Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Dorn

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(Polina) Ewch i nôl eich glosiars.
(1, 0) 213 'Rwy'n teimlo'n ddigon cynnes.
(Polina) Fyddwch chi byth yn ofalus, 'rydych chi'n gyndyn dros ben.
 
(1, 0) 217 "O paid â dweud fod ieuenctid wedi darfod."
(Polina) 'Roeddych chi'n cael gormod o flas ar eich sgwrs hefo Irina Nicolaiefna, dyna pam na ddaru'ch ddim sylwi ar yr oerfel.
 
(Polina) Mae hi'n eich plesio chi'n tydi?
(1, 0) 220 'Rwy'n bymtheg a deugain.
(Polina) Twt lol, waeth pa mor hen ydi'r dyn.
 
(Polina) 'Rydych chi'n dal eich oedran yn dda, ac y mae'r merched yn ddigon parod i'ch canlyn chi.
(1, 0) 223 Ond be fynnwch chi?
(Polina) Rydych chi'r dynion bob amser yn barod i fynd ar eich gliniau o flaen actres, ydych, bob un ohonoch.
 
(1, 0) 226 "O'th flaen 'rwy'n dyfod eto."
(1, 0) 227 Os ydi artist yn plesio'r byd yn fwy na siopwr, er enghraifft, wel fel yna y dylia hi fod, tipyn o |idealism|, ynte?
(Polina) 'Roedd y merched bob amser yn eich caru chi, a'u breichiau am eich gwddw chi.
 
(1, 0) 231 Wel, mi oeddwn yn boblogaidd ymhlith y merched, ond y doctor medrus oedden nhw yn ei garu, nid y dyn.
(1, 0) 232 Fel y cofiwch, fi oedd y fydwraig orau yn yr ardal ryw bymtheng mlynedd yn ôl.
(1, 0) 233 Ac 'rydw i wedi bod yn ddyn gonest drwy f'oes.
(Polina) {Yn cydio yn ei law.}
 
(Polina) 'Nghariad i!
(1, 0) 236 Sh-t, mae nhw'n dwad.
(Shamraieff) {Yn dod i mewn.}
 
(Shamraieff) 'Roedd derw nerthol yn y dyddiau hynny, chewch chi ddim ond eu bonion nhw heddiw.
(1, 0) 249 Ychydig o dalentau disglair a geir yn yr oes hon, ond mae safon actio wedi codi cryn dipyn.
(Shamraieff) Fedra i ddim cyd-weld â chi fan yna, ond o ran hynny, matter o chwaeth ydi'r cwbl; |de gustibus aut bene aut nihil|. [1]
 
(Arcadina) Pob croeso iddo sgwennu fel y myn ac fel y gall, ond iddo adael llonydd i mi.
(1, 0) 329 "Yr wyt yn ffromi, dad y duwiau."
(Arcadina) Nid tad y duwiau ydw i, ond gwraig gyffredin.
 
(Arcadina) Welwch chi, mae o'n swil ei hun.
(1, 0) 381 Mae'n bryd iddyn nhw godi'r cyrten.
(1, 0) 382 Mae ei olwg o yn gneud i ryw ias oer fynd drwydda i.
(Shamraieff) Iago, machgen i, tyn y cyrten na i fyny.
 
(Shamraieff) Rhywbryd erstalwm yn yr opera yn Mosco, 'rwy'n cofio'n dda, canodd yr enwog Silfa y |do| uchaf, a'r noson honno, fel pe tae o bwrpas, roedd canwr bas o gôr ein plwy ni yn eistedd ar ymyl y galeri, ac ar drawiad, dyma lais o'r galeri gryn wythawd yn is: "Bravo Silfa' nes synnu'r holl dŷ.
(1, 0) 397 Ac ehedodd angel distawrwydd dros y lan.
(Nina) Mae'n bryd imi fynd.
 
