Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Masia

(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
 
(Medfedenco) Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
(1, 0) 12 Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist.
(Medfedenco) Sut y gall hynny fod?
 
(Medfedenco) Rydych yn iach, 'dydi'ch tad ddim yn gyfoethog, mae'n wir, ond mae gynno fo ddigon at ei fyw, mae'n gletach o lawer arna i, dwy bunt a chweswllt yn y mis o gyflog, a rhaid iddyn nhw gael rhan o'r rheini at fy mhensiwn; ond 'dydw i ddim yn gwisgo du.
(1, 0) 17 'Does dim a nelo arian â'r peth.
(1, 0) 18 Gall y tlawd fod yn hapus.
(Medfedenco) Digon gwir ar bapur; ond nid fel yna y mae hi pan driwch chi fyw; dyna fi a mam a dwy chwaer a mrawd bach yn gorfod byw ar ddwy bunt a chweswllt y mis.
 
(1, 0) 23 Mi fydd y ddrama yn dechrau cyn hyn.
(Medfedenco) Bydd.
 
(Medfedenco) Sut y gellir disgwyl i eneth briodi dyn, ac yntau heb ddigon o fwyd yn y tŷ.
(1, 0) 30 Lol i gyd.
 
(1, 0) 32 Rwy'n teimlo'ch cariad i'r byw ond fedra i mo'ch caru chi, dyna'r cwbl.
 
(1, 0) 34 Cymwch binsiad.
(Medfedenco) Na, fydda i ddim.
 
(Medfedenco) Na, fydda i ddim.
(1, 0) 37 Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos.
(1, 0) 38 'Rydych chi fyth a hefyd yn athronyddu, ac yn sôn am arian.
(1, 0) 39 Yn eich barn |chi|, 'does dim mwy truenus na thlodi, ond yn fy marn i, mae'n ganmil gwell i ddyn wisgo carpiau a hel cardod o dŷ i dŷ na ─ ond fedrwch chi ddim dallt peth fel 'na.
(Sorin) {A'i bwys ar ei ffon.}
 
(Treplieff) Chysgodd fy chwaer ddim munud drwy'r nos.
(1, 0) 50 Deudwch air eich hunan wrth fy nhad, na i ddim.
 
(1, 0) 52 Dowch, awn draw.
(Medfedenco) {Wrth Treplieff.}
 
(Arcadina) Costia, nghariad i, Costia!
(1, 0) 353 Mi a i i chwilio amdano fo.
(Arcadina) Ie, ewch, os gwelwch chi'n dda.
 
(Arcadina) Ie, ewch, os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 355 Hei!
(1, 0) 356 Constantin Gafrilofits!
(1, 0) 357 Hei!
(1, 0) 358 Hei!
(Nina) {Yn dod i mewn.}
 
(Treplieff) Ond 'rydw i'n mynd, beth bynnag, rhaid imi fynd.
(1, 0) 464 Dowch i'r tŷ, mae'ch mam yn galw, mae hi'n anesmwyth.
(Treplieff) Deudwch wrthi mod i wedi mynd allan.
 
(Dorn) Ieuenctid, ieuenctid!
(1, 0) 474 Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb.
 
(1, 0) 477 Rhoswch.
(Dorn) Wel?
 
(Dorn) Wel?
(1, 0) 479 Mae gin i rywbeth i'w ddeud wrthoch chi.
 
(1, 0) 481 Dw i ddim yn caru nhad, ond mae rhywbeth yn fy nhynnu atoch chi, 'rwy'n teimlo â'm holl galon eich bod chi'n agos ata i.
(1, 0) 482 Helpwch fi neu mi naf rywbeth dychrynllyd i ddifetha mywyd i gyd, waeth gin i be ddaw ohona i, fedra i ddal ddim mwy.
(Dorn) Ond sut medra i'ch helpu chi?
 
(Dorn) Ond sut medra i'ch helpu chi?
(1, 0) 484 'Rwy'n diodde, 'dwyr neb faint.
 
(1, 0) 486 'Rwy'n caru Constantin.
(Dorn) Mae pawb yn nerfau i gyd; o'r fath gariad!
 
