Yr Unig Fab

Ciw-restr ar gyfer John

(Griffith) Tipin chwanag o'r llaeth 'na, Gwen.
 
(Gwen) Pwy wyt ti?
(1, 0) 109 'Tydach chi ddim yn 'y nabod i, mam?
(Gwen) John, y machgan bach i.
 
(Griffith) Dos allan i'r ffosydd, grwydryn!
(1, 0) 116 Rhowch noddfa am chydig.
(1, 0) 117 Mae'r |police| ar f'ol.
(1, 0) 118 Glywch chi nhw?
(1, 0) 119 Mae nhw wrth ymyl.
(1, 0) 120 Os dalian nhw fi, mi ddaw peth o'r cwilidd i chitha.
(Gwen) Cha nhw ddim dy ddal di, machgan i, tra bydd anadl yn dy fam.
 
(Griffith) Fy mab yn droseddwr! yn ffoi rhag cosp cyfraith i wlad!
(1, 0) 123 Syrthio i gwmpeini drwg ddaru mi, ar ol glanio yn Lerpwl.
(Gwen) Wyddwn i o'r gora ma rhiw hen gnafon odd wedi hudo'r hogyn druan.
 
(Griffith) Y Nefoedd i hunan wyr.
(1, 0) 127 Ciddiwch fi'n rhwla nes bydd y plisman wedi mynd heibio.
(Jane) Peidiwch a gafal miawn tramp, mam.
 
(1, 0) 132 Jane bach!
(Jane) John annwyl, be sy wedi digwydd?
 
(Gwen) Danghoswch chydig o deimlad tad, Griffith!
(1, 0) 140 Ar ol derbyn 'y nghyflog, mi eis hefo dau longwr i dafarn.
(1, 0) 141 Mi ges rwbath i yfad 'nath i mi anghofio popeth.
(1, 0) 142 Mi ges fy hun, riwdro yn y nos, yn crwydro'r strydodd, bron rhewi gin annwyd, heb ddim ond y carpia yma am dana.
(Griffith) Fy mab yn feddwyn a chrwydryn!
 
(Griffith) Ergid drom i galon tad ydi dy stori di, John.
(1, 0) 145 'Rydw i bron a thagu isio diod.
(1, 0) 146 Ga'i lymad, Jane?
(Gwen) Mae llaeth cynnas yn hon, machgan tlawd i.
 
(Jane) Y plisman ar ych ol, John?
(1, 0) 154 Mi fethis gael gwaith, a dim i fyta ond amball i grystyn sych.
(1, 0) 155 Yna mi ddechreuis hiraethu am hen fynyddodd Cymru ag mi gychwynnis i gerddad cyfeiriad nhw.
(1, 0) 156 Ar ol llawar o helbul a diodda mi gyrhaeddis y Sir yma, ag mi daliwyd fi gin ddau ddyn arall.
(1, 0) 157 Mi ofynnis am fwyd, ag mi addawson beth os danghoswn i lwybyr iddy nhw at y Plas sy ar lân y môr.
(1, 0) 158 Mi neis inna hynny, ond mi aethon i ffwrdd heb roi tamad i mi, ond chwerthin am 'y mhen.
(Gwen) 'Y machgan tlawd i.
 
(Gwen) 'Y machgan tlawd i.
(1, 0) 160 Wedi llwyr flino mi orweddis wrth ochor y clawdd, ag mi gysgis.
(1, 0) 161 Mi freuddwydis fod yr haul yn llosgi fy ngwynab ag mi ddeffris.
(1, 0) 162 Roedd hi'n dechra twllu, ag mi welis ma gleuni o lantarn plisman odd o.
(1, 0) 163 Dyma fo'n gweiddi, "Dyma un o ladron y Plas, rhowch help i ddal o!"
(1, 0) 164 Mi ruthris heibio iddo fo i'r coed, lle collodd o fi.
(1, 0) 165 Mi clywis o yn chwibianu, ac mi glywis leisia erill hefo fo.
(Griffith) Ydi dy stori di'n berffaith wir?
 
(Gwen) 'Ddeudodd o rioed gelwydd, beth bynnag ydi i feia fo.
(1, 0) 168 Diolch am y'ch geiria, Mam.
(1, 0) 169 Ar ol gadal y coed, mi redis drwy'r gors a'r afon a'r hesg nes gwelis i leini f' hen gartra, ag mi lanwodd fy nghalon o hirath a gobaith.
(1, 0) 170 Hirath am ych gweld a gobaith y cawn i 'niogelu gynnoch chi unwaith yn rhagor ar aelwyd 'y nhad.
(Gwen) Mi nawn ein gora, John bach.
 
(Gwen) Ceisiwch feddwl am rhiw gynllun i achub o o'i gafal nhw.
(1, 0) 175 Rhowch un |chance| i mi, fydd byth yn 'difar gynnoch chi,
(Gwen) Os |dim| teimlad ynoch chi, Griffith?
 
(Griffith) Plentyn yn gofyn tosturi a lleidar yn erfyn help dyn gonast i guddio 'i weithredodd.
(1, 0) 180 Gwelwch, mi welwch ddyn syrthiodd i fedd-dod, ond nid yrioed i ladrad.
(1, 0) 181 Os na chweiliwch chi fi, mi ro' i f'hun i'r cwnstabl.
(1, 0) 182 Ydach chi'n 'y nghweilio i?