Yr Wylan

Ciw-restr ar gyfer Medfedenco

 
(1, 0) 11 Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser?
(Masia) Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist.
 
(Masia) Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist.
(1, 0) 13 Sut y gall hynny fod?
 
(1, 0) 15 Fedra i ddim dallt.
(1, 0) 16 Rydych yn iach, 'dydi'ch tad ddim yn gyfoethog, mae'n wir, ond mae gynno fo ddigon at ei fyw, mae'n gletach o lawer arna i, dwy bunt a chweswllt yn y mis o gyflog, a rhaid iddyn nhw gael rhan o'r rheini at fy mhensiwn; ond 'dydw i ddim yn gwisgo du.
(Masia) 'Does dim a nelo arian â'r peth.
 
(Masia) Gall y tlawd fod yn hapus.
(1, 0) 19 Digon gwir ar bapur; ond nid fel yna y mae hi pan driwch chi fyw; dyna fi a mam a dwy chwaer a mrawd bach yn gorfod byw ar ddwy bunt a chweswllt y mis.
(1, 0) 20 Rhaid cael bwyd a llyn, debyg?
(1, 0) 21 Te a siwgr a baco; go gyfyng yntê?
(Masia) {Â'i llygad ar y llwyfan.}
 
(Masia) Mi fydd y ddrama yn dechrau cyn hyn.
(1, 0) 24 Bydd.
(1, 0) 25 Mi fydd Zarietsnaia yn actio, a Chonstantin Galfrilofits ydi'r awdur.
(1, 0) 26 Mae nhw'n caru ei gilydd, a bydd eneidiau'r ddau yn llifo ynghyd yn eu hymdrech i roi mynegiant i'r un campwaith; on'd oes dim a FIX dynn ein heneidiau ni at ei gilydd.
(1, 0) 27 'Rwy'n eich caru, fedra i ddim aros yn y tŷ yn fy hiraeth amdanoch; byddaf yn cerdded pedair milltir bob dydd i gael golwg arnoch a phedair milltir yn ôl, ond 'rydych |chi| yn hollol ddidaro.
(1, 0) 28 Debyg iawn, 'does gin i ddim arian, ac mae gin i deulu mawr.
(1, 0) 29 Sut y gellir disgwyl i eneth briodi dyn, ac yntau heb ddigon o fwyd yn y tŷ.
(Masia) Lol i gyd.
 
(Masia) Cymwch binsiad.
(1, 0) 35 Na, fydda i ddim.
(Masia) Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos.
 
(1, 0) 54 Cofiwch adael inni wbod mewn pryd.
(Sorin) Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto.
 
(Arcadina) 'Don i ddim yn meddwl bod yn gas.
(1, 0) 333 'Does dim dichon ysgaru enaid a mater, 'dydi'r enaid ei hun, mae'n debyg, ddim ond cyfuniad o atomau materol.
 
(1, 0) 335 Eitha peth, wyddoch chi, fyddai sgwennu drama a'i hactio, i ddangos sut y mae dyn fel fi yn byw.
(1, 0) 336 Bywyd caled ydi bywyd athro, ie, bywyd caled iawn.
(Arcadina) Digon gwir; ond gadwch inni sôn am rywbeth heblaw'r ddrama ac atomau ar noson mor ardderchog â heno.
 
(Shamraieff) Ie, gryn wythawd "Bravo, Silfa", nid cantwr, ond aelod distadl o'r côr.
(1, 0) 434 Be di cyflog aelod o'r côr?
(Dorn) {Ar ei ben ei hun.}
 
(Dorn) 'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen.
(2, 0) 581 Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio.
(Sorin) Lol.
 
(3, 0) 984 Dyma ichi bos: yn y bore ar bedwar troed, ganol dydd ar ddau droed, yn yr hwyr ar dri throed...
(Sorin) {Yn chwerthin.}
 
(Sorin) Diolch yn fawr ichi, ond mi fedra i gerdded fy hun.
(3, 0) 988 Dowch, dowch, dim lol!
 
(Sorin) {Â allan.}
(3, 0) 1187 Mi gerdda innau i'r stesion, i'ch gweld yn cychwyn.
(3, 0) 1188 'D oes na fawr o ffordd.
 