(Arcadina) Mae nhw'n deud fod ei mam hi wedi gadael ei holl eiddo i'r gŵr, do, bob dimai goch, ac rwan 'does gin yr hogan druan ddim ar ei helw, ac mae ei thad wedi gneud ei wyllys a gadael popeth i'w wraig, yr hen gena gynno fo!
(1, 0) 419 Ie, bwystfil o ddyn ydi ei thada hi, rhaid gneud hyna o gyfiawnder iddo fo beth bynnag.
(Sorin) Mae'n well i ninnau ei throi hi hefyd.
 
(1, 0) 437 Digon tebyg nad ydw i ddim yn dallt neu mod i wedi mynd o ngho; ond mi gefais i flas ar y ddrama.
(1, 0) 438 Mae na rywbeth yni hi; pan soniodd yr hogan am unigedd a phan welwyd llygaid cochion y diafol, roedd fy nulo i'n crynu a minnau wedi cynhyrfu.
(1, 0) 439 Ffres, diniwed, diddichell... ond dyma fo; mi dduda i air mwyn wrtho fo.
(Treplieff) {Yn dod i mewn.}
 
(Treplieff) Does na neb yma.
(1, 0) 442 'Rydw i yma.
(Treplieff) Mae Masia yn chwilio amdana i, ym mhob congol o'r parc.
 
(Treplieff) Fedra i ddim diodde'r grydures.
(1, 0) 445 Constantin Gafrilofits, hoffais eich drama yn fawr; drama ryfedd ydi hi, chlywsom ni mo'r diwedd, ond gnaeth argraff dda iawn arnom.
(1, 0) 446 Rydych yn ŵr talentog, rhaid ichi fynd ymlaen.
 
(1, 0) 448 Ow, 'rydych chi'n nerfau i gyd.
(1, 0) 449 Dagrau yn eich llygaid ─
(1, 0) 450 Dyma sydd gin i i'w ddweud; dewis testun o faes yr idea haniaethol, da iawn; mi ddylai pob gwaith celfyddyd fynegi meddwl o ryw fath neu'i gilydd.
(1, 0) 451 Nid oes dim yn brydferth ond yr hyn sy'n ddifrifol.
(1, 0) 452 'Rydych chi'n llwyd iawn!
(Treplieff) Mynd ymlaen, ddeudsoch chi?
 
(Treplieff) Mynd ymlaen, ddeudsoch chi?
(1, 0) 454 Ie; ond rhaid ichi fynegi rhywbeth pwysig a thragwyddol.
(1, 0) 455 Fel y gwyddoch, mi welais lawer tro ar fy myd, ac yr wy'n berffaith fodlon ar fy mywyd; ond pe cawn i deimlo f'enaid yn esgyn i'r uchelder, fel y caiff yr artist wedi creu, mi ddirmygwn f'amdo cnawdol a phopeth a berthyn iddo ac esgynnwn o'r ddaear i'r goruchleoedd.
(Treplieff) Esgusodwch fi, ble mae Nina?
 
(Treplieff) Esgusodwch fi, ble mae Nina?
(1, 0) 457 Mae hi wedi mynd adre.
(Treplieff) {Yn dorcalonnus.}
 
(Treplieff) Rhaid imi fynd.
(1, 0) 462 Byddwch dawel, gyfaill.
(Treplieff) Ond 'rydw i'n mynd, beth bynnag, rhaid imi fynd.
 
(Treplieff) Peidiwch â dwad ar f'ôl i.
(1, 0) 468 Rwan, rwan, thâl hyna ddim, nid fel yna y dylid...
(Treplieff) {Â'i ddagrau'n llifo.}
 
(Treplieff) Diolch yn fawr i chi.
(1, 0) 473 Ieuenctid, ieuenctid!
(Masia) Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb.
 
(Masia) Rhoswch.
(1, 0) 478 Wel?
(Masia) Mae gin i rywbeth i'w ddeud wrthoch chi.
 
(Masia) Helpwch fi neu mi naf rywbeth dychrynllyd i ddifetha mywyd i gyd, waeth gin i be ddaw ohona i, fedra i ddal ddim mwy.
(1, 0) 483 Ond sut medra i'ch helpu chi?
(Masia) 'Rwy'n diodde, 'dwyr neb faint.
 
(Masia) 'Rwy'n caru Constantin.
(1, 0) 487 Mae pawb yn nerfau i gyd; o'r fath gariad!
(1, 0) 488 O, 'r llun hudol.
 
(1, 0) 490 Be fedra i neud, mhlentyn i, be fedra i neud, be fedra i neud?
(Arcadina) {Wrth Masia.}
 
(Arcadina) Iefgeni Sergiefits, prun ohonom ni ydi'r fenga?
(2, 0) 500 Chi, debyg iawn.
(Arcadina) Welwch chi, ac mi ddeuda i pam.
 
(2, 0) 510 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
(Arcadina) Ac 'rydw i mor fisi ag unrhyw Saesnes, bob amser yn dwt a ngwallt yn stylish.
 
(Arcadina) Gallwn actio geneth bymtheg oed.
(2, 0) 517 Ie, ond beth am y llyfr yma?
(2, 0) 518 'Roedden ni'n darllen am y masnachwr a'r llygod mawr.
(Arcadina) A'r llygod ffringig.
 
(Masia) Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono.
(2, 0) 564 Nos dawch.
(Arcadina) Piotr bach!
 
(Sorin) Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor.
(2, 0) 572 Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed!
(Sorin) Ond mae ar ddyn trigain oed eisiau byw.
 
(2, 0) 575 O'r gorau ta, cymwch Valerian drops.
(Arcadina) Mi ddylech fynd am fis i lan y môr, mi nae les ichi, yn y marn i.
 
(Arcadina) Mi ddylech fynd am fis i lan y môr, mi nae les ichi, yn y marn i.
(2, 0) 577 Mi all fynd, mi all beidio.
(Arcadina) 'Dydw i ddim yn dallt hyna.
 
(Arcadina) 'Dydw i ddim yn dallt hyna.
(2, 0) 579 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen.
(Medfedenco) Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio.
 
(Sorin) Lol.
(2, 0) 583 Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn.
(2, 0) 584 Wedi smocio sigar neu yfed glasiad o frandi, nid Piotr Nicolaiefits ydych chi mwyach, ond Piotr Nicolaiefits plus rhywun arall.
(2, 0) 585 Ma na rwyg yn eich personoliaeth, yn eich fi chi, ac mae yna ddau ohonoch chi, chi a rhywun arall.
(Sorin) {Yn chwerthin.}
 
(Sorin) 'Rydych chi wedi cael eich gwala ac felly yn ddi-daro; dyna pam 'rydych chi mor hoff o athronyddu; ac mae arna i isio byw; dyna pam y bydda i'n yfed glasiad o sieri amser cinio ac yn smocio sigar ac felly yn y blaen.
(2, 0) 591 Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc.
(Masia) {Yn codi.}
 
(Masia) Mae nghoes i wedi cyffio.
(2, 0) 597 Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio.
(Sorin) Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma.
 
(Sorin) Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma.
(2, 0) 599 Lol botas, anrhydeddus syr.
(Sorin) 'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma.
 
(2, 0) 609 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'
(Shamraieff) Dyma nhw.
 
(Sorin) Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs.
(2, 0) 663 Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld.
(Polina) Mae o wedi gyrru'r ceffylau gorau i'r caeau; a rhyw ffrae newydd bob dydd.
 
(Polina) Mae'r amser yn mynd, 'dydym ni ddim mor ifanc ag y buom, gadwch inni fynd i ymguddio am flwyddyn neu ddwy cyn mynd o'r byd ma, a rhoi taw ar yr holl dwyll a'r clwyddau ma.
(2, 0) 672 'Rydw i'n bymtheg a deugain, mae'n rhy hwyr imi newid fy ffordd o fyw.
(Polina) Na, nid dyna'r rheswm, mi wn i'n eitha da.
 
(Polina) Maddeuwch imi am eich blino chi.
(2, 0) 677 Na, mae popeth yn iawn.
(Polina) Mae arna i wenwyn, wrth gwrs, doctor.
 
(2, 0) 682 Sut y maen nhw draw acw?
(Nina) {Yn dod i mewn.}
 
(2, 0) 686 Rhaid imi roi Valerian drops i'r ddau.
(Nina) {Yn cynnig y blodau iddo.}
 
(Nina)
(2, 0) 690 Thank you very much.
(Polina) {Yn cerdded wrth ei ymyl.}
 
(Medfedenco) Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi.
(4, 0) 1319 Go gyfyng, yntê.
(Medfedenco) Digon hawdd i chi fod yn ddireidus – mae gynnoch chi lond tŷ o arian.
 
(Medfedenco) Digon hawdd i chi fod yn ddireidus – mae gynnoch chi lond tŷ o arian.
(4, 0) 1321 Arian wir!
(4, 0) 1322 Wedi bod wrthi hi'n bustachu ddydd a nos am ddeng mlynedd ar hugain, mi grafais ddeugant, ac mi wariais bob dimai ohonyn nhw mewn gwlad bell.
(4, 0) 1323 'Does gin i ddim ar f'elw.
(Masia) {Wrth ei gŵr.}
 
(Masia) Mae'n ddrwg gin i mod i rioed wedi'ch gweld chi.
(4, 0) 1330 Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi.
(Masia) Mae'n fwy cyfleus i Constantin Gafrilits weithio yn y fan yma.
 
(Sorin) Ble mae fy chwaer?
(4, 0) 1335 Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn.
(Sorin) Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael.
 
(Sorin) Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw.
(4, 0) 1339 Be liciech chi gael?
(4, 0) 1340 Valerian drops, soda, quinine?
(Sorin) Dyma chi'n dechrau bwrw drwyddi hi unwaith eto, rêl plâg.
 
(4, 0) 1347 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.'
(Sorin) Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen.
 
(Sorin) Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen.
(4, 0) 1349 Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo.
(Sorin) {Yn chwerthin.}
 
(Sorin) Ie, heb geisio, nelais i rioed at hynny.
(4, 0) 1352 Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed.
(4, 0) 1353 Dydi hyna ddim yn deg, ydi o?
(Sorin) 'Rydych chi'n ddyn styfnig.
 
(Sorin) Mae arna i eisiau byw, cofiwch hyna.
(4, 0) 1356 Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd.
(Sorin) Digon hawdd i chi siarad, mi gawsoch chi lond eich bol, 'does ryfedd eich bod mor ddifater.
 
(Sorin) Ond mi fydd arnoch chithau ofn marw.
(4, 0) 1359 Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na.
(4, 0) 1360 Ddylai neb rhesymol ofni marw ond y sawl sy'n credu fod byd arall, byd tragwyddol, ac yn teimlo ei fod yn bechadur euog: yn gyntaf, 'dydych chi ddim yn credu, yn ail, ble mae'ch pechodau chi?
(4, 0) 1361 Buoch yn J.P. am bum mlynedd ar hugain, dyna'r cwbwl.
(Sorin) {Yn chwerthin.}
 
(Sorin) Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda.
(4, 0) 1365 Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur.
(Treplieff) Na, dim o'r fath beth.
 
(Medfedenco) Pa dre oedd yr orau gynnoch chi pan oeddech chi'n rhodio'r byd?
(4, 0) 1369 Genoa.
(Treplieff) Pam?
 
(Treplieff) Pam?
(4, 0) 1371 Mae bywyd y stryd mor ardderchog yno.
(4, 0) 1372 Ewch allan o'ch hotel gyda'r hwyr ac mae'r stryd yn llawn dop dyn o bobol a chithau'n stelcian ar hyd ac ar draws yn y dorf, igam ogam, ac yn teimlo eich bod yn rhan o'r dorf, yn llifo'n un â hi; ac yn dehrau credu fod y fath beth ag ysbryd y byd fel y clywsom pan oedd Nina Zaretsnaia yn actio'ch drama chi; gyda llaw, ble mae hi, ydi hi'n fyw?
(Treplieff) Ydi, mae'n debyg, ac yn iach hefyd.
 
(Treplieff) Ydi, mae'n debyg, ac yn iach hefyd.
(4, 0) 1374 Mi glywais nad oedd fawr o lun ar ei bywyd hi, wyddoch chi dipyn yn bethma; be sy'n bod?
(Treplieff) Wel, doctor, stori go hir ydi honna.
 
(Treplieff) Wel, doctor, stori go hir ydi honna.
(4, 0) 1376 Gnewch chi stori fer ohoni.
(Treplieff) Mi redodd i ffwrdd hefo Trigorin, mi wyddoch hynny?
 
(Treplieff) Mi redodd i ffwrdd hefo Trigorin, mi wyddoch hynny?
(4, 0) 1378 Gwn.
(Treplieff) Mi anwyd plentyn; bu farw'r plentyn.
 
(Treplieff) Cyn belled ag y gwela i, byd go ddrwg a gafodd Nina.
(4, 0) 1382 Beth am ei bywyd ar y stage?
(Treplieff) Gwaeth byth, mi dybiaf.
 
(Treplieff) Ond ar adegau, gallai floeddio fel y dylid, a marw yn dalentog, ond nid yn amal.
(4, 0) 1388 Ond mae gynni hi dalent, debyg?
(Treplieff) Cwestiwn anodd ydi hwnna; oes, feallai fod gynni hi dalent.
 
(Treplieff) Mae hi yma rŵan.
(4, 0) 1398 Tewch â sôn, yma?
(Treplieff) Ydi, yn y dre, yn yr hotel ers wythnos.
 
(Sorin) Geneth ardderchog oedd hi.
(4, 0) 1410 Be?
(Sorin) Geneth ardderchog oedd hi.
 
(Sorin)
(4, 0) 1414 Yr Hen Ddon Juan!
(Polina) Dyna nhw wedi dwad o'r stesion.
 
(Arcadina) Talwch chi drosta i, doctor.
(4, 0) 1491 Gna, mym.
(Masia) Ydi pawb wedi talu?
 
(Masia) Tri!
(4, 0) 1496 Ie.
(Masia) Tri?
 
(Masia) Hanner cant.
(4, 0) 1511 Hanner cant yn union?
(Arcadina) A phe gwelsech chi fy nress i?
 
(Arcadina) Piotr, ydych chi wedi blino?
(4, 0) 1524 Mae'r J.P. yn cysgu.
(Masia) Saith!
 
(Trigorin) A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear!
(4, 0) 1531 Mae gin i feddwl mawr o Constantin Gafrilits.
(4, 0) 1532 Mae gynno fo ddawn, oes wir.
(4, 0) 1533 Mae o'n meddwl mewn ffigurau, mae ei straeon o'n wych ac yn glir ac yn cyrraedd at fy nghalon.
(4, 0) 1534 Ond gresyn nad oes gynno fo nod amlwg o'i flaen.
(4, 0) 1535 Gall osod ei argraff ar y darllenwyr a dyna'r cwbwl, a dewch chi ddim ymhell heb rywbeth amgenach na hyna.
(4, 0) 1536 Irina Nicolaiefna, ydych chi'n falch fod eich mab yn llenor?
(Arcadina) Wyddoch chi be?
 
(4, 0) 1721 Peth rhyfedd!
(4, 0) 1722 Mae'r drws yn cau agor.
 
(4, 0) 1724 Obstacle race!
(Arcadina) Rhowch y gwin coch a'r cwrw ar gyfer Boris Alecsiefits inni gael yfed a chwarae ar yr un pryd.
 
(Arcadina)
(4, 0) 1743 Dim o bwys, rhywbeth wedi ffrwydro yn fy mag doctor debyg.
(4, 0) 1744 Peidiwch â bod yn anesmwyth.
 
(4, 0) 1746 Ie, potel o ether wedi ffrwydro.
 
(4, 0) 1748 'Fe'm hudwyd eto ger dy fron.'
(Arcadina) {Yn eistedd wrth y bwrdd.}
 
(4, 0) 1755 Mi wn eich bod yn teimlo diddordeb yn y cwestiwn.
 
(4, 0) 1757 Ewch ag Irina Nicolaiefna i rywle o'r ffordd... mae Constantin Gafrilofits wedi saethu ei hun.