Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Arcadina

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(Shamraieff) Ble mae o rwan, foneddiges fwyn?
(1, 0) 242 Be dach chi'n holi am bobol oedd yn byw cyn i Noah fynd i'r arch?
(1, 0) 243 Sut y gwn i?
(Shamraieff) {Yn ochneidio.}
 
(1, 0) 253 Mhlentyn annwyl i, pryd byddan nhw'n dechrau?
(Treplieff) Mewn hanner munud, mam, peidiwch â cholli'ch mynedd.
 
(1, 0) 256 "Fy Mab, peraist imi syllu ar fy nghalon, ac och!
(1, 0) 257 Y fath ddoluriau gwaedlyd a marwol a welais o'i mewn.
(1, 0) 258 Nid oes iachawdwriaeth imi!"
(Treplieff) {Yng ngeiriau Hamlet.}
 
(Treplieff) O'r gorau, gadewch inni freuddwydio am y dim hwnnw.
(1, 0) 269 Breuddwydiwn ta.
(Nina) Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer.
 
(1, 0) 278 |Modern| iawn, yn wir.
(Treplieff) {Yn ymbilgar.}
 
(Nina) Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch.
(1, 0) 291 Oglau brwmstan!
(1, 0) 292 Oes eisiau brwmstan?
(Treplieff) Oes.
 
(1, 0) 295 O, ie, i roi mynd ar y ddrama, yntê?
(Treplieff) Mam!
 
(Polina) Rhowch hi am eich pen rhag ofn ichi gael annwyd.
(1, 0) 301 Tynnu ei het i'r diafol, tad tragwyddol fater, a ddaru'r doctor.
(Treplieff) {Yn ffyrnig, gan godi ei lais.}
 
(Treplieff) Llen?
(1, 0) 305 Pam 'rydych chi mor ddig?
(Treplieff) Dyna ddigon!
 
(Treplieff) Torrais y |monopoly|, mi ─ mi ─
(1, 0) 314 Be sy arno fo?
(Sorin) Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo.
 
(Sorin) Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo.
(1, 0) 316 Ond be ddeudais i?
(Sorin) 'Roeddych yn rhy gas o lawer.
 
(Sorin) 'Roeddych yn rhy gas o lawer.
(1, 0) 318 Ond mi ddeudodd o ei hun mai tipyn o ddireidi oedd y cwbl, ac mi goeliais innau hynny.
(Sorin) Ond...
 
(Sorin) Ond...
(1, 0) 320 Mae'n ymddangos ei fod o wedi cyfansoddi campwaith, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 321 Cawsom sioe a phwff o frwmstan, nid fel tipyn o ddireidi ond fel math o ddemonstration, mae'n debyg; 'roedd o am roi gwers inni, i ddangos sut y dylid cyfansoddi a sgwennu drama a'i hactio; gormod o beth, yn wir; mae o fyth a hefyd yn pigo ac yn pwnio; mae'n ddigon i godi cyfog ar unrhyw ddyn.
(1, 0) 322 Dyna i chi fachgen larts, mae o'n stimiau i gyd.
(Sorin) Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn.
 
(Sorin) Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn.
(1, 0) 324 O, aie, felly wir, ond pam y dewisodd o destun mor ddiarth a disgwyl inni wrando ar hen stynt fodern fel yna?
(1, 0) 325 Ond o ran hynny yr wy'n ddigon parod i wrando ar lol er mwyn yr hwyl, ond pa hawl sy gynno fo i sôn am ffurfiau newydd ac oes newydd yn gwawrio ar gelfyddyd?
(1, 0) 326 Yn y marn i, "does yma ddim ffurfiau newydd o gwbl, dim ond tymer ddrwg.
(Trigorin) Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall.
 
(Trigorin) Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall.
(1, 0) 328 Pob croeso iddo sgwennu fel y myn ac fel y gall, ond iddo adael llonydd i mi.
(Dorn) "Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau."
 
(Dorn) "Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau."
(1, 0) 330 Nid tad y duwiau ydw i, ond gwraig gyffredin.
(1, 0) 331 Dw i ddim wedi ffromi; ond mae'n ddrwg gin i weld dyn ifanc yn gwastraffu ei amser fel hyn, mae mor ddwl.
(1, 0) 332 'Don i ddim yn meddwl bod yn gas.
(Medfedenco) 'Does dim dichon ysgaru enaid a mater, 'dydi'r enaid ei hun, mae'n debyg, ddim ond cyfuniad o atomau materol.
 
(Medfedenco) Bywyd caled ydi bywyd athro, ie, bywyd caled iawn.
(1, 0) 337 Digon gwir; ond gadwch inni sôn am rywbeth heblaw'r ddrama ac atomau ar noson mor ardderchog â heno.
(1, 0) 338 Ust!
(1, 0) 339 Glywch chi nhw'n canu?
 