(Masia) Mae'r hen ŵr yn holi am Costia bob munud, fedr o ddim byw hebddo fo.
(4, 0) 1251 Mae arno ofn bod yn unig.
 
(4, 0) 1253 Y fath dywydd ofnadwy, ac wedi para am ddeuddydd hefyd.
(Masia) Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn.
 
(Masia) Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn.
(4, 0) 1255 Mae'n dywyll yn yr ardd.
(4, 0) 1256 Rhaid deud wrthyn nhw am dynnu'r stage 'cw i lawr; mae hi'n llwm a hagr fel skeleton a'r llen yn fflapio yn y gwynt.
(4, 0) 1257 Pan ddois i heibio neithiwr, 'roedd fel tae rhywun yn crio yno.
(Masia) Felly wir.
 
(Masia) Felly wir.
(4, 0) 1259 Gadwch inni fynd adre, Masia.
(Masia) Na, 'rydw i am fwrw'r nos yma.
 
(4, 0) 1262 Dowch Masia.
(4, 0) 1263 Meddyliwch am yr hogyn bach, mae arno isio bywyd feallai.
(Masia) Lol i gyd.
 
(Masia) Gall Matriona ei fwydo fo.
(4, 0) 1266 Mae'n biti gin i drosto fo, am dair noson heb ei fami.
(Masia) 'Rydych chi wedi mynd yn ddiflas.
 
(Masia) Athronyddu y byddoch chi ers talwm, ond "yr hogyn bach, mynd adre, yr hogyn bach, mynd adre", cheir dim ond hyna gynnoch chi rwan.
(4, 0) 1269 Dowch adre, Masia.
(Masia) Ewch adre'ch hun.
 
(Masia) Ewch adre'ch hun.
(4, 0) 1271 Ond cha i ddim ceffylau gin eich tad chi.
(Masia) Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn.
 
(Masia) Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn.
(4, 0) 1273 Wel mi ofynna iddo fo, ac mi ddowch chithau fory?
(Masia) {Yn cymryd pinsiad o snisin.}
 
(Polina) Mae hen bobol fel plant.
(4, 0) 1283 Mi 'dwi'n mynd.
(4, 0) 1284 Nos dawch, Masia.
(4, 0) 1285 Nos dawch, mam.
 
(Masia) Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl.
(4, 0) 1318 Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi.
(Dorn) Go gyfyng, yntê.
 
(Dorn) Go gyfyng, yntê.
(4, 0) 1320 Digon hawdd i chi fod yn ddireidus – mae gynnoch chi lond tŷ o arian.
(Dorn) Arian wir!
 
(4, 0) 1327 Sut y medra i fynd heb gerbyd?
(Masia) {Dan ei llais yn chwerw.}
 
(Treplieff) Na, dim o'r fath beth.
(4, 0) 1368 Pa dre oedd yr orau gynnoch chi pan oeddech chi'n rhodio'r byd?
(Dorn) Genoa.
 
(Treplieff) Mae Simeon Sinionofits yn deud ei fod wedi ei gweld hi neithiwr ar y cae, rhyw filltir a hanner o'r tŷ ma.
(4, 0) 1402 Do, mi gwelais i hi, yn mynd tua'r dre.
(4, 0) 1403 Mi dynnais fy het iddi a gofyn iddi pam na ddoi hi i edrych amdanom ni, ac mi ddeudodd hithau ei bod hi am ddwad.
(Treplieff) Ddaw hi ddim.
 
(Masia) 'Does dim dichon eich trin chi.
(4, 0) 1461 Mi gerdda i, Masia, wir...
(Polina) {Ag ochenaid.}
 
(Polina) Dowch, gyfeillion.
(4, 0) 1466 'Does na ddim ond pedair milltir.
(4, 0) 1467 Nos dawch.
 
(4, 0) 1469 Nos dawch, mam bach.
(4, 0) 1470 Faswn i ddim yn aflonyddu ar neb oni bai am yr hogyn bach...
(4, 0) 1471 Nos dawch, bawb ohonoch.
(4, 0) 1472 (Exit.)