedd hi pan oedd o'n fachgan a Jane yn dechra cerddad.
(1, 0) 29 Lle mae Jane?
(1, 0) 30 Wyr hi 'mod ì wedi dwad adra o'r ffair?
(Gwen) Yn y siambar yn trin i het.
 
(Jane) Ydach chi wedi peidio blino, 'nhad?
(1, 0) 41 Flinis i ddim gormod i anghofio fy negas, 'ngenath i.
 
(1, 0) 43 Dyma fo, y ruban glas neisia oedd yn London Hows.
(Jane) Diolch yn fawr i chi, nhad.
 
(Gwen) Does neb mor byrticilar yn yr ardal hefo rubana a Jane.
(1, 0) 50 'Does neb yn gwisgo mor smart, nag oes, 'ngeneth i?
(Gwen) Peidiwch a'i gwirioni hi, mae hi'n colli gormod o'i hamsar hefo'r ffasiyna esys.
 
(Jane) Diolch yn fawr i chi 'nhad.
(1, 0) 57 Peidiwch a bod mor siarp hefo'r lodas.
(Gwen) Rhaid i mi fod, ne mi fydd yn siwr o gael i dyfetha gin i thad.
 
(Gwen) Rhaid i mi fod, ne mi fydd yn siwr o gael i dyfetha gin i thad.
(1, 0) 59 'Roeddach chi'n wahanol iawn hefo John.
(Gwen) A chitha 'n i ddwrdio fo'n ddibaid nes yr aeth o i ffwrdd.
 
(Gwen) A chitha 'n i ddwrdio fo'n ddibaid nes yr aeth o i ffwrdd.
(1, 0) 61 'Chydig fudd geir drwy agor hen friwia.
(Gwen) Peidio i hagor nhw yn y dechra oedd isio.
 
(Gwen) Peidio i hagor nhw yn y dechra oedd isio.
(1, 0) 63 O'r gora, tawad y calla.
(Gwen) 'Rydw i am 'neud.
 
(Gwen) Gywsoch chi ddigon o fwyd?
(1, 0) 66 Do.
(Gwen) Be ddeudodd Robat 'y mrawd?
 
(Gwen) Be ddeudodd Robat 'y mrawd?
(1, 0) 69 Mi wrthododd yn bendant yn helpu ni efo'r rhent, er i fod o wedi cael pris ucha'r ffair am i fustych.
(Gwen) Un cwta ydi Robat.
 
(Gwen) Beth newch chi rwan?
(1, 0) 72 Mynd ar ofyn gŵr y siop am wn i.
(Gwen) A'r bil blawd heb i dalu?
 
(Gwen) A'r bil blawd heb i dalu?
(1, 0) 74 Rhaid i cael nhw o rwla.
(1, 0) 75 Does yma mo'r hannar.
(Gwen) A'r moch ddim yn agos yn barod i gwerthu.
 
(Gwen) A'r moch ddim yn agos yn barod i gwerthu.
(1, 0) 77 Dwad rwsut bydd y rhent bob blwyddyn.
(Gwen) Wn i yn y byd o ble 'leni.
 
(Gwen) Wn i yn y byd o ble 'leni.
(1, 0) 79 Gofid sydd i gael o hyd.
(Gwen) Beth arall sy'n ych poeni chi?
 
(Gwen) Beth arall sy'n ych poeni chi?
(1, 0) 81 Gweld mab y Fron Ganol yn feddw yn y ffair.
(Gwen) Pa help sy gynnoch chi i hwnnw?
 
(Gwen) Pa help sy gynnoch chi i hwnnw?
(1, 0) 83 Dim.
(1, 0) 84 Ond y fi geith y gwaith o'i geryddu o—y peth anhowsa yn y byd gin i neud.
(Gwen) Rhaid ceryddu os torrodd o'r rheola.
 
(Gwen) Waeth mab pwy ydi o.
(1, 0) 87 Cofiwch am i dad a'i fam o.
(Gwen) Ma Margiad i fam yn ddigon pen-uchal a lartsh.
 
(Gwen) Mi gafodd lawar |visit| yma, ond ches i rioed wadd i'r Fron Ganol i'r |visit|, er fod rhai heb fod ddim gwell na minna wedi cael.
(1, 0) 90 Peth bychan iawn ydi peth fel'na.
(1, 0) 91 Ond peth mawr fydda cychwyn y bachgan ar y ffordd lydan.
(Gwen) Lol i gyd.
 