(1, 0) 341 Clws, yntê?
(Polina) 'Rochor arall i'r llyn y maen nhw.
 
(1, 0) 345 Steddwch wrth f'ymyl i.
(1, 0) 346 Rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, yma ar y llyn clywid miwsig a chân bron drwy'r nos.
(1, 0) 347 Yr oedd chwech o dai draw fan acw ar y lan.
(1, 0) 348 'Rwy'n cofio'r miri a'r twrw a'r saethu a'r cerddi ─ ein ffrind y doctor {gan gyfeirio at Dorn} oedd eilun calon trigolion yr holl dai 'cw, fo oedd ceffyl blaen y pryd hynny.
(1, 0) 349 Gall ddenu pawb heddiw, wrth gwrs, ond yn yr hen ddyddiau 'roedd o tu hwnt!
(1, 0) 350 Ond mae nghydywybod yn dechrau brathu; pam y daru i mi frifo'r hogyn druan?
(1, 0) 351 'Rwy'n anesmwyth.
(1, 0) 352 Costia, nghariad i, Costia!
(Masia) Mi a i i chwilio amdano fo.
 
(Masia) Mi a i i chwilio amdano fo.
(1, 0) 354 Ie, ewch, os gwelwch chi'n dda.
(Masia) Hei!
 
(Sorin) Bravo, bravo.
(1, 0) 365 Bravo, bravo!
(1, 0) 366 Cawsom wledd.
(1, 0) 367 'Roeddych yn dda, mi fyddai'n bechod i eneth fel chi a'r llais ardderchog na aros yn y wlad.
(1, 0) 368 Rhaid bod gynnoch chi dalent; ydych chi'n clywed?
(1, 0) 369 Mae'n ddyletswydd arnoch fynd ar y stage.
(Nina) Ie, dyna mreuddwyd i.
 
(Nina) Ond ddaw o byth yn wir.
(1, 0) 373 Pwy ŵyr?
(1, 0) 374 O, dyma Trigorin, Boris Alecsiefits Trigorin.
(Nina) Mae'n dda gin i...
 
(Nina) Mi fydda i'n darllen llawer ar eich llyfrau chi.
(1, 0) 378 Peidiwch â bod yn swil, nghariad i.
(1, 0) 379 Er ei fod mor enwog, mae o'n ddyn digon syml.
(1, 0) 380 Welwch chi, mae o'n swil ei hun.
(Dorn) Mae'n bryd iddyn nhw godi'r cyrten.
 
(1, 0) 394 Peidiwch â deud pethau fel yna, cyn gynted ag y clyw rhywun yn ei ganmol, mae o'n mynd yn llipa ac yn hurt.
(Shamraieff) Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ.
 
(Nina) Nos dawch.
(1, 0) 400 Ond pam 'rydych chi'n mynd mor gynnar?
(1, 0) 401 Neith yr un ohonom ni adael ichi fynd.
(Nina) Mae tada'n fy nisgwyl i.
 
(Nina) Mae tada'n fy nisgwyl i.
(1, 0) 403 Un rhyfedd ydi o, mewn difri calon.
 
(1, 0) 405 Wel, 'does dim i'w wneud.
(1, 0) 406 Piti garw fod rhaid ichi fynd.
(Nina) Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd!
 
(Nina) Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd!
(1, 0) 408 Rhaid i rywun fynd gyda chi, ta, fy mhwt clws i.
(Nina) {Yn frawychus.}
 
(Nina) Fedra i ddim.
(1, 0) 417 Wir, mae'r eneth yn anlwcus iawn.
(1, 0) 418 Mae nhw'n deud fod ei mam hi wedi gadael ei holl eiddo i'r gŵr, do, bob dimai goch, ac rwan 'does gin yr hogan druan ddim ar ei helw, ac mae ei thad wedi gneud ei wyllys a gadael popeth i'w wraig, yr hen gena gynno fo!
(Dorn) Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag.
 
(Sorin) Mae'n damp yma.
(1, 0) 423 Mae nhw fel sglodion, prin y medrwch chi symud.
(1, 0) 424 Dowch, yr hen greadur anniddan.
(Shamraieff) {Yn rhoi ei fraich i'w wraig.}
 
(2, 0) 497 Codwch a sefwch wrth f'ymyl i.
(2, 0) 498 'Rydych chi'n ddwy ar hugain a finnau bron yn ddwbwl hynny.
(2, 0) 499 Iefgeni Sergiefits, prun ohonom ni ydi'r fenga?
(Dorn) Chi, debyg iawn.
 