(Arcadina) Fydda i byth yn meddwl am henaint a'r bedd, ond rhaid eu cymyd nhw pan ddôn nhw, debyg.
(2, 0) 505 Ond 'rydw i yn teimlo fel pe bawn i wedi ngeni filoedd o flynyddoedd yn ôl, a rydw i'n llusgo fy mywyd ar f'ôl fel cynffon ffrog laes.
(2, 0) 506 Weithiau fydd arna i ddim isio byw o gwbwl.
 
(2, 0) 508 Lol ydi hyna, wrth gwrs, rhaid imi styrio a bwrw peth felna heibio.
(Dorn) {Yn canu'n ddistaw.}
 
(Arcadina) Bydd yn crwydro am ddyddiau lawer hyd y llyn a phrin y ca i weld o o gwbl.
(2, 0) 556 Mae o'n bur ddigalon.
 
(2, 0) 558 Adroddwch rywbeth o'i ddrama o, os gwelwch chi'n dda.
(Nina) Beth, ond 'tydi hi mor ddwl.
 
(2, 0) 561 Pan fydd o'n darllen rhywbeth, bydd tân yn ei lygad a'i wyneb fel y galchen.
(2, 0) 562 Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono.
(Dorn) Nos dawch.
 
(2, 0) 593 Rhaid ei bod hi'n amser cinio bellach.
 
(2, 0) 595 Mae nghoes i wedi cyffio.
(Dorn) Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio.
 
(Nina) Breuddwyd gwag!
(3, 0) 833 'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd.
(3, 0) 834 Dyma'r gwir noeth ichi: pe gwyddwn i fod ei friwiau o'n beryglus, roswn i ddim munud mwy yn y byd, ac mi fedra i ddiodde llawer hefyd cofiwch!
(3, 0) 835 'R ydw i wedi penderfynu un peth: mi dynna i'r cariad ma allan o nghalon i, gnaf, i'r bôn, a'r gwraidd gydag o.
(Trigorin) Sut y gnewch chi hynny?
 
(Trigorin) Sut y gnewch chi hynny?
(3, 0) 837 Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco.
(Trigorin) Yr athro?
 
(Trigorin) Yr athro?
(3, 0) 839 Ie.
(Trigorin) Wela i mo'r angen.
 
(Trigorin) Wela i mo'r angen.
(3, 0) 841 Caru heb obaith, byw am flynyddoedd yn disgwyl i rywbeth ddigwydd – na!
(3, 0) 842 Ac wedi imi briodi fydd na ddim amser i garu, bydd digon o ofalon newydd yn llyncu'r hen; mi ga newid bywyd, beth bynnag, gawn ni lasiad arall?
(Trigorin) Fydd hynny ddim yn ormod?
 
(Trigorin) Fydd hynny ddim yn ormod?
(3, 0) 844 Twt, twt!
 
(3, 0) 846 Peidiwch ag edrych arna i fel yna.
(3, 0) 847 Mae merched yn diota yn amlach nag yr ydych chi yn ei feddwl, ond ychydig ohonyn nhw sy'n yfed yn gyhoeddus fel fi, yn y dirgel y bydd y rhan fwya ohonyn yn hel diod.
(3, 0) 848 Brandi ne wisci i mi!
 
(3, 0) 850 Iechyd da!
(3, 0) 851 Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd.
(Trigorin) 'D oes arna i ddim isio mynd.
 
(Trigorin) 'D oes arna i ddim isio mynd.
(3, 0) 854 Gofynnwch iddi aros, ta.
(Trigorin) Na, rosith hi ddim rwan.
 
(Trigorin) Mae o'n chwythu ac yn chwyrnu ac yn pregethu efengyl ffurfiau newydd - ond neno'r annwyl, mae digon o le i'r hen a'r newydd, 'does dim gofyn ffrae, dybiwn i.
(3, 0) 860 Ie, ie, ond gwenwyn sydd yn y gwraidd.
(3, 0) 861 Ond nid musnes i ydi hynny.
(Nina) {Wedi cau ei dwrn, yn estyn ei braich.}
 
(4, 0) 1247 Constantin Gafrilofits.
(4, 0) 1248 Constantin Gafrilofits.
(4, 0) 1249 'Does neb yma.
(4, 0) 1250 Mae'r hen ŵr yn holi am Costia bob munud, fedr o ddim byw hebddo fo.
(Medfedenco) Mae arno ofn bod yn unig.
 