(Gwen) Be mae rhiw hogia fel Ned Parri yn i hitio?
(1, 0) 94 Cofiwn am i rieni o hefyd.
(Gwen) Na, 'n wir, isio tynnu Margiad i lawr dipin sy'.
 
(Gwen) Mi fydd yn iechid mawr iddi hi.
(1, 0) 97 Peidiwch a bod yn wamal hefo petha difrifol, Gwen.
(1, 0) 98 Be pe basa un o'n plant ni wedi cychwyn i'r cyfeiriad chwith?
(Gwen.) Un o mhlant i 'n wir.
 
(Gwen.) Does dim perig.
(1, 0) 105 Pwy sy 'na?
(1, 0) 106 Dowch i miawn o'r drws!
(Gwen) Pwy wyt ti?
 
(Gwen) John, y machgan bach i.
(1, 0) 112 Tramp wela i, budur a charpiog.
(Gwen) Peidiwch a bod yn galad, Griífith, cofiwch ma'ch mab ych hun ydi o.
 
(Gwen) Peidiwch a bod yn galad, Griífith, cofiwch ma'ch mab ych hun ydi o.
(1, 0) 114 Cheith dim tramp fod yn fab i mi.
(1, 0) 115 Dos allan i'r ffosydd, grwydryn!
(John) Rhowch noddfa am chydig.
 
(Gwen) Cha nhw ddim dy ddal di, machgan i, tra bydd anadl yn dy fam.
(1, 0) 122 Fy mab yn droseddwr! yn ffoi rhag cosp cyfraith i wlad!
(John) Syrthio i gwmpeini drwg ddaru mi, ar ol glanio yn Lerpwl.
 
(Gwen) Wyddwn i o'r gora ma rhiw hen gnafon odd wedi hudo'r hogyn druan.
(1, 0) 125 Be sy i neud?
(1, 0) 126 Y Nefoedd i hunan wyr.
(John) Ciddiwch fi'n rhwla nes bydd y plisman wedi mynd heibio.
 
(Jane) John annwyl, be sy wedi digwydd?
(1, 0) 136 Rwan, distewch, gael imi i glywad o.
(1, 0) 137 Ma'n debig fod gynno fo stori reit ddel.
(Gwen) Danghoswch chydig o deimlad tad, Griffith!
 
(John) Mi ges fy hun, riwdro yn y nos, yn crwydro'r strydodd, bron rhewi gin annwyd, heb ddim ond y carpia yma am dana.
(1, 0) 143 Fy mab yn feddwyn a chrwydryn!
(1, 0) 144 Ergid drom i galon tad ydi dy stori di, John.
(John) 'Rydw i bron a thagu isio diod.
 
(Jane) Tydi John ddim mor ddrwg wedi'r cwbwl, 'nhad.
(1, 0) 152 Am feddwi ma'r heddgeidwaid ar d'ol di?
(Jane) Y plisman ar ych ol, John?
 
(John) Mi clywis o yn chwibianu, ac mi glywis leisia erill hefo fo.
(1, 0) 166 Ydi dy stori di'n berffaith wir?
(Gwen) 'Ddeudodd o rioed gelwydd, beth bynnag ydi i feia fo.
 
(Gwen) Mi nawn ein gora, John bach.
(1, 0) 172 Chweilith y cwnstabl byth mo'r stori.
(Gwen) Os na chweilith i rieni o'r stori, 'does dim disgwyl i ddyn diarth neud.
 
(Gwen) Os |dim| teimlad ynoch chi, Griffith?
(1, 0) 177 Os, Gwen, nes mae o bron a fy llethu, ond sut cysona i fy nheimlad fel tad a 'nledswydd fel dyn?
(1, 0) 178 Mi welaf o 'mlaen f'unig fab, mi wela hefyd droseddwr cyfraith 'y ngwlad.
(1, 0) 179 Plentyn yn gofyn tosturi a lleidar yn erfyn help dyn gonast i guddio 'i weithredodd.
(John) Gwelwch, mi welwch ddyn syrthiodd i fedd-dod, ond nid yrioed i ladrad.
 
(John) Ydach chi'n 'y nghweilio i?
(1, 0) 183 Ydw, John; ond be na' i?
(Gwen) Pwy sy 'na?
 
(Brown) Constable Brown o'r |County Police|.
(1, 0) 191 Dowch i miawn, Mr. Brown.
(Brown) Ma clo ar y drws.
 
(Brown) Mi lwyddodd dau o honyn nhw o ddianc, ond ma'r trydydd wedi ymgiddio yn y bildings yma.
(1, 0) 202 Ydach chi'n i nabod o, Mr. Brown?