(Dorn) Chi, debyg iawn.
(2, 0) 501 Welwch chi, ac mi ddeuda i pam.
(2, 0) 502 Am fy mod i yn gweithio, yn teimlo, a bob amser ar gychwyn, a chithau yn eistedd yn eich unman, heb fyw o gwbwl.
(2, 0) 503 Mae gin i reol: peidio byth ag edrych ymlaen.
(2, 0) 504 Fydda i byth yn meddwl am henaint a'r bedd, ond rhaid eu cymyd nhw pan ddôn nhw, debyg.
(Masia) Ond 'rydw i yn teimlo fel pe bawn i wedi ngeni filoedd o flynyddoedd yn ôl, a rydw i'n llusgo fy mywyd ar f'ôl fel cynffon ffrog laes.
 
(Dorn) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
(2, 0) 511 Ac 'rydw i mor fisi ag unrhyw Saesnes, bob amser yn dwt a ngwallt yn stylish.
(2, 0) 512 Fydda i byth yn mynd allan o'r tŷ, hyd yn oed i'r ardd, mewn blows a heb drin fy ngwallt.
(2, 0) 513 Mi fydda i bob amser yn ddel, nid wedi mollwng fel rhai.
 
(2, 0) 515 Welwch chi, 'rydw i'n sionc fel cyw iâr.
(2, 0) 516 Gallwn actio geneth bymtheg oed.
(Dorn) Ie, ond beth am y llyfr yma?
 
(Dorn) 'Roedden ni'n darllen am y masnachwr a'r llygod mawr.
(2, 0) 519 A'r llygod ffringig.
(2, 0) 520 Ewch ymlaen.
(2, 0) 521 Na, rhowch y llyfr i mi, fi sydd i ddarllen rwan.
 
(2, 0) 523 A'r llygod... dyma fo 'ac wrth gwrs, pan fo pobl y byd ffasiynol yn difetha llenorion ac yn eu gwadd i'w tai, mae hynny mor beryglus ag i werthwr ŷd fagu llygod ffringig yn ei sgubor.
(2, 0) 524 Maent yn eu caru hefyd.
(2, 0) 525 Ac wedi i wraig ddewis ei llenor, bydd yn ceisio ei ddal trwy fwrw cawod o eiriau mwyn ar ei ben.' Digon gwir am ferched Ffrainc, ond nid dyna brogram merched Rwsia.
(2, 0) 526 Cyn dechrau canlyn y llenor, byddwn ni dros ein pen a'n clustiau mewn cariad, nid ni sydd yn dewis.
(2, 0) 527 Raid ichi ddim mynd ymhell i gael enghraifft, cymwch fi a Trigorin.
(Sorin) {Megis wrth blentyn.}
 
(Sorin) Mae hi'n glysach na rioed heddiw.
(2, 0) 540 A dillad da amdani, ac yn edrych yn ddiddorol.
 
(2, 0) 542 Go lew, chi!
(2, 0) 543 Ond rhai peidio canmol gormod, rhag i'r gŵr drwg – wyddoch chi.
(2, 0) 544 Ble mae Boris Alecsiefits?
(Nina) Wrth y llyn yn pysgota.
 
(Nina) Wrth y llyn yn pysgota.
(2, 0) 546 Sut medr o?
(2, 0) 547 Stumog, 'n tê?
(Nina) Be sy gynnoch chi fanna?
 
(Nina) Be sy gynnoch chi fanna?
(2, 0) 549 'Ar y Dŵr' gan Guy de Maupassant, nghariad i.
 
(2, 0) 551 Mae o wedi colli ei flas, tydi o ddim yn deud y gwir chwaith.
 
(2, 0) 553 Mi 'dw i'n anesmwyth.
(2, 0) 554 Pam mae Constantin mor bigog ac isel ysbryd?
(2, 0) 555 Bydd yn crwydro am ddyddiau lawer hyd y llyn a phrin y ca i weld o o gwbl.
(Masia) Mae o'n bur ddigalon.
 
(Dorn) Nos dawch.
(2, 0) 565 Piotr bach!
(Sorin) Y?
 
(Sorin) Y?
(2, 0) 567 Ydych chi'n cysgu?
(Sorin) Dim o'r fath beth.
 
(Sorin) Dim o'r fath beth.
(2, 0) 570 Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig.
(Sorin) Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor.
 
(Dorn) O'r gorau ta, cymwch Valerian drops.
(2, 0) 576 Mi ddylech fynd am fis i lan y môr, mi nae les ichi, yn y marn i.
(Dorn) Mi all fynd, mi all beidio.
 
(Dorn) Mi all fynd, mi all beidio.
(2, 0) 578 'Dydw i ddim yn dallt hyna.
(Dorn) 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen.
 
(Sorin) 'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma.
(2, 0) 601 Ych, beth a all fod yn fwy diflas na diflastod byw yn y wlad?
(2, 0) 602 Mae hi'n boeth yma, mae hi'n ddistaw, pawb yn segur, pawb yn athronyddu.
(2, 0) 603 Mae'n dda cael bod yma gyda chi, gyfeillion ac yn ddigon difyr gwrando ar eich sgwrs; ond eistedd yn fy stafell yn y dre a dysgu ngwers cyn actio, dyna ichi nefoedd ar y ddaear!
(Nina) {Yn frwdfrydig.}
 
(Shamraieff) Mae'r wraig acw yn deud eich bod chi'n meddwl mynd i'r dre gyda'ch gilydd, ydi hyna'n wir?
(2, 0) 617 Ydi, 'rydym yn meddwl mynd.
(Shamraieff) H-m-m.
 
(Shamraieff) Mae nhw'n cario'r ŷd heddiw a'r gweision i gyd yn gweithio, a lle cewch chi geffylau, os ca i fod mor hy â gofyn?
(2, 0) 621 Sut y gwn i?
(Sorin) Ond y mae gynnoch chi geffylau cerbyd.
 
(Shamraieff) 'Rwy'n barod i fynd ar fy ngliniau gerbron eich talentau chi, foneddiges barchus; ac i aberthu deng mlynedd o mywyd er eich mwyn, ond fedra i ddim rhoi ceffylau ichi.
(2, 0) 628 Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth.
(Shamraieff) Foneddiges barchus, wyddoch chi ddim am ofalon ffarmwr.
 
(2, 0) 631 Yr un hen stori!
(2, 0) 632 Mi â i yn ôl i Fosco heddiw.
(2, 0) 633 Deudwch wrthyn nhw am logi ceffylau yn y pentre, neu mi gerdda i bob cam i'r stesion.
(Shamraieff) {Yn wyllt.}
 
(Shamraieff) Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi.
(2, 0) 637 'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha!
(2, 0) 638 Ddo i byth yma eto.
(Sorin) {Yn wyllt.}
 
(2, 0) 823 Boris Alecsiefits, lle'r ydych chi?
(Trigorin) Yn dŵad rwan.
 
(Trigorin) Yn dŵad rwan.
(2, 0) 825 'Rydym ni'n aros.
(Nina) {Wedi ystyried tipyn.}
 
(Nina) Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod.
(3, 0) 895 Rhoswch gartre, 'r hen fachgen.
(3, 0) 896 Fedrwch chi ddim mynd i rodio â'r cricymala na.
 
(3, 0) 898 Pwy aeth allan rŵan?
(3, 0) 899 Nina?
(Trigorin) Ie.
 
(Trigorin) Ie.
(3, 0) 901 Mae'n wir ddrwg gin i, fynnwn i er dim dorri ar draws eich sgwrs.
 
(3, 0) 903 Dyna fi wedi pacio popeth, rw i wedi hario.
(Trigorin) {Yn darllen ar y fedal.}
 
(Trigorin) Ydi fy llyfrau i yn y tŷ?
(3, 0) 915 Ydyn, yn y stydi, yn y cwpwrdd congol.
(Trigorin) Tudalen 121.
 
(Trigorin) {Â allan.}
(3, 0) 918 Yn wir, Piotr bach, mi ddylech aros gartre.
(Sorin) Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma.
 
(Sorin) Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma.
(3, 0) 920 Faint gwell fydd hi yn y dre?
(Sorin) 'Does na ddim neilltuol yno; ond eto, mi fyddan yn gosod carreg sylfaen y Neuadd bentre newydd ac felly yn y blaen, cawn i ond dingyd am awr neu ddwy o'r hen dwll ma, 'r wy'n teimlo fel hen getyn wedi torri a'i daflu ar y domen.
 
(3, 0) 924 Rhoswch yma, peidiwch â bod yn ddigalon, a chofiwch beidio cael annwyd.
(3, 0) 925 Cymwch ofal o Constantin.
(3, 0) 926 Cadwch eich llygad arno.
(3, 0) 927 Rhowch gyngor iddo rwan ac yn y man.
(3, 0) 928 Dyma fi'n mynd heb wbod eto pam y triodd o ladd ei hun.
(3, 0) 929 'Rwy'n credu mai cenfigen oedd y rheswm penna, a gorau po gynta y gwêl gynffon Trigorin.
(Sorin) Sut y medra i ddeud wrthoch chi?
 
(Sorin) 'Rwy'n hoff iawn ohono, ac y mae o'n ddigon hoff ohonof innau hefyd, ond y mae o'n tybied, mewn gair, nad oes ar neb ei isio fo, dda gynno ddim byw ar fywyd pobol erill heb ennill ei damaid ei hun, hunan-barch, debyg iawn.
(3, 0) 935 Mae'n biti gin i drosto fo.
 
(3, 0) 937 Tae o'n cael swydd...
(Sorin) {Yn chwibanu, ac wedyn braidd yn swil.}
 
(Sorin) Eitha peth hefyd fyddai iddo fo fynd i weld tipyn ar y byd, i wlad bell, chostiai hyna fawr ichi.
(3, 0) 944 Wel, mi fedra i fforddio prynu dillad iddo fo, ond am fynd i wlad bell...
(3, 0) 945 Na, ar hyn o bryd feda i ddim prynu dillad iddo chwaith.
(3, 0) 946 'D oes gin i ddim arian.
 
(3, 0) 948 'Does gin i ddim arian.
 
(3, 0) 950 Nag oes.
(Sorin) {Yn chwibanu.}
 
(3, 0) 956 'Does gin i ddim arian.
(Sorin) Tae gin i arian, wrth gwrs, mi cai nhw, ond 'r ydw i ar y clwt, 'does gin i ddim ffadan.
 
(Sorin) Mae'r gwenyn yn marw, y gwartheg yn marw, a cha i ddim ceffylau gynnyn nhw.
(3, 0) 960 Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad.
(Sorin) Gwraig annwyl, dda, ydych chi, 'r wy'n eich parchu chi'n fawr, ydw... o... mae o'n dŵad trosto i eto...
 
(3, 0) 966 Piotr bach.
 
(3, 0) 968 Piotr annwyl, aur.
 
(3, 0) 970 Help, help!
 
(3, 0) 972 Mae o'n wael.
(Sorin) Dim byd, dim byd.
 
(Medfedenco) {Â'r ddau allan.}
(3, 0) 990 Mi ges i fraw!
(Treplieff) 'D ydi byw yn y wlad yn gneud dim lles iddo fo.
 
(Treplieff) Be pe taech chi'n hael am unwaith, mam, ac yn rhoi benthyg cant a hanner iddo; mi allai fyw'n braf yn y dre am flwyddyn gron.
(3, 0) 994 'Does gin i ddim arian, actres ydw i, nid banker.
(Treplieff) Mam, rhowch gadach arall ar y mhen i, mae'ch llaw chi mor dyner.
 
(3, 0) 998 Mae'r doctor yn hwyr.
(Treplieff) Mi addawodd fod yma erbyn deg, ond y mae rŵan yn hanner dydd.
 
(Treplieff) Mi addawodd fod yma erbyn deg, ond y mae rŵan yn hanner dydd.
(3, 0) 1000 Steddwch.
 
(3, 0) 1002 Mae o fel tyrban ar eich pen chi.
(3, 0) 1003 'R oedd na ŵr diarth yn y gegin ddoe yn gofyn i ba genedl 'r oeddech chi'n perthyn.
(3, 0) 1004 Mae'r briw wedi cau, prin y mae wedi gadael ôl arnoch, newch chi ddim gneud bang-bang eto, newch chi?
(Treplieff) Na, na i, mam, colli arna i fy hun ddaru mi mewn munud o anobaith.
 
(Treplieff) Ydych chi ddim yn cofio?
(3, 0) 1013 Nag ydw i.
 
(Treplieff) 'Roedd dwy ferch o'r ballet yn byw yn yr un tŷ â ni... ac yn dŵad atom ni am gwpanad o goffi.
(3, 0) 1016 'Rwy'n cofio hyna.
(Treplieff) Merched crefyddol oeddyn nhw hefyd.
 
(Treplieff) 'D oes gin i neb rŵn ond chi, ond pam, o, 'r ydych chi dan fawd y dyn yna?
(3, 0) 1021 'D ydych chi ddim yn ei ddallt o, Constantin, dyn nobl ydi o.
(Treplieff) Ond pan glywodd o mod i am roi sialens iddo, 'd oedd o ddim yn rhy nobl i'w heglu hi am ei einioes, yr hen gachgi!
 
(Treplieff) Ond pan glywodd o mod i am roi sialens iddo, 'd oedd o ddim yn rhy nobl i'w heglu hi am ei einioes, yr hen gachgi!
(3, 0) 1023 Y fath lol!
(3, 0) 1024 Ond fi ofynnodd iddo fo fynd.
(Treplieff) Dyn nobl yn wir!
 
(Treplieff) Dyma ni bron wedi ffraeo amdano fo ac yntau yn y parlwr gorau, yn chwerthin yn braf am ein pen, yn datblygu Nina ac yn ceisio cael gynni hi gredu ei fod yn genius.
(3, 0) 1027 Yr ydych chi'n licio deud pethau cas wrtha i.
(3, 0) 1028 Mi dw i'n parchu'r dyn yna ac yn gofyn ichi beidio a'i ddilorni o pan fydda i'n gwrando.
(Treplieff) 'D ydw i ddim yn ei barchu o.
 
(Treplieff) Fedra i ddim deud celwydd, mae ei lyfrau o yn codi cyfog arna i.
(3, 0) 1032 Gwenwyn pur!
(3, 0) 1033 'D oes gan bobol falch ddidalent ddim i'w wneud ond darnio'r bobol dalentog.
(3, 0) 1034 Dyma'r unig gysur sy gynnyn nhw.
(Treplieff) Talentog yn wir!
 
(Treplieff) D'ydw i ddim yn eich cydnabod chi na fo chwaith.
(3, 0) 1041 Wele'r llenor modern.
(Treplieff) Ewch i'ch theatre i chwarae eich dramâu tila a thruenus.
 
(Treplieff) Ewch i'ch theatre i chwarae eich dramâu tila a thruenus.
(3, 0) 1043 Fu gin i rioed ran mewn drama druenus.
(3, 0) 1044 Ewch i ffwrdd!
(3, 0) 1045 'D oes gynnoch chi ddim digon o dalent i gyfansoddi vaudeville y gweithiwr o Cieff sy'n byw ar fwyd arall!
(Treplieff) Yr hen gybyddes!
 
(Treplieff) Yr hen gybyddes!
(3, 0) 1047 Y cedsiwr.
 
(3, 0) 1049 Y creadur diddim!
 
(3, 0) 1051 Peidiwch â chrio.
(3, 0) 1052 'D oes dim rhaid – mhlentyn bach annwyl, maddeuwch imi, maddeuwch i hen bechadures fel eich mam.
(3, 0) 1053 'R wy'n anhapus iawn.
(Treplieff) {Yn ei chofleidio.}
 
(Treplieff) Tydi hi ddim yn fy ngharu i mwyach, fedra i ddim sgwennu mwyach, mae popeth ar ben.
(3, 0) 1058 Peidiwch â digaloni, mi ddaw popeth yn iawn.
(3, 0) 1059 Wedi iddo fo fynd, mi fydd hithau yn eich caru chi eto.
 
(3, 0) 1061 Bydd, wir, dyna ni'n ffrindiau rŵan.
(Treplieff) {Yn cusanu ei llaw.}
 
(3, 0) 1065 Byddwch yn ffrindiau hefo fo hefyd.
(3, 0) 1066 'Does dim isio duel, does dim isio duel?
(Treplieff) Nag oes, ond peidiwch â gofyn imi ei gyfarfod o.
 
(3, 0) 1080 Bydd y cerbyd yma gyda hyn!
(Trigorin) {Wrtho ei hun.}
 
(Trigorin) 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.'
(3, 0) 1083 Disgwyl fod popeth yn barod gynnoch chi.
(Trigorin) {Yn groes.}
 
(Trigorin) Gadwch inni aros.
(3, 0) 1093 Fy nghariad bach i, mi wn i be sy'n eich cadw yma, ond triwch ei goncro fo.
(3, 0) 1094 'R ydych wedi meddwi tipyn bach, mae'n bryd ichi sobri.
(Trigorin) Triwch chithau hefyd sobri, triwch fod yn synhwyrol, 'r wy'n crefu arnoch, triwch ystyried y mater fel gwir ffrind imi.
 
(3, 0) 1099 Ydi hi mor ddrwg â hyna arnoch chi?
(Trigorin) Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai.
 
(Trigorin) Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai.
(3, 0) 1101 Cariad hogan o'r wlad.
(3, 0) 1102 'D ydych chi ddim yn hanner adnabod eich hun.
(Trigorin) Bydd pobol weithiau yn cysgu ar eu traed, felly finnau, wrth siarad wrthoch chi, 'r wy'n cysgu ac yn ei gweld hi yn fy mreuddwyd.
 
(3, 0) 1106 Na, na!
(3, 0) 1107 Dynes gyffredin ydw i, cheith neb siarad fel yna wrtha i, peidiwch â mhoeni i, 'r ydych yn fy nychryn i.
(Trigorin) Os mynnwch, gellwch fod yn ddynes anghyffredin – Cariad ifanc, swynol, barddonol, yn fy nghodi i fyd gweledigaethau, 'd oes dim arall yn y byd a all roi'r fath wynfyd.
 
(3, 0) 1112 'R ydych chi o'ch co.
(Trigorin) Gadwch imi fynd.
 
(Trigorin) Gadwch imi fynd.
(3, 0) 1114 'R ydych i gyd yn f'erbyn i heddiw.
 
(Trigorin) 'D ydi hi ddim yn dallt, fyn hi ddim dallt.
(3, 0) 1118 Ydw i'n ddigon hen a hyll ichi feiddio siarad wrtha i am ferched erill?
 
(3, 0) 1120 'R ydych chi'n wallgo.
(3, 0) 1121 Fy nghariad ardderchog, rhyfedd, tudalen ola fy mywyd i!
 
(3, 0) 1123 Llanwenydd fy ngalon, fy ymffrost, fy mharadwys.
 
(3, 0) 1125 Os ewch chi oddi wrtha i hyd yn oed am awr, fedra i ddim byw, mi a i o ngho, fy nghariad rhyfeddol, mawreddus, fy mrenin.
(Trigorin) Mi all rhywyn ddŵad i mewn.
 
(Trigorin) {Yn ei chynorthwyo i godi.}
(3, 0) 1128 Gadwch iddyn nhw ddŵad, 'd oes arna i ddim cwilydd mod i'n eich caru chi.
 
(3, 0) 1130 Fy nhrysor, fy machgen gwyllt i; mae arnoch chi flys bod yn rhyfygus, ond fynna i ddim, chewch chi ddim gin i.
 
(3, 0) 1132 F'eiddo i ydych chi, fi piau chi, fi piau'r talcen yma a'r llygaid yma.
(3, 0) 1133 Fi piau'r gwallt clws, sidanog yma, fi piau bob mymryn ohonoch.
(3, 0) 1134 Fy nghariad talentog, gwybodus, llenor mwya'r oes, unig obaith Rwsia; 'r ydych mor ddi-dwyll, mor syml, â'ch hiwmor ffres iach.
(3, 0) 1135 Mi ellwch roi cnwllyn popeth mewn un frawddeg fer, ac mae'ch cymeriadau chi yn rhodio fel dynion byw.
(3, 0) 1136 Fedr neb ddarllen gair o'ch gwaith heb lamu mewn gorfolodd.
(3, 0) 1137 Ydych chi'n meddwl mai ffalsio 'r ydw i?
(3, 0) 1138 Edrychwych yn myw fy llygaid i, ai llygaid gwraig gelwyddog ydi rhain?
(3, 0) 1139 Welwch chi, 'd oes neb ond fi a ŵyr eich gwerth chi!
(3, 0) 1140 Dyna'r gwir syml ichi, newch chi mo ngadael i, newch chi?
(Trigorin) Mae fy wyllys i wedi darfod, fu gin i rioed wyllys rydd – llipa, meddal, ufudd, dyna fy hanes i; sut y gall unrhyw ferch garu'r fath ddyn?
 
(3, 0) 1145 Dyma fi wedi ei ddal o.
 
(3, 0) 1147 O ran hynny, rhoswch, os ydi'n well gynnoch chi.
(3, 0) 1148 Mi a i ffwrdd fy hun, ac mi gewch chithau ddŵad rwybryd eto, mhen yr wythnos, deudwch, neno'r annwyl, 'd oes ddim brys.
(Trigorin) Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd.
 
(Trigorin) Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd.
(3, 0) 1150 Fel y mynnwch chi, am hynny, awn gyda'n gilydd, ta.
 
(3, 0) 1153 Be 'dych chi'n neud?
(Trigorin) Mi glywais enw da'r bore ma, 'Llwyn y Forwyn', mi geith le mewn llyfr rywbryd.
 
(Polina) Dyma ichi ychydig o eirin melys ar gyfer y siwrnai; disgwyl y cewch chi flas arnyn nhw.
(3, 0) 1175 Diolch yn fawr ichi, Polina Andrefna.
(Polina) Da y boch chi, maddeuwch inni os cawsoch rywbeth allan o'i le.
 
(3, 0) 1179 Na, na 'r oedd popeth yn union fel y dylai fod.
(3, 0) 1180 'D oes dim gofyn ichi grio.
(Polina) Mae'r amser yn mynd mor gyflym.
 
(Polina) Mae'r amser yn mynd mor gyflym.
(3, 0) 1182 Wel, felna y mae hi i fod.
(Sorin) {Mewn côt a choler ffyr, ffon yn ei law, yn dyfod i mewn ar y chwith, ac yn cerdded ar draws yr ystafell.}
 
(Medfedenco) {Â allan.}
(3, 0) 1190 Da y boch chi, gyfeillion – os byddwn ni'n fyw ac iach, mi gawn weld ein gilydd yr ha nesa.
 
(3, 0) 1192 Peidiwch â'm hanghofio.
 
(3, 0) 1194 Dyna ichi ddeuswllt rhwng y tri ohonoch.
(Cogydd) Diolch yn fawr ichi, mym.
 
(Shamraieff) Da y boch, Boris Alecsiefits!
(3, 0) 1201 Ble mae Constantin?
(3, 0) 1202 Deudwch wrtho mod i'n mynd.
(3, 0) 1203 Wel, cofiwch amdana i, bawb.
 
(3, 0) 1205 Rhois ddeuswllt iddo fo.
 
(3, 0) 1207 Rhwng y tri ohonoch, cofiwch.
(Trigorin) {Yn dychwelyd.}
 
(Shamraieff) 'Rydym ni i gyd wedi heneiddio ar ôl y gwynt a'r glaw arnom; ond 'rydych chi'n fengach na rioed, foneddiges fwyn, jecad olau, sioncrwydd pert... a... a...
(4, 0) 1421 Dyna chi wrthi hi'n ffalsio eto, yr hen ŵr atgas ichi.
(Trigorin) {Wrth Sorin.}
 
(4, 0) 1436 Mae Boris Alecsifits wedi dwad â'r papur a'ch stori newydd ynddo.
(Treplieff) {Yn cymryd y cylchgrawn: wrth Trigorin.}
 
(4, 0) 1478 Pan fydd y gaea'n agos a'r dydd yn cwtogi, mi fyddwn ni'n chwarae cardiau gyda'r hwyr, chwarae hen ffasiwn, welwch chi; mi fydden ni'n chwarae fel hyn gyda mam druan pan oeddem ni'n blant bach.
(4, 0) 1479 Cymwch ran yn y game tan amser swper.
 
(4, 0) 1481 Mae arna i ofn mai game go ddwl ydi hi ond wedi ichi arfer mae'n eitha difyr.
 
(Treplieff) {Yn rhoi'r cylchgrawn ar y ddesg.}
(4, 0) 1486 Beth amdanoch chi, Costia?
(Treplieff) Diolch yn fawr, ond maen well gin i beidio.
 
(Treplieff) Diolch yn fawr, ond maen well gin i beidio.
(4, 0) 1489 Rhodded pawb ei geiniog i lawr.
(4, 0) 1490 Talwch chi drosta i, doctor.
(Dorn) Gna, mym.
 
(Masia) O'r gorau, dyma fi'n dechrau, dau ar hugain.
(4, 0) 1494 Ie.
(Masia) Tri!
 
(Shamraieff) Peidiwch bod ar gimint o frys.
(4, 0) 1502 Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn.
(Masia) Pedwar ar ddeg ar hugain.
 
(Masia) Pedwar ar ddeg ar hugain.
(4, 0) 1505 A'r ovation a ges i gin y students.
(4, 0) 1506 Blodau, llond tair basged, a dwy goron.
(4, 0) 1507 A be dych chi'n feddwl o hyn?
 
(Dorn) Hanner cant yn union?
(4, 0) 1512 A phe gwelsech chi fy nress i?
(4, 0) 1513 Digon o ryfeddod, ac mi fydda i'n gwisgo yn o dda rŵan hefyd.
(Polina) Dyna Costia yn canu piano, arwydd ei fod yn ddigalon.
 
(Masia) Dau ar bymtheg a thrigain.
(4, 0) 1517 'Does dim isio iddo fo gymyd sylw ohonyn nhw.
(Trigorin) 'Dydi o'n gwneud fawr ohoni hi – mae'n methu taro'r cywair.
 
(Masia) Un ar ddeg!
(4, 0) 1521 Piotr, ydych chi wedi blino?
(Dorn) Mae'r J.P. yn cysgu.
 
(Dorn) Irina Nicolaiefna, ydych chi'n falch fod eich mab yn llenor?
(4, 0) 1537 Wyddoch chi be?
(4, 0) 1538 Ddarllenais i'r un gair o'i waith o.
(4, 0) 1539 Mae f'amser i'n brin.
(Masia) Chwech ar hugain!
 
(Treplieff) Fedra i ddim dirnad pam yr ydw i mor anesmwyth.
(4, 0) 1553 Costia, caewch y ffenast na, mae na ddrafft.
(Masia) Wyth a phedwar ugain!
 
(4, 0) 1558 Bravo, bravo!
(Shamraieff) Bravo!
 
(Shamraieff) Bravo!
(4, 0) 1560 Mae hwn yn sgubo popeth o'i flaen ym mhobman.
 
(4, 0) 1562 Awn am damaid o fwyd, chafodd y gŵr mawr mo'i ginio heddiw.
(4, 0) 1563 Cawn chwarae eto ar ôl swper.
 
(4, 0) 1565 Costia, rhowch eich papurau o'r neilltu a dowch at eich swper.
(Treplieff) 'Does arna i ddim isio bwyd, mam.
 
(Treplieff) 'Does arna i ddim isio bwyd, mam.
(4, 0) 1567 Wel, chi sy'n gwybod.
 
(4, 0) 1569 Piotr bach, mae'n amser swper.
 
(4, 0) 1571 Rhaid imi gael deud yr hanes am fy nerbyniad yn Charcoff.
(Treplieff) {Yn darllen ei ysgrif cyn ychwanegu ati.}
 
(Dorn) Obstacle race!
(4, 0) 1726 Rhowch y gwin coch a'r cwrw ar gyfer Boris Alecsiefits inni gael yfed a chwarae ar yr un pryd.
(4, 0) 1727 Steddwch, gyfeillion.
(Polina) {Wrth Iago.}
 
(4, 0) 1741 Beth oedd hyna?
 
(4, 0) 1750 Wff, mi ges i fraw.
(4, 0) 1751 Mi naeth hyna imi gofio fel ─
 
(4, 0) 1753 Aeth popeth yn dywyll o flaen fy llygaid i...