(Medfedenco) Y fath dywydd ofnadwy, ac wedi para am ddeuddydd hefyd.
(4, 0) 1254 Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn.
(Medfedenco) Mae'n dywyll yn yr ardd.
 
(Medfedenco) Pan ddois i heibio neithiwr, 'roedd fel tae rhywun yn crio yno.
(4, 0) 1258 Felly wir.
(Medfedenco) Gadwch inni fynd adre, Masia.
 
(Medfedenco) Gadwch inni fynd adre, Masia.
(4, 0) 1260 Na, 'rydw i am fwrw'r nos yma.
(Medfedenco) {Yn erfyn.}
 
(Medfedenco) Meddyliwch am yr hogyn bach, mae arno isio bywyd feallai.
(4, 0) 1264 Lol i gyd.
(4, 0) 1265 Gall Matriona ei fwydo fo.
(Medfedenco) Mae'n biti gin i drosto fo, am dair noson heb ei fami.
 
(Medfedenco) Mae'n biti gin i drosto fo, am dair noson heb ei fami.
(4, 0) 1267 'Rydych chi wedi mynd yn ddiflas.
(4, 0) 1268 Athronyddu y byddoch chi ers talwm, ond "yr hogyn bach, mynd adre, yr hogyn bach, mynd adre", cheir dim ond hyna gynnoch chi rwan.
(Medfedenco) Dowch adre, Masia.
 
(Medfedenco) Dowch adre, Masia.
(4, 0) 1270 Ewch adre'ch hun.
(Medfedenco) Ond cha i ddim ceffylau gin eich tad chi.
 
(Medfedenco) Ond cha i ddim ceffylau gin eich tad chi.
(4, 0) 1272 Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn.
(Medfedenco) Wel mi ofynna iddo fo, ac mi ddowch chithau fory?
 
(4, 0) 1275 O'r gorau, o'r gorau, mi ddo i fory, 'rydych chi'n ddigon i...
 
(4, 0) 1277 Be di hyn mam?
(Polina) Mae ar Piotr Nicolaiefits isio cysgu yn ystafell Costia.
 
(Polina) Mae ar Piotr Nicolaiefits isio cysgu yn ystafell Costia.
(4, 0) 1279 Gadwch i mi, mi na i...
(Polina) {Ag ochenaid.}
 
(4, 0) 1296 Gadwch iddo fo, mam.
(Polina) {Wrth Treplieff}
 
(Polina) Mi wn i hynny trwy brofiad.
(4, 0) 1301 Dyna chi wedi digio fo, 'doedd dim gofyn ichi ei flino fo.
(Polina) Ond mae biti gin i drostach chi, Masia.
 
(Polina) Ond mae biti gin i drostach chi, Masia.
(4, 0) 1303 'Dydi hynny fawr o help imi.
(Polina) Ond mae nghalon i'n gwaedu drostoch chi.
 
(Polina) 'Rydw i'n gweld popeth ac yn dallt popeth.
(4, 0) 1306 Ffolineb noeth.
(4, 0) 1307 Chewch chi mo'r fath beth â chatiad diobaith ond yn unig mewn nofelau.
(4, 0) 1308 Lol botes.
(4, 0) 1309 Does dim gofyn i neb ymollwng a disgwyl rhywbeth i ddigwydd fel dyn ar lan y môr yn disgwyl am wynt teg.
(4, 0) 1310 Os ydi cariad wedi sleifio i'r galon, allan ag o!
(4, 0) 1311 Mae nhw wedi addo symud y gŵr acw i ardal arall; ac wedi inni ymadael, mi anghofiaf bopeth, gnaf, mi dynna i'r hen gariad yma o'r gwraidd.
(Polina) Dyna Costia yn canu'r piana, arwydd ei fod o'n ddigalon.
 
(Polina) Dyna Costia yn canu'r piana, arwydd ei fod o'n ddigalon.
(4, 0) 1314 Mynd o'i olwg o, dyna'r peth mawr, mam.
(4, 0) 1315 Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl.
(Medfedenco) Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi.
 
(4, 0) 1325 Aethoch chi ddim eto?
(Medfedenco) {Braidd yn euog.}
 
(4, 0) 1329 Mae'n ddrwg gin i mod i rioed wedi'ch gweld chi.
(Dorn) Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi.
 
(Dorn) Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi.
(4, 0) 1331 Mae'n fwy cyfleus i Constantin Gafrilits weithio yn y fan yma.
(4, 0) 1332 Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno.
(Sorin) Ble mae fy chwaer?
 
(Trigorin) Masia Ilinitsna!
(4, 0) 1428 Mae o'n nghofio i!
(Trigorin) Wedi priodi?
 
(Trigorin) Wedi priodi?
(4, 0) 1430 Ydw, ers talwm.
(Trigorin) Yn hapus?
 
(4, 0) 1452 Tada, gadwch i Simeon gael ceffylau.
(4, 0) 1453 Rhaid iddo fynd adre.
(Shamraieff) {Yn ei dynwared.}
 
(Shamraieff) Gellwch farnu eich hun, mae'n nhw newydd fod yn y stesion; 'does dim modd eu gyrru nhw allan eto heno.
(4, 0) 1458 Ond mae gynnoch chi geffylau erill.
 
(4, 0) 1460 'Does dim dichon eich trin chi.
(Medfedenco) Mi gerdda i, Masia, wir...
 
(Dorn) Gna, mym.
(4, 0) 1492 Ydi pawb wedi talu?
(4, 0) 1493 O'r gorau, dyma fi'n dechrau, dau ar hugain.
(Arcadina) Ie.
 
(Arcadina) Ie.
(4, 0) 1495 Tri!
(Dorn) Ie.
 
(Dorn) Ie.
(4, 0) 1497 Tri?
(4, 0) 1498 Wyth!
(4, 0) 1499 Un a phedwar ugain.
(4, 0) 1500 Deg!
(Shamraieff) Peidiwch bod ar gimint o frys.
 
(Arcadina) Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn.
(4, 0) 1503 Pedwar ar ddeg ar hugain.
(Arcadina) A'r ovation a ges i gin y students.
 
(Shamraieff) Wel, dyna rywbeth yn wir.
(4, 0) 1510 Hanner cant.
(Dorn) Hanner cant yn union?
 
(Shamraieff) Mae o'n ei chael hi'n arw yn y papurau newydd.
(4, 0) 1516 Dau ar bymtheg a thrigain.
(Arcadina) 'Does dim isio iddo fo gymyd sylw ohonyn nhw.
 
(Trigorin) Mae na rywbeth dieithr, annelwig yn ei waith, yn ymylu ar orffwylltra; dim un cymeriad byw!
(4, 0) 1520 Un ar ddeg!
(Arcadina) Piotr, ydych chi wedi blino?
 
(Dorn) Mae'r J.P. yn cysgu.
(4, 0) 1525 Saith!
(4, 0) 1526 Deg a phedwar ugain!
(Trigorin) Tawn i'n byw yn y fath blas, wrth lan y llyn, ydych chi'n meddwl y baswn yn sgwennu?
 
(Trigorin) Mi fyddwn i'n drech na'r hen nwyd ma, nawn i ddim ond pysgota.
(4, 0) 1529 Wyth ar hugain.
(Trigorin) A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear!
 
(Arcadina) Mae f'amser i'n brin.
(4, 0) 1540 Chwech ar hugain!
(Shamraieff) {Wrth Trigorin.}
 
(Trigorin) Na, dim o gwbwl.
(4, 0) 1548 Chwech a thrigain!
(4, 0) 1549 Un!
(Treplieff) {Yn agor y ffenestr ac yn gwrando.}
 
(Arcadina) Costia, caewch y ffenast na, mae na ddrafft.
(4, 0) 1555 Wyth a phedwar ugain!