a1
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1
Griffith

Tipin chwanag o'r llaeth 'na, Gwen.

Gwen

'Does yna ddim yn y Jwg?

Griffith

Wela' i ddim, ond mae o'n haws i weld na'r menyn ar y frechdan yma. (Gwen yn tywallt y llaeth).

Gwen

Sut ffair gawsoch chi heiddiw?

Griffith

'Roedd gofyn reit dda ar y gwarthaig.

Gwen

Gawsoch chi bris go dda am Mwynig?

Griffith

Mi ges bris go lew, ond fydd o ddim llawar ar gyfar y rhent.



Griffith yn estyn pwrs í Gwen, a hithau'n ei roi yn nror y dresser.

Gwen

'Rhen Fwynig druan! Llawar dendiodd John bach arni hi cyn iddo fo fynd i'r Mericia.

Griffith

Mi grefis i ddigon arno fo aros adra i ffarmio, ond 'doedd dim yn tycio.

Gwen

Mi fydda yn dda gin i yn fy nghalon i weld o yma eto, ond mae'n debig i fod o yn well allan yno.

Griffith

'Rodd i lythyr o'n bur galonnog. Ond mae misoedd ar hynny.

Gwen

Tair blynadd i heno yr aeth o i ffwrdd. Mi fydda i yn eirio 'i ddillad o'n ofalus pan ddaw y dydd heibio! (Yn troi at y dillad.) 'Tydyn nhw ddim gwaeth na newydd.

Griffith

Tybad i fod o wedi tyfu llawar?

Gwen

Ofn sy arna i y bydd o yn ormod o swell i wisgo'r rhein. Ond mae 'i brwsio nhw a'i troi fel hyn yn rhoi cysur mawr i mi. Amsar difir oedd hi pan oedd o'n fachgan a Jane yn dechra cerddad.

Griffith

Lle mae Jane? Wyr hi 'mod ì wedi dwad adra o'r ffair?

Gwen

Yn y siambar yn trin i het. Mae'r ffasiwn wedi newid eto. (Yn gwaeddi.) Jane!

Jane

(Yn ateb o'r siambr.) Be sy', mam?

Gwen

Mae dy dad wedi dwad adra.



Jane yn brysio i'r ystafell at ochr ei thad.

Jane

Wyddwn i ddim ych bod chi yma. Ydach chi wedi peidio blino, 'nhad?

Griffith

Flinis i ddim gormod i anghofio fy negas, 'ngenath i. (Yn rhoi parcel bychan iddi.) Dyma fo, y ruban glas neisia oedd yn London Hows.



Jane yn agor y parcel, ac yn edrych ar y ruban. Gwen Thomas yn tywallt llaeth poeth i'r jwg.

Jane

Diolch yn fawr i chi, nhad. Mae o'n ddel iawn, ond tydi o ddim yn llawn y right shade.

Gwen

Mi neith y tro'n iawn. Does neb mor byrticilar yn yr ardal hefo rubana a Jane.

Griffith

'Does neb yn gwisgo mor smart, nag oes, 'ngeneth i?

Gwen

Peidiwch a'i gwirioni hi, mae hi'n colli gormod o'i hamsar hefo'r ffasiyna esys. Dos i orffan dy het, Jane, rhag llosgi chwanag o gnwylla heno eto.

Jane

(Yn myned.) Fydda i ddim yn hir. Diolch yn fawr i chi 'nhad.



Jane yn myned yn ol i'r siambr.

Griffith

Peidiwch a bod mor siarp hefo'r lodas.

Gwen

Rhaid i mi fod, ne mi fydd yn siwr o gael i dyfetha gin i thad.

Griffith

'Roeddach chi'n wahanol iawn hefo John.

Gwen

A chitha 'n i ddwrdio fo'n ddibaid nes yr aeth o i ffwrdd.

Griffith

'Chydig fudd geir drwy agor hen friwia.

Gwen

Peidio i hagor nhw yn y dechra oedd isio.

Griffith

O'r gora, tawad y calla.

Gwen

'Rydw i am 'neud. Gywsoch chi ddigon o fwyd?

Griffith

Do.



Gwen yn trin y dillad, ac yn troi at y gŵr.

Gwen

Be ddeudodd Robat 'y mrawd?

Griffith

Mi wrthododd yn bendant yn helpu ni efo'r rhent, er i fod o wedi cael pris ucha'r ffair am i fustych.

Gwen

Un cwta ydi Robat. Beth newch chi rwan?

Griffith

Mynd ar ofyn gŵr y siop am wn i.

Gwen

A'r bil blawd heb i dalu?

Griffith

Rhaid i cael nhw o rwla. Does yma mo'r hannar.

Gwen

A'r moch ddim yn agos yn barod i gwerthu.

Griffith

Dwad rwsut bydd y rhent bob blwyddyn.

Gwen

Wn i yn y byd o ble 'leni.

Griffith

Gofid sydd i gael o hyd.

Gwen

Beth arall sy'n ych poeni chi?

Griffith

Gweld mab y Fron Ganol yn feddw yn y ffair.

Gwen

Pa help sy gynnoch chi i hwnnw?

Griffith

Dim. Ond y fi geith y gwaith o'i geryddu o—y peth anhowsa yn y byd gin i neud.

Gwen

Rhaid ceryddu os torrodd o'r rheola. Waeth mab pwy ydi o.

Griffith

Cofiwch am i dad a'i fam o.

Gwen

Ma Margiad i fam yn ddigon pen-uchal a lartsh. Mi gafodd lawar visit yma, ond ches i rioed wadd i'r Fron Ganol i'r visit, er fod rhai heb fod ddim gwell na minna wedi cael.

Griffith

Peth bychan iawn ydi peth fel'na. Ond peth mawr fydda cychwyn y bachgan ar y ffordd lydan.

Gwen

Lol i gyd. Be mae rhiw hogia fel Ned Parri yn i hitio?

Griffith

Cofiwn am i rieni o hefyd.

Gwen

Na, 'n wir, isio tynnu Margiad i lawr dipin sy'. Mi fydd yn iechid mawr iddi hi.

Griffith

Peidiwch a bod yn wamal hefo petha difrifol, Gwen. Be pe basa un o'n plant ni wedi cychwyn i'r cyfeiriad chwith?

Gwen.

Un o mhlant i 'n wir. Does dim perig.



Drws y tŷ yn agor yn sydyn, a John y mab yn dyfod i'r ystafell. Saif yn ofnus yn agos i'r drws. Golwg tlawd, budr, a charpiog ar ei ddillad, ei wedd yn llwyd ac anghennus. Gwen a Griffith yn edrych i gyfeiriad y drws.

Griffith

Pwy sy 'na? Dowch i miawn o'r drws!



John yn neshau ychydig ymlaen, ei gap yn ei law a golwg euog arno.

Gwen

Pwy wyt ti?

John

'Tydach chi ddim yn 'y nabod i, mam?

Gwen

John, y machgan bach i.



Y fam yn ei groesawu, a'i dad yn edrych yn ddifrifol arno.

Griffith

Tramp wela i, budur a charpiog.

Gwen

Peidiwch a bod yn galad, Griífith, cofiwch ma'ch mab ych hun ydi o.

Griffith

Cheith dim tramp fod yn fab i mi. Dos allan i'r ffosydd, grwydryn!

John

Rhowch noddfa am chydig. Mae'r police ar f'ol. Glywch chi nhw? Mae nhw wrth ymyl. Os dalian nhw fi, mi ddaw peth o'r cwilidd i chitha.

Gwen

Cha nhw ddim dy ddal di, machgan i, tra bydd anadl yn dy fam.

Griffith

Fy mab yn droseddwr! yn ffoi rhag cosp cyfraith i wlad!

John

Syrthio i gwmpeini drwg ddaru mi, ar ol glanio yn Lerpwl.

Gwen

Wyddwn i o'r gora ma rhiw hen gnafon odd wedi hudo'r hogyn druan.

Griffith

Be sy i neud? Y Nefoedd i hunan wyr.

John

Ciddiwch fi'n rhwla nes bydd y plisman wedi mynd heibio.



Gwen yn gafael ym mraich John, a Jane yn dyfod i mewn o'r siambr ac yn edrych arnyn.

Jane

Peidiwch a gafal miawn tramp, mam.

Gwen

Dy frawd John ydi o.

John

(Yn troi at ei chwaer.) Jane bach!

Jane

John annwyl, be sy wedi digwydd?



Jane yn gafael yn ei law arall, gan sefyll wrth ei ochr. Y tad a'r mab yn wynebu ei gilydd.

Griffith

Rwan, distewch, gael imi i glywad o. Ma'n debig fod gynno fo stori reit ddel.

Gwen

Danghoswch chydig o deimlad tad, Griffith!



Griffith Thomas yn eistedd wrth y pared gan roddi ei benelin ar ei lin a'i law yn cuddio 'i wyneb.

John

Ar ol derbyn 'y nghyflog, mi eis hefo dau longwr i dafarn. Mi ges rwbath i yfad 'nath i mi anghofio popeth. Mi ges fy hun, riwdro yn y nos, yn crwydro'r strydodd, bron rhewi gin annwyd, heb ddim ond y carpia yma am dana.

Griffith

Fy mab yn feddwyn a chrwydryn! Ergid drom i galon tad ydi dy stori di, John.

John

'Rydw i bron a thagu isio diod. Ga'i lymad, Jane?



Gwen yn estyn y jwg iddo oddiar y bwrdd.

Gwen

Mae llaeth cynnas yn hon, machgan tlawd i.



John yn cythru i'r jwg gan yfed y llaeth yn llwyr. Yna yn sychu ei enau a'i lawes a rhoi y jwg yn ol ar y bwrdd.

Jane

Tydi John ddim mor ddrwg wedi'r cwbwl, 'nhad.

Griffith

Am feddwi ma'r heddgeidwaid ar d'ol di?

Jane

Y plisman ar ych ol, John?

John

Mi fethis gael gwaith, a dim i fyta ond amball i grystyn sych. Yna mi ddechreuis hiraethu am hen fynyddodd Cymru ag mi gychwynnis i gerddad cyfeiriad nhw. Ar ol llawar o helbul a diodda mi gyrhaeddis y Sir yma, ag mi daliwyd fi gin ddau ddyn arall. Mi ofynnis am fwyd, ag mi addawson beth os danghoswn i lwybyr iddy nhw at y Plas sy ar lân y môr. Mi neis inna hynny, ond mi aethon i ffwrdd heb roi tamad i mi, ond chwerthin am 'y mhen.

Gwen

'Y machgan tlawd i.

John

Wedi llwyr flino mi orweddis wrth ochor y clawdd, ag mi gysgis. Mi freuddwydis fod yr haul yn llosgi fy ngwynab ag mi ddeffris. Roedd hi'n dechra twllu, ag mi welis ma gleuni o lantarn plisman odd o. Dyma fo'n gweiddi, "Dyma un o ladron y Plas, rhowch help i ddal o!" Mi ruthris heibio iddo fo i'r coed, lle collodd o fi. Mi clywis o yn chwibianu, ac mi glywis leisia erill hefo fo.

Griffith

Ydi dy stori di'n berffaith wir?

Gwen

'Ddeudodd o rioed gelwydd, beth bynnag ydi i feia fo.

John

Diolch am y'ch geiria, Mam. Ar ol gadal y coed, mi redis drwy'r gors a'r afon a'r hesg nes gwelis i leini f' hen gartra, ag mi lanwodd fy nghalon o hirath a gobaith. Hirath am ych gweld a gobaith y cawn i 'niogelu gynnoch chi unwaith yn rhagor ar aelwyd 'y nhad.

Gwen

Mi nawn ein gora, John bach.

Griffith

Chweilith y cwnstabl byth mo'r stori.

Gwen

Os na chweilith i rieni o'r stori, 'does dim disgwyl i ddyn diarth neud. Ceisiwch feddwl am rhiw gynllun i achub o o'i gafal nhw.

John

Rhowch un chance i mi, fydd byth yn 'difar gynnoch chi,

Gwen

Os dim teimlad ynoch chi, Griffith?

Griffith

Os, Gwen, nes mae o bron a fy llethu, ond sut cysona i fy nheimlad fel tad a 'nledswydd fel dyn? Mi welaf o 'mlaen f'unig fab, mi wela hefyd droseddwr cyfraith 'y ngwlad. Plentyn yn gofyn tosturi a lleidar yn erfyn help dyn gonast i guddio 'i weithredodd.

John

Gwelwch, mi welwch ddyn syrthiodd i fedd-dod, ond nid yrioed i ladrad. Os na chweiliwch chi fi, mi ro' i f'hun i'r cwnstabl. Ydach chi'n 'y nghweilio i?

Griffith

Ydw, John; ond be na' i?



Clywir curo wrth y drws. Pawb yn gwrando; curir drachefn; Jane yn ddistaw yn bario 'r drws.

Gwen

Pwy sy 'na?

Brown

Constable Brown o'r County Police.



Symud John a Jane yn ddistaw i'r siambr. Gwen Thomas yn estyn yr horse a'r dillad ar eu hol, gan gau arnyn.

Griffith

Dowch i miawn, Mr. Brown.

Brown

Ma clo ar y drws.



Gwen yn agor y drws a'r heddgeidwad yn dyfod i mewn.

Gwen

Weils i rioed fel mae'r hen ddrws yna wedi mynd. Mi fydd mymryn o wynt yn i agor o. Mae'r gŵr yma yn sôn bob dydd am fynd a'r gliciad i'r efal. Rhaid i ni gadw clo ne rewi gan annwyd, Mr. Brown.

Brown

Mi naethoch yn dda gloi'r drws heno, Mrs. Thomas.

Gwen

Be sy'n bod felly?

Brown

Mi dorrodd lladron i'r Plas pnawn heiddiw. Mi lwyddodd dau o honyn nhw o ddianc, ond ma'r trydydd wedi ymgiddio yn y bildings yma.

Griffith

Ydach chi'n i nabod o, Mr. Brown?

Brown

Welis i rioed mono fo o'r blaen: dyn lled ifanc, cap am i ben, golwg lled wael arno, dillad carpiog a blêr, rêl tramp.

Gwen

Lle tlawd iawn i leidar sy yma, Mr. Brown.

Brown

Lle hynod dda i 'mgiddio, Mrs. Thomas.

Gwen

Ag mi gwelsoch o felly?

Brown

Mi ro 'ngair fel cwnstabl nad ydi o ddim ymhell.

Gwen

Maddeuwch i mi, ond yn siŵr 'rydach chi'n camgymeryd y tro yma, Mr. Brown.